I gyflwyno gwybodaeth
am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd, yn absenoldeb y Pennaeth Addysg.
Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
Adroddwyd ar nifer o
ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan yr adran er mwyn codi statws y Gymraeg wrth
alluogi plant a disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hysgolion ac yn
gymunedol. Eglurwyd bod yr adran wedi gweithredu nifer o brosiectau fel rhan o
Siarter Iaith Llywodraeth Cymru. Eglurwyd bod fframwaith newydd y Siarter yn
rhan o gyfres o raglenni newydd Llywodraeth Cymru sy’n anelu i gynyddu’r
defnydd o’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc.
Cadarnhawyd fod yr Adran
yn rhannu’r uchelgais hwn o gynyddu’r defnydd o Gymraeg. Nodwyd bod arian yn
cael ei ddyrannu i bob dalgylch o fewn y Sir i drefnu gweithgareddau i annog y
defnydd o’r Gymraeg. Soniwyd mai un o’r amodau wrth ddyrannu’r arian yw bod
gweithgareddau yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd er
mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei ddefnyddio wrth i’r disgyblion
drosglwyddo i’r ysgolion uwchradd. Pwysleisiwyd bod targedu’r garfan yma o
blant yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod profiadau apelgar a chadarnhaol yr
ysgolion uwchradd yn digwydd drwy’r Gymraeg yn naturiol.
Rhannwyd diweddariad o
weithgareddau dalgylchol er mwyn tynnu sylw at y
cyfleoedd mae plant a phobl ifanc o bob ardal o Wynedd yn eu derbyn.
Eglurwyd bod Fforymau
Iaith wedi cael eu sefydlu ym mhob ysgol uwchradd yng Ngwynedd sy’n arwain ar
waith y Strategaeth Iaith Uwchradd a phwysleisio pwysigrwydd bod yn
ddwyieithog. Manylwyd bod y Fforymau hefyd yn cynnal sesiynau Hybu Balchder
mewn Cymreictod.
Adroddwyd bod cynnydd yn
y nifer o bobl ifanc sydd yn dewis astudio ac yn derbyn cymwysterau neu
achrediad cydnabyddedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Tynnwyd sylw at y ffigyrau isod
a gasglwyd o blith canlyniadau cohort Blwyddyn 11
ysgolion uwchradd Gwynedd ar ddiwedd cyfnod yr haf 2023:
·
Roedd 71.7% o
ddisgyblion Blwyddyn 11 yn astudio o leiaf 3 pwnc CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg yn
ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf.
·
Roedd 67.8% o
ddisgyblion Blwyddyn 11 yn astudio o leiaf 5 pwnc CA4 drwy gyfrwng y Gymraeg yn
ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf.
·
Roed 87.1% o ddisgyblion
Blwyddyn 11 yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf
Ymhelaethodd Pennaeth
Cynorthwyol Adran Addysg: Uwchradd, bod y ffigwr hwn o 67.8% yn gymharol
sefydlog ond cydnabuwyd bod angen cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n astudio o
leiaf 5 pwnc CA4 drwy’r Gymraeg yn ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. Er hyn,
cydnabuwyd bod hyn yn broses heriol oherwydd bod yr ystadegyn yn cynnwys
disgyblion ysgolion trosiannol.
Darparwyd gwybodaeth am
garfannau iaith y disgyblion, gan gynnwys disgyblion oed pontio. Sicrhawyd bod
yr adran yn cydweithio’n rheolaidd gyda chydlynwyr iaith ym mhob dalgylch er
mwyn casglu data ieithyddol disgyblion Blynyddoedd 2,6 a 9 er mwyn sicrhau ei
bod yn gwneud cynnydd ieithyddol o fewn y cwricwlwm.
Tynnwyd sylw at
ddynodiadau iaith staff yr adran a darparwyd dadansoddiad o asesiadau staff yn
seiliedig ar Fframwaith y Dynodiadau Iaith. Cydnabuwyd bod gan yr adran le i
wella, drwy sicrhau mynediad i’r hunan asesiad ar gyfer holl staff yr adran, er
mwyn adnabod rhai sydd angen cefnogaeth. Eglurwyd mai prif rwystr yr adran yn y
maes yma yw cyrraedd yr aelodau staff hynny sydd heb gyfarpar technolegol i
lenwi’r holiadur yn electronig. Nodwyd bod yr adran yn gweithio i hyrwyddo
pwysigrwydd y dynodiadau iaith ymysg staff. Cadarnhawyd bod yr adran yn
cydweithio gyda Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau bod
aelodau staff yn hyderus yn eu gallu ieithyddol. Manylwyd bod taenlen o aelodau
staff sydd heb gwblhau’r hunanasesiad, neu angen cymorth i gyrraedd dynodiad
iaith eu swydd, yn cael ei rannu gyda swyddog addas yn rheolaidd. Diolchwyd i’r
Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg am hysbysu cyrsiau a hyfforddiant sydd
ar gael i’w cymhorthi.
Nodwyd bod yr adran yn
gweithio i oresgyn trafferthon recriwtio yn y maes arlwyo a glanhau.
Pwysleisiwyd bod y gwaith hwn yn hynod o bwysig a rhannwyd gwerthfawrogiad yr
holl staff am weithio i sicrhau fod yr ysgolion yn lan ac yn ddiogel drwy gydol
cyfnod y pandemig, yn ogystal â pharatoi pecynnau bwyd. Ystyriwyd bod yr heriau
recriwtio yn fwy dwys mewn ardaloedd gwledig o’r Sir ond gobeithir bydd
datrysiad i’r her yn fuan.
Cyfeiriwyd at
flaenoriaeth ‘Ymchwil a Thechnoleg’ o fewn Strategaeth Iaith Gwynedd, gan
fanylu ar adnodd rhithiol Aberwla. Eglurwyd ei fod yn
rithfyd blaengar er mwyn cynorthwyo dysgwyr sy’n
mynychu canolfannau trochi i ymarfer patrymau ieithyddol a geirfa. Nodwyd bod
yr adnodd hwn wedi cael ei ddatblygu dan nawdd grant refeniw trochi hwyr
Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i ymholiad,
cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Addysg: Uwchradd, bod 42 o
fyfyrwyr wedi astudio a chwblhau arholiadau Cymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch yn
ystod haf 2023. Nodwyd mai dim ond disgyblion y 7 ysgol uwchradd gyda
darpariaeth Safon Uwch sydd wedi cael eu cynnwys yn yr ystadegyn hwn ac nid
yw’n cynnwys unrhyw golegau yn y Sir. Adroddwyd bod y nifer yma o ddisgyblion
yn uwch na’r niferoedd a astudiodd y pwnc yn 2022 ac yn gyfystyr â chwarter
holl ddisgyblion cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch ar gyfer 2023 yng Nghymru.
Nodwyd bod swyddogion yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn
hybu’r cwrs a denu disgyblion i'w gwblhau.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: