I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran
i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran
Priffyrdd, Peirianneg ac YGC. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Eglurwyd bod yr adran yn cynhyrchu Newyddlen
Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, yn ogystal â Bwletin YGC, yn rheolaidd.
Cadarnhawyd bod y rhain yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn yr adran oherwydd
eu bod yn cael eu cylchredeg yn Gymraeg yn unig. Sicrhawyd bod ymgais yn cael
ei wneud fel bod pob aelod o staff yn ei dderbyn, gan argraffu copïau caled i
unrhyw aelod o staff sydd ddim yn defnyddio cyfarpar cyfrifiadurol.
Adroddwyd bod yr adran wedi derbyn adborth da wrth
iddynt fynychu digwyddiadau cenedlaethol megis Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan a hefyd y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Nodwyd mai
gobaith yr adran yn y digwyddiadau hynny eleni oedd addysgu pobl ifanc am y
gwaith mae’r adran yn ei gyflawni.
Cyfeiriwyd at rai o heriau mae’r adran yn ei
wynebu, megis dogfennaeth uniaith Saesneg wrth gysylltu gyda phartneriaid a
chwmnïau cysylltiol. Er hyn, mynegwyd balchder bod un o beirianwyr YGC wedi ei
benodi’n fentor ar gyfer Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) ac yn rhoi
cefnogaeth i gynghorau Gwynedd, Môn a Chonwy ar eu
gwaith.
Rhannwyd enghraifft o gamgymeriad ar ran contractwr
yn ddiweddar ble nad oedd arwyddion dwyieithog wedi cael eu defnyddio mewn
safle gwaith datblygiadol. Cadarnhawyd bod yr adran wedi cynorthwyo gyda
chyfieithiadau o’r arwyddion a chafwyd datrysiad cyflym i’r sefyllfa.
Pwysleisiwyd bydd yr adran yn monitro’r defnydd o arwyddion dwyieithog yn agos
iawn yn y dyfodol yn dilyn y digwyddiad hwn. Eglurwyd bod modd gosod rhybuddion
i gontractwyr a lleihau’r cyfanswm sy’n ddaliadwy iddynt pan mae hyn yn
digwyddiad. Cydnabuwyd bod trafferthion o’r fath yn debygol o godi wrth
ddefnyddio contractwyr all-sirol, ond eglurwyd bod yr adran yn defnyddio
fframweithiau penodol er mwyn canfod contractwyr er mwyn sicrhau safon a gwerth
am arian. Pwysleisiwyd bod fframweithiau lleol mewn lle, ond mae rhaid
defnyddio contractwyr all-sirol o bryd i’w gilydd pan nad yw’r gwasanaeth ar
gael o fewn Gwynedd.
Cadarnhawyd bod yr adran wedi sefydlu system gwasanaeth fflyd newydd.
Eglurwyd bod y system yn cynorthwyo tracio cerbydau a rheoli asedau. Nodwyd
mai’r Gymraeg sydd yn ymddangos gyntaf ar y system. Esboniwyd bod y system hon
yn cael ei ddefnyddio gan rhanddeiliaid eraill megis UK Highways
a’r asiantaeth cefnffyrdd.
Adroddwyd bod yr adran yn cyflogi 507 aelod o staff (120 yn y gwasanaeth
7GC a 387 yng ngweddill yr adran), gyda nifer o’r gweithwyr ddim yn defnyddio
cyfrifiaduron yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Nodwyd bod yr adran wedi
symleiddio’r asesiad ar lein yn ogystal â dosbarthu fersiwn papur er mwyn
sicrhau bod gweithwyr llaw yn cwblhau’r asesiad. Esboniwyd bod hyn yn ffactor
sydd wedi cynorthwyo’r adran i gynyddu lefel ymatebiad yr hunanasesiad, ac bod
95.63% o staff yr adran bellach wedi ei gwblhau.
Mynegwyd balchder am lwyddiant cyfres o fideos a
ddatblygwyd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn egluro dyletswyddau
amryw o wasanaethau’r adran. Nodwyd bod y fideos yma wedi cael eu rhannu yn
ddwyieithog er mwyn i holl drigolion fod yn ymwybodol o waith yr adran.
Cadarnhawyd bod y fideos hyn wedi bod yn llwyddiant mawr a'i fod wedi codi moral o fewn y timoedd. Nodwyd bod yr adran yn hapus ac
awyddus i adrannau eraill y Cyngor i gynhyrchu fideos tebyg os ydynt yn dymuno.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: