Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme
Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.
Bwriedir cael toriad i ginio am 12.00yp – 1.00yp
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a swyddogion yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn egluro bod dyletswydd benodol ar y Cyngor, fel rhan
o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i adolygu ei Amcanion Cydraddoldeb erbyn diwedd
Mawrth 2024, ac yn gwahodd mewnbwn y craffwyr i’r amcanion drafft.
Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i’r swyddogion am eu holl waith yn y maes hwn.
Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Nodwyd mai’r peth pwysig i’w gofio o ran
cydraddoldeb yw nad yw’r pwynt dechrau'r un fath i bawb a bod angen symud y
pwynt dechrau weithiau fel bod pobl sydd â rhwystrau sy’n eu hatal rhag bod yn
gydradd mewn cymdeithas yn gallu symud yn eu blaenau. Gan hynny, holwyd pa gamau roedd y Cyngor yn
eu cymryd i, er enghraifft, roi swyddi i bobl sydd â’r anghydraddoldebau hyn a
rhoi cyfle iddynt gamu ymlaen. Mewn
ymateb, nodwyd:-
·
Mai
bwriad yr amcanion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw ceisio symud pethau
ymlaen i’r bobl hynny sy’n profi anghydraddoldeb a bod 4 amcan yn gweithio tuag
at bwyntiau gweithredu ar hynny.
·
Bod
yr amcan cyntaf ynglŷn â chyflogaeth, a bod hynny’n unol â’r canllawiau.
·
Y
rhoddwyd ystyriaeth hefyd i beth arall sydd angen ei wneud. Gofynnid i’r staff lenwi holiadur yn nodi
beth yw eu nodweddion, ond nid oedd llawer yn gwneud hynny am amryw o resymau,
ond heb y wybodaeth honno, nid oedd modd gwybod beth yw’r sefyllfa o fewn y
Cyngor a phwy sydd angen yr anogaeth fwyaf.
Gan hynny, penderfynwyd bod angen pwyntiau gweithredu sy’n mynd i symud
hynny ymlaen.
·
Bod
dyletswydd cyfreithiol ar y Cyngor i fod yn gyflogwr sy’n groesawgar i bawb, ac
roedd angen bod â’r agweddau iawn o fewn y gyfundrefn gan weithredu mewn ffordd
sy’n groesawgar i bawb ac yn annog pawb i ddod i weithio atom, e.e. roedd modd
gwneud addasiadau rhesymol i’r gweithle ar gyfer pobl sy’n teimlo eu bod angen
cefnogaeth i ddod i weithio i’r Cyngor.
·
Bod
lle i wella llawer ar hynny eto ac roedd y rhan o’r Cynllun ar gyflogaeth yn
gosod uchelgais i gymryd camau penodol tuag at sicrhau bod Gwynedd yn gyflogwr
o ddewis ar gyfer pawb.
Holwyd sut y gellid denu mwy o ferched i
swyddi uwch reolwyr. Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Bod
y maes Merched Mewn Arweinyddiaeth yn faes blaenoriaeth o fewn y Cyngor a bod
prosiect sy’n gweithio ar newid y diwylliant wedi bod yn ei le ers sawl
blwyddyn ac yn gwneud cynnydd mawr.
·
Bod
cynllun peilot ar droed sy’n edrych ar sut mae ffurflenni cais am swyddi yn
cael eu sgrinio er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw fath o duedd di-angen.
·
O
ran nodweddion eraill, bod grŵp craidd cydraddoldeb yn cyfarfod yn
chwarterol ac yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau sy’n cynrychioli pobl sydd â
nodweddion gwahanol er mwyn cael barn arbenigol ganddynt ar wahanol faterion.
·
Fel
rhan o’r ymgysylltu, bod y swyddogion wedi ymweld â nifer o grwpiau, gan
gynnwys gofalwyr ifanc a Pride, i gael eu barn cyn ffurfio’r drafft, a bod
bwriad i wneud rhagor o waith ymgysylltu gyda grwpiau gwahanol yn bennaf ar
gyfer y rhan yma o’r ymgynghoriad.
Mynegwyd pryder cyffredinol bod
gwleidyddiaeth hunaniaeth sy’n canolbwyntio ar grwpiau cymharol fychan mewn
cymdeithas yn osgoi’r anghydraddoldeb sylfaenol, sef yr un socio-economaidd, a
chroesawyd y ffaith bod yr adroddiad yn rhoi tipyn o gig ar leihau hynny i gau
bwlch cyflog, gan mai yno y dylai ein ffocws fod.
Mynegwyd pryder bod merched yn cael eu
gorgynrychioli mewn swyddi cyflogau isel, e.e. yn y maes gofal.
Nodwyd nad oedd y cohort sydd wedi ymateb
i’r holiadur yn gynrychioliadol o boblogaeth y sir yn ieithyddol (33% o gymharu
â tua 64%) ac awgrymwyd y gallai hynny egluro’r is-leisiau gwrth-Gymraeg a
deimlir yma ac acw yn y sylwadau. Nodwyd
bod y swyddogion wedi ymateb yn reit gadarn i hynny yn y sylwadau, ond roedd
yna hepgor ambell sylw oedd yn gwahaniaethu mewn meysydd eraill, a holwyd oni
ddylid hefyd hepgor y sylwadau gelyniaethus, dilornus tuag at y Gymraeg a
pheidio â rhoi sylw i’r rheini chwaith.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Gan
bod gymaint o hyn yn cael ei ddweud, nid yn yr holiadur hwn yn unig, ond mewn
holiaduron eraill hefyd, y teimlid bod angen rhoi sylw i hyn oherwydd ei bod yn
bwysig addysgu pobl ynglŷn â’n ffordd o edrych ar bethau, ac o weithredu
yng Ngwynedd.
·
Bod
bwriad, felly, i gael pwynt gweithredu yna sy’n dweud ein bod yn mynd i werthu
ein gweledigaeth ni o’r Gymraeg a’n rhesymeg dros ofyn i bobl am y sgil o allu
siarad Cymraeg.
Cyfeiriwyd at y frawddeg yn yr adroddiad “Hefyd
aeth y swyddogion cydraddoldeb i gyfarfod gydag ystod o grwpiau o bobl â
nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys gofalwyr ifanc, pobl anabl, pobl LHDTC+, ayb”
a nodwyd ei bod yn syndod nad oedd adroddiad sy’n ymwneud â chydraddoldeb a
chyfle cyfartal yn cydnabod pob un o’r grwpiau hynny.
Sylwyd bod yr ymateb i’r holiadur o ardal
Bala / Penllyn yn isel o gymharu ag ardaloedd eraill a holwyd pam bod cyn
lleied o bobl ifanc wedi ymateb i’r holiadur.
Mewn ymateb, nodwyd yr aethpwyd i weld y gofalwyr ifanc a’r bobl ifanc
yn Gisda er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cael cynrychiolaeth o leisiau ifanc. Roedd bwriad i holi’r Ffermwyr Ifanc a Choleg
Meirion-Dwyfor hefyd.
Holwyd sut y bwriedid ennyn diddordeb pobl
ifanc sydd wedi gadael yr ysgol yn Fforwm Ieuenctid Gwynedd. Mewn ymateb, nodwyd mai’r peth pwysicaf, fel
gyda phob nodwedd, yw holi’r bobl ifanc eu hunain beth yw’r ffordd orau o wneud
hynny, a gweithredu ar hynny.
Holwyd sut roedd Gwynedd yn cymharu â
chynghorau eraill o safbwynt cyfartaledd yn y gweithle a pha gamau a gymerid i
sicrhau bod y gweithlu cyfan yn rhoi pwys ar hyn. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
cynghorau eraill yn profi’r un rhwystrau â Gwynedd mewn gwirionedd a bod gwaith
i’w wneud i egluro pam ein bod yn rhoi pwys ar y maes yma.
·
Gan
fod yna fylchau yn ein trefniadau o ran cynnwys pobl â nodweddion yn ein
trefniadau cyflogaeth, bod bwriad i sefydlu fforwm staff fydd yn fodd o gael deialog
dwy-ffordd a chasglu syniadau er mwyn gosod cynlluniau sydd wedi’u seilio ar
dystiolaeth glir.
Croesawyd y ffaith bod y maes addysg wedi’i
gynnwys yn yr amcanion, ond nodwyd bod y pwyntiau gweithredu yn faterion sy’n
perthyn i’r byd addysg, ac nad oedd y cyswllt cydraddoldeb yn glir ymhob un
ohonynt. Esboniwyd y rheswm fod y
pwyntiau gweithredu yn ymwneud â chydraddoldeb.
Dywedwyd fod pob ysgol yn gorfod cael eu cynllun cydraddoldeb eu hunain
a byddai’r pwyntiau gweithredu yma’n sefydlu fframwaith fel man cychwyn i’r
ysgolion ddatblygu eu cynlluniau eu hunain.
Diolchwyd i’r Ymgynghorydd Cydraddoldeb am
ei gwaith a’i hymroddiad i’r maes ac erfyniwyd ar bawb i fynd i un o’r sesiynau
hyfforddiant cydraddoldeb a drefnir ganddi.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: