Agenda item

Datblygu 4 uned fasnachol (amrywiol o ran maint) yn cynnwys mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr gyda maes parcio.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.         Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl

2.         Deunyddiau i gyd i’w cytuno

3.         Rhaid cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

4.         Cynllun tirlunio

5.         Amod Dŵr Cymru

6.         Amodau Priffyrdd

7.         Caniateir defnyddio’r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 yn unig

8.         Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

9.         Oriau Agor  : 08:00 i 18:00 Llun i Gwener, 09:00 i 17:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

10.       Enw Cymraeg i’r datblygiad a sicrhau arwyddion Cymraeg o fewn y safle.

 

            Nodiadau

1.         Dŵr Cymru

2.         Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Datblygu 4 uned fasnachol (amrywiol o ran maint) yn cynnwys mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr gyda maes parcio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu bod Datganiad Iaith Gymraeg bellach wedi ei gyflwyno ynghyd a chynlluniau ychwanegol yn dangos trefniant safle ac edrychiadau dangosol ar gyfer adeilad newydd ar Lain 3 o’r safle  - y cynlluniau yn gyson gyda graddfa, dyluniad a naws ddiwydiannol cyffredinol y lleoliad.

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu pedwar adeilad masnachol o amrywiol feintiau  ar un o'r lleiniau gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai.

 

Gyda’r cais yn un amlinellol atgoffwyd yr aelodau mai manylion ynghylch mynediad i’r safle a’r trefniant mewnol sydd wedi eu cyflwyno – bydd rhaid cytuno ar y materion a gadwyd yn ôl cyn y gellid gweithredu’r caniatâd cynllunio Edrychiad, Tirweddu a Graddfa. Ategwyd bod bwriad cael caniatâd hyblyg ar gyfer defnyddiau o fewn Dosbarthiadau Defnydd B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol cyffredinol) neu B8 (Gwasanaethau Storio neu Ddosbarthu – y cais yn un o dri cais cyfredol am ddatblygiadau ar y safle:

·         C23/0844/16/AM - Cais amlinellol i ddatblygu 4 uned fasnachol (amrywiol o ran maint) yn cynnwys mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr gyda maes parcio (y cais yma).

·         C23/0849/16/LL – Cais llawn i godi unedau diwydiannol newydd (ar ran deheuol safle’r cais hwn) – eitem 5.5

·         C23/0850/16/LL -  Cais llawn i godi unedau diwydiannol newydd (ar ran gogledd ddwyreiniol safle’r cais hwn – eitem 5.6

 

Eglurwyd bod y safle wedi’i leoli ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin, oddeutu 1km i’r de o ffin ddatblygu Canolfan Is Ranbarthol Bangor fel y’i diffinnir yn y CDLl ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen. Cyfeiriwyd at  Polisi PCYFF 1 y CDLl sy’n annog gwrthod datblygiadau y tu allan i ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau cynllunio lleol neu genedlaethol eraill. Yn yr achos hwn, wrth ystyried ei ddynodiad fel Safle Busnes yn y CDLl, mae cyfiawnhad priodol dros ganiatáu'r datblygiad yma.

 

Yng nghyd-destun Datblygu Economaidd, gwarchodir Parc Bryn Cegin fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol ar gyfer busnesau yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 & B8 gan bolisi CYF 1 y CDLl ac felly mae'r cynnig yn gyson gyda'r polisi hwnnw. Yn ystod y broses ymgynghori cadarnhaodd yr Adran Economi a Chymuned bod prinder unedau o’r fath yn yr ardal ac y byddai’r datblygiad yn cwrdd gyda galw cydnabyddedig. Ategwyd bod Polisi Strategol PS 13 y CDLl yn anelu at hwyluso twf economaidd trwy gefnogi sawl agwedd o'r economi lleol gan gynnwys cefnogi ffyniant economaidd trwy hwyluso twf ar raddfa briodol. Amlygwyd bod hwn yn gynllun i alluogi cyflogwyr i sefydlu busnes yn lleol mewn safle sydd o bwys strategol. Ystyriwyd bod y cynnig ar gyfer defnyddiau addas ar raddfa briodol ar gyfer y lleoliad o fewn safle diwydiannol o'r fath ac felly yn cwrdd gyda gofynion polisi PS 13 y CDLl.

 

Yng nghyd-destun mynediad, nodwyd y byddai’r datblygiad yn defnyddio rhwydwaith ffyrdd a ddyluniwyd ar gyfer y stad ddiwydiannol gyda’r isadeiledd presennol wedi ei ddylunio i ymdopi gyda lefelau trafnidiaeth debyg i’r hyn a’u rhagwelir ac y byddai modd rheoli’r safle drwy amodau. Ategwyd bod safle Bryn Cegin wedi bod yn destun cloddio archeolegol helaeth ac wedi ei adnabod fel lleoliad o bwys hanesyddol sy'n cynnig cipolwg ar fywyd ym mlynyddoedd olaf cynhanes Cymru (Oes yr Haearn), a'r berthynas â'r Feddiannaeth Rufeinig. Wedi dweud hynny, am resymau ymarferol, ni chloddiwyd pob rhan o'r safle sydd â photensial archeolegol yn ystod y gwaith blaenorol.  Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd na fydd datblygiad yn y rhan honno o’r safle, ond nad oedd ymateb pellach wedi ei dderbyn gan yr Ymddiriedolaeth Archeolegol. O dderbyn cadarnhad gan GCAG eu bod yn fodlon gyda’r cynllun, ystyriwyd y gall y cynllun symud yn ei flaen yn unol â gofynion polisi AT 4 y CDLl.

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais, yn groes i’r argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.            Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl

2.            Deunyddiau i gyd i’w cytuno

3.            Rhaid cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad

4.            Cynllun tirlunio

5.            Amod Dŵr Cymru

6.            Amodau Priffyrdd

7.            Caniateir defnyddio’r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 yn unig

8.            Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

9.            Oriau Agor  : 08:00 i 18:00 Llun i Gwener, 09:00 i 17:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

10.          Enw Cymraeg i’r datblygiad a sicrhau arwyddion Cymraeg o fewn y safle.

 

Nodiadau:

1.            Dŵr Cymru

2.            Uned Draenio Tir

 

Dogfennau ategol: