Agenda item

Adeiladu annedd amaethyddol newydd (Ail-gyflwyniad).

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Edwards

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad, yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

1)    Yn unol gyda’r cynlluniau.

2)    5 mlynedd.

3)    Deunyddiau / gorffeniadau

4)    Amod defnydd menter wledig

5)    Cyfyngu i ddefnydd C3 yn unig

6)    Tirweddu

7)    Gwelliannau Bioamrywiaeth.

8)    Manylion ffens terfyn

9)    Enw Cymraeg i’r datblygiad

 

Nodyn

SUDS

Gwarchod llwybr cyhoeddus

 

Cofnod:

Adeiladu annedd amaethyddol newydd (Ail-gyflwyniad)

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi tŷ amaethyddol newydd a modurdy ar wahân ar lecyn o dir ym Mharc y Derw Goed, Llandderfel.

Gorwedd y safle mewn lleoliad uchel ymhell tu allan i unrhyw ffin datblygu cydnabyddedig felly yn safle cefn gwlad agored. Gwasanaethir y safle gan drac cilffordd ‘byway’ a rhed llwybr cyhoeddus rhif 42 Llandderfel i’r gogledd o’r safle. Mae’r safle o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig ac wedi ei adnabod fel Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) Ffosffad. Mae’r caeau i’r de o’r safle wedi eu hadnabod fel Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol.

  

Eglurwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais C23/0409/04/LL am union yr un bwriad. Fe wrthodwyd y cais 17 Gorffennaf 2023, o dan hawliau dirprwyedig am nad oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi eu hargyhoeddi fod y bwriad yn cwrdd ag anghenion lleoli annedd amaethyddol oherwydd ei bellter o’r fferm.

 

Cyflwynwyd Datganiad Dylunio a Mynediad, llythyrau o gefnogaeth gan NFU Cymru a Chyngor Amaeth Gwas ynghyd â Chynllun Busnes gan Gyswllt Ffermio (cyfrinachol) fel rhan o’r cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd, yn sgil yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad, mae angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd yno ac felly dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir tai newydd yng nghefn gwlad. Mae’r amgylchiadau arbennig hynny lle y gellir caniatáu tai newydd yng nghefn gwlad yn cael eu cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 6 (NCT6): Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy – Gorffennaf 2010 a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Cyflwynwyd Cynllun Busnes fel rhan o’r cais oedd wedi ei baratoi gan Farming Connect yn cadarnhau fod yr ymgeisydd yn ffermio mewn partneriaeth gyda’i dad ers 2012. Nodwdy bod y Cynllun Busnes yn rhoi cefndir o’r fenter ynghyd â manylion am faint y daliad, niferoedd stoc, gofynion llafur a manylion ariannol am hyfywdra’r fenter. Byddai’r bwriad felly yn ail annedd ar fferm sefydledig, gyda’r ymgeisydd yn rhedeg y fferm gyda’i dad. Cyfeiriwyd at y meini prawf isod, gan nodi wrth ystyried yr angen;

 

a)  bod angen swyddogaethol presennol clir wedi’i sefydlu;

b)  bod yr angen yn ymwneud â gweithiwr llawn amser, nid â gofyniad rhan-amser;

c)   bod y fenter dan sylw wedi’i sefydlu ers o leiaf tair blynedd, wedi gwneud elw yn ystod un ohonynt o leiaf, a bod y fenter a’r busnes sydd â’r angen am y swydd yn ariannol gadarn ar hyn o bryd a bod yna ragolwg clir y byddant yn parhau felly;

d)  na ellir diwallu’r angen swyddogaethol gan annedd arall na thrwy drosi adeilad addas sydd eisoes ar y daliad tir lle mae’r fenter, neu unrhyw lety arall sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal leol sy’n addas ac ar gael i’w feddiannu gan y gweithiwr dan sylw;

e)  bod gofynion cynllunio arferol eraill, er enghraifft, lleoliad a mynediad, wedi’u bodloni.

 

Ymddengys o’r wybodaeth a gyflwynwyd fod yr ymgeisydd yn cyfarfod â gofynion profion a), b) a c) a nodir uchod ac fel y nodwdy, nid oes adeiladau traddodiadol addas a ellir eu haddasu i ar y daliad i gyfarfod prawf d).

 

Amlygwyd bod y safle dan sylw yn dir amaethyddol o ansawdd gwael, ble ceir trac presennol a chyflenwad dŵr a thrydan agos. Fe ddadleuir ei fod yn safle sy’n swatio’n naturiol tu ôl i fryncyn, wedi ei sgrinio’n dda a ble gellir gwella bioamrywiaeth. Ategwyd bod yr ymgeisydd eisiau osgoi lleoli’r mewn safle amlwg yn y dirwedd, gan ystyried hwn yn le cysgodol wedi ei sgrinio’n dda. Mae’r safle oddeutu 650 medr fel hed y fran i ffwrdd o fferm Derw Goed a’r adeiladau fferm gysylltiedig.

 

Tra’n gwerthfawrogir eglurhad, nid yw’r Awdurdod Cynllunio wedi eu llwyr argyhoeddi na fyddai posib datblygu ar rai o’r lleoliadau a ddiystyriwyd, megis ar dir ger y fferm neu ar leoliadau eraill na ddangoswyd yn y dyffryn yn agosach i’r fferm. Ystyriwyd bod  opsiynau eraill ar gael i fonitro tir, megis camerâu cylch cyfyng. Ystyriwyd hefyd bod lleoliad y arfaethedig yn llechfeddiannu yn afresymol i gefn gwlad ac yn ormodol ar wahân o’r daliad fferm ble y byddai’n annog darnio’r fferm, ac felly yn groes i ofynion rhannau 4.7.1 a 4.12 o NCT 6.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw brisiad marchnad agored (llyfr coch) fel rhan o’r cais. Mae polisi NCT 6 yn datgan dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir tai newydd yng nghefn gwlad. Nid yw’r Awdurdod Cynllunio wedi ein gwir argyhoeddi mai hwn yw’r lleoliad mwyaf addas i amaethyddol heb sicrwydd fod yr eiddo yn mynd i fod yn fforddiadwy i’r hir dymor.  Mae’r bwriad felly yn groes i bolisïau PCYFF 1 a PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a rhannau 4.7.1 , 4.12 a 4.13 o Nodyn Cyngor Technegol 6 Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010) sy’n sicrhau mai dim ond mewn amgylchiadau penodol ac eithriadol y gellir caniatáu tai newydd yng nghefn gwlad agored.

 

Nodwyd bod dyluniad a mwynderau gweledol, mwynderau preswyl, materion ffyrdd yn dderbyniol ac amodau wedi eu cynnig ar gyfer rheoli’r materion Bioamrywiaeth a goresgyn y materion draenio.

 

O ran casgliadau, nodwyd fod y bwriad yn parhau yn groes i ofynion lleoli NCT 6 gan y byddai’r amaethyddol yn ormodol ar wahân o’r fferm bresennol. Cwestiynwyd hefyd os yw’r lleoliad yn gallu sicrhau fod yr eiddo yn gallu bod yn fforddiadwy yn hir dymor, petai’r defnydd amaethyddol yn dod i ben. Gwrthodwyd y cais blaenorol am union yr un bwriad, ac er bod ychydig mwy o gyfiawnhad wedi ei gyflwyno ar y cais gerbron, nid oedd y swyddogion wedi ein gwir argyhoeddi mai’r lleoliad yma oedd y mwyaf addas i amaethyddol. Er bod rhai materion yn ymwneud â mwynderau a ffyrdd yn dderbyniol, nid oedd y bwriad yn cwrdd â’r holl ystyriaethau polisi perthnasol. Datganwyd y pryderon hyn mewn ymateb i ymholiad cyn cais ac yn y gwrthodiad blaenorol ond dewisodd yr ymgeisydd fwrw ymlaen gydag ail gyflwyno’r cais. Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Bod y ffarm wedi bod o fewn perchnogaeth y teulu ers 80 mlynedd

·         Bod yr angen wedi cael ei brofi

·         Bod lleoliad y cais wedi ei ystyried yn ofalus – achosion o gŵn yn lladd defaid ac o yrru dros y tir – byddai lleoliad y tŷ yn fodd o gadw llygad ar ddigwyddiadau 24awr

·         Bod y safle yn ganolog i dir y fferm – cadw llygad ar stoc sydd allan drwy’r flwyddyn

·         Bod y safle mewn lle cysgodol

·         Bod trac mynediad mewn bodolaeth

·         Nad yw’r safle yn weledol o’r ffordd

·         Byddai adeiladu annedd yn lleihau’r angen i symud a theithio

·         Bod y caeau sydd agosaf at y fferm yn gaeau cynhyrchiol (pori a silwair)

·         Bod y lleoliad yn galw am bresenoldeb i oresgyn problemau digwyddiadau ac yn darparu cartref i deulu ifanc, lleol

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Nad yw’r safle i’w weld o nunlle, ond o’r fferm

·         Bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio gyda materion bioamrywiaeth

·         Mater o farn yw’r lleoliad

·         Bod cais arall wedi ei ganiatáu gyda 2 filltir rhwng y fferm a safle’r bwriad – sut bod y cais hwnnw felly o blaid y polisi a hwn yn erbyn?

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais yn groes i’r argymhelliad - bod y mewn lle delfrydol i warchod stoc ac i leihau ol troed carbon

 

d)         Mewn yamteb i gwestiwn ynglŷn ag amod i sicrhau meddiannaeth amaethyddol nododd y  Pennaeth Cynorthwyol y byddai rhaid gosod amod fyddai yn cyfyngu’r defnydd i amaethyddiaeth yn unig ynghyd ag amod fyddai’n cyd-fynd ag amodau tai fforddiadwy / pris fforddiadwy ac amodau safonol.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad, yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. Yn unol gyda’r cynlluniau.
  2. 5 mlynedd.
  3. Deunyddiau / gorffeniadau
  4. Amod defnydd menter wledig
  5. Cyfyngu i ddefnydd C3 yn unig
  6. Tirweddu
  7. Gwelliannau Bioamrywiaeth.
  8. Manylion ffens terfyn
  9. Enw Cymraeg i’r datblygiad

 

Nodyn

SUDS

Gwarchod llwybr cyhoeddus

 

Dogfennau ategol: