Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod
C21/0934/15/AC ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng
safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod
dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol
Aelodau Lleol: Cynghorwyr Kim Jones, Elfed Williams, Menna Baines, Elwyn
Jones,
Sasha Williams, Iwan Huws a Berwyn Parry Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1.
5 mlynedd
2.
Cwblhau'r datblygiad yn unol gyda’r amodau sy’n
ynghlwm i ganiatâd C16/0886/15/LL ac unrhyw fanylion a gytunir trwy’r ceisiadau
rhyddhau amod.
Cofnod:
Cais ar gyfer
diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C21/0934/15/AC ar gyfer gosod
llinell gyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod
dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol.
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys diweddariad i'r hanes cynllunio
perthnasol.
Amlygodd yr
Arweinydd
Tîm Rheoli Datblygu bod cais i ddiwygio’r amod yn ymwneud a chyfnod cychwyn y
datblygiad wedi ei ganiatáu ym mis Ionawr, 2022 o dan gyfeirnod C21/0934/15/AC
er mwyn rhoi dwy flynedd ychwanegol, hynny yw, hyd at 10/1/2024.
Eglurwyd bod
egwyddor y datblygiad o osod llinell danddaearol er mwyn cysylltu gorsaf
gynhyrchu storio bwmp Glyn Rhonwy ac is-orsaf Pentir
eisoes wedi ei sefydlu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ganiatâd cynllunio
C16/0886/15/LL gyda’r cais gerbron yn golygu ymestyn cyfnod gweithredu’r
datblygiad o 2 flynedd ychwanegol drwy ddiwygio amod 1 o gais C21/0934/15/AC.
Cadarnhawyd nad oedd unrhyw newidiadau i’r cynllun a bod y broses o ryddhau
amodau sy’n gysylltiedig gyda’r caniatâd cynllunio gwreiddiol yn parhau. Er
hynny, amlygwyd pwysigrwydd ystyried os yw amgylchiadau neu sefyllfa polisi
cynllunio lleol a chenedlaethol wedi newid ers caniatáu’r cais yn wreiddiol.
Dim ond os oes tystiolaeth o newid sylweddol mewn sefyllfa y gellid ystyried y
bwriad yn wahanol yng nghyd-destun y polisïau perthnasol lleol sy’n ymwneud a
derbynioldeb egwyddor y cais diweddaraf hwn - Polisi ISA 1 ‘Darpariaeth
Isadeiledd’ a PS 7 ‘Technoleg Adnewyddadwy’. Datgan polisi ISA 1 o’r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl).
Adroddwyd bod
llwybr y llinell arfaethedig yn rhedeg drwy Ardal Tirwedd Arbennig ‘Ymylon
Gogledd-orllewin Eryri’, Tirwedd Hanesyddol Eithriadol ‘Dinorwig’ ac yn ymylu
Ardal Treftadaeth y Byd ‘Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru’; y bwriad o
osod y llinell dan ddaear yn cyd-fynd ac arweiniad polisi PS 7.
Ategwyd bod yr
egwyddor o greu gorsaf gynhyrchu storfa bwmp yn chwarel Glyn Rhonwy wedi ei dderbyn a’i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd
Gwladol ar gyfer Busnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol Orchymyn, yn rhoi
Caniatâd Datblygiad (Development Consent
Order) yn 2017. Rhoddwyd caniatâd am ddiwygiad
ansylweddol i'r Gorchymyn i roi Caniatâd Datblygiad er mwyn ymestyn cyfnod
gweithredu gan Weinidogion Cymru. Er yn arferol y gellid ystyried y byddai’r
gwaith o greu cyswllt grid yn ddatblygiad cysylltiol, yma yng Nghymru ni ellir
ei ganiatáu fel rhan o'r broses ac felly rhaid cyflwyno cais ffurfiol ar wahân
am ganiatâd trwy'r Ddeddf Cynllunio. Ystyriwyd fod yr egwyddor yn dderbyniol a
bod yr elfen yma yn gam angenrheidiol dilynol i'r caniatâd cynllunio sydd
eisoes wedi ei wneud trwy sicrhau cyswllt rhwng safle cynhyrchu’r trydan a'r
safle sydd yn ei ddosbarthu.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl derbyniwyd y byddai’r gwaith o'r
math yma, yn arbennig o ystyried y byddai’n cael ei gynnal ar ochrau ffyrdd
cyhoeddus prysur, yn debygol o greu effaith ar fwynderau lleol ac ar fwynderau
trigolion sy’n byw yn agos i'r llwybr a’r rhai sy’n cael eu heffeithio yn
unionyrchol os bydd yn croesi rhan o diroedd preifat. Bydd hefyd yn debygol o
effeithio yn achlysurol pan fod angen gosod rheolaeth traffig wrth weithio ar
rannau mwy cyfyng/cul.
Er nad oedd
gwrthwynebiad gan yr Uned Drafnidiaeth, amlygwyd bod angen i'r datblygwr
gyflwyno ceisiadau am drwyddedi perthnasol i gynnal gwaith o fewn tiroedd
priffyrdd. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwaith adfer yn cael ei wneud i safonau
priodol.
Wrth ystyried materion
bioamrywiaeth, nodwyd bod Adroddiad Asesiad Ecolegol Cychwynnol diwygiedig wedi
ei gyflwyno gyda'r cais ac mewn ymateb i'r cyfnod ymgynghori statudol nid oedd
gan Uned Bioamrywiaeth y Cyngor wrthwynebiad i’r cais er bydd gwaith tyllu o dan Afon Rhyddallt
yn golygu y bydd yn croesi rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig 'Llyn
Padarn'.
Yng nghyd-destun
materion archeolegol a threftadaeth, amlygwyd bod CADW wedi datgan, er bydd
potensial am effeithiau dros dro ar osodiad Safle Treftadaeth y Byd, ystyriwyd
na fydd hyn yn sylweddol, a’r Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd (GCAG)
wedi cadarnhau na fydd y cais yn cael unrhyw effaith ar faterion archeolegol
(yn unol â'u sylwadau ar y cais gwreiddiol).
Yn unol â
chyfarwyddiadau atodiad 5 o'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA): Cynnal a Chreu
Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi dod i'r casgliad
nad oedd angen 'Datganiad Iaith Gymraeg'. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn parhau i fod
yn unol o bolisi PS 1 ac na fyddai’n peri niwed i’r iaith Cymraeg.
Wedi ystyried yr
holl faterion perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad o ymestyn yr amser a roddwyd
o dan ganiatâd rhif C21/0934/15/AC yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol
a chenedlaethol perthnasol. Ystyriwyd bod y bwriad yn parhau i fod yn
dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol fel y cynhwyswyd o
fewn y caniatâdau cynllunio blaenorol. Cydnabuwyd
sylwadau gwrthwynebu ynglŷn ag oediad i gychwyn y gwaith, ond wedi asesu’r
bwriad yn llawn, nid oedd rheswm cynllunio dilys i wrthod y cais.
Amlygodd yr
Aelodau Lleol (y Cynghorwyr Kim Jones, Elfed Williams, Menna Baines, Elwyn
Jones, Sasha Williams, Iwan Huws a Berwyn Parry Jones) drwy e-byst, eu bod yn
cytuno gyda’r argymhelliad, ac er bod y gwaith yn creu anhwylustod dros dro,
mai tanddaearu yw’r dewis gorau.
Cynigiwyd ac
eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
1. 5 mlynedd
2. Cwblhau'r datblygiad yn unol gyda’r
amodau sy’n ynghlwm i ganiatâd C16/0886/15/LL ac unrhyw fanylion a gytunir
trwy’r ceisiadau rhyddhau amod.
Dogfennau ategol: