Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Addysg 2022-23.

Cofnod:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol Addysg 2022-23.

 

Gosododd y Pennaeth Addysg y cyd-destun gan nodi ei ddymuniad i hwyluso’r gwaith craffu drwy symud tuag at gynhyrchu adroddiadau fydd yn rhoi mwy i’r craffwyr o ran yr hyn sydd o’n blaenau, ond llai o ran sylwedd yr adroddiadau, ac a fydd hefyd yn rhoi mwy o amlygrwydd i’r her sy’n wynebu’r ysgolion, y staff a’r gwasanaethau sy’n cefnogi.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Mynegwyd siomedigaeth nad oedd cyfeiriad at ysgolion arbennig yn yr adroddiad.  Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at broblemau recriwtio cymorthyddion dosbarth yn y prif lif, ond nad oedd sôn am yr ysgolion arbennig lle mae’r broblem yn llawer gwaeth.  Nodwyd hefyd, er bod gwaith y cymorthyddion yn yr ysgolion arbennig yn hynod ddwys, eu bod yn derbyn yr un cyflog â chymorthyddion prif lif.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad oedd rhan benodol o’r adroddiad yn ymdrin ag ysgolion arbennig, ond bod y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn cwmpasu’r sectorau cynradd, uwchradd, gydol oes ac arbennig.  O bosib’ y gellid ail-edrych ar hynny ac egluro sefyllfa’r sector arbennig yn yr adroddiad blynyddol nesaf.

·         Nad oedd y broblem recriwtio cymorthyddion yn unigryw i Wynedd.  Petai’r unigolion yn gweithio oriau llawn amser drwy gydol y flwyddyn, gellid dadlau eu bod ar gyflog teg, ond gan eu bod yn gweithio llai nag wythnos waith arferol, a hynny yn ystod tymor ysgol yn unig, roedd yn anodd denu pobl i’r rôl.

·         Bod gwaith i hyrwyddo’r swyddi a’r proffesiwn yn cynnwys ymgyrch ar y gwefannau cymdeithasol a thrafodaethau gyda Choleg Meirion-Dwyfor gyda’r nod o gynnal digwyddiad hefo’r ysgolion.

·         O ran yr ysgolion arbennig, bod darn o waith i’w wneud o ran arfarnu swyddi o fewn yr ysgolion hynny a strwythurau o fewn yr ysgol a fyddai, o bosib’, yn adlewyrchu dwysedd y gwaith a wynebir o gymharu â’r prif lif.

·         Bod lle hefyd i edrych ar y dyletswyddau a gyflawnir gan gymorthyddion ar lefelau 1-4 yn yr ysgolion er mwyn gweld oes yna rolau uwch, ond islaw athro, y gallai’r unigolion hynny ymgymryd â hwy, megis cymryd gwersi a chyflawni gwaith llanw yn ôl yr angen.

 

Holwyd a oedd pob ysgol wedi cael gwybod am ei chategori ieithyddol erbyn hyn a beth yn union y bwriedid ei wneud er mwyn sicrhau fod y drefn gategoreiddio newydd yn datblygu ac yn gwreiddio er mwyn cyflawni uchelgais Gwynedd yn y maes hwn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod gwaith eisoes wedi digwydd yn y cefndir o ran comisiynu ymgynghorydd allanol i weithio gyda’r Adran o ran y Polisi Iaith, a bod amserlen mewn lle er mwyn cael popeth yn barod erbyn diwedd y flwyddyn addysgol bresennol. 

·         Y byddai cyfle i’r aelodau fod yn rhan o’r broses o ddod â’r Polisi Iaith ynghyd, a bwriedid adrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn ym mis Mawrth ar y cynnydd yn erbyn argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd.

·         Y deellid yr hyn sy’n cael ei ddweud o ran y pwysau o ran yr iaith, y categoreiddio iaith, ayb, ac y byddai’r Pennaeth yn gweithio gyda’r tîm i roi hynny at ei gilydd.

·         Bod yr ysgolion yn ymwybodol o’u categori.

·         Mai canllaw anstatudol oedd y categoreiddio ar hyn o bryd, ond y byddai’n statudol yn y Bil Addysg Gymraeg. 

·         Nad y categoreiddio, o reidrwydd, sy’n mynd i yrru ein uchelgais yng Ngwynedd, eithr y polisi a’r ddarpariaeth o fewn yr ysgolion.  Gan hynny, credir bod y gwaith sy’n cael ei wneud o ran y polisi a gweithio hefo’r ysgolion a rhanddeiliaid yn bwysicach na’r drefn gategoreiddio genedlaethol sydd, mewn gwirionedd, yn drefn lled weinyddol.

·         Bod yr Adran yn casglu data ar y ddarpariaeth bresennol sydd gan yr ysgolion a hefyd yn gofyn i bob ysgol rannu blaenoriaethau o ran datblygu, cynnal a chynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg.

·         Bod yr Adran hefyd yn craffu ar flaenoriaethau’r Gymraeg gydag Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE sy’n gyfrifol am y Gymraeg, a hefyd yn gweithio gyda GwE i ddarparu arweiniad a chefnogaeth i ysgolion penodol ar flaenoriaethau eu cynllun datblygu ysgol.

·         O ran y Bil Addysg Gymraeg, bod yr Adran hefyd yn edrych ar oblygiadau ariannol trosglwyddo i’r system newydd a faint mae’r ddarpariaeth a’r gynhaliaeth yn mynd i olygu i ni fel Awdurdod yn ariannol pan ddaw i rym.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweld y data ieithyddol.  Mewn ymateb, nodwyd bod y data yn cael ei gasglu yn flynyddol ac yn cael ei rannu gyda nifer o randdeiliaid.

 

Mynegwyd pryder nad oes fawr o oruchwyliaeth gan yr Awdurdod o weithrediad y Siarter Iaith a’r Strategaeth Uwchradd, ac roedd yn ymddangos, o siarad gydag ambell ysgol, nad oes ganddynt gynllun siarter, ac mai’r oll a wneir ganddynt yw llenwi holiadur blynyddol.  Yn wyneb hynny, argymhellwyd ychwanegu blaenoriaeth i’r adroddiad bod yr Awdurdod am oruchwylio mwy ar weithrediad y Siarter a’r Strategaeth Iaith yn ein hysgolion, ynghyd â llunio adroddiad ar gyfer pob ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai’r Siarter Iaith yn cael ei ail-lansio ar ei newydd wedd yn Eisteddfod yr Urdd eleni, a bod yna gynlluniau i’w hyrwyddo’n genedlaethol.

·         Yn dilyn yr ail-lansiad, bod bwriad i ail-gychwyn y broses achredu fel bod modd i ysgolion ymgeisio am wobr aur, arian neu efydd i gydnabod eu hymdrechion.

·         Bod Cydlynydd y Siarter Iaith a Chydlynydd y Strategaeth Uwchradd yn darparu cefnogaeth i’r ysgolion a hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda GwE i sicrhau bod arian grant y Siarter Iaith yn cael ei wario’n benodol i ddiwallu anghenion ieithyddol y gwahanol ddalgylchoedd.  Roedd yna waith da iawn yn digwydd yn y dalgylchoedd o ran rhoi profiadau, a hefyd o ran datblygu hyfforddiant i staff ynglŷn â gwerthoedd defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

·         Bod y Cydlynwyr Iaith Dalgylchol yn cydlynu bwydo gwybodaeth i’r Cydlynydd Siarter Iaith, a bod y gwaith yn cael ei fonitro ac yn mynd rhagddo.

·         Bod y plant ymhob ysgol yn ateb holiaduron ynglŷn â’r defnydd cymdeithasol a wneir ganddynt o’r Gymraeg a bod hwnnw wedyn yn cyflwyno Gwe Iaith i’r ysgol fel bod modd adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu yng nghyd-destun y Gymraeg yn gymdeithasol. 

·         Bod y Cyngor Ysgol, gyda’r athrawon, yn llunio cynllun gweithredu i ddatblygu’r meysydd penodol sydd angen sylw a bod yr Awdurdod yn monitro’r gwaith hwnnw, yn ogystal â gweithio’n genedlaethol i sicrhau bod hyn yn digwydd ar draws Cymru.

·         Y byddai yna fwy fyth o graffu ar y Gwe Iaith a’r gweithredoedd o fewn yr ysgolion yn sgil ail-gyflwyno’r broses achredu.

 

Nodwyd nad oedd y rhagair i’r adroddiad blynyddol yn cydnabod cefnogaeth a chyfraniad llywodraethwyr, na’r dysgwyr chwaith, wrth weithredu’r strategaethau addysgol.  Mewn ymateb, nodwyd bod hynny’n gam gwag ac y dylid bod wedi diolch i’r plant a’r bobl ifanc a’r llywodraethwyr a’r gymuned gyfan sy’n cefnogi’r sector addysg.

 

Awgrymwyd bod yr adroddiad yn brin o dystiolaeth, e.e. ffigurau / canrannau, i gefnogi ac i gyfiawnhau’r hyn sydd wedi’i nodi.  Mewn ymateb, nodwyd bod bwriad i symud i ffwrdd oddi wrth y syniad nad yw adroddiadau bob amser yn amlygu gwendid, gan ddarparu adroddiadau sy’n tanlinellu’r heriau yn ogystal er mwyn cael balans.  Golygai hynny, ynghyd â’r bwriad i roi llinell amser ar dargedau wrth osod blaenoriaethau yn y dyfodol, y byddai’n llawer haws adrodd i’r craffwyr y flwyddyn nesaf yn yr adroddiad blynyddol.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad ar y sefyllfa o ran recriwtio seicolegwyr addysgol gan fod hyn yn fater o flaenoriaeth.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad oedd y sefyllfa wedi gwella a bod bwriad i anfon llythyr at y Llywodraeth ar y cyd rhwng Cynghorau Gwynedd, Môn a Chonwy yn tynnu sylw eto at y pryder ynglŷn â’r dull hyfforddi a’r anhawster recriwtio seicolegwyr dwyieithog.

·         O bosib’ y byddai modd i’r Adran recriwtio unigolion sy’n gorffen hyfforddi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Mynegwyd pryder y gall y cynnydd yn nifer y plant ag anghenion dwys ac ymddygiad heriol iawn sy’n mynychu’r canolfannau ABC roi mwy o bwysau ar y 2 ysgol arbennig yn y sir, sydd bron, neu wedi cyrraedd eu capasiti.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys athrawon sy’n cefnogi’r cylchoedd meithrin ynghyd â thîm bychan sy’n cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn y blynyddoedd cynnar.

·         Bod plant bellach yn cael eu hadnabod yn gynnar a bod cynlluniau datblygu unigol cynhwysfawr yn cael eu paratoi ar eu cyfer cyn iddynt gychwyn ysgol.

·         Y gwelwyd cryn gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf yn niferoedd y plant ag anghenion ychwanegol oherwydd bod y Gwasanaeth wedi mynd ati yn fwriadol i chwilio am blant, neu i fod yn darparu ar gyfer plant ag anghenion yn y blynyddoedd cynnar, ond roedd y niferoedd wedi cysoni erbyn hyn.

·         Er bod y niferoedd yn eithaf cyson o ran cyfeiriadau blynyddoedd cynnar, bod y dwyster yn uwch, ac roedd y Gwasanaeth yn ymateb i hynny.

·         Mai pwrpas y canolfannau ABC, os ydyn nhw’n gweithio’n effeithiol, yw atal plant rhag cyrraedd ysgolion arbennig drwy eu harfogi gyda’r sgiliau cymdeithasol, ayb, sydd eu hangen arnynt i allu ymdopi ag addysg prif lif.

·         Nad oedd hynny’n gweithio bod tro ac roedd yn wir i ddweud bod yna lwybr o’r canolfannau ABC i’r ysgolion arbennig. 

·         Bod y Gwasanaeth hefyd yn edrych ar sut i uwch-sgilio’r ysgolion prif lif o ran plant ifanc sy’n dod i mewn ag anawsterau mwy cymhleth, ac yn datblygu’r cydweithio rhwng yr ysgolion arbennig a’r prif lif, gan rannu ymarfer da.

·         Bod capasiti’r ysgolion arbennig yn broblem a bod yr Awdurdod yn edrych ar hynny.  Nid oedd datrysiad hawdd yn y tymor byr, ond roedd trafodaeth i’w chael gyda’r ysgolion arbennig ynglŷn â sut orau i ryddhau gofod yn y dosbarthiadau.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cydweithio gyda’r Tîm Niwroddatblygiadol i geisio cyfarch y broblem.  Mewn ymateb, nodwyd:

·         Bod yna dipyn o fuddsoddiad gan y Llywodraeth, nid yn gymaint o’r sector addysg, ond gwasanaethau eraill o ran cefnogi dysgwyr gydag anawsterau niwroddatblygiadol.

·         Bod llawer o blant yn cael eu cyfeirio ond nad oedd y rheini i gyd yn mynd i gael diagnosis ar y diwedd.

·         O ran y drefn addysg, ni edrychid ar y diagnosis, ond yn hytrach ar yr anghenion sy’n cael eu hadnabod.

·         Bod y gwaith sy’n digwydd ar y cyd â’r timau eraill yn y maes yn cynnwys mapio allan beth mae pawb yn ei roi fel cefnogaeth, gwneud yn siŵr nad oes yna unrhyw ddyblygu ymdrechion a gwneud y gorau o’r adnoddau sydd gan bawb, a hefyd efallai edrych ar gynllunio pa hyfforddiant sydd ei angen a’r mewnbwn i deuluoedd.

·         Bod angen symleiddio popeth ar draws y gwasanaethau plant, iechyd ac addysg i hwyluso teuluoedd fel eu bod yn cael y mewnbwn allweddol.

 

Holwyd beth oedd yr Adran yn ei wneud i geisio cael mwy o athrawon a chymorthyddion i ymgeisio am y swyddi gwag mewn rhai ysgolion.  Nodwyd bod ymddygiad plant tuag at athrawon wedi gwaethygu’n sylweddol yn sgil y cyfnod Cofid, a dyna pam bod presenoldeb cymhorthydd yn y dosbarth mor bwysig.  Nodwyd hefyd ei bod yn anodd recriwtio siaradwyr Cymraeg i’r ysgolion yn ardal Tywyn, a holwyd sut y gellid dod o hyd i bobl gyda’r cymwysterau gorau i ddod i weithio i’r Ganolfan Iaith newydd fydd yn agor yn Nhywyn.   Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod gennym her wirioneddol yng Ngwynedd o ran cynhwysiad ac ymddygiad yn yr ysgolion a bod hyn wedi’i amlygu yn adroddiad Estyn.

·         Bod yr Adran yn rhoi blaenoriaeth i argymhellion Estyn ar hyn o bryd ac yn edrych ar gynlluniau sy’n mynd i sicrhau gwell darpariaeth ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd ar gyfer plant sydd ag ymddygiadau cynyddol heriol.

·         Bod yr ymddygiadau heriol hyn, yn ogystal â’r cynnydd yn y llwyth gwaith, yn sicr yn cael effaith ar recriwtio staff i’r proffesiwn.  Nodwyd hefyd ei bod yn mynd yn gynyddol anodd recriwtio penaethiaid a bod nifer o’r penaethiaid presennol yn dysgu 3-4 diwrnod yr wythnos ar ben y cyfrifoldeb o fod yn bennaeth.

·         O bosib’ bod angen edrych ar greu rhyw fath o ymgyrch i recriwtio athrawon a chymorthyddion i Wynedd, a’r bobl orau i werthu’r proffesiwn yw’r athrawon eu hunain a’r prifathrawon.  Er bod yna heriau ymddygiadol, mae yna lawer mwy o brofiadau positif ar lawr dosbarth nag sydd yna o rai negyddol, ac mae angen hyrwyddo hynny.

 

Nodwyd nad oedd y problemau recriwtio yn unigryw i Wynedd ac y dylid pwyso ar Lywodraeth Cymru am fwy o arian ar gyfer tâl athrawon, neu fel arall, byddwn, o bosib’, yn edrych ar gau ysgolion gwledig oherwydd prinder athrawon.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y sefyllfa gyllidol yn ein hysgolion yn anodd gyda 38 o ysgolion yn mynd trwy sefyllfa o ormodedd, a hynny gyda toriad o 3% dros dair 3 blynedd.

·         Bod yna ostyngiad mewn niferoedd plant ar draws y sir sy’n cyfrannu at y diffyg ymhellach ac yn gwneud sefyllfa penaethiaid yn anodd gan y bydd rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf o ran strwythur staffio a sut i symud ymlaen i’r dyfodol.

·         Mai hwn oedd y cyfnod mwyaf heriol a welwyd yn y byd addysg ac roedd yn ymddangos bod nifer o bobl abl iawn i gamu i mewn i swydd pennaeth wedi penderfynu aros i’r don basio cyn cymryd y cam hwnnw.

 

Nodwyd mai’r tâl a’r amodau gwaith sy’n ei gwneud yn anodd recriwtio athrawon a bod y gwir oriau mae athrawon yn gweithio yn gwneud y tâl fesul awr yn gymharol fach.

 

Holwyd sut y bwriedid ymdopi â’r diffyg penaethiaid dros y blynyddoedd nesaf.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai’r Strategaeth Addysg newydd yn gyfle i wyntyllu hynny hefo’r ysgolion.

·         Bod yr atebion posib’ yn cynnwys gweithio hefo penaethiaid mewn ysgolion eraill ac annog pobl sy’n dal yn ôl rhag ymgeisio am swydd pennaeth i gamu ymlaen i lenwi’r bwlch, hyd yn oed petai hynny ar sail dros dro yn unig, gan dderbyn y byddai cynnal y math hwnnw o weinyddiaeth, sydd ddim yn wydn, yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr Adran Addysg a GwE.

 

Cyfeiriwyd at yr anawsterau recriwtio technegwyr mewn ysgolion a holwyd pa ffyrdd gwahanol oedd yna o gefnogi ysgolion o ran y ddarpariaeth TG.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yna broblem recriwtio technegwyr gwyddoniaeth, yn ogystal â thechnegwyr TG.

·         Yn ogystal â rhannu technegwyr gydag ysgolion eraill, bod technegwyr canolog y Cyngor wedi bod yn daparu gwasanaeth ymestyn allan ar gyfer cefnogi gwaith technegol mewn ysgolion sy’n methu penodi technegydd, ond bod angen technegydd yn y fan a’r lle ar gyfer y mwyafrif o dasgau.

·         Bod yr Adran wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i weld oes yna fyfyrwyr fyddai â diddordeb mewn gwneud y math yma o waith, ond yn anffodus, nid oedd y cyflogau yn denu’r math yma o unigolion.

·         Bod yr Adran hefyd wedi bod yn gweithio gyda Coleg Meirion Dwyfor ac ysgolion e.e. i weld fyddai gan rywun ddiddordeb mewn cymryd blwyddyn allan ar ôl Lefel A i wneud y math yma o waith, ac er y llwyddwyd i gael ambell enw, nid oedd yr unigolion hynny wedi dilyn ymlaen gyda’r cynnig.

·         Bod y Strategaeth Ddigidol yn amcanu i gynyddu sgiliau dysgwyr fel eu bod yn gadael ysgol gyda’r sgiliau digidol fydd yn eu galluogi i gyflawni’r swyddi hyn maes o law.

·         Bod angen ceisio lleihau’r galw am dechnegwyr yn y lle cyntaf drwy uwchraddio’r dyfeisiadau sydd yn yr ysgolion ar hyn o bryd, er, wrth gwrs, bod raid cofio bod y cynnydd yn nifer y dyfeisiadau ar draws y sir yn mynd i arwain at fwy o alw am gefnogaeth dechnegol.

 

Awgrymwyd mai canlyniad y toriadau yng nghyllidebau ysgolion fydd dosbarthiadau mwy a holwyd i ba raddau y rhagwelir y bydd angen cyfyngu ar y cwricwlwm er mwyn gwneud iawn i’r pynciau craidd drwy neilltuo mwy o oriau ar eu cyfer gan y bydd dosbarthiadau yn fwy, ac i ba raddau mae hynny wedyn yn milwrio yn erbyn y math o ddatblygiadau sy’n rhan o’r cwricwlwm newydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Wrth lunio amserlenni gwersi, bod yr ysgolion bob amser yn cychwyn gyda’r pynciau craidd, ac yn adeiladu ar hynny.

·         Wrth i’r cwricwlwm newydd ddod i mewn, rhagwelid y gallai fod yn fwy anodd i ysgolion llai gael y balans ar draws y 5 maes dysgu a phrofiad oherwydd yr angen am yr holl arbenigedd a’r amrywiaeth staffio, ond o ran maint dosbarthiadau, dylai ysgolion gael dosbarthiadau hyfyw sy’n gallu dysgu.

·         Y dylai’r gyfundrefn cynhwysiad a’r holl gefnogaeth sydd ar gael sicrhau nad yw ysgol byth yn cyrraedd y pwynt o orfod neilltuo mwy o oriau ar gyfer y pynciau craidd.

·         Na ragwelid cyfyngu ar y cwricwlwm newydd, ond yn sicr byddai’r ysgolion yn wynebu heriau wrth symud ymlaen.

 

Sylwyd nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at y drefn o ddychwelyd plant sy’n mynychu’r canolfannau iaith i’r fam-ysgol ar y 5ed diwrnod o’r wythnos.  Mewn ymateb, nodwyd, gan fod y gyfundrefn drochi yng Ngwynedd ar ei newydd wedd bellach wedi cwblhau cylch blwyddyn gyfan, bod y Gwasanaeth yn symud ymlaen i ymgynghori ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid ynglŷn â gwerthusiad o’r gyfundrefn honno.  Unwaith y byddai’r sylwadau wedi’u coladu a’r broses wedi’i chwblhau, byddai’r mater yn dod gerbron y pwyllgor hwn i’w graffu.

 

Nodwyd bod yna gryn bryder mewn un ardal o’r sir yn benodol bod dychwelyd plant o’r canolfannau iaith i’r fam-ysgol 1 diwrnod yr wythnos yn cael effaith ar yr iaith sy’n cael ei defnyddio ar fuarth yr ysgol.  Nodwyd bod aelod wedi bwriadu cyflwyno cwestiwn ynglŷn â hyn i’r Cyngor llawn diwethaf, ond iddo gael ei wrthod.  Mewn ymateb, nodwyd petai’r gwerthusiad o’r gyfundrefn yn profi bod angen newid y drefn, byddai’r Gwasanaeth yn edrych ar hynny o ddifri’.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd y byddai’r adolygiad o’r gyfundrefn drochi yn adolygiad mewnol, ond yn cynnwys llais pawb.

 

Holwyd faint o blant Saesneg fel Iaith Ychwanegol oedd yna yng Ngwynedd, yn benodol felly yn y sector cynradd.  Mewn ymateb, nodwyd y gellid darparu’r union ffigwr ar gyfer yr aelod.

 

Holwyd beth oedd sefyllfa’r Polisi Iaith o safbwynt plant sydd ddim yn siarad Saesneg na Chymraeg, a holwyd pam nad oeddent, yn y sector cynradd o leiaf, yn mynd ati’n syth i ddysgu Cymraeg.  Holwyd hefyd pa wersi y gellid eu dysgu o edrych ar y gyfundrefn dysgu Saesneg, sydd hefyd yn faes arbenigol ieithyddol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod plant sydd ddim yn siarad Saesneg na Chymraeg yn cael eu derbyn yn syth i’r canolfannau iaith, a’u bod hefyd yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Nid oedd yna bolisi bod rhaid i’r plant ddysgu Saesneg yn gyntaf.

·         Bod 4% o’r plant yn y canolfannau iaith y tymor diwethaf yn blant oedd wedi cyrraedd heb unrhyw Gymraeg na Saesneg.

·         Bod y Gwasanaeth a’r Tîm Saesneg Iaith Ychwanegol yn rhannu gwerthoedd ac egwyddorion trochi, a hefyd yn cynnal hyfforddiant gydag ysgolion sydd wedi derbyn mewnbwn sylweddol o blant sydd ddim yn siarad Saesneg na Chymraeg.

·         Y ceisid sicrhau nad yw’r plant yn cael mewnbwn gan y ddau dîm ar yr un pryd a’u bod yn dod i’r canolfannau iaith yn gyntaf ac wedyn yn derbyn cefnogaeth gan y Tîm Saesneg Iaith Ychwanegol.

 

Nodwyd:-

·         Bod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi’i leoli mewn 3 adran wahanol o’r Cyngor dros y 2 flynedd ddiwethaf, a hefyd wedi bod trwy gyfnod o ail-strwythuro eithaf sylweddol.

·         Bod yr adroddiad yn sôn am edrych ar gyfleoedd cyllidebol newydd, a holwyd beth a olygid gan hynny.

·         Bod holiadur a rannwyd gyda phobl ifanc cyn y Nadolig yn gymhleth dros ben a bod hynny’n codi pryder ynglŷn â dibynadwyedd yr ymgynghori.

·         A fyddai’r adolygiad o’r Gwasanaeth yn golygu cynnal ymgynghoriad llawn, neu ddarparu holiadur yn unig?

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y croesawid y Gwasanaeth Ieuenctid i’r Adran Addysg a chredid mai dyma ei gartref naturiol o fewn y Cyngor o ystyried y gwaith arbennig mae’r Gwasanaeth yn ei wneud gyda’r ysgolion.

·         Bod yna waith da yn digwydd hefyd gyda’r bobl ifanc sy’n gadael yr ysgolion, ac sydd, o bosib’, angen cefnogaeth i symud ymlaen o ran eu bywyd gwaith a hyfforddiant, ayb, ac roedd hynny eto’n ffitio’n dda o fewn y gyfundrefn addysg.

·         Bod y gwaith ieuenctid cymunedol yn cael ei ariannu gan wahanol ffynonellau ariannol a grantiau, ayb, a dymunid edrych ar gysondeb y ddarpariaeth ar draws yr ardaloedd.

·         Bod y cymorth ieuenctid o ran ysgolion yn gyson ac ar gael yn yr ysgolion i gyd a bod yna ganmol i’r gwaith sy’n digwydd yn amlasiantaethol.

·         Bod y gwaith hynod o dda o ran y dysgwyr ôl-16 yn digwydd yn unol â’r fframwaith ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n gadael addysg a hyfforddiant.

·         O ran y sylw ynglŷn â chymhlethdod yr holiaduron, byddai’r Gwasanaeth yn edrych ar hynny ac yn sicrhau bod y cynnwys yn glir a dealladwy i bawb.

·         O ran y goblygiadau cyllidol, er bod yna dorri ar y Gwasanaeth Ieuenctid o ran y toriadau sydd wedi’u hamlygu, bod y Gwasanaeth yn ffodus i ryw raddau bod swyddi gweigion, ac ati, yn golygu bod modd torri heb golli unigolion allweddol o’r gwasanaeth.

 

Nodwyd:-

·         Na chytunid mai’r Adran Addysg yw’r lle perffaith ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid ac y dylai fod yn wasanaeth ar wahân sy’n pontio sawl adran o ystyried bod Cynllun y Cyngor ar gyfer y 5 mlynedd nesaf yn cyfeirio at bwysigrwydd darparu cyfleoedd hamdden a chymdeithasu y tu allan i sefydliad addysg ar gyfer plant a phobl ifanc. 

·         Y gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n ei chael yn anodd bod yn rhan o addysg arferol ers cyfnod y pandemig, a bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn hynod bwysig, fel gwasanaeth ataliol bron, fel nad yw pobl ifanc yn mynd i sefyllfa anodd.

·         Bod y gwaith mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn wneud ar hyn o bryd gydag adnoddau prin yn anhygoel.

·         Bod y ddarpariaeth wych a gynigir gan yr elusen Porthi Dre yng Nghaernarfon yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i les pobl ifanc.

·         Bod yr adroddiad yn sôn bod 1,300 o achrediadau wedi’u cwblhau gan bobl ifanc, ac er bod hyn yn lwyddiant i’r bobl ifanc, dylid cwestiynu beth mewn difri’ yw gwerth yr achrediadau hyn ar y diwedd.  Holwyd a oedd y Gwasanaeth yn cysylltu â’r bobl ifanc hynny sydd wedi cwblhau achrediadau yn y gorffennol i ofyn a fu’r achrediadau hynny o gymorth iddyn nhw gael gwaith neu hyfforddiant.  Nodwyd hefyd mai’r flaenoriaeth i bobl ifanc yw cael cyfle i hamddena a chymdeithasu ac y gallai’r angen i gwblhau achrediadau fod yn faen tramgwydd i bobl ifanc ymgysylltu gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid. 

·         Bod yr adroddiad yn nodi bod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi ymgysylltu gyda 65% o bobl ifanc o Haen 1 a 2 (Nifer o bobl ifanc mwyaf bregus Gwynedd), sy’n golygu na lwyddwyd i ymgysylltu gyda’r 35% arall.  Tra’n cydnabod nad yw’n bosib’ cyrraedd pawb, a bod yna gynnydd aruthrol wedi bod yn y galw, holwyd pa gynllunio ymlaen llaw sy’n digwydd i sicrhau gallu cyrraedd y galw yn well.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yr ateb o ran sut i gael mwy i ymgysylltu â’r Gwasanaeth Ieuenctid i’w weld yn y ffaith bod y Gwasanaeth yn gweithio gyda’r plant o fewn yr ysgolion, a hynny mewn ffordd wahanol i’r athrawon a’r cymorthyddion.

·         Y cytunid y gallai’r angen i gwblhau achrediadau fod yn faen tramgwydd i bobl ifanc ymgysylltu â’r Gwasanaeth Ieuenctid, a bod angen edrych ar hynny.  Er hynny, roedd rhai pobl ifanc, megis unigolion sydd ddim yn ymgysylltu cystal yn yr ysgol, yn cael gwir werth o’r achrediadau gan eu bod yn caniatáu iddynt gael gwell mynediad i addysg bellach, ayb, na fyddent yn ei gael drwy’r cwricwlwm ysgol yn unig.

·         O ran hyrwyddo mwy o bobl ifanc i fod yn rhan o’r Gwasanaeth Ieuenctid, bod yna strategaeth ar hyrwyddo’r Gwasanaeth ar waith ac o bosib’ y byddai ymweld â Phorthi’r Dre yn un ffordd o gael pobl ifanc i ymgysylltu’n well gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Nododd y cynrychiolydd undebau athrawon fod ganddi gwestiynau i’r Pennaeth Addysg a Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, ond yn anffodus, bod raid iddi adael y cyfarfod.  Gofynnodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE iddi ebostio’r cwestiynau ato fel y gallai ymateb yn uniongyrchol.

 

Sylwyd bod yr adroddiad yn nodi bod gan 99.16% o staff yr ysgolion DBS cyfredol, sy’n ganran uchel iawn, ond y dylai fod yn 100%, a holwyd ai’r ffaith bod ceisiadau yn cael eu prosesu, ayb, oedd y rheswm am hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:

·         Y dylai’r ganran fod yn 100% yn amlwg a bod yr Adran yn gweithio tuag at hynny.  Er hynny, roedd cyrraedd 100% bron yn amhosib’, yn enwedig os oes unigolion wedi’u hatal o’r gwaith ac felly’n methu cael prosesu eu DBS, ond yn dal ar y gyflogres tra mae’r ymchwiliad yn mynd rhagddo.  Hefyd, roedd yna athrawon llanw, sydd ddim bellach yn dysgu, ond yn parhau ar restr yr Awdurdod, ac un neu ddau o unigolion sy’n disgwyl eu canlyniadau, ayb, o ran y DBS.

·         Bod gan yr Awdurdod restr yn nodi ym mha ysgolion ac ym mha wasanaeth mae’r unigolion sydd heb DBS a bod yna Swyddog Diogelu yn cysylltu â phob un ohonynt yn fisol er mwyn sicrhau bod y nifer mor isel ag y gall fod.

·         Bod y niferoedd staff sydd heb DBS cyfredol wedi gostwng o 96 i 26 mewn 3 mis.

 

Holwyd a ellir bod yn glir a yw nifer y plant sy’n cymryd cinio ysgol ar gynnydd ai peidio, ac a yw’r ymgyrchoedd i gael plant i fwyta’n iach yn effeithio ar hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y cynnig o ginio am ddim i ddysgwyr cynradd o’r Flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 6 yn weithredol yng Ngwynedd ers dechrau mis Medi diwethaf, ac er bod y ddarpariaeth ar gael ar gyfer y plant, bod gwaith i’w wneud eto o ran cwblhau gosod offer mewn ceginau, ac ati.

·         Y gwelwyd cynnydd yn nifer y plant sy’n cymryd cinio ysgol ers mis Medi, er, o bosib’, nad oedd y cynnydd hwnnw gymaint â’r disgwyl mewn rhai ysgolion, ac roedd lle i fod yn hyrwyddo dipyn mwy ar y cynnig.

·         O bosib’ bod rhai yn dal i feddwl nad yw’r cynnig yn agored i bawb a bod yr ymdeimlad o stigma ynghlwm â chinio am ddim yn parhau.

·         Bod bwriad i gyflwyno adroddiad i’r pwyllgor hwn ym mis Mawrth ar y Prosiect Cinio am Ddim, ac erbyn hynny, byddai’r Adran wedi casglu barn penaethiaid ynglŷn â pha gynnydd maen nhw’n teimlo sydd wedi bod yn eu hysgolion, ydi hynny wedi gwella ar yr elfen bwyta’n iach gan blant ac ydi o wedi effeithio’n gadarnhaol ai peidio ar ymddygiadau neu addysg y plant yn ystod y cyfnodau ar ôl amser cinio.

·         Y byddai’r Adran hefyd yn gweithio gyda dwy ysgol ar gynllun peilot i geisio gweld i ba raddau y gellir gweithio’n fwy dwys gyda rhai teuluoedd i geisio’u hannog i fanteisio ar y cynnig.

 

Nodwyd bod y diwrnod ysgol yn gallu bod yn ddrud i rieni, a holwyd a oedd gwaith ar droed i asesu a oes yna blant yn methu ysgol oherwydd bod eu rhieni’n methu fforddio popeth sydd ei angen.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yna waith yn digwydd ar hyn o bryd i edrych yn benodol ar gost gyrru plentyn i’r ysgol yng Ngwynedd.

·         Bod ymateb rhieni hyd yma i’r holiaduron a anfonwyd at randdeiliaid wedi bod yn dda, yn egluro’r rhwystredigaeth, nid yn unig o ran y ffaith bod yna gostau, ond bod y costau hynny’n tueddu i ddigwydd ar yr un amser.  Byddai’r Adran yn edrych hefyd oes yna sylwadau ynglŷn â phresenoldeb yn benodol yn yr ymatebion ddaw yn ôl.

 

Holwyd beth oedd y rheswm dros y bwlch rhwng yr hyn sydd yn y gyllideb a gwir gost cludiant ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y gyllideb cludiant yng Ngwynedd yn gor-wario ers blynyddoedd lawer a bod rhaid edrych ar hynny dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

·         Bod y sefyllfa’n gymhleth a’r gyllideb cludiant yn anodd i’w rheoli am nifer o resymau, gan gynnwys plant yn symud ysgolion, plant yn symud i mewn ac allan o ofal, rhai plant gydag anghenion arbennig sy’n cael eu cwrdd y tu hwnt i’r ardal leol, yr angen i gludo plant i ystod o sefydliadau gwahanol, gan gynnwys canolfannau ABC, canolfannau iaith ac ysgolion arbennig, y ffaith bod y contractwyr yn gyfuniad o gwmnïau bysus a thacsis a bod ambell gontractwr yn rhoi’r gorau i’r contract ac yn ail-dendro am y contract am bris uwch.

·         Bod bwriad i benodi Rheolwr Cludiant ar gyfer yr Adran Addysg yn y dyddiau nesaf fel bod un person o fewn yr Adran yn cymryd cyfrifoldeb dros gludiant.

·         Bod rhaid edrych ar y galw a’r ddarpariaeth er mwyn gweld oes yna ffordd fwy cost-effeithiol o gludo plentyn o A i B, ond roedd honno’n dasg ynddi’i hun o ystyried nad oes, efallai, ond un cwmni yn y farchnad am y contract mewn rhai ardaloedd gwledig.

 

Holwyd a oedd gan yr Awdurdod ddarpariaeth i sicrhau bod cynlluniau cydraddoldeb yn cael eu rhoi mewn lle yn yr ysgolion.  Mewn ymateb, nodwyd, yn sgil diweddaru’r modelau o bolisïau a chynlluniau yn wyneb y canllawiau newydd, y byddai’r Adran yn rhoi’r arfau gorau i’r ysgolion ddatblygu eu cynlluniau cydraddoldeb unigol eu hunain.

 

Holwyd a oedd yna broses mewn lle i sicrhau bod plant mewn gofal yn mynychu’r ysgol gymaint â phosib’ ac a oedd gan yr Adran y capasiti i gwrdd â phob gofyn statudol o ran plant mewn gofal.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod gennym y capasiti, ond bod yna broblem o ran mynediad at ddata fel bod modd targedu plant mewn gofal yn amserol gan fod plant yn mynd i mewn ac allan o ofal cyn bod modd darparu unrhyw beth ar eu cyfer o ran yr ysgolion.

·         Bod yr Adran yn edrych ar hyn yn benodol a bod y data yn ymestyn ymhellach na phresenoldeb yn unig, ac yn ymwneud â chyrhaeddiad plant mewn gofal yn ogystal.

·         Ei bod yn anodd iawn cael gafael ar ddata sy’n dangos lle dylai plentyn mewn gofal fod o ran cyrhaeddiad addysgol a dod i farn ynglŷn ag effeithiolrwydd y ddarpariaeth.

·         Bod y Tîm Data yn edrych ar bresenoldeb plant mewn gofal o gymharu â phlant eraill ac yn darganfod ffyrdd dychmygol iawn o ddatrys llawer o’r rhwystrau o ran casglu gwybodaeth o fewn yr ysgolion.

 

 

Dogfennau ategol: