Agenda item

Cymeradwyo Cyllideb 2024/25 y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd.

Penderfyniad:

1.    Cymeradwyo Cyllideb 2024/5 Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad i’r adroddiad.  Cymeradwyo’r gyllideb fel y nodir isod:-

 

Cynllunio Strategol

Trafnidiaeth

Cyd-Bwyllgor Corfforedig

Cyfanswm

Cyllideb

£

  £

£

£

371,250

182,750

 210,820

764,820

 

2.    Cymeradwyo’r ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:-

 

 

Cynllunio Strategol

Swyddogaethau eraill

Cyfanswm

Ardoll 

 

£

£

£

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

(58,510)

(65,370)

(123,880)

Cyngor Sir Ddinbych 

(52,080)

(55,220)

(107,300)

Cyngor Sir y Fflint

(83,780)

(88,830)

(172,610)

Cyngor Gwynedd 

(53,870)

(67,260)

(121,130)

Cyngor Sir Ynys Môn

(37,230)

(39,480)

(76,710)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

(73,010)

(77,410)

(150,420)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

 

(12,770)

 

 

 

(12,770)

 

Cyfanswm Ardoll

(371,250)

(393,570)

(764,820)

 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Prif Swyddog Cyllid.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo Cyllideb 2024/5 Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad i’r adroddiad.  Cymeradwyo’r gyllideb fel y nodir isod:-

 

Cynllunio Strategol

Trafnidiaeth

Cydbwyllgor Corfforedig

Cyfanswm

Cyllideb

£

  £

£

£

371,250

182,750

 210,820

764,820

 

2.    Cymeradwyo’r ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol fel y nodir isod:-

 

 

Cynllunio Strategol

Swyddogaethau eraill

Cyfanswm

Ardoll 

 

£

£

£

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

(58,510)

(65,370)

(123,880)

Cyngor Sir Ddinbych 

(52,080)

(55,220)

(107,300)

Cyngor Sir y Fflint

(83,780)

(88,830)

(172,610)

Cyngor Gwynedd 

(53,870)

(67,260)

(121,130)

Cyngor Sir Ynys Môn

(37,230)

(39,480)

(76,710)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

(73,010)

(77,410)

(150,420)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

 

(12,770)

 

 

 

(12,770)

 

Cyfanswm Ardoll

(371,250)

(393,570)

(764,820)

 

 

TRAFODAETH

 

1.    Y Gyllideb

 

Nodwyd bod swm sylweddol o arian yn cael ei glustnodi ar gyfer yr elfen Cynllunio Strategol a holwyd a olygai hynny wneud i ffwrdd â rhywfaint o’r gwaith mae’r cynghorau yn gyflawni yn unigol ar hyn o bryd, a thrwy hynny greu arbedion i’r cynghorau, neu a olygai fwy o waith a mwy o gost i’r cynghorau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Ei bod yn bwysig dod o hyd i ffordd o fedru cynrychioli gwerth am arian i’r awdurdodau yn lleol o fodolaeth y Cyd-bwyllgor.

·         Nad oedd yn hollol glir eto beth fyddai’r amcan hirdymor i anelu ato o ran Llywodraeth Cymru, ond yn sicr roedd cyfleoedd yma i gydweithio’n fwy effeithiol yn rhanbarthol ar rai elfennau o waith.  E.e. roedd trafodaethau mewn lle ynglŷn â’r posibilrwydd o gydweithio’n rhanbarthol ar faterion megis caffael ynni er mwyn gweld oes ffordd o fod yn fwy effeithiol yn ariannol, fel bod yr arbedion yn bwydo yn ôl i’r cynghorau yn lleol ar gyfer gwasanaethau craidd.

·         Ei bod yn anodd dweud ar hyn o bryd, yn enwedig o ochr Cynllunio Strategol, beth fydd y budd i’r rhanddeiliaid penodol, ond bod yna elfennau o waith ar hyn o bryd sy’n cael ei ddyblygu ar draws y siroedd ar sail dystiolaethol i’w cynlluniau unigol hwy eu hunain.

·         Y gobeithid, wrth ganoli rhai rhannau o’r dystiolaeth yna, y byddai’n haws wedyn i gael tystiolaeth ar lefel leol drwy weithio’n rhanbarthol.

·         Mai amser a ddengys beth fydd sgil-effaith hynny o ran unrhyw effeithlonrwydd penodol yn yr ardaloedd o fewn y rhanbarth, ond yn sicr, dyna fyddai’r uchelgais, sef ein bod mewn sefyllfa o fedru rhannu gwybodaeth a thystiolaeth er mwyn gwneud y prosesau lleol yn haws.

 

Nodwyd ei bod yn bwysig cadw golwg ar yr elfen yma.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r bwriad i roi amcangyfrif chwyddiant o 6% ar gyfer cyflogau yn 2024/25, ond esboniwyd bod hynny wedi’i ariannu allan o reserfau ac na fyddai yna unrhyw gynnydd yng nghyfraniadau’r partneriaid.

 

Nodwyd bod yna ymdeimlad o fewn y cynghorau bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhywbeth dewisol, yn hytrach nag yn gyfrifoldeb deddfwriaethol, a rhybuddiwyd y bydd llawer o gynghorwyr yn cadw golwg manwl ac yn holi cwestiynau wrth i waith y Cyd-bwyllgor fynd rhagddo.

 

Nododd y Cadeirydd fod hynny’n gwbl ddealladwy.  Ychwanegodd y cynhelid cyfarfod buan rhwng cadeiryddion ac is-gadeiryddion pob cyd-bwyllgor corfforedig ar draws Cymru gyda’r gweinidogion i drafod cynnydd o ran sefydlu’r cyd-bwyllgorau, ac y byddai hynny’n gyfle i adlewyrchu natur y drafodaeth yn y cyfarfod hwn.

 

2.    Ardoll

 

Holwyd pryd y bwriedid newid y cyfraniadau ariannol yn unol â’r newid mewn poblogaeth.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Y defnyddid yr un ffigurau poblogaeth ag a ddefnyddiwyd yn y setliad ar gyfer 2024/25.

·         Y defnyddiwyd rhagamcanion y flwyddyn ddiwethaf a’r flwyddyn cynt gan nad oedd Awdurdod y Parc wedi’i gynnwys yn y ffigurau setliad, ond gan nad oedd y rhagamcanion wedi’u diweddaru eleni, yr unig opsiwn oedd defnyddio’r ffigurau setliad, gan addasu’r ffigurau yn pro-rata ar gyfer Awdurdod y Parc, a dyna fyddai’n digwydd o hyn allan hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, eglurwyd y defnyddid ffigurau setliad sy’n cael eu gosod a’u haddasu bob blwyddyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

 

Dogfennau ategol: