Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Beca Brown

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch Gwern ap Rhisiart ar ei rôl newydd fel Pennaeth yr Adran Addysg. Atgoffwyd fod y gyfundrefn wedi derbyn adroddiad Estyn cadarnhaol a gyhoeddwyd fis Medi'r llynedd a oedd yn tystio i waith caled y gyfundrefn a diolchwyd i bawb am eu gwaith.

 

Amlygwyd fod yr adran wedi bod yn gweithredu ar gynlluniau o fewn Cynllun y Cyngor y newydd ond ei bod yn ddyddiau cynnal gan ei bod yn gynllun newydd. Amlygwyd rhai meysydd fel a ganlyn. O ran cynllun Trawsnewid Addysg Blynyddoedd Cynnar nodwyd fod comisiynydd allanol wedi’i gomisiynu a bod cynllun gwaith drafft wedi ei greu. Mynegwyd y bydd hyn yn lleihau anghysondeb o ran cynnig ar draws y sir. Eglurwyd fod y Cyngor o flaen amserlen y Llywodraeth o ran cinio am ddim, a bod y gwaith uwchraddio wedi ei wneud bellach o fewn ysgolion. Ychwanegwyd fod gwaith hyrwyddo angen ei wneud yn benodol mewn rhai ysgolion ble mae cyfradd nifer y plant yn elwa yn is. 

 

Mynegwyd yn y maes moderneiddio addysg balchder fod modd arallgyfeirio arian er mwyn buddsoddi yn Ysgol Hirael a Ysgol Tryfan ym Mangor, gan fod costau adeiladu wedi cynyddu cymaint. Ategwyd o ran Llesiant Plant a Pobl ifanc a Cost Gyrru Plant i’r Ysgol fod holiadur wedi ei rannu a fydd yn adnabod gwir gost anfon plant i’r ysgol a fydd yn amlygu costau amlwg meis gwisg ysgol ynghyd a chodi sylwi i gostau mwy cuddiedig.

 

O ran cynllun Trochi, diolchwyd i staff am eu gwaith ac i’r plant am eu holl ymdrechion a bod gwir angen dathlu’r nifer o siaradwyr Cymraeg newydd mae’r gwasanaeth yn ei greu. Mynegwyd fod gwaith hyfforddiant yn parhau o fewn ysgolion a bod rhai ysgolion uwchradd mewn peilot Llywodraeth Cymru a Say Something in Welsh a bod hyn yn amlygu fod yr adran yn ceisio am bob cyfle sy’n codi i sicrhau defnydd o’r Gymraeg.

 

O ddydd i ddydd amlygwyd fod lefel presenoldeb yn parhau i fod yn broblem, ond ei fod i’w weld yn lleol, cenedlaethol ac yn rhyngwladol yn dilyn Covid. Nodwyd fod y rhesymau yn gymhleth ond fod llawer o waith yn cael ei wneud. Mynegwyd tristwch fod y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad i gau Ysgol Felinwda ond diolchwyd i’r staff am eu holl waith a dymuno yn dda i’r plant wrth drosglwyddo i’r ddwy ysgol gyfagos.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod yr adroddiad yn amlygu llawer o newyddion da ond fod yr adran yn wynebu heriau ond ei fod yn edrych ymlaen at symud ymlaen i weithio yn agos nid yn unig gyda staff yr adran ond gydag ysgolion yn ogystal.

·         Amlygwyd fod gwaith Athro ddim yn swydd hawdd a diolchwyd yn fawr i holl athrawon a staff ysgolion am eu gwaith ac am eu cyfraniad yn trosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf.

·         Holwyd am sut mae’r gyfundrefn drochi yn cael gwerthuso. Y bwriad yw cynnal grŵp defnyddwyr i weld beth sy’n gweithio er mwyn gallu gwella’r ddarpariaeth.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart

Dogfennau ategol: