Ystyried yr
adroddiad.
Penderfyniad:
a)
Derbyn yr adroddiad a gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
i ystyried dosbarthu’r wybodaeth I'r
cyhoedd os yn bosib.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod yr eitem wedi codi yn dilyn cwestiwn a godwyd gan y cyn-gadeirydd
peth amser yn ôl, sef be ddylai pobl ei wneud os yw unigolion yn disgyn yn eu
cymunedau. Nid oedd yn gwestiwn ble roedd modd ymateb iddo yn syth, ond wedi
peth drafod gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a chyd-weithwyr ym Mwrdd
Iechyd Betsi Cadwaladr amlygwyd nad oes dim protocol cenedlaethol ‘na
rhanbarthol i’r mater hwn. Eglurwyd fod
protocol “I Stumble” yn cael ei ddefnyddio gan yr
ymddiriedolaeth, y Bwrdd Iechyd a rhai awdurdodau lleol eraill ond fod y
protocol hwn yn edrych ar sut i gynorthwyo unigolion os yn disgyn a sut i
ddelio ar ôl disgyn. Amlygwyd nad oedd y protocol yn delio gyda’r cwestiwn sef
sut i ymateb os yw unigion yn disgyn ac ambiwlans ddim ar gael am 8-10 awr, a
pa gyngor y gellir eu rhoi i ofalwr.
Mynegwyd fod gwaith wedi
ei wneud i gyfieithu ac i ychwanegu at system “I Stumble”,
ac yn benodol at rhan “Amser Aros Hir Iawn?”. Pwysleisiwyd fod y sylwadau yn
rhai arwynebol ond nad oes modd mynd i lawer o fanylder gan ei bod yn sefyllfa
anodd iawn ymateb iddi gan fod pob achos yn wahanol. Eglurwyd fod Cyfarwyddwr
Rhanbarthol Therapyddion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn hapus i roi bathodyn y
Bwrdd Iechyd arno. Ychwanegwyd y bydd ymgynghoriad ar y ddogfen yn cael ei
gynnal er mwyn gweld os oes ffordd well o rhannu’r wybodaeth. Yn dilyn hyn,
nodwyd y bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal i ofalwyr mewnol ac i ddarparwyr
allanol.
Yn ychwanegol i hyn,
nodwyd fod swyddogion o fewn Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru yn eiddgar iawn i
ddechrau peilot yng Ngwynedd i weld os oes modd lleoli offer i godi unigolion
sydd wedi syrthio mewn lleoliadau addas o fewn cymunedau, ac i hyfforddi
gwirfoddolwyr lleol ar sut i’w defnyddio. Nodwyd eu bod yn disgwyl i gael
cynllun penodol o ran lleoliadau a.y.b., ac er yn wahanol i’r protocol eglurwyd
ei fod wedi datblygu o ganlyniad i’r sgyrsiau sydd wedi codi.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
- Diolchwyd am yr adroddiad gan eu llongyfarch ar
greu adroddiad clir, i feddwl na oedd protocol mewn lle cyn hyn. Amlygwyd
efallai fod angen i’r elfen ‘Amser Aros Hir Iawn?’ efallai mewn lliw arall er
mwyn tynnu sylw ato.
- Holwyd os oes amserlen ar gyfer cynnal hyfforddiant
ar y protocol ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd, neu os oes amserlen ar gyfer y
cynllun peilot.
o Nodwyd o ran yr
hyfforddiant nad oes amserlen bendant ond na ragwelir rheswm dros oedi ac y
bydd gobeithio modd i’w cynnal yn ystod y gwanwyn yn barod at dymor yr haf a’r
hydref.
o Ychwanegodd o ran y
cynllun peilot nad oes dyddiad ond y bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn parhau
i’w holi er mwyn cael amserlen mewn lle.
-
Holwyd os oes modd creu taflen i’r cyhoedd wedi iddo gael ei dderbyn gan
ei bod yn holl bwysig i’r wybodaeth gael ei rannu ymhellach gan y bydd yn
ddefnyddiol i bawb.
o
Mynegwyd nad oedd
dim bwriad i wneud hyn ond nad oedd yn gweld unrhyw broblem i wneud hynny, gan
na fuasai yn costio llawer i’w greu ac y byddai’n werthfawr iawn. Amlygwyd yr
angen i feddwl at sut i ddosbarthu’r wybodaeth i’r cyhoedd.
-
Nodwyd fod y cyn-gadeirydd y Cyng. Eryl Jones Williams, gan ei fod wedi
nodi ei ymddiheuriad yn diolch yn fawr iawn am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
a)
Derbyn yr adroddiad a gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol i ystyried
dosbarthu’r wybodaeth i'r cyhoedd os yn
bosib.
Dogfennau ategol: