Agenda item

B&M, Stryd Madog, Porthmadog, LL49 9BU

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

DECISION

 

To approve the application

 

Opening Hours:

 

Sunday          07:00 - 23:00

Monday         07:00 - 23:00

Tuesday        07:00 - 23:00

Wednesday   07:00 - 23:00

Thursday      07:00 - 23:00

Friday           07:00 - 23:00

Saturday       07:00 - 23:00

 

Licensable Activities:

Supply of Alcohol: Both on and off the Premises

Sunday         07:00 - 23:00

Monday        07:00 - 23:00

Tuesday       07:00 - 23:00

Wednesday  07:00 - 23:00

Thursday      07:00 - 23:00

Friday           07:00 - 23:00

Saturday       07:00 - 23:00

 

To include the measures that were proposed by the applicant in the application as conditions on the licence.

 

Cofnod:

B&M, Stryd Madog, Porthmadog, LL49 9BU

 

Eraill a wahoddwyd:

 

·        Richard Williams (Cynrychiolydd yr ymgeisydd)

·        Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys (Aelod Lleol)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer B&M, Stryd Madog, Porthmadog gan B&M Retail. Nodwyd bod B&M Retail bellach yn gweithredu cadwyn o dros 500 o siopau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban ac yn siop sy’n cynnig ystod eang o nwyddau cartref, cymysgedd o fwyd a chaledwedd, sydd o ansawdd ond am brisiau fforddiadwy. Gwnaed y cais i ofyn am hawli werthu alcohol i gwsmeriaid er mwyn ei yfed oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Tân na Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais, ond derbyniwyd sylwadau gan breswylydd lleol a’r Aelod Lleol yn ategu pryderon y preswylydd lleol. Sail eu pryderon oedd y gallai’r oriau a ofynnwyd amdanynt (o 7:00 hyd at 23:00 yn ddyddiol) danseilio’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a hynny yn dilyn cyfres o gwynion sŵn hanesyddol oedd yn gysylltiedig â’r safle.

 

O ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell fod y Pwyllgor yn ystyried sylwadau’r ymatebwyr, ac ymateb yr ymgeisydd i’r pryderon, ac yn caniatáu’r cais.

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·        Bod y siop B&M ym Mhorthmadog bellach wedi agor

·        Er siom bod Wilko wedi cau, newyddion da yw bod B&M wedi cymryd yr uned

·        Derbyn y sylw bod yr oriau agor yn wahanol i oriau agor Wilko

·        Nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu niwsans cyhoeddus

·        Bod siopau B&M yn bodoli ar hyd a lled y wlad a bod y cais yma am drwydded yn un cyson â siopau B&M eraill

·        Nad oedd bwriad i fasnachu hyd 23:00 bob dydd - bod hwn ar gyfer hyblygrwydd i agor yn hwyrach ym mis Rhagfyr. Oriau tebygol fydd Dydd Lun i Ddydd Sadwrn 7:00 - 21:00 a Dydd Sul 10:00 - 16:00

·        Nad oedd ganddo ymateb i'r pryderon sŵn

·        Bod B&M yn gwmni cyfrifol ac er efallai  yn ymddangos yn rhad nid yw’r  cynnyrch / alcohol yn rhad - yn cymharu yn dda gyda phrisiau archfarchnadoedd eraill

·        Nad oedd diodydd alcohol parod i’w yfed yn cael eu gwerthu yn y siop, ac nid oes rhewgelloedd cadw diodydd alcohol oer ar y safle

·        Os bydd pryderon / problemau yn codi, yna bydd y cwmni yn ceisio eu gorau i’w datrys

 

ch)       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeisydd y byddai oriau dydd Sul o 10:00 tan 16:00 a phe byddai’r drwydded yn cael ei gosod i gau hyd 23:00 bob noson arall, y byddai hawl gan y cwmni i benderfynu ar yr oriau cau (boed yn 21:00 neu 23:00).

 

d)           Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt. Tynnwyd sylw at y sylwadau hynny a gyflwynwyd gan yr ymgynghorai nad oedd yn bresennol)

 

Cyng Nia Jeffreys (Aelo Lleol)

·        Bod y datblygiad yn un i’w groesawu ac nad oedd ei sylwadau yn adlewyrchu dim ar bresenoldeb B&M yn y dref

·        Ei bod yn ategu pryderon y preswylydd lleol ynghyd a phreswylwyr Heol Madog

·        Bod problemau wedi bod ar y safle ers y 90’u, gyda gorchymyn gwasgaru wedi ei osod gan yr Heddlu yn yr ardal yma yn Awst 2020 - o ganlyniad igadw twrw mewn man cyhoeddus

·        Derbyn nad oedd gwrthwynebiad wedi cael ei gyflwyno gan yr Heddlu, ond galw mawr ar waith yr Heddlu erbyn hyn

·        Derbyn y byddai’r oriau masnachu tebygol yn 21:00 ac nid 23:00

·        Awgrym i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r drwydded tan 21:00 ac os angen agor hyd 23:00, yna bod cais digwyddiad dros dro yn cael ei gyflwyno.

 

dd)                       Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei achos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd

·        Nad oedd yn ymwybodol o’r gorchymyn gwasgaru

·        Gyda’r siop yn agored yn hwyrach ac wedi ei meddiannu, bydd hyn yn atal pobl rhag  ymgynnull

·        Bydd teledu cylch cyfyng wedi ei osod tu mewn a thu allan i’r adeilad. Hyn yn fuddiol ac yn arf i atal pobl rhag ymgynnull yn yr ardal

·        Byddai cyflwyno ceisiadau digwyddiadau dros dro ar gyfer ymestyn oriau mis Rhagfyr yn bosib, ond y broses o wneud hynny yn drafferthus. Byddai cadw i 23:00 yn rhoi cysondeb drwy’r cwmni (hyfforddiant a chyfathrebu)

 

e)           Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu ei bod yn hapus gyda sylwadau cynrychiolydd yr ymgeisydd ac yn cytuno ar yr opsiynau agor oedd wedi eu hawgrymu i liniaru pryderon y gymdogaeth.

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r  cais:

 

Oriau Agor :

Dydd Sul                    07:00 - 23:00

Dydd Llun                  07:00 - 23:00

Dydd Mawrth             07:00 - 23:00

Dydd Mercher            07:00 - 23:00

Dydd Iau                    07:00 - 23:00

Dydd Gwener            07:00 - 23:00

Dydd Sadwrn             07:00 - 23:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy:

 

Cyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo

 

Dydd Sul                    07:00 - 23:00

Dydd Llun                  07:00 - 23:00

Dydd Mawrth             07:00 - 23:00

Dydd Mercher           07:00 - 23:00

Dydd Iau                    07:00 - 23:00

Dydd Gwener            07:00 - 23:00

Dydd Sadwrn            07:00 - 23:00

 

Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais.  Nid oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu y bu problemau oedd yn berthnasol â’r egwyddor yma gyda’r eiddo.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus nid oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu y bu problemau oedd yn berthnasol â’r egwyddor yma gyda’r eiddo.

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau bod problemau sŵn yn yr ardal ers i siop agor ar y safle yn y 90’au. Serch hynny, nid oedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi gwrthwynebu’r cais ac nid oeddynt wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth o broblemau sŵn. Wrth werthfawrogi’r pryderon a fynegwyd gan breswylydd lleol, a’r Aelod lleol, nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn fod tystiolaeth i awgrymu y byddai caniatáu’r cais yn arwain at broblemau o dan y pennawd hwn.

Ystyriwyd bod yr oriau agor yn fater Cynllunio a derbyniwyd sylw cynrychiolydd yr ymgeisydd mai 21:00 fyddai’r amser cau arferol gyda hyblygrwydd i agor tan 23:00 ym mis Rhagfyr. Roedd yr Is bwyllgor hefyd yn ymwybodol bod archfarchnadoedd  eraill yn y dref ac fe ystyriwyd eu horiau masnachu er mwyn sicrhau cysondeb. Derbyniodd yr Is-bwyllgor hefyd bod bwriad i gynnwys amodau ar y drwydded yn nodi y byddai rheolwyr a staff yn cymryd camau i sicrhau na fyddai cwsmeriaid yn ymgynnull tu allan i’r eiddo, ac yn cysylltu gyda’r heddlu pe bai angen.

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn. Roedd y cais hefyd yn cynnwys eglurhad o’r mesurau ar gyfer sicrhau na fyddai alcohol yn cael ei werthu i rai dan oed, ac y byddai’r drwydded yn cynnwys amodau i’r perwyl hyn .

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais. Ar nodyn cyffredinol, eglurwyd mai ar sail tystiolaeth roedd yr Is-bwyllgor yn gwneud eu penderfyniad a bod y ddeddfwriaeth yn darparu gweithdrefn adolygu lle gellid gofyn i'r awdurdod adolygu unrhyw agwedd o’r drwydded os oedd angen.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: