Ystyried yr
adroddiad.
Penderfyniad:
1) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
2)
Gwneud cais I'r Fforwm Craffu am Ymchwiliad Craffu I'r Polisi Gosod Tai Cymdeithasol
er mwyn gweld pa mor wydn yw’r drefn ac i fynd o dan groen y polisi.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fei bod yn rhoi trosolwg o’r cynnydd sydd i’w weld ar y
Cynllun Gweithredu Tai. Amlygwyd fod cynnydd da i’w weld ers mabwysiadu’r
Cynllun yn ôl yn mis Ebrill 2021 gyda:
·
241
tŷ cymdeithasol wedi’i adeiladu
·
202
tŷ gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd
·
32 o
unedau digartrefedd wedi neu wrthi’n cael ei godi
·
64
grant prynwyr am y tro cyntaf wedi’u rhoi er mwyn adnewyddu tai gwag
·
633 o
grantiau addasiadau tai wedi’u dyrannu i alluogi pobl anabl barhau i fyw yn eu
cartrefi.
Mynegwyd yn
gyffredinol fod yr adran yn teimlo yn gryf eu bod yn cynnig amrywiaeth o
gymorth ac ymyraethau ac o ganlyniad fod y cynlluniau yn diwallu anghenion
unigolion mewn gwahanol ardaloedd o’r sir.
Tywyswyd yr
aelodau drwy’r prosiectau gan gychwyn a “Datblygu ein tai eu hunain prynu tai
preifat a phrynu tir adeiladu ar gyfer y dyfodol”. Nodwyd fod y tri phrosiect
yn anelu i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl Gwynedd gan berchen neu
rentu tŷ addas ar gyfer eu hanghenion. Eglurwyd o weithredu’r cynlluniau
prynu ac adeiladu tai yn llwyddiannus yn ystod cyfnod y Cynllun Gweithredu Tai,
bydd y Cyngor wedi codi 90 o dai ac wedi prynu 100 arall fydd ar gael i’w gosod
i drigolion Gwynedd. Amlygwyd fod sawl datblygiad ar y gweill ar hyn o bryd
gyda chwe datblygiad mewn lleoliadau megis Bangor, Llanystumdwy a Llanberis ar
gamau gwahanol yn y broses.
O ran y
Cynllun Prynu i Osod, nodwyd fod 18 o dai bellach wedi’u prynu gyda 6 arall yn
y broses o gael eu prynu. Eglurwyd fod y tai yma yn cael eu prynu ar draws y
sir ac mewn lleoliadau ble gellir ymateb i anghenion tai bobl leol. Ychwanegwyd
cyn gosod yr eiddo fod rhaid dod a’r tai i safon byw derbyniol a statudol, ac
fod yr adran wrthi’n trafod eu trefniadau gosod. Eglurwyd o ran prynu tiroedd,
fod tiroedd wedi’i prynu ym Mynytho, Llanystumdwy a Caernarfon er mwyn eu
datblygu yn y dyfodol. O ran tai Cymdeithasol, mynegwyd fod y Cyngor yn parhau
i weithio’n agos gyda’r Cymdeithasau Tai i roi Rhaglen Datblygu Tai
Cymdeithasol ar waith yn y sir. Anelir i gyrraedd targed o adeiladu 700 o dai
cymdeithasol ar draws y sir yn ystod oes y cynllun. Ategwyd hyd ym fod 241 o
dai wedi’u codi, gyda 279 ar y gweill a bod y rhaglen yn llawn ar gyfer
2024/25.
Tynnwyd sylw
at y Cynllun Grantiau gan nodi fod y Cynllun Gweithredu yn cynnwys nifer o
gynlluniau sy’n ymwneud a dyrannu grantiau er mwyn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar
gael i bobl Gwynedd. Eglurwyd yn ddiweddar fod y Cyngor wedi agor grant
cynlluniau adfywio cymunedol sy’n darparu grantiau i grwpiau cymunedau ddarparu
unedau byw i bobl leol. Nodwyd ers dechrau’r Cynllun fod 633 o addasiadau
wedi’u gwneud i alluogi pobl i aros yn eu cartrefu. Eglurwyd y gall hyn gynnwys
man addasiadau megis gosod rampiau neu waith strwythurol megis codi estyniadau
neu addasu ystafelloedd. Tynnwyd sylw at Grantiau Tai Gwag i brynwyr tro
cyntaf, gan amlygu fod tai gwag a fu’n arfer bod yn ail gartrefi bellach yn
gymwys ar gyfer y grant.
Amlygwyd fod
y sefyllfa yn parhau i fod yn ddyrys yn y maes digartrefedd gyda 70 i 100 o
bobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref bob mis a bod 217 mewn llety argyfwng
yn ôl ym mis Rhagfyr 2023. Pwysleisiwyd nad yw’r cyflenwad tai a llety a
chefnogaeth yn ddigonol i ymateb i’r galw ac i ymdopi a’r pwysau sydd ar y
gwasanaeth. Eglurwyd fod yr adran wedi penodi dau swyddog arbenigol i gefnogi
unigolion sy’n cyflwyno’n ddigartref neu mewn peryg o fod o ganlyniad i
broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Nodwyd fod 52 o unigolion
wedi derbyn cefnogaeth gan y swyddogion.
Mynegwyd yn
ystod Pwyllgor Crafu blaenorol fod yr adran wedi cydnabod fod angen gwella’r cyfathrebu
rhwng yr Aelodau ac o ganlyniad mae’r adran wedi diweddaru tudalen benodol ar y
Mewnrwyd Aelodau ac lansio map sy’n dangos lleoliadau rhai o’r prif gynlluniau
sydd naill ai wedi’i gwblhau neu ar y gweill.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
- Diolchwyd am yr adroddiad a holwyd os
oes pryder am yr arian sydd ar gael ar gyfer addasu tai i bobl ag anableddau
gan ei fod yn cael ei ariannu drwy grantiau.
o Nodwyd fod pryder gan fod prisiau wedi
cynyddu yn enwedig ar ôl Covid. Eglurwyd fod cyllidebau yn dynn ac nad yw’r
ffigyrau ar hyn o bryd yn ddigonol i ddiwallu anghenion pob unigolyn.
- Nodwyd fod sôn am gynllun i addasu tai
gweigion ac amlygwyd fod arian cyfalaf ar gael i'w prynu ond dim sôn am arian
refeniw er mwyn caglu rhent ac i gynnal yr eiddo. Gofynnwyd sut y bydd y Cyngor
yn cynnal a chadw’r eiddo.
o Nodwyd drwy’r cynlluniau fod yr incwm yn
cael ei ddefnyddio ar gyfer ad-dalu'r buddsoddiad ac fod arian i gynnal a
chadw’r eiddo wedi ei gynnwys. O ran arbenigedd i edrych ar ôl yr eiddo
eglurwyd fod trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac y bydd cyhoeddiad
yn fuan. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn gweithio yn agos iawn a’r cymdeithasau
tai.
- Holwyd beth yw’r tueddiadau o ran
digartrefedd yng Ngwynedd - hynny yw a yw’r niferoedd yn cynyddu er bod
poblogaeth y sir yn lleihau. Tynnwyd sylw yn gyson i beth yw’r rheswm dros
ddigartrefedd, o ble mae’r unigolion yn dod ynghyd a gosod tai i bobl leol.
o Mynegwyd fod nifer digartref yn uchel tu
hwnt ac fod nifer o ddiffiniadau gwahanol i ddigartrefedd. Amlygwyd fod natur
digartrefedd yn amrywiol ond fod materion fel tor perthynas a’r hinsawdd
economaidd yn cael ei amlygu yn gyson. Nodwyd fod pwysau cynyddol i’w weld yn
dilyn Covid a newid deddfwriaethol ac nad yw hyn yn broblem i Wynedd yn unig
ond i’w weld yn un cenedlaethol.
o O ran cyswllt â Gwynedd amlygwyd fod gan
y mwyafrif sy’n nodi eu hunain yn ddigartref gyswllt lleol i Wynedd.
Pwysleisiwyd yr angen iddynt amlygu eu cyswllt â Gwynedd er mwyn cyrraedd meini
prawf rhestr digartrefedd. Eglurwyd os nad oes cyswllt lleol i’w gweld yng
Ngwynedd gellir eu cyfeirio yn ôl i awdurdod ble mae cyswllt clir i’w weld.
Eglurwyd yn ogystal fod angen cyswllt clir a Gwynedd os ar restr aros tai
cymdeithasol yn ogystal yn unol â’r Polisi Tai Cymdeithasol.
o O ran tai i bobl leol eglurwyd fod rhai
tai gydag amod person lleol, a bod blaenoriaeth yn cael ei roi i unigolyn a
chyswllt lleol wrth osod tai cymdeithasol.
Pwysleisiwyd yr angen i drafod gyda’r adran gyfreithiol os am drafod
rhoi amod lleol ar bob cartref.
- Gofynnwyd beth yw oes y Cynllun
Gweithredu Tai ac os yw’r cynllun yn cyrraedd ei dargedau.
o Nodwyd mai 2026/27 fydd blwyddyn olaf y
cynllun, ond ei fod yn datblygu yn ystod ei oes a bod rhai cynlluniau yn mynd
tu hwnt i oes y cynllun. Mynegwyd o ganlyniad i natur y cynllun y bydd canran
uchel o’r cynnydd yn cael ei weld o ganol i ddiwedd y 6 mlynedd. Pwysleisiwyd
fod yr adran yn monitro yn chwarterol ond fod nifer o’r prosiectau wedi’u clymu
o ran hinsawdd ariannol y farchnad. Yn gyffredinol, nodwyd fod y cynllun yn
cyrraedd mwyafrif o’i dargedau.
- Amlygwyd fod llai cynlluniau datblygu
tai a nifer isel o ymgeiswyr am grant tai gwag ym Meirionydd a gofynnwyd os oes
rhesymau dros hyn.
o Mynegwyd o ran cynlluniau datblygu tai
fod yr adroddiad yn amlygu 6 cynllun tu hwnt i Feirionnydd ond fod yr adran yn
parhau i edrych am safleoedd penodol ym Meirionydd.
o O ran grantiau tai gwag nodwyd yr angen
i gynnal sesiynau penodol yn Ne'r Sir er mwyn trio codi ymwybyddiaeth o’r
grantiau ac i dargedu ardaloedd ble mae’r nifer sydd yn cymryd mantais i’w weld
yn isel.
- Holwyd o ran cefnogaeth i unigolion oedd
yn ddigartref o ganlyniad i drais yn y cartref pwy oedd yn darparu’r gefnogaeth
sydd ar gael iddynt.
o Eglurwyd fod pecynnau cymorth yn cael eu
hariannu drwy arian grant a bod nifer o ddarparwyr yn cael ei defnyddio ar
draws y sir er mwyn sicrhau fod y gefnogaeth yn cael ei gynnig gan unigolion ag
arbenigedd.
- Amlygwyd fod yr adroddiad yn nodi
arbedion sydd i’r gwasanaeth iechyd o ganlyniad i gefnogi unigolion aros yn eu
cartrefi. Nodwyd siom nad yw’r Llywodraeth ddim yn cymryd sylw o hyn. Holwyd o
ran cyllid os yw’r adran yn gwneud defnydd o bob ceiniog o grant tai cymdeithasol
sydd ar gael, ac os mai’r Cyngor sydd yn ei dderbyn ac yna ei basio ymlaen i’r
Cymdeithasau Tai. Yn ogystal â hyn gofynnwyd os oes modd defnyddio arian wrth
gefn y Cyngor i ddefnydd adeiladu tai cymdeithasol gan ei gynnig fel morgais
i’r Cymdeithasau Tai.
o Nodwyd fod £12.3m yn dod i Wynedd dros 3
blynedd, a'u bod yn gwneud defnydd llawn o bob ceiniog ac wedi manteisio ar fwy
o arian yn ogystal. Eglurwyd fod y Cyngor mewn sefyllfa gref gyda nifer o
gynlluniau wrth gefn yn barod i fynd. Nodwyd fod y Cyngor yn gweithio gyda’r
Cymdeithasau Tai i sicrhau fod y Cyngor yn blaenoriaethu ble a pa fath o eiddo
fydd yn cael ei adeiladu. O ran arian ychwanegol nodwyd fod gan Gymdeithasau
Tai fynediad i amrywiaeth o gronfeydd ychwanegol ond fod arian ychwanegol yn
gallu effeithio ar gyfradd o arian fydd ar gael o grant Tai Cymdeithasol.
- Mynegwyd fod nifer o safleoedd sydd o
eiddo’r Cyngor ddim yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a holwyd os yw’r
lleoliadau yma yn cael eu hystyried fel lleoliadau i gartrefi.
o Eglurwyd fod pob math o leoliadau yn
cael eu hystyried a bod yr adran edrych ar diroedd ac adeiladau sydd berchen y
Cyngor. Amlygwyd ar rai achlysuron fod defnyddio’r lleoliadau yn gostus ac yn
anodd eu trosi i fod yn gartrefi yn rhwydd. Amlygwyd fod angen i eiddo fod o
safon benodol ac o fewn rheoliadau penodol. Gofynnwyd i unigolion a oedd a
lleoliadau posib i gysylltu gyda’r adran er mwyn eu hasesu, er mwyn cadw
defnydd o adeiladau yn lleol.
- Holwyd beth yw’r diffiniad o Dŷ
Gwag, ac os yn derbyn grant tŷ gwag i’w ail wneud os oes rheoliadau fod
rhaid i unigolyn fyw yn y tŷ yn dilyn derbyn y grant.
o Eglurwyd fod y diffiniad yn un penodol
sydd i’w wneud a statws treth Cyngor y tŷ. Nodwyd disgwyliad i unigolion
ddefnyddio'r tŷ fel cartref yn dilyn hyn ac nid fel ail gartref.
- Amlygwyd fod niferoedd oedd mewn llety
argyfwng dros y Nadolig yn hynod uchel a gofynnwyd pa fath o lety sy’n cael ei
gynnig gan y Cyngor, os yw’n gost effeithiol a pa mor gyflym mae unigolion yn
symud ymlaen o’r lleoliadau yma.
o Eglurwyd fod y llety argyfwng yn cynnwys
amrywiaeth o lety ond fod mwyafrif yn westai a lleoliadau gwely a brecwast.
Pwysleisiwyd fod y lleoliadau yn gallu bod yn anaddas o ganlyniad i stoc eiddo
sydd ar gael. Mynegwyd fod yr adran yn blaenoriaethu i greu llety dros dro
addas, ac amlygwyd yr angen i weithio yn nes gyda’r sector breifat yn
ogystal. Mynegwyd ar gyfartaledd fod
unigolion yn symud allan o lety argyfwng wedi 200 diwrnod.
- Holwyd faint o gyngor sydd yn cael ei
gynnig i bobl sy’n prynu am y tro cyntaf er mwyn iddynt allu bod yn
llwyddiannus wrth ymgeisio yn erbyn pobl eraill.
o Eglurwyd fod grantiau ar gael i
gynorthwyo prynwyr tro cyntaf ac eu bod wedi bod yn cael ei hyrwyddo gan
arwerthwyr tai lleol. Efallai fod angen edrych ar hyn i sicrhau ei fod yn cael
ei wneud ac efallai yn ceisio canolbwyntio ar leoliadau penodol.
- Cynigwyd i wneud cais i'r Fforwm Craffu
am Ymchwiliad Craffu I'r Polisi Gosod Tai Cymdeithasol er mwyn gweld pa mor
wydn yw’r drefn ac i fynd o dan groen y polisi
PENDERFYNWYD
1) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
2) Gwneud cais I'r Fforwm Craffu am
Ymchwiliad Craffu I'r Polisi Gosod Tai Cymdeithasol er mwyn gweld pa mor wydn
yw’r drefn ac i fynd o dan groen y polisi
Dogfennau ategol: