Cyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2022-23.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
Adroddiad Blynyddol GwE 2022-23.
Rhoddodd yr Uwch
Arweinydd Rhanbarthol – Ysgolion Cynradd ac Arbennig drosolwg o gynnwys yr
adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Nodwyd y dymunid cydnabod a diolch i’r
cymorthyddion dosbarth am roi eu hamser i fynd ar hyfforddiant ac am ymgymryd
â’r rôl o ddifri’ yn eu gwaith bob dydd.
Mewn ymateb, nodwyd y cytunid â’r sylw a bod cymorthyddion effeithiol yn
ychwanegu gwerth sylweddol i ysgol.
Nodwyd ei bod yn dorcalonnus bod
cymorthyddion profiadol gyda blynyddoedd lawer o brofiad a gwybodaeth yn y maes
yn gadael i fynd i swyddi eraill sy’n talu gwell cyflog.
Nodwyd bod yr adroddiad yn llawn iaith
ansoddeiriol canmoliaethus a bod paragraff cyntaf y Crynodeb Gweithredol ar
dudalen gyntaf yr adroddiad yn cael ei ail adrodd air am air dan y pennawd
Rhagarweiniad a Chyd-destun. Mewn
ymateb, nodwyd bod y paragraff cychwynnol sy’n ymddangos yn y Crynodeb
Gweithredol ac yn yr adroddiad ei hun yn ddyfyniad o ganfyddiadau Estyn ar y
gwasanaeth, nid yn unig yn lleol yng Ngwynedd, ond yn gyson ar draws 6 awdurdod
y Gogledd.
Nodwyd na anghytunid â’r prif flaenoriaethau
gwella, ond gofynnwyd am sicrwydd y bydd yr un rhestr o flaenoriaethau yn
ymddangos yn yr adroddiad blynyddol nesaf, gydag unrhyw gynnydd yn erbyn y
materion hynny wedi’i adnabod. Mewn
ymateb, nodwyd:-
·
O
ran y drefn adrodd, bod yr elfennau sy’n cael eu hadnabod fel rhai sydd angen
eu datblygu yn mynd i mewn i’r cynlluniau busnes.
·
Bod
y blaenoriaethau gwella hyn yn gynwysedig yn y cynlluniau busnes sy’n
weithredol ar y funud, a phan fyddai cyfle i adrodd eto ymhen blwyddyn,
byddai’r rhain yn sail i ddangos cynnydd yn erbyn y materion sydd wedi’u
hadnabod.
Nodwyd nad oedd yna unrhyw gyfeiriad yn yr
adroddiad at brofion PISA a holwyd sut y bwriadai GwE ymateb i ganlyniadau’r profion. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Oherwydd
natur a chefndir Cymru, ei bod yn ymddangos bod Cymru wedi’i heffeithio’n waeth
yn dod allan o’r cyfnod Cofid na nifer o wledydd tebyg i ni.
·
Bod
profion PISA yn un o ddangosyddion cenedlaethol y Llywodraeth fel rhywbeth sy’n
dangos pa mor effeithiol ydi’r gyfundrefn addysg, ond bod perygl mewn gwneud
gosodiadau ar brofion rhyngwladol.
·
Os
yw profion PISA yn mynd i fod yn ddangosydd cenedlaethol sy’n cael ei gyfri’
a’i fesur yn ei erbyn, bod rhaid cael strategaeth genedlaethol glir mewn lle
sy’n cael ei chefnogi o lefel llywodraeth i wasanaethau fel GwE, ac hefyd i
lefel ysgol er mwyn gwneud yn siŵr bod ein disgyblion mwyaf abl yn cael y
cyfleoedd i arddangos eu gallu.
Holwyd pa mor bwysig yw llywodraethwyr da i
ysgol symud yn ei blaen a beth yw disgwyliadau GwE o lywodraethwyr. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Mai
rôl llywodraethwr yw bod yn gyfaill beirniadol sy’n gweithio mewn partneriaeth
ag ysgolion.
·
Bod
yna wahoddiad bob amser i lywodraethwyr ymuno ym mheth o’r gwaith mae GwE yn ei
wneud yn yr ysgolion, gyda cydweithrediad y pennaeth, e.e sut rydym yn dod i
farn ar wahanol bethau, pa dystiolaeth rydym ni’n edrych arni, pa mor dda mae
ysgol yn adnabod ei hun (sydd hefyd yn cynnwys llywodraethwyr), beth ydi’r
blaenoriaethau a beth a wneir yn eu cylch.
·
Y
drefn naturiol wedyn fyddai craffu’r materion hyn yn y corff llywodraethol er
mwyn adnabod y blaenoriaethau a sut i wella.
·
Petai
yna ddymuniad i gynnal gweithdai penodol i lywodraethwyr yn y rôl yna’n
benodol, diau y gellid trefnu hynny mewn cydweithrediad â’r Pennaeth
Addysg. Byddai hefyd angen cyfle i dywys
cynghorwyr drwy’r wybodaeth yn y Fframwaith Gwella Ysgolion newydd o ran beth
yw’r cyfrifoldebau a sut i gyflawni’r rôl mewn ffordd sy’n newid ychydig bach
wrth i ni fynd yn ei blaenau.
Awgrymwyd y byddai’r adroddiad blynyddol yn
llawer cliriach petai’n llawer mwy cryno a gofynnwyd i GwE gymryd hyn i
ystyriaeth ar gyfer y dyfodol.
Holwyd a fyddai GwE yn rhan o’r gwaith o
fonitro’r Siarter Iaith newydd. Mewn
ymateb, nodwyd:-
·
Nad
oedd hynny’n hysbys eto gan fod arian y Gymraeg, a arferai ddod i GwE, yn
gorwedd gyda’r awdurdodau yn ei gyfanrwydd ers blwyddyn bellach.
·
O
ran fframwaith y Siarter Iaith newydd, y byddai’r gwaith monitro yn cael ei
wneud gan Gydlynydd y Siarter Iaith Gwynedd a Môn a Thîm y Gymraeg yn yr
awdurdod. Fodd bynnag, roedd hynny’n
mynd i fod yn dipyn o her o ystyried nifer yr ysgolion cynradd ac uwchradd ar
draws Gwynedd gyfan a’r ffaith bod y Cydlynydd yn rhannu ei hamser rhwng
Gwynedd a Môn.
·
Bod
yr Adran yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar y
goblygiadau ariannol o ran y Gymraeg yn gyfangwbl o ran y Bil Addysg Gymraeg
fel bod modd cyfrifo a chynnig rhagolygon gwariant o beth fydd effaith
cyflwyno’r Bil yn y gobaith y bydd y Llywodraeth yn clustnodi swm o arian i
gyd-fynd â hynny.
·
Petai’r
Awdurod yn gweld bod yna rôl comisiwn i GwE o ran gwneud y gwaith monitro ochr
yn ochr â’r Awdurdod, neu ar ran yr Awdurod, byddai modd cael trafodaeth
ynglŷn â hynny.
Mynegwyd y farn bod yr adroddiad yn un tra
arwynebol, yn enwedig yr adrannau gwerthuso pwysig sy’n dod o dan y pennawd ‘Mynd
i’r afael â gwelliannau pellach’, a bod rhai o’r gwelliannau, megis ‘parhau
i adnabod sut mae cynnydd yn edrych er mwyn cynllunio’r camau nesaf yn fwriadus
dros amser’ yn amwys iawn. Holwyd
hefyd i ba raddau mae GwE yn monitro data llithriad a chynnydd yn y
ddarpariaeth addysg Gymraeg, ac yn goruchwylio hynny. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Nad
oedd GwE yn monitro data a chynnydd yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg fel mae
pethau’n sefyll ar hyn o bryd.
·
O
ran sylw blaenorol yn ystod y cyfarfod ynglŷn â gweld yr argymhellion yn
yr adroddiad blynyddol nesaf, ei bod yn bosib’, unwaith eto, y bydd hyd a lled
yr hyn y gall GwE ei gynnig yn dipyn llai wrth i ni symud yn ein blaenau, ac
roedd honno’n drafodaeth i’w chael dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
·
Bod
sylw wedi’i wneud fwy nag unwaith yn ystod y cyfarfod ynglŷn ag amwysedd
iaith yr adroddiad, ond o ran hyd adroddiadau, mater bach fyddai darparu
adroddiad llawer mwy cryno. Fodd bynnag,
byddai hynny’n codi cwestiwn o ran y gwerth mae’r Cyngor yn gael o ddogfen mor
fyr, gan gofio bod yna gynulleidfa allanol hefyd, sef yr arolygwyr.
·
Bod
rhaid cael y cydbwysedd yn iawn i fedru dangos beth yw hyd a lled y rhychwant o
wasanaeth mae GwE yn eu rhoi i’r ysgolion.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: