Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
1)
Sefydlu
cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y
setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan ychwanegu
unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r
Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).
2)
Sefydlu
rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn
Atodiad 4 i’r adroddiad.
3)
Fod y Grant Llywodraeth
ychwanegol terfynol a dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 – a
amcangyfrifir i fod oddeutu £969,000 – yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o
£2M sydd heb ei gyfarch yn ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael
ei gyfarch o gronfeydd am eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng.
Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
1) Sefydlu cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw
arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w
ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan
ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).
2) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25
i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
3) Fod y Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol a
dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 - a amcangyfrifir i fod oddeutu
£969,000 - yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o £2M sydd heb ei gyfarch yn
ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael ei gyfarch o gronfeydd am
eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi addewid o arian ychwanegol i
awdurdodau Cymru o ganlyniad i arian ychwanegol sydd wedi ei ddyrannu i
gynghorau Lloegr yn ddiweddar. Amcangyfrifir y bydd y Cyngor yn derbyn ffigwr
ychwanegol oddeutu £969,000. Yn ogystal â hyn, nodwyd fod yr adran wedi eu
hysbysu ddiwedd wythnos ddiwethaf o grantiau penodol fydd yn cael eu
trosglwyddo i’r setliad, a sydd hefyd yn cael effaith ar y ffigyrau terfynol.
Eglurwyd y bydd y ffigyrau yn derfynol erbyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7
Mawrth.
Nodwyd fod y penderfyniad a
geisir yn argymell i’r Cyngor yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2024 y dylid sefydlu
cyllideb o £331 miliwn ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y
setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232
miliwn gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad
terfynol a £98 miliwn o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54% ar dreth
anheddau unigol). Yn ogystal i sefydlu
rhaglen gyfalaf o £85 miliwn yn 2024/25
i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
Ychwanegwyd yr amcangyfrif
byddai’r Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol oddeutu £969k yn uwch na’r hyn
oedd yn y setliad drafft a bydd cyllid ychwanegol (yn y terfynol uwchlaw’r setliad drafft) yn cael ei ddefnyddio i leihau’r
defnyddio o £2m o gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Pwysleisiwyd fod y gyllideb yn
cael ei argymell mewn cyfnod ble mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu heriau
ariannol sylweddol. Amlygwyd fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant ar gyfer
2024/25 a oedd ymysg yr isaf yng Nghymru. Eglurwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol
i gwrdd â chwyddiant, heb sôn am bwysau ychwanegol ar wasanaethau.
Tynnwyd sylw at ddarpariaeth
chwyddiant cyflogau o £15.1m. Mynegwyd fod y ffigwr hwn yn unol â’r mwyafrif o
awdurdodau lleol eraill. Nodwyd fod y Cyngor wedi cynllunio yn ddarbodus yn
2023/24 ar gyfer cynnydd o 6%, ond roedd y cytundeb terfynol yn uwch, ac felly
o ganlyniad bydd chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2024/25 yn cynnwys elfen i
gywiro’r bwlch yma yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol o 5% ar gyfer yr
holl weithlu. Amlygwyd fod y gyllideb yn darparu ar gyfer chwyddiant arall o
£6.8m, eglurwyd fod wn yn swm net sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang
o newidiadau yn ddibynnol ar raddfa chwyddiant meysydd penodol, megis £4m yn y
maes gofal.
Nodwyd fod gofyn i argymell
cymeradwyo bidiau gwrth £5.1m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan
yr adrannau i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau. Eglurwyd fod yr
eitemau wedi eu herio yn drylwyr cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.
I grynhoi, mynegwyd fod anghenion
gwario’r Cyngor cyn tynnu arbedion ar gyfer 2024/25 yn £340m, a bod grant oddi
wrth Lywodraeth Cymru am fod oddeutu £232m. Amlyga hyn fod bwlch gweddilliol
angen ei lenwi ac mae’r eitem flaenorol yn amlygu’r arbedion fydd angen ei
gwneud. Nodwyd y bydd angen argymell cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth
Cyngor, ac i’w gynyddu o 9.54%.
Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod
atodiad 10 yn amlygu fod asesiadau risg wedi ei gwneud a bod gwaith caled wedi
ei wneud gan yr adran i sicrhau fod cadernid yn yr amcangyfrifon. Pwysleisiwyd
fod y flwyddyn am fod yn heriol tu hwnt, ac yr her fwyaf fydd i sicrhau fod
arbedion yn cael eu gwireddu.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
·
Pwysleisiwyd
nad oes un Cynghorydd eisiau codi treth Cyngor ond nad oes unrhyw opsiwn arall
ar gael. Nodwyd fod nifer o unigolion yn barod i farnu ond hynny heb ddeall sut
mae llawer o’r Cyngor yn gweithio, ac nad yw’r arian sydd yn cael ei dderbyn yn
ddigonol.
·
Mynegwyd mai
dim ond dau opsiwn sydd ar gyfer cael cyllideb gytbwys sef i godi treth cyngor
neu dorri mwy o wasanaethau, ategwyd fod y ceisio cael y balans yma yn anodd
iawn.
Awdur:Dewi A Morgan
Dogfennau ategol: