I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried argymhellion i’r Cabinet
(23-01-2024) a sylwebu fel bo’ angen. Nododd
yr Aelod Cabinet bod y sefyllfa arbedion
yn dwysau a bod gwireddu arbedion yn fater o bryder.
Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol,
·
Er mwyn cau'r bwlch ariannol,
roedd rhaid gweithredu gwerth £7.6 miliwn o arbedion yn ystod 2023/24, oedd yn
gyfuniad o bron i filiwn oedd wedi ei gymeradwyo yn flaenorol, arbedion ar
gyfer yr Ysgolion o £1.1 miliwn, £3 miliwn ar gyfer adrannau’r Cyngor a £2.4
miliwn pellach drwy adolygu polisi ad-dalu dyled cyfalaf y Cyngor.
·
Dros y blynyddoedd diwethaf, ac fel sydd wedi ei adrodd
i’r Pwyllgor yma yn gyson, gwelwyd bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai
meysydd (yn amlwg yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn y maes
Gwastraff). O ganlyniad, bu i werth £2 filiwn o gynlluniau, oedd â risgiau
sylweddol i gyflawni, eu dileu fel rhan o Adolygiad Diwedd Awst.
Cyfeiriwyd at y cynlluniau arbedion hanesyddol am y
cyfnod o’r flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2023/24 a thynnwyd
sylw bod 98%, sef dros £33.7 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion, bellach wedi
eu gwireddu.
Yng nghyd-destun cynlluniau newydd yn y flwyddyn
ariannol gyfredol, adroddwyd bod 81% o
arbedion 2023/24 eisoes wedi eu gwireddu a 6% pellach ar waith i gyflawni’n
amserol. Amlygwyd bod ychydig o oediad i wireddu gwerth £694k o gynlluniau
arbedion 2023/24 ond nad oedd yr Adrannau yn rhagweld problem i’w gwireddu.
Ategwyd bod y mwyafrif o’r swm yma yn
cynnwys arbedion o £539k gan ysgolion, sydd yn llithro gan fod yr ysgolion yn
gweithio i flwyddyn academaidd - y gwireddu felly yn llithro i’r flwyddyn
ariannol nesaf.
Cyfeiriwyd at werth yr arbedion sydd eisoes wedi eu
cymeradwyo ar gyfer 2024/25 ymlaen gan amlygu bod cynlluniau arbedion a
thoriadau pellach ar gyfer 2024/25 eisoes dan ystyriaeth gan y Cyngor. Bydd y
rhain yn destun adroddiad i’r Pwyllgor yn fuan.
Eglurwyd felly, bod £39 miliwn o arbedion wedi eu
gwireddu, sef 96% o’r £41 miliwn gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelwyd y bydd 1%
pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ond bod oediad a
rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill.
Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio
ar y llwyddiant - bod 96% o’r Arbedion
wedi eu gwireddu - y tuedd yw rhoi
gormod o ffocws ar y rhai hynny sydd heb eu gwireddu, sydd efallai'r
rhai anoddach.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Sut mae dewis rhwng priodoldeb ariannol a chyflawni
dyletswyddau statudol? Beth ydym yn ei
wneud pan fo arian yn dod i ben?
·
Pryder am y diffyg adnoddau i gyflawni pethau, ond
cydnabyddiaeth mai dyma ydi realiti’r sefyllfa erbyn hyn.
·
Sicrhau bod y Pwyllgor yn
amlygu risgiau wrth reoli defnydd priodol o adnoddau ariannol
·
Bod y Cyngor bellach yn gweithio mewn diwylliant o
arbedion
·
Awgrym i gynnal gwaith modelu fel bod modd rhagweld y
galw i’r dyfodol
·
Mynegwyd pryder nad oes modd i’r Cyngor weithredu i gwrdd
â safonau erbyn hyn oherwydd y gofyn parhaus i gyflawni arbedion.
·
Yn prysur gyrraedd y pwynt lle mae angen ail-edrych ar y
ffordd mae gwasanaethau yn cael eu cyflawni.
Mewn ymateb
i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cyllid ei bod hi’n allweddol gweithredu mewn
modd bod popeth yn cael ei wneud i osgoi cyrraedd y pwynt o orfod dewis
rhwng priodoldeb ariannol a chyflawni
dyletswyddau statudol. Ategodd bod rhaid sicrhau gwerth am arian a gwneud y
defnydd gorau o bob punt sydd ar gael fel bod yr adnoddau yn mynd i’r lle iawn
gan adolygu’r sefyllfa yn barhaus. Nododd y byddai methiant i wneud hyn yn
arwain at orfod gwneud datganiad s114, a bod angen gwneud popeth i osgoi
cyrraedd y sefyllfa yma. Mewn ymateb i sylw am gwblhau gwaith modelu, amlygwyd
bod y Cyngor mewn sefyllfa gadarn i weithredu ar hyn gyda Thîm Ymchwil a
Gwybodaeth y Cyngor yn flaengar iawn yn y math yma o waith.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad
·
Nodi’r cynnydd, y sefyllfa a’r risgiau
perthnasol yng nghyswllt Trosolwg Arbedion
Dogfennau ategol: