Agenda item

Cais i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C18/0993/26/LL (sy'n ymestyn caniatâd C09A/0412/26/LL ar gyfer codi 12 tŷ annedd a gwaith cysylltiedig) er ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau gwaith am bum mlynedd arall.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Menna Trenholme

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynllunio ganiatáu’r cais

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau.

3.         Llechi ar y to.

4.         Amodau priffyrdd – mynedfa, ffordd stad, lle troi, cyrbiau, troedffordd, uchder wal/gwrych/ffens

5.         Manylion ffensio ac arallgyfeirio gorlif

6.         Cynllun system rheoli dŵr wyneb

7.         Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol – i gynnwys cynllun goleuo a gwelliannau bioamrywiaeth

8.         Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Adeiladu.

9.         Dylai'r ymgeisydd mabwysiadu a chydymffurfio a chynllun rhif TR-01-V1 yn y ddogfen Adroddiad Rhagarweiniol Cyfyngiadau Coed (03.06.13) a gyflwynwyd gyda chais rhif CO9A/0412/26/LL, gan hefyd apwyntio arbenigwr coed a sicrhau fod y rhwystrau yn cael eu codi.

10.       Rhaid i'r holl waith ar y coed cael ei gario allan yn unol â Safonau Prydeinig 5837:2012 .

11.       Tirlunio.

12.       Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar gyfer y tai fforddiadwy.

13.       Cytuno gorffeniad allanol.

14.       Rhaid i ffenestr talcen deheuol annedd Rain 5 ar gynllun rhif BP/CB/12 a gyflwynwyd fel rhan o gais rhif C09A/0412/26/LL fod o wydr afloyw ac yn gaeedig yn barhaol.

15.       Rhaid defnyddio enwau Cymraeg ar y datblygiad a ganiateir drwy hyn i gynnwys enw'r tai a'r strydoedd.

16.       Rhaid defnyddio’r tai a ganiateir drwy hyn at ddefnydd anheddol o fewn Dosbarth Defnydd C3 fel y'i diffinnir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn unig ac nid at unrhyw ddefnydd arall gan gynnwys unrhyw ddefnydd arall o fewn Dosbarthau Defnydd C.

17.      Amod cytuno Cynllun Tai Fforddiadwy

18.      Amod Bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Cais i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C18/0993/26/LL (sy'n ymestyn caniatâd   C09A/0412/26/LL ar gyfer codi 12 tŷ annedd a gwaith cysylltiedig) er ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau gwaith am bum mlynedd arall.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau ynglŷn â threfniant Tai Fforddiadwy, defnydd preswyl, materion Bioamrywiaeth a sylwadau pellach gan yr Uned Iaith oedd yn ymateb i’r datganiad ieithyddol diwygiedig.

 

a)         Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio C18/0993/26/LL er mwyn ymestyn oes y caniatâd cynllunio am 5 mlynedd arall. Lleoli'r safle ar lecyn o dir o fewn ffin ddatblygu Pentref Lleol Caeathro fel y’i diffinnir yn y CDLl ac ategwyd nad oedd unrhyw newidiadau i’r cynllun gwreiddiol.

 

Eglurwyd bod datblygiad o’r safle wedi cael ei rwystro yn y gorffennol oherwydd pryderon Dŵr Cymru ynghylch gallu’r system garthffosiaeth i ddygymod a’r dŵr aflan a ddaw o’r safle. Erbyn hyn, mae’r pryderon wedi eu datrys. Amlygwyd bod y bwriad yn cynnwys pum math o dŷ sy’n amrywio o dai par dwy lofft i dai sengl pedair llofft, ac yn cyfarfod gyda’r angen cydnabyddedig am dai o fewn yr ardal leol; bydd pedwar o’r 12 annedd yn rhai fforddiadwy (Cytundeb 106 eisoes mewn lle i reoli meddiannaeth rhain).

 

Nodwyd pwysigrwydd ystyried os yw amgylchiadau neu’r sefyllfa polisi cynllunio lleol a chenedlaethol wedi newid ers caniatáu’r cais  gwreiddiol. Dim ond os oes tystiolaeth o newid sylweddol mewn sefyllfa y gellid ystyried y bwriad yn wahanol yng nghyd-destun polisïau perthnasol.

 

Aseswyd cais C09A/0412/26/LL (y caniatâd gwreiddiol) yn erbyn y polisïau a gynhwysir yn y Cynllun Datblygu Unedol, sef y Cynllun Datblygu mewn grym ar yr adeg hynny ac yn ddiweddarach aseswyd cais C18/0993/26/LL oedd yn ymestyn y caniatâd gwreiddiol yn erbyn y polisïau o fewn y CDLl. Gan fod y CDLl yn parhau i fod mewn grym, nid oedd newid yn y sefyllfa polisi cynllunio lleol ers yr adeg aseswyd y cais blaenorol.

 

Eglurwyd bod safle’r cais yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Caeathro fel y’i cynhwysir yn y CDLl a’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi PCYFF 1 sy’n anelu at leoli datblygiadau newydd oddi fewn i’r ffiniau datblygu. Mynegwyd mai Polisïau TAI 4 a TAI 15 oedd y polisïau perthnasol o safbwynt datblygu tai o fewn ffiniau Pentref Lleol fel Caeathro gyda rhain yn caniatáu tai marchnad agored gyda chanran o dai fforddiadwy cyn belled fod maint, graddfa, math a dyluniad y datblygiad yn gytbwys gyda chymeriad yr anheddle.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle mewn man gweddol amlwg yng nghanol y pentref gerllaw ffordd brysur. Byddai’r rhan fwyaf o’r tai yn amlwg o fannau cyhoeddus gerllaw, ond ni fyddent yn amlwg o bell gan y byddent i’w gweld yng nghyd–destun datblygiadau tai presennol o fewn y pentref. Nid yw dyluniad, edrychiadau, deunyddiau, cynllun na ffurf y tai wedi newid ers caniatáu cais blaenorol yn 2014. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TAI 4, PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r CDLl. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn creu niwed mwynderol arwyddocaol i fwynderau trigolion cyfagos o safbwynt effeithiau megis gor-edrych, colli preifatrwydd na chreu strwythurau gormesol ac felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 o’r CDLl.

 

Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nid oedd newid arwyddocaol wedi digwydd yn natur  cynefin y safle ers caniatáu’r ceisiadau blaenorol; gellid ail adrodd yr amodau presennol  o gyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu Ecolegol a Chynllun Rheolaeth Ecolegol i amddiffyn nodweddion bioamrywiaeth presennol a sicrhau gwelliannau.

 

Er nad yw’r safle wedi ei leoli o fewn parth llifogydd o ganlyniad i bryderon fod y safle wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol, derbyniwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd gyda’r cais blaenorol gyda mesurau lliniaru (sy’n cynnwys rheoli dŵr wyneb) ynghyd â chynllun i ail-ddylunio ac arallgyfeirio’r geuffos bresennol sy’n rhedeg drwy’r safle. Roedd yr Uned Draenio Tir wedi cadarnhau nad oedd ganddynt sylwadau pellach i’r hyn a gynigwyd ar y cais blaenorol, ac mae amod presennol yn gofyn cyflwyno cynllun draenio cynhwysfawr ar gyfer y datblygiad; y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi ISA1, PCYFF5 a PCYFF6 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun materion darpariaeth addysgol, nodwyd bod y CCA: Datblygiadau Tai a Darpariaeth Addysgol ddiweddaraf yn disodli’r CCA blaenorol sy’n golygu fod y ffigwr fesul disgybl wedi gostwng, ac ar sail y wybodaeth yn y CCA presennol byddai disgwyl cyfanswm cyfraniad o £50,480, sy’n llai na’r ffigwr yn y 106 presennol. I'r perwyl hwn byddai modd i’r ymgeisydd ddiwygio’r 106 yn ddiweddarach ar sail y wybodaeth gyfredol ar y pryd. Ategwyd, yng nghyd-destun llecynnau agored mwynderol , gan nad oes newid yng ngraddfa na math y datblygiad o’r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol ynghyd a’r ffaith fod maes chwarae i blant yn bodoli yn y pentref ac nad oedd newid yn y polisi cynllunio perthnasol, nid oedd cyfiawnhad dros ddarparu llecyn mwynderol fel rhan o’r bwriad.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried bod y bwriad yn cwrdd â gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol ac yn argymell caniatáu y cais.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol;

·         Yn y gorffennol, Grŵp Watkin Jones, wedi cael eu hatal rhag datblygu’r safle

oherwydd pryderon Dŵr Cymru ynghylch capasiti’r system garthffosiaeth yn yr ardal. Y pryderon hyn bellach wedi'u datrys, ac yn ddiweddar, wedi arwain at amod yn ymwneud a’r system draenio. Bydd hyn yn golygu, os caiff y cais ei gymeradwyo, y bydd y safle yn cael ei ddatblygu.

·         Yn gweithio mewn partneriaeth ag adeiladwyr lleol a darparwyr tai fforddiadwy i sicrhau bod y safle'n cael ei ddatblygu. Ni fydd modd cychwyn y datblygiad cyn i’r 

caniatâd presennol ddod i ben diwedd yr Haf, ac felly cais wedi ei wneud i ymestyn y caniatâd.

·         Bod y cwmni yn ymrwymo i ddarparu cartrefi ar y safle hwn.

·         Cais i’r Pwyllgor gefnogi argymhelliad y swyddog a phenderfynu caniatáu y cais.

 

c)         Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais yn unol â gosod amod cytuno a’r gynllun tai fforddiadwy

 

ch)    Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd cyfeiriad at gyfraniad ar gyfer offer cae chwarae neu gyfraniad at gynnal a chadw cae chwarae presennol, nodwyd, gan nad oedd newid yng ngraddfa na math y datblygiad o’r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol ynghyd a’r ffaith fod maes chwarae i blant yn parhau i fodoli yn y pentref, nid oedd cyfiawnhad dros ddarparu llecyn mwynderol fel rhan o’r bwriad.

 

          Mewn ymateb i sylw nad oedd y Cyngor Cymuned na’r Aelod Lleol wedi cynnig sylwadau ac os oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ail ymgynghori â hwy, nodwyd y bydd swyddogion yn ail ymgynghori gyda’r Cynghorau hynny sydd yn ymateb yn gyson, ond os nad ydynt yn derbyn ymateb ni fyddent yn ail holi. Mewn ymateb i gwestiwn ategol bod ffiniau’r ward yma wedi newid yn ddiweddar a bod Aelod Lleol gwahanol i’r un a ymgynghorwyd a hwy yn ystod y cais blaenorol, nodwyd bod y swyddogion wedi ymgynghori gyda’r Aelod Lleol presennol.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynllunio ganiatáu’r cais

 

1.            5 mlynedd

2.            Unol a’r cynlluniau.

3.            Llechi ar y to.

4.            Amodau priffyrdd – mynedfa, ffordd stad, lle troi, cyrbiau, troedffordd, uchder wal/gwrych/ffens

5.            Manylion ffensio ac arallgyfeirio gorlif

6.            Cynllun system rheoli dŵr wyneb

7.            Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol – i gynnwys cynllun goleuo a gwelliannau bioamrywiaeth

8.            Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Adeiladu.

9.            Dylai'r ymgeisydd mabwysiadu a chydymffurfio a chynllun rhif TR-01-V1 yn y ddogfen Adroddiad Rhagarweiniol Cyfyngiadau Coed (03.06.13) a gyflwynwyd gyda chais rhif CO9A/0412/26/LL, gan hefyd apwyntio arbenigwr coed a sicrhau fod y rhwystrau yn cael eu codi.

10.          Rhaid i'r holl waith ar y coed cael ei gario allan yn unol â Safonau Prydeinig 5837:2012 .

11.          Tirlunio.

12.          Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar gyfer y tai fforddiadwy.

13.          Cytuno gorffeniad allanol.

14.          Rhaid i ffenestr talcen deheuol annedd Rain 5 ar gynllun rhif BP/CB/12 a gyflwynwyd fel rhan o gais rhif C09A/0412/26/LL fod o wydr afloyw ac yn gaeedig yn barhaol.

15.          Rhaid defnyddio enwau Cymraeg ar y datblygiad a ganiateir drwy hyn i gynnwys enw'r tai a'r strydoedd.

16.          Rhaid defnyddio’r tai a ganiateir drwy hyn at ddefnydd anheddol o fewn Dosbarth Defnydd C3 fel y'i diffinnir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn unig ac nid at unrhyw ddefnydd arall gan gynnwys unrhyw ddefnydd arall o fewn Dosbarthau Defnydd C.

17.         Amod cytuno Cynllun Tai Fforddiadwy

18.         Amod Bioamrywiaeth

 

Dogfennau ategol: