Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro.
Penderfyniad:
(1) Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd
Gwynfor Owen gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp
Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu
Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei benodi yn
Gadeirydd y Grŵp Tasg.
(2) Gwrthod goddefeb i’r Cynghorydd
Gwynfor Owen siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater hwn yn
codi gan nad oedd yna ddigon o wybodaeth ynglŷn â’r cais i ddod i gasgliad
priodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r
pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Gwynfor
Owen:-
·
I gynrychioli’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor
Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd.
·
I dderbyn goddefeb gyffredinol
fyddai’n caniatáu iddo siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y byddai’r
mater yn codi.
Manylodd y Swyddog Monitro ar y cais dan sylw, gan
nodi:-
·
Bod y Cynghorydd Gwynfor Owen wedi
datgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y mater oherwydd bod unigolyn yr oedd
ganddo gysylltiad personol agos ag ef yn derbyn y gwasanaethau oedd yn destun y
craffu.
·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno ar
sail (ch),(dd) ac (e) o’r rheoliadau perthnasol, sef “os yw natur buddiant yr
aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant
yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr
awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal”; “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod” ac “os yw'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol
iddo i'w ystyried gan bwyllgor trosolygu a chraffu
i'r awdurdod perthnasol ac nad yw buddiant yr aelod yn fuddiant ariannol”.
·
Nad rôl cynghori na rhoi arweiniad
oedd rôl aelodau’r Grŵp Tasg, ond yn hytrach adolygu’r maes, ac er na
fyddent yn gwneud penderfyniadau, byddai eu hadroddiad yn dylanwadu ar
gyfeiriad craffu’r maes.
·
Bod canllawiau’r Ombwdsmon ar y Cod
Ymddygiad yn nodi bod angen i’r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran
atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau
yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan grŵp
gweddol gynrychioliadol o aelodau’r Cyngor.
·
Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol yn y maes
fyddai’n cyfrannu at waith y Grŵp Tasg.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog
Monitro.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r
Cynghorydd Gwynfor Owen.
Yna gadawodd y Cynghorydd Gwynfor Owen y cyfarfod.
Wrth drafod y cais am oddefeb i eistedd ar y Grŵp
Tasg, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn:-
·
Bod gan y Cynghorydd Gwynfor Owen
brofiad o ymwneud â’r maes awtistiaeth y tu hwnt i brofiad teulu, gan ei fod yn
delio gydag amryw o rieni sydd â phlant ag awtistiaeth yn ei ward, a hefyd yn
Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Hafod Lon, sydd â chyfran uchel o’r plant wedi
cael diagnosis o awtistiaeth.
·
Ei fod hefyd wedi mynychu cyrsiau
ar awtistiaeth i rieni ac wedi bod i gyfarfodydd ynglŷn ag awtistiaeth.
Cytunodd y Pwyllgor fod yr aelod yn cyrraedd y trothwy o
ran arbenigedd penodol yn y maes ac y dylid caniatáu goddefeb iddo eistedd ar y
Grŵp Tasg. Awgrymwyd, fodd bynnag,
na ddylai gael ei benodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.
Wrth drafod y cais am oddefeb gyffredinol i siarad a
phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater yn codi, mynegwyd y farn gan
aelodau bod y cais presennol yn llawer rhy eang i’w ganiatáu gan nad oedd yna
wybodaeth ddigonol ynglŷn â chyfnod yr oddefeb nac ym mha gyd-destun y
byddai’r mater yn codi. Gan hynny, ni
ystyrid bod y cais yn cyrraedd y trothwy o ran caniatáu goddefeb.
PENDERFYNWYD
(1) Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd
Gwynfor Owen gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp
Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu
Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei benodi yn
Gadeirydd y Grŵp Tasg.
(2) Gwrthod goddefeb i’r Cynghorydd
Gwynfor Owen siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater hwn yn
codi gan nad oedd yna ddigon o wybodaeth ynglŷn â’r cais i ddod i gasgliad
priodol.
Dogfennau ategol: