I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.
Penderfyniad:
·
Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2023 o’r Gyllideb Refeniw
·
Nodi
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Nodi
bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant,
Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC eleni.
·
Cytuno
gyda’r argymhelliad i’r Cabinet (23-01-24) i gymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k
o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol
y Cyngor
Nodyn: Cais i’r Cabinet,
·
ystyried amserlen adolygiad gorwariant
yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant ac adolygiad gorwariant yr Adran Amgylchedd
(materion cludiant Integredig)
·
ystyried anghydbwysedd defnydd grantiau
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan
Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau
perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ac ystyried
argymhellion i’r Cabinet 24-01-23.
Gosododd yr Aelod Cabinet y
cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-
·
Yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd mae’r rhagolygon yn awgrymu y bydd
pob un o’r deg adran yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn
·
Bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran
Plant a Theuluoedd a’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC.
·
Bod oediad mewn gwireddu Arbedion yn ffactor
Ategodd mai adrodd
ar y sefyllfa oedd y Swyddogion Cyllid ac mai’r Adrannau eu hunain oedd yn
gyfrifol am eu cyllidebau.
Amlygodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd
bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd pob un o’r deg adran yn gorwario erbyn
diwedd y flwyddyn, gyda gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC. Yn
ogystal, rhagwelwyd y bydd bwlch
ariannol o £8.1 miliwn (o’i gymharu gyda £9.1 miliwn yn yr Adolygiad Awst), ac
felly, er bod y sefyllfa filiwn yn well yn ei gyfanrwydd, bod defnydd o
gronfeydd un-tro wedi gorfod digwydd i helpu sefyllfa'r adrannau.
Cyfeiriwyd at y prif faterion:
·
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - y
rhagolygon diweddaraf yn awgrymu £5.4 miliwn o orwariant, a hynny yn gyfuniad o
nifer o ffactorau sydd yn cynnwys nifer o achosion newydd a chostus llety
cefnogol yn y gwasanaeth anabledd dysgu,
costau staffio uwch, lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt uchel
yn y maes Gofal Cartref ynghyd a ffioedd uwch gan ddarparwyr preifat yng
ngwasanaethau Pobl Hŷn. Yn wyneb y rhagolygon gorwariant eithriadol gan yr
Adran nodwyd bod y gwaith a gafodd ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr, bellach
yn cyfleu darlun manwl o gymhlethdod gwariant gofal oedolion ac yn rhoi gwell
dealltwriaeth o’r materion hynny i greu rhaglen glir i ymateb. Ategwyd bod y
gwaith yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
·
Adran Plant a Theuluoedd - sefyllfa ariannol yr adran wedi gwaethygu’n
sylweddol ers adolygiad diwedd Awst yn dilyn cynnydd costau oherwydd
cymhlethdodau pecynnau all-sirol a ddarperir. Erbyn hyn, rhagwelir gorwariant o
£1.3m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
·
Adran Addysg - pwysau cynyddol ar y gyllideb tacsis a bysus ysgolion yn
amlwg eleni, gyda gorwariant o £1.5m yn cael ei ragweld. Nodwyd bod y maes
cludiant eisoes yn destun adolygiad strategol i geisio rheoli’r cynnydd yn y
gwariant ac awgrymwyd fod gwaith yn parhau fel bod modd ceisio lleihau’r
gorwariant a manteisio ar gyfleoedd effeithlonrwydd. Ategwyd bod cyfuniad o
danwariant mewn meysydd eraill, ynghyd â defnydd o gronfeydd wrth gefn, yn
lleihau’r gorwariant adrannol.
·
Byw’n Iach - covid
wedi cael effaith ar incwm Cwmni Byw’n Iach ac o ganlyniad rhoddodd y Cyngor
£550k o gefnogaeth ariannol i Byw'n Iach yn 2022/23 i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Nodwyd
bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r swm gofynnol wedi lleihau
ymhellach i £350k.
·
Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC -
rhagwelwyd gorwariant o £780k gan yr adran a hynny oherwydd lleihad yn y gwaith
sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd o ganlyniad yn cael
effaith negyddol ar incwm gwasanaethau
priffyrdd. Yng nghyd-destun materion bwrdeistrefol, eglurwyd bod cyfuniad o
ffactorau oedd yn cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau glanhau strydoedd a
glanhau toiledau cyhoeddus ynghyd a cholledion incwm cynnal tiroedd a thoiledau
cyhoeddus.
·
Adran Amgylchedd - tuedd blynyddol o orwariant yn y maes casglu
gwastraff ac ailgylchu yn parhau. Nodwyd bod cylchdeithiau ychwanegol wedi
arwain at orwariant ar gostau cyflogaeth a chostau fflyd ynghyd a lefelau
salwch a goramser a chostau ychwanegol o
ran llogi cerbydau.
·
Tai ac Eiddo - tuedd o bwysau sylweddol ar wasanaethau llety
dros dro digartrefedd yn parhau i fod yn ddwys. Amlygwyd eleni bod £3m wedi ei
ddyrannu o bremiwm treth cyngor ynghyd â dyraniad un-tro £1.2m o ddarpariaeth covid corfforaethol i gyfarch y costau ychwanegol.
·
Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2023/24 a
lleihad yn y niferoedd sydd wedi hawlio gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â
blynyddoedd blaenorol. Effaith y polisi rheolaeth trysorlys presennol yn golygu
fod modd osgoi benthyca yn allanol ac felly’r costau cyfalaf cysylltiedig.
Tanwariant ar gyllidebau eraill yn cynorthwyo i leddfu’r pwysau ychwanegol o
ran y cynnydd cenedlaethol i gyflogau gweithwyr Llywodraeth Leol a gafodd ei
gadarnhau yn Nhachwedd.
Rhagwelwyd y bydd
rhaid gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i gyllido’r bwlch ariannol
o £8.1 miliwn a ragwelir am 2023/24. Er yn gynamserol
i drosglwyddo arian o gronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar
ddiwedd y flwyddyn, adroddwyd mai'r bwriad oedd argymell i’r Cabinet gymeradwyo
defnyddio £3.8m o Gronfa Trefniadau Adfer yn Sgil Covid
gyda’r gweddill i’w gyllido o gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor ynghyd a
chymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i
Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Nad oedd yr
adroddiad yn cyfleu newyddion da – sefyllfa yn adlewyrchu pwysau erbyn hyn ar
bob Adran
·
Bod cyfeiriadau at gynnal adolygiadau, e.e.,
adolygiad o orwariant yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, adolygiad
strategol o drafnidiaeth yn y Maes Addysg a gweithredu adolygiad WRAP yn y maes
Gwastraff. Pryder o ddiffyg amserlen i adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r adolygiadau
yma; yn awyddus i’r Cabinet bwyso am amserlen lle’n briodol. .
·
Bod angen
gwybodaeth ynglŷn â briff a siâp yr adolygiadau uchod ac os oes ymgysylltu
ac ymgynghori wedi digwydd.
·
A yw trefniadau grantiau cenedlaethol yn
golygu bod y Cyngor yn dibynnu ar yr arian yma ac o ganlyniad yn gwario arian
refeniw mewn meysydd nad ydynt o reidrwydd yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r
Cyngor. A oes modd i’r Cabinet ystyried
anghydbwysedd y defnydd grantiau.
·
Pryder am
gynaladwyedd y sefyllfa; ni all y lefel yma o orwariant barhau yn y tymor
hir.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cyllid, yng nghyd-destun
adolygiad Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, nad un adolygiad mawr oedd yma ar
wariant yr Adran, ond cyfres o adolygiadau llai sydd wedi eu ffocysu ar feysydd
penodol. Ategodd bod cais wedi ei wneud am fanylder pellach o le mae’r
gorwariant o fewn rhai o’r adrannau.
Yng nghyd-destun trefniadau grant, nododd bod canfyddiad o “micromanagement” gan y Llywodraeth o waith yr Awdurdodau
Lleol, ond bod cynllun ar y gweill i ddod â mwy o grantiau i mewn i’r setliad,
fel bod gan yr Awdurdodau fwy o hyblygrwydd i flaenoriaethu. Ategodd bod y bidiau refeniw fydd yn cael eu
cyflwyno wrth osod cyllideb ar gyfer 2024 - 2025 fwy neu lai i gyd yn ymwneud â
mynd i’r afael â gorwariant heblaw am ambell gais yn ymwneud â’r Cynllun
Digidol. Nododd hefyd bod y bidiau wedi bod yn destun herio manwl gan y Prif
Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol er mwyn sicrhau eu bod yn ymdrin â
gwir achosion o ddiffyg cyllideb, ac nid methiant o reoli cyllideb.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Tachwedd 2023 o’r Gyllideb Refeniw
·
Nodi sefyllfa ariannol
ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Nodi bod rhagolygon
gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a
Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC eleni.
·
Cytuno gyda’r argymhelliad
i’r Cabinet (23-01-24) i gymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar
gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor
Nodyn: Cais i’r
Cabinet,
·
ystyried amserlen adolygiad gorwariant yr
Adran Oedolion Iechyd a Llesiant ac adolygiad gorwariant yr Adran Amgylchedd
(materion cludiant Integredig)
·
ystyried anghydbwysedd defnydd grantiau
Dogfennau ategol: