Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
(1)
Cwestiwn Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
A fydd Cyngor Gwynedd yn cyflwyno sylwadau cryf i gael Trafnidiaeth
Cymru i newid eu meddyliau ynghylch tynnu pedwar trên yn ôl, dau bob ffordd
rhwng Machynlleth a Phwllheli, pan fydd eu Hamserlenni newydd ar gyfer
Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn cael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2024?
Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar bobl leol sy'n teithio i'r gwaith
ac adref, ac ar bobl leol ac ymwelwyr sy'n teithio pellter hir ar y
rheilffordd.
A wnaeth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ystyried bod rheilffordd
Arfordir y Cambrian wedi cau am dri mis yn ystod y tair blynedd ddiwethaf i
waith gael ei wneud ar Draphont Abermaw heb unrhyw drenau yn rhedeg a bod y
gwasanaeth bws dros dro yn annibynadwy?
Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg rwy’n deall y pryder lleol
ynglŷn â hyn, ac fel y gwelwch o’r ateb sydd wedi cael ei ddarparu, mi dderbyniodd
Arweinydd y Cyngor ohebiaeth gan James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth
Cymru ar y 10fed o Ebrill 2024 ynghylch y newidiadau yma ac mi wnes i ymateb ar
y 25ain o Ebrill yn gofyn am gadarnhad o’r statws ac yn nodi’r pryderon lleol. Hyd yn hyn, nid oes ymateb wedi dod i hynny,
ond rwy’n mawr obeithio y bydd yna newid, ac y bydd y teithiau trên yma’n cael
eu hail-strwythuro.
Cwestiwn Atodol Y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams
A fydd yr Aelod Cabinet yn cysylltu ag
Ysgrifennydd y Cabinet Dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates, AS, i
bwyntio allan nad yw’r 32 o ddiwrnodau sydd ar gael i ymateb i’r ymgynghoriad
cyhoeddus ar yr amserlen newydd yn ddigonol?
Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Rwy’n hapus iawn i fynd ar ôl hynny ac i wneud
y pwynt yn sicr.
(2) Cwestiwn Y Cynghorydd Llio Elenid Owen
Beth yw’r diweddaraf ar
brosiect Canolfan Lleu, yr hwb iechyd a lles ym Mhenygroes? Pryd fydd yna
unrhyw ddatblygiad a gwybodaeth i’r cyhoedd?
Ateb – Aelod Cabinet
Oedolion, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan
Hoffwn ddiolch i’r
Cynghorydd am y cwestiwn. Mae’n hynod
bwysig cael aelod lleol yn codi mater sy’n berthnasol i’n cymunedau ni - yn yr achos
yma Dyffryn Nantlle a thrigolion Gwynedd yn ehangach. Fel mae’n nodi yn yr ateb ysgrifenedig,
Grŵp Cynefin sydd yn arwain ar y cynllun arloesol yma, ac felly roeddwn
i’n teimlo ei bod yn briodol i ni gysylltu â Grŵp Cynefin. Mae’r ymateb ysgrifenedig yn cynnwys y
wybodaeth a dderbyniwyd yn ôl gan y Grŵp, yn uniongyrchol gan y Prif
Weithredwr, Melville Evans - a hoffwn achub ar y cyfle hwn i’w longyfarch ar y
swydd a nodi ein bod yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef. Felly mae ei sylwadau ef ynghlwm yn yr ateb
ysgrifenedig ac mae yna nifer o ffeithiau yna ac rwy’n meddwl mai teg fyddai i
mi ddarllen yr ateb ysgrifenedig yn llawn.
“Mae Canolfan Lleu yn brosiect sy’n dod
â phartneriaid at ei gilydd er mwyn datblygu hwb iechyd a lles ym
Mhenygroes. Arweinir y prosiect gan
Grŵp Cynefin, gyda chyd-weithio agos yn digwydd drwy’r Bwrdd Prosiect
gyda’r Cyngor, Y Bwrdd Iechyd a Theatr Bara Caws. Y bwriad yw y bydd y datblygiad newydd yn
cynnig cymysgedd cynhwysfawr o wasanaethau iechyd, tai, mannau cymunedol a
diwylliannol a fydd yn helpu pobl yn Nyffryn Nantlle a thu hwnt.
Bu oedi ddiwedd y flwyddyn a’r
penderfyniad i beidio parhau hefo pryniant y feithrinfa bresennol, ond ym mis
Ionawr 2024 bu i’r Bwrdd Prosiect gomisiynu adolygiad dichonoldeb o effaith hynny
ar y dyluniad. Cynhaliwyd dau weithdy er
mwyn archwilio opsiynau i wneud y gorau o’r tir cysylltiedig, ac fe gafodd
Cynllun newydd ei gymeradwyo gan y Bwrdd Prosiect ar y 1af o Fai, 2024. Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud er
mwyn amcangyfrif costau ynghyd ag asesiad cychwynnol o'i fforddiadwyedd yn
erbyn y grantiau sydd wedi eu cydnabod hyd yma ar gyfer y prosiect. Bwriedir cwblhau’r asesiad erbyn mis Mehefin
2024.
Y camau nesaf yn dilyn hyn fydd
datblygu’r dyluniad ymhellach ac yna paratoi’r Achos Busnes Amlinellol er mwyn
ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd Grŵp Cynefin yn edrych i gynnal cyfres o ddigwyddiadau
ymgysylltu cymunedol, fel y rhai a gynhaliwyd yn llwyddiannus yr haf diwethaf,
i roi diweddariad ar y prosiect i drigolion a’r gymuned yn ehangach.
Yn amodol ar gymeradwyaeth, mae
Grŵp Cynefin yn gobeithio bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn 2026.”
Cwestiwn Atodol Y
Cynghorydd Llio Elenid Owen
Am faint rhagor bydd Cyngor Gwynedd yn gallu
fforddio cadw’r arian sydd wrth gefn i’r prosiect yma hefo gymaint o
wasanaethau eraill y Cyngor yn gwegian, a hefyd fedrwch chi sicrhau y bydd yr
arian yn cael ei wario ar Brosiect Lleu sydd eisoes gymaint ar ei hol hi?
Ateb – Aelod Cabinet
Oedolion, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan
Cwestiwn atodol
gwych iawn yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Mae cynlluniau mawr sylweddol fel Canolfan Lleu, Pen-y-Berth, ayyb, yn
cael cefnogaeth a blaenoriaeth ar lefel uchel iawn o ran y Cyngor hwn, e.e. yr
aelodau ar y Bwrdd ydi’r Aelod Cabinet Tai, fi fel yr Aelod Cabinet Oedolion
a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Fel y gwelwch, rydym ni’n gosod y cynlluniau
yma ar lefel uchel ac yn flaenoriaeth uchel iawn i ni. Mae gweithio mewn partneriaeth hefo
cymdeithasau tai, y Bwrdd Iechyd, ayyb, hefyd yn flaenoriaeth i ni, ac mae yna
fwy ynglŷn â hynny i’w gael yng Nghynllun y Cyngor yn gosod ein
bwriad. O ran addewid, does gen i ddim
pelen risial, felly ni allaf ragweld y dyfodol, ond os yw’n rhywfaint o gysur,
mae’r hyn rydw i wedi ddweud am flaenoriaethau uwch swyddogion y Cyngor o
gymorth. Hefyd, wrth gwrs, mae’r cynllun
yma yn ein Cynllun Asedau diweddar lle rydym ni wedi nodi £3.5m ar gyfer hyn,
ac mae hwn yn gynllun asedau 10 mlynedd, felly dyna’r unig ymrwymiad y gallaf
ei roi ar hyn o bryd.
(3) Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur
O ystyried:
-bod gan y Cyngor
hwn amcanion hir dymor i daclo problemau llifogydd a newid hinsawdd;
-bod sawl aelwyd fel un o fewn fy ward wedi dioddef dinistr i’w cartref
o ganlyniad i lifogydd na ragwelwyd (flash floods) a diffyg cyflenwad bagiau
tywod;
-bod rhai unigolion yn rhy fregus i amddiffyn eu cartref efo bagiau
tywod;
-bod gan y Cyngor linell gymorth 24awr ond nad oes darpariaeth bagiau
tywod i’w cael dros 24 awr;
-na all rai unigolion fforddio prynu bagiau tywod;
A yw’r Cyngor hwn am adolygu’r ddarpariaeth o fagiau tywod ar gyfer y
cyhoedd mewn materion o argyfwng?
Ateb – Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry
Jones
Diolch am y cwestiwn. Mae’n gwestiwn amserol iawn o gofio ein bod
yn y broses o ddarparu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd. Mae’r ymgynghoriad ar y drafft newydd wedi
dod i ben yn ddiweddar iawn a bydd unrhyw sylwadau yn cael eu hystyried cyn
gofyn i’r Cabinet fabwysiadu’r Strategaeth.
Mae’r ateb ysgrifenedig i’r cwestiwn wedi ei rannu hefo chi ymlaen llaw,
ond mi gymeraf y cyfle i bwysleisio ambell bwynt.
Mae gan yr Adran ddyletswydd i gael polisi
amddiffyn eiddo rhag llifogydd sy’n deillio o’r rhwydwaith priffyrdd. Golyga hyn wasanaeth 24 awr gyda gangiau ar
ddyletswydd i ymateb a dosbarthu bagiau tywod fel yn briodol. Os yw adnoddau’n caniatáu, mi fyddent hefyd
yn dosbarthu i drigolion sy’n dioddef o lifogydd sydd ddim yn deillio o’r
priffyrdd. Tra bo rhywun yn cydymdeimlo
â phawb sydd wedi dioddef o ganlyniad i lifogydd, yn anffodus fe ddigwyddodd yr
achos penodol o lifogydd y cyfeiria’r Aelod ato ar noson brysur pan oedd y
gangiau i gyd allan yn delio gyda llifogydd eraill, ac nid oedd cyflenwad
ychwanegol o fagiau tywod ar gael chwaith.
Mae sefyllfaoedd fel hyn yn mynd i godi yn fwy aml o ganlyniad i newid
hinsawdd ac mi fydd yn fwy pwysig byth i gymunedau weithio gyda’r Cyngor i
geisio amddiffyn eu hunain. Mae hwn yn
un o amcanion y Strategaeth newydd.
Cwestiwn atodol Y
Cynghorydd Rhys Tudur
Gan ystyried bod ein Cynllun Llifogydd yn
ymwneud â phob math o eiddo, ar lonydd preifat neu beidio, a bod nifer uchel o
eiddo ar lonydd preifat, oes gan y Cyngor fwriad i wella ei ddarpariaeth o
fagiau tywod i eiddo sydd ar lonydd preifat?
Ateb – Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry
Jones
Mi fyddai’n braf medru gwneud hynny, ac mae
cyfle i adolygu ein trefniadau wrth gwblhau’r Strategaeth. Mi fyddwn i hefyd yn rhoi rhybudd iechyd
oherwydd, yn anffodus, mi fyddwn yn ddibynnol ar y gyllideb a’r adnoddau sydd
ar gael i’r gwasanaeth.
(4) Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts
O feddwl bod canfyddiad ymysg trigolion Llŷn ac Eifionydd (a
Gwynedd yn ehangach o bosib’) bod y gyfundrefn gynllunio yn rhoi rhwydd hynt i
ganiatáu datblygiadau tai preswyl mawr gan gymdeithasau tai a datblygwyr
preifat (lle nad yw’r angen lleol yn rhyw eglur iawn yng ngolwg pobl leol) a’i
bod ar yr un pryd yn taflu pob rhwystr ar ffordd datblygiadau bach (lle mae’r
angen lleol yn gwbl eglur i bawb), ac o ystyried bod y canfyddiad hwn, at ei
gilydd, yn adlewyrchiad cywir o weithrediad y gyfundrefn gynllunio yn ein
hardal yn ystod y blynyddoedd diweddar yma (lle mai prin iawn yw’r datblygiadau
mawr anghydnaws sydd wedi eu gwrthod ond lle gosodir baich darparu adroddiadau
costus ar y sawl y mae arno eisiau codi tŷ iddo’i hun pan fo ganddo obaith
gwneud hynny o gwbl), oes yna ewyllys ac awydd i chwyldroi’r gyfundrefn druenus
hon?
Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Diolch am y cwestiwn. Mae yna ateb ysgrifenedig eithaf cynhwysfawr
wedi ei ddarparu, felly wnâi ddim ei ddarllen, ond nodi, o ran y gofynion ar
ymgeiswyr a datblygwyr, mae’r gofynion ar gyfer y math o wybodaeth a
thystiolaeth sydd ei angen wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd, a
hynny er mwyn cwrdd â gofynion ychwanegol yn deillio o ddeddfau a pholisïau gan
Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae’r
gofynion yma yn effeithio ar bob ymgeisydd, yn fawr a bach. Mae penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn
cael eu gwneud ar rinweddau unigol y cais hwnnw, a hynny yn unol â’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd. Wrth gwrs,
mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd
a fydd yn gyfle i edrych ar y polisïau yma, a bydd yna gyfle i bob aelod o’r
Cyngor hwn fod yn rhan o’r broses honno.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts
Ydi cyfundrefn o’r fath, sy’n ffafrio datblygiadau mawr gan ddatblygwyr
mawr, ond sy’n rhwystro, neu’n ddiystyrllyd o angen lleol, organig ar lefel un
teulu, neu ychydig deuluoedd, yn deg?
Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Mae’n debyg mai’r cwestiwn rydych chi’n ei ofyn ydi oes yna ewyllys ac
awydd i chwyldroi’r gyfundrefn yn seiliedig ar ganfyddiad. Wel, os oes yna ffeithiau a thystiolaeth
gadarn yn dangos bod angen newid y drefn, a bod y newid yna o fewn cwmpas yr
awdurdod neu’r Cyngor, yna mae lle i wneud hynny. Wrth gwrs, mae cymaint o’r drefn gynllunio yn
cael ei harwain gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, ac os mai dyna’r achos, ac
os oes angen newid yn y fan honno, mae angen gwneud gwaith a lobio i newid yn y
fan honno.
Dogfennau ategol: