Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorwyr Nia Jeffreys a Dyfrig Siencyn

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Arweinydd a swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Faterion Gweithredol Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu:-

·         Cynnwys y prosiect o dan y maes blaenoriaeth ‘Gwynedd Llewyrchus’ yng Nghynllun y Cyngor sy’n anelu i greu’r amgylchiadau gorau bosib’ i fusnesau a mentrau cymunedol ffynnu, a chefnogi pobl Gwynedd mewn i waith; a

·         Cynnydd yr Adran Economi a Chymuned yn gweithredu’r prosiect er mwyn sbarduno twf yn economi Gwynedd.

 

Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun, amlinellodd y Pennaeth Economi a Chymuned gynnwys yr adroddiad ac ymhelaethodd y Rheolwr Datblygu Economaidd / Rheolwr Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru ar y camau penodol o ran cymorth i fusnes.

 

Nodwyd, ers paratoi’r adroddiad:-

·         Bod y broses o ddewis prosiectau fydd yn derbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi dod i ben, ac y byddai dros £3m wedi’i ddosbarthu i 57 o fusnesau. 

·         Bod hyn ymhell islaw’r 185 o geisiadau gwerth £10m a ddaeth i law, a phetai gan y Cyngor fwy o amser a mwy o adnodd, diau y gellid bod wedi helpu llawer mwy.

·         Bod y £1m oedd ar gael drwy’r rhaglen Arfor wedi’i ddosbarthu i 20 o fusnesau, ac unwaith eto, roedd y galw yn llawer uwch na’r adnodd oedd ar gael.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd bod dull Llywodraeth y DU o ddosbarthu arian o’r Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ddiffygiol iawn.  Cyfeiriwyd yn benodol at y diffyg prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, y diffyg strategaeth ar lefel uwch na’r sirol, y brys mawr i wario arian sylweddol mewn cyfnod byr o amser sy’n golygu blaenoriaethu prosiectau sy’n gallu cael eu gwireddu’n sydyn a’r ansicrwydd mawr ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl Ebrill 2025.  Mewn ymateb, nodwyd bod rhai pethau sy’n well ar gyfer eu darparu ar lefel genedlaethol, rhai ar lefel rhanbarthol, rhai ar lefel sirol a rhai ar lefel fwy lleol byth, ond nid oedd yr un model yn ddelfrydol.  Roedd angen cynllunio ar ba lefel mae dyrannu a gwneud penderfyniadau, ond ni fu cyfle i wneud hynny yn yr achos hwn oherwydd yr amserlen.

 

Holwyd a oedd rhai cynigion yn cael eu harianu yn eu cyfanrwydd a’r gweddill yn cael eu gwrthod, neu a oedd yna elfen o rannol ariannu rhai cynlluniau.  Mewn ymateb, nodwyd y penderfynwyd peidio ariannu rhai cynigion yn eu cyfanrwydd er mwyn gallu cefnogi mwy o fusnesau, a bod pob un o’r busnesau a ariannwyd yn rhannol wedi cadarnhau bod modd iddynt gyflawni eu prosiect o fewn yr amserlen gyda llai o arian.

 

Holwyd a oedd y gost i’r gronfa o gyflogi’r swyddogion ychwanegol i weinyddu’r cynllun yn cynnwys costau diswyddo?  Gofynnwyd hefyd am wybodaeth ynglŷn â chefndir y swyddogion hynny a beth fydden nhw’n debygol o wneud ar ôl i’r cynllun ddod i ben gan y byddai’n fuddiol cadw’r arbenigedd o fewn y Cyngor neu o fewn y rhanbarth.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod cost y staff ychwanegol i weinyddu’r cynllun yn gost gymwys o’r grant, felly nid oedd Cyngor Gwynedd yn talu am y staff hynny.

·         Bod y nifer fechan o staff a gyflogwyd i redeg y prosiectau yng Ngwynedd yn gyfuniad o bobl â chefndir blaenorol yn y maes a phobl ifanc newydd i’r maes, a bod y tîm mwy ar draws y Gogledd yn cynnwys nifer o secondiadau o blith uwch swyddogion Gwynedd a siroedd eraill, ynghyd â chyn-swyddogion sydd â chefndir o reoli cronfeydd mawr, a phres Ewrop yn benodol.

·         Y bu’n rhaid tyfu’r tîm o ochr gweinyddu’r grantiau oherwydd yr angen i brosesu cynifer o brosiectau mewn cyfnod cymharol fyr, a llwyddwyd eto yn yr achos hwn i roi cyfle i bobl ifanc gael profiad yn y maes.

 

Holwyd pa mor ffyddiog oedd y swyddogion bod modd i’r prosiectau a gafodd eu hariannu wario yn erbyn yr amserlen.  Mewn ymateb, nodwyd y gellid bod yn ffyddiog y byddai modd gwario’r arian gan fod meini prawf asesu aeddfedrwydd a gallu prosiectau i weithredu wedi’u hadeiladu i mewn i’r broses.  Fodd bynnag, petai pryder bod prosiect ddim yn cyflawni, byddai yna gyfle i ailgylchu’r arian.

 

Nodwyd bod yr Adran i’w llongyfarch am gyd-gordio’r holl grantiau ar hyd y Gogledd a’r Gorllewin, ond gan na ddarparwyd unrhyw arweiniad strategol gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru, roedd yn bwysig blaenoriaethu paratoi strategaeth er budd Gwynedd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y cytunid yn llwyr â’r sylw, ond na lwyddwyd i gwblhau’r gwaith o baratoi Cynllun Economi Gwynedd oherwydd y gofynion ychwanegol ar y Gwasanaeth i reoli a gweinyddu’r rhaglenni ariannu.

·         Nawr bod y gwaith penderfynu o ran dyrannu’r arian wedi’i gwblhau, byddai’r gwaith o baratoi’r cynllun yn cychwyn yn fuan ac roedd yn bwysig bod gwersi o brofiad y trefniadau presennol yn cael eu dysgu a bod y blaenoriaethau ar gyfer Gwynedd yn glir i’r dyfodol.

 

Holwyd a oedd perygl y gallai Porthladd Rhydd Caergybi gael dylanwad negyddol ar economi Gwynedd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y cwestiwn hwn wedi’i ofyn a sicrwydd wedi’i roi gan swyddogion na fyddai Porthladd Rhydd Caergybi yn arwain at unrhyw ‘displacement’.  Er hynny, ni welwyd tystiolaeth hyd yma o sut fyddai cael rheolaeth ar hynny a mawr obeithid y byddai yna drafodaeth ar hynny ar lefel rhanbarthol yn fuan.

·         Y deellid bod y broses o baratoi’r cynllun busnes ar gyfer y Porthladd Rhydd yn dal i fynd yn ei flaen ac nad oedd eto’n glir beth fyddai ei effaith ar y rhanbarth.

·         Nad oedd manylion ar gael chwaith ynglŷn â pha fuddion neu ba effaith andwyol y gallai’r Parth Buddsoddi Economaidd newydd yn y Dwyrain ei gael ar weddill y rhanbarth, a byddai’n rhaid cadw golwg ar y sefyllfa.

·         Y pryderid am unrhyw effaith bosib’ fyddai’r Porthladd Rhydd yn ei gael ar rai ardaloedd penodol fel Bangor oherwydd y manteision treth a gynigir i fusnesau sy’n sefydlu yn ardal y Porthladd Rhydd.  Cafwyd addewid y byddai yna ganllawiau mewn lle a olygai na fyddai hynny’n digwydd, ond nid oedd Gwynedd wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau ynglŷn â hynny nac wedi gweld cynllun.  Unwaith y byddai cynlluniau ar gael, byddai’r swyddogion yn awyddus i’w craffu ac i weld sut y gellid cydweithio.

 

Holwyd pa gynlluniau fyddai yna i geisio denu cyflogwyr mawr i Wynedd yn sgil llunio Cynllun Economi Gwynedd gan y pryderid y bydd unrhyw fusnesau mawr sy’n mewnforio / allforio nwyddau yn dewis Môn a busnesau sy’n cludo nwyddau o fewn ffiniau Prydain yn dewis Fflint / Wrecsam.  Tra’n derbyn na allai Gwynedd gynnig manteision treth, ac ati, i fusnesau o’r fath, holwyd pa gefnogaeth arall y gallai Gwynedd ei gynnig i’r cwmnïau hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad yw cwmnïau mawr yn fodlon lleoli mewn ardaloedd ymylol fel Gwynedd, sy’n bell o’r farchnad gyda llai o weithlu a chostau cludiant uwch, heb fod yna gymhelliant iddyn nhw wneud hynny.

·         Bod yna gymhelliant i gwmnïau leoli yn ardal y Porthladd Rhydd, e.e. arian i godi unedau a rhyddhad trethiant, ond nid oedd hynny am ddigwydd yng Ngwynedd.

·         Mai dyma’r math o gwestiynau i’w codi wrth baratoi’r Cynllun Economi, gan na ragwelid y byddai adnoddau Cyngor Gwynedd yn gallu helpu.

 

Mynegwyd pryder bod safle Parc Bryn Cegin, Bangor wedi bod yn wag ers dros ddau ddegawd, a nodwyd, er bod yr aelod seneddol lleol yn gwneud llawer o waith ar hyn, nad oedd pethau yn symud.  Holwyd hefyd lle fyddai’r unedau busnes newydd wedi’u lleoli.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai’r unedau newydd wedi’u lleoli ym Minffordd ac yn darparu ar gyfer y sir i gyd yn ganolog. 

·         Bod yna alw mewn ardaloedd eraill hefyd a disgwylid i weld beth fyddai’r farchnad sector breifat yn ddarparu eu hunain mewn rhai ardaloedd.

·         Bod yna brinder safleoedd diwydiannol yng Ngwynedd a byddai angen prynu safleoedd er gwaetha’r ffaith bod Parc Bryn Cegin, sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, yn wag.

·         Bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd â Môn yn dangos bod yna ddigon o dir diwydiannol o fewn ardal y cynllun, ond bod y tiroedd hynny ar Ynys Môn, a gobeithid bod modd edrych ar hynny fel rhan o’r adolygiad o’r Cynllun gyda’r nod o gael mwy o ddarpariaeth tir ac eiddo yng Ngwynedd.

 

Nodwyd bod Gwynedd yn un o’r siroedd tlotaf yng ngwledydd Prydain ac yn ddibynnol iawn ar y cronfeydd Ffyniant Bro a Ffyniant Gyffredin.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y credid bod economi Gwynedd yn or-ddibynnol ar y diwydiant ymwelwyr a bod angen cael mwy o fudd lleol allan ohono.

·         Bod gan y Gymru wledig broblem ddiboblogi ddifrifol a bod angen cynllun economaidd i ardaloedd gwledig Cymru.

·         Bod angen creu amgylchedd llawer mwy rhwydd i adeiladu unedau bach neu lai gan fod yna alw amdanynt.  Credid bod yna gyfleoedd i fuddsoddi yn sylweddol ar draws cefn gwlad ac roedd angen i ni edrych yn llawer mwy gofalus ar ein cynlluniau datblygu i hwyluso hynny.

·         Na chredid bod y Llywodraeth bresennol yn deall y sefyllfa wledig, a’i bod yn haws cael cynnydd economaidd mewn ardaloedd trefol sydd â bwrlwm economaidd.

·         Bod yna fusnesau da iawn a hynod lwyddiannus yn bodoli yng Ngwynedd sy’n cynnig cyflogaeth dda i weithwyr a bod cwmnïau yn dewis Gwynedd oherwydd bod y staff yn sefydlog ac yn deyrngar. 

·         Bod angen cydnabod bod yna sylfaen economaidd ffyniannus ar hyd a lled Gwynedd a bod y sylfaen yna’n golygu nad ydym yn agored i’r newidiadau economaidd sylweddol.

·         Bod angen creu cyfleoedd i’r busnesau bach sydd gennym yng Ngwynedd ehangu a bod angen buddsoddiad ar lefel rhanbarthol ac ar lefel cenedlaethol a chynllun cenedlaethol ar gyfer cefn gwlad Cymru.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod etholwyr Gwynedd yn deall nad y Cyngor sydd wedi creu’r holl ansicrwydd am ddyfodol adnoddau i gefnogi’r economi leol, ac mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y sefyllfa, a hynny er mwyn cael manteision etholiadol.

 

Nodwyd bod rhai ymgeiswyr aflwyddiannus am grantiau yn teimlo bod eu holl waith ar y ceisiadau wedi bod yn ofer a holwyd sut y gellid esbonio wrth y bobl hynny nad bai Cyngor Gwynedd yw hynny, ac y bydd y gwaith a gyflawnwyd ganddynt yn bwysig ar gyfer prosiectau eraill yn y dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y gobeithid, ymhob achos, nad yw’r gwaith, ar wahân i lenwi’r ffurflen, yn mynd yn ofer.

·         Y gobeithid y byddai’r swyddogion yn gweld pawb sydd wedi bod yn aflwyddiannus gyda’u ceisiadau am grant er mwyn gweld oes yna ffyrdd gwahanol o ariannu’r cynlluniau.  Hefyd, byddai’r Gwasanaeth yn cyfeirio swyddog o Fusnes Cymru at yr ymgeiswyr, yn sicr felly o ran y ceisiadau mwy am grant, i weld oes ffordd wahanol o gefnogi’r busnes i gyflawni’r prosiect.

·         Y bydd rhagor o grantiau yn sicr o ddod yn y dyfodol, er nad ydi’r manylion yn hysbys eto, a chynghorid pawb i barhau i weithio ar fanylion eu prosiectau fel eu bod mor aeddfed â phosib’ pan ddaw cyfle arall am grant.

·         Y gofynnid i’r aelodau basio gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw brosiectau sy’n bryderus am eu sefyllfa i’r Gwasanaeth fel y gall y swyddogion gysylltu â hwy.

 

Holwyd a ddeellid pam bod cyfraddau anweithgarwch economaidd a diweithdra Gwynedd yn fwy cyfnewidiol nag mewn aml i le arall.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod llawer o’r data a gynhyrchir ar sail arolygol a samplau, a po leiaf yw maint yr ardal ddaearyddol, lleiaf sicr yw maint y sampl wedyn.

·         Bod angen bod yn ofalus gyda’r math hwn o ddata ac roedd yn bwysig edrych ar y tuedd arferol.

 

Nodwyd, o edrych ar y dangosyddion gwerth ychwanegol a chyflogau cyfartalog, ac ati, mai’r patrwm arferol yw bod y DU yn gwneud yn well na Chymru a Gwynedd.  Holwyd, o dderbyn nad oes gennym ysgogiadau economaidd i wneud gwahaniaeth mawr, a ddeellid yn llawn pam bod y bwlch yna yn parhau dros gymaint o amser.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Er bod y wybodaeth, yn arbennig o ran perfformiad yr economi, yn dangos patrwm yn symud yn ôl a blaen ychydig, bod y tuedd yn aros yn debyg iawn.

·         Bod economi Gwynedd yn fwy ymylol, a hefyd yn economi traddodiadol mewn sawl ystyr, gyda sectorau sy’n seiliedig ar unedau llai na’r cyfartaledd, a bod hynny’n tanlinellu maint yr her.

·         Bod rhaid cael ymdrech gyson hir dymor dros sawl cenhedlaeth i gau rhywfaint ar y bwlch, ac er nad ydi cyflogau Gwynedd byth yn mynd i fod ar yr un lefel â chyflogau Llundain, bod llawer o fanteision eraill i weithio yng Ngwynedd. 

·         Bod y bwlch yn rhy eang ar hyn o bryd, ond yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn symud tuag at welliant.

 

Nodwyd bod tueddiad i bolisi economaidd sy’n cael ei ffurfio gan Lywodraeth y DU ffafrio Llundain, a bod yr un peth yn wir ar lefel Caerdydd, a bod gwledydd eraill yn gwneud llawer mwy o ymdrech i sicrhau bod rhannau rhanbarthol yn ffynnu.

 

Gan gyfeirio at y tabl yn yr adroddiad, holwyd ym mha feysydd ac ym mha rannau o’r sir roedd y 101 o bobl Gwynedd a dderbyniodd gefnogaeth hyd yn hyn yn 2023/24 wedi sicrhau swydd.  Holwyd hefyd faint o’r 364 o unigolion lleol a fynychodd y ffeiriau swyddi oedd wedi cael gwaith erbyn hyn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yr adroddiad yn cyfeirio’n benodol at weithgaredd yn ymwneud â rhaglen Gwaith Gwynedd sy’n targedu’r bobl hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur, pobl sydd wedi bod allan o waith am gyfnod hir neu bobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n aml wedi eu hatal rhag gweithio yn y gorffennol.

·         Bod tîm Gwaith Gwynedd yn mentora’r unigolion dros gyfnod estynedig ac roedd yna gadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd yn y tymor hir hefyd er mwyn gwneud yn siŵr nad ydi’r unigolion yn disgyn allan o gyflogaeth ac i’w cynorthwyo i symud ymlaen i swyddi gwell o fewn eu sector.

·         Y defnyddid y ffeiriau swyddi fel cyfle i adnabod pobl sydd angen cymorth ychwanegol er mwyn cael mynediad i waith.

 

Holwyd a ragwelid sut y byddai’r crebachu ar arian sector gyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf yn effeithio ar fusnesau’r sir, o ystyried bod busnesau’n derbyn nawdd anuniongyrchol gan y sector gyhoeddus drwy gontractau a gwariant cyflogeion.  Mewn ymateb, nodwyd y gobeithid y byddai hyn yn rhan o’r briff ar gyfer Cynllun Economi Gwynedd gan fod angen deall beth yw’r effaith anuniongyrchol yn sgil crebach cyllideb sector gyhoeddus yn gyffredinol ar bartneriaid yng Ngwynedd.

 

Nodwyd nad diweithdra, ond yn hytrach ansawdd swyddi, yw’r brif broblem yng Ngwynedd a holwyd, o greu mwy o swyddi, sut mae sicrhau mai’r boblogaeth leol sy’n manteisio ar hynny, yn hytrach na phoblogaeth fewnlifol, ac oes modd osgoi hynny o gwbl gan fod swyddi ansawdd isel yn mynd i fod yn angenrheidiol beth bynnag.  Mewn ymateb, nodwyd y cyflwynwyd amodau ynghlwm â chynigion grant, gan gynnwys amod y bydd y busnes, os nad yw’n gwneud hynny eisoes, yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’w holl weithwyr erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Holwyd a fydd modd darparu rhestr lawn ar ddiwedd y cyfnod dyrannu grantiau o’r busnesau sydd wedi derbyn cymorth, ynghyd â faint o swyddi sydd wedi’u creu, gan y byddai’n fuddiol gwybod mwy am ddosbarthiad daearyddol yr arian.  Holwyd hefyd a fydd yr Adran yn edrych ar ôl cyfnod o amser i weld os ydi’r busnesau hynny wedi llwyddo neu fethu, a beth fyddai’r amserlen ar gyfer hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai enwau’r busnesau llwyddiannus a’r cynigion a wnaed iddynt yn cael eu cyhoeddi.

·         Y bu’n rhaid ystyried y ceisiadau a ddaeth i law, felly os nad oedd yna geisiadau yn dod i mewn o ardaloedd penodol, roedd angen mynd ar ôl hynny yn y cynllun newydd.

·         Er y bydd angen ystyried sut i werthuso’r cynllun y tu hwnt i gyfnod y rhaglen, bydd yr Adran yn parhau i’w fonitro er mwyn gweld sut mae cwmni wedi datblygu dros y blynyddoedd, gan hefyd gynnal y berthynas gyda’r sawl sydd wedi derbyn cymorth fel bod modd iddyn nhw dderbyn cymorth pellach neu elwa ar gyfleoedd pellach gan y Cyngor ac eraill.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r gostyngiad ym mhoblogaeth Gwynedd a nodwyd y bydd hyn yn golygu y bydd mwy o fusnesau sy’n cyflogi pobl leol yn gorfod cau.  Hefyd, gan fod Gwynedd yn sir sy’n ddibynnol iawn ar amaeth, a ffermwyr yn wynebu toriadau sylweddol mewn taliadau, mynegwyd pryder ynglŷn â beth sy’n mynd i ddigwydd i economi cefn gwlad Gwynedd yn y dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y deellid y pryderon ynglŷn â’r cynlluniau amaeth diweddaraf a bod yna negeseuon yn mynd o Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’r Llywodraeth.

·         Y credid ein bod yn or-ddibynnol ar amaeth a thwristiaeth yng Ngwynedd a bod angen economi llawer iawn mwy amrywiol.

·         Bod rhaid cymryd risgiau wrth greu gwaith yn yr ardaloedd gwledig a bod yn barod i ddenu pobl o’r tu allan os ydyn nhw’n barod i sefydlu busnes a chreu gwaith i bobl leol.

·         Bod ein gallu fel Cyngor i newid y sefyllfa yn brin iawn, ond byddem yn gwneud ein gorau ac yn ystyried y materion hyn oll yn y trafodaethau wrth ddatblygu’r Cynllun Economi, ac yn dod yn ôl at y craffwyr gyda manylion y cynllun.

 

          PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: