Agenda item

Creu cae pêl-droed newydd a chodi sied storio.

Aelod Lleol: Cynghorydd Peter Thomas

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.                5 mlynedd.

2.                Unol a chynlluniau a dogfennau.

3.                Dim cistiau nac offer arall i'w cadw yn yr awyr agored.

4.                Dim goleuo ar safle heb gytundeb.

5.                Tirlunio 

6.                Cynnal tirlunio.

7.                Arwyddion Cymraeg / dwyieithog

8.                Darparu llecynnau parcio anabl

9.                Darparu’r llecynnau parcio ychwanegol cyn defnyddio’r cae newydd

10.              Amod gwaith ymchwil tir llygredig

11.              Yn unol gyda’r cynllun rheoli sŵn

12.              Amod gwaith ymchwil archaeoleg

 

Cofnod:

Creu cae pêl droed newydd a chodi sied storio.

 

a)         Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu cae pêl droed newydd a chodi sied storio ychwanegol ger y cae pêl droed presennol. Byddai'r cae pêl droed o faint fymryn yn llai na chae maint llawn ac nid oes bwriad gosod llif oleuadau.

 

Cyflwynwyd cynllun safle diwygiedig, oedd yn amlygu llefydd parcio presennol ynghyd a sustem draeniau tir.

 

Lleolir y safle y tu allan i ffin datblygu Talysarn, ond ar gyrion y pentref tu mewn i Ardal Tirwedd Arbennig, Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig a Safle Bywyd Gwyllt a’r safle sy’n cael ei wasanaethu gan fynedfa a ffordd mynediad presennol i ffordd sirol dosbarth 3 a di-ddosbarth gerllaw.

 

Eglurwyd bod Polisi ISA 2 Cyfleusterau Cymunedol yn berthnasol i’r cais hwn ac yn anelu i warchod cyfleusterau cymunedol presennol gan annog datblygu cyfleusterau newydd lle bo hynny’n briodol. Er nad yw’r cais yn cynnig cyfleusterau newydd (o ran defnydd tir), byddai’n ehangu ac yn gwella’r cyfleusterau presennol yn sylweddol ac yn debygol o fod yn fendithiol i’r ysgol ynghyd a’r gymuned ehangach. Ategwyd bod y safle yn hawdd ei gyrraedd ar droed, beic a chludiant cyhoeddus ac fe ystyriwyd fod graddfa a math y cynnig yn briodol o gymharu â maint, cymeriad a swyddogaeth yr anheddle. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn cydymffurfio gyda pholisi ISA 2.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol, cyffredinol  a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ger cae pêl droed presennol gyda gweithgareddau cysylltiol yn bodoli ar y safle  eisoes. Er hynny, ystyriwyd bod defnydd presennol o’r safle’r cais yn achlysurol ac yn anffurfiol ac nid yw’n cynnwys gemau pêl droed llawn. Er bod y safle yn cefnu ar ardal breswyl, ni ystyriwd y byddai’r bwriad yn cael effaith gwahanol na’r hyn sy’n bodoli eisoes. Cysylltir y safle gyda sawl llwybr cerdded mwynderol sy’n cael ei defnyddio yn rheolaidd gan y cyhoedd ac ystyriwyd y byddai defnydd y safle yn ei gyfanrwydd yn dwysau o ganlyniad i ddatblygu’r safle.

 

Derbyniwyd sylwadau Gwarchod y Cyhoedd yn argymell i’r ymgeisydd gyflwyno Cynllun Rheoli Sŵn sy'n ymdrin â materion megis oriau a dyddiau defnydd, cyswllt cymunedol, gweithdrefnau cwyno a'r ymateb gofynnol/amserlenni ac atal defnydd anawdurdodedig. Yn ychwanegol, awgrymwyd bod amod i reoli’r oriau datblygu ac amod i reoli’r lefel sŵn sy’n deillio o’r safle pan yn weithredol yn cael eu cynnwys i sicrhau y bydd y bwriad yn gallu cwrdd gydag anghenion polisi PCYFF 2.

 

Cydnabuwyd sylwadau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r bwriad, ond ni ystyriwyd y byddai’r bwriad, gydag amodau priodol, yn achosi aflonyddwch sylweddol niweidiol i fwynderau preswyl y tai cyfagos ac na fyddai yn newid defnydd o’r llwybrau cyfagos gan y cyhoedd.

 

Yng nghyd-destun materion Bioamrywiaeth, nodwyd bod newidiadau diweddar i Polisi Cynllunio Cymru (PCC) wedi cael eu hystyried ynghyd a’r sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth. Nid oedd unrhyw faterion newydd fyddai’n cael unrhyw ddylanwad o bwys ar y penderfyniad ac fe ystyriwyd y byddai cynnwys yr adroddiad ecolegol ynghyd a’r gallu i osod amodau i sicrhau mesurau lliniaru a gwelliannau i fioamrywiaeth yn ddigonol i fodloni anghenion PCC.

 

Yng nghyd-destun materion ieithyddol, eglurwyd bod y cais yn un i wella cyfleusterau cymunedol fyddai’n cael ei defnyddio gan y gymuned leol. Derbyniwyd datganiad gan yr ymgeisydd yn datgan, “Mae’r prosiect a pholisi iaith y clwb yn cyfarch sawl elfen o Gynllun Gwynedd 2023-28 gan gynnwys blaenoriaeth “Gwynedd Gymraeg”. Ategwyd “bod gweithgareddau’r clwb yn cael eu gweithredu’n gyfan gwbl / mwyafrif helaeth trwy gyfrwng y Gymraeg sy’n caniatáu i bob plentyn (iaith gyntaf ac ail iaith) allu defnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn sefyllfa gymdeithasol / chwaraeon sydd yn sylfaen mor bwysig i warchod a datblygu’r iaith yn ein cymunedau i'r dyfodol.”

 

Nodwyd hefyd bod safle we’r clwb pêl droed yn ddwyieithog gyda’r negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn blaenoriaethu’r Gymraeg sydd yn dangos fod y clwb yn ymroddedig i'r iaith ac yn cyd-fynd gyda’r datganiad uchod.

 

Yng nghyd-destun materion archaeolegol nodwyd bod GCAG yn datgan bod potensial archeolegol y safle hwn yn codi o chwarel lechi hanesyddol Coed Madog sy’n gorchuddio ôl troed cyfan y caeau pêl-droed. Eglurwyd bod tystiolaeth yn dangos fod y safle wedi cael ei dirlunio rhai blynyddoedd yn ôl ond nid yw’n glir i ba raddau y tynnwyd unrhyw ddeunydd strwythurol hanesyddol. Er y posibilrwydd fod gweddillion archeolegol yn parhau o dan yr wyneb, gallai gwaith tir i wahanol ddyfnderoedd darfu ar unrhyw olion, ond y byddai modd gosod amodau i gytuno ar raglen o waith archaeolegol i gyfarch hyn.

 

 b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Bod Clwb Peldroed Talysarn yn dathlu 100 oed eleni

·         Bod y cae presennol wedi ei ddarparu i ddiben 1 tîm dynion

·         Bellach mae timau plant, ieuenctid, merched a dynion yn y clwb gyda rhestr aros oherwydd diffyg lle

·         Y cais yn ymateb i’r her o ymestyn cyfleoedd i ieuenctid ac arian wedi ei godi yn lleol ar gyfer y fenter

·         Yr angen a’r potential wedi ei adnabod - cyfle yma i greu mwy o gyfleusterau a chynllunio ymlaen fel bod mwy o’r gymuned leol yn gallu cymryd rhan

·         Lles hir dymor (25mlynedd) wedi ei gytuno gyda Cyngor Gwynedd am y tir gyda grantiau gan Peldroed Cymru a Chyngor Gwynedd wedi eu derbyn (yn ddibynnol ar benderfyniad y Pwyllgor)

·         Nid Clwb i’r pentref yn unig - nifer o bentrefi cyfagos yn ei ddefnyddio

·         Y Clwb yn ganolbwynt i ddigwyddiadau cymunedol

·         Bydd y ddarpariaeth yn gwneud gwahaniaeth - y cynllun yn un teg a chyfrifol, gyda’r gymuned yn elwa o’r cynllun i’r dyfodol

·         Yn diolch i gadeirydd CPD Talysarn, a’r gymuned leol am ddod a'r cais ynghyd.

 

a)         Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Amgylchedd Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar gwblhau trafodaethau ynghylch archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.         5 mlynedd.

2.         Unol a chynlluniau a dogfennau.

3.         Dim cistiau nac offer arall i'w cadw yn yr awyr agored.

4.         Dim goleuo ar safle heb gytundeb.

5.         Tirlunio

6.         Cynnal tirlunio.

7.         Arwyddion Cymraeg / dwyieithog

8.         Darparu llecynnau parcio anabl

9.         Darparu’r llecynnau parcio ychwanegol cyn defnyddio’r cae newydd

10.       Amod gwaith ymchwil tir llygredig

11.       Yn unol gyda’r cynllun rheoli sŵn

12.       Amod gwaith ymchwil archaeoleg

 

 

Dogfennau ategol: