Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Nodwyd a derbyniwyd
adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1).
2.
Nodwyd a derbyniwyd
diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).
3.
Cytunwyd ar broffil
gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol.
PENDERFYNWYD
1.
Nodwyd a derbyniwyd
adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1).
2.
Nodwyd a derbyniwyd
diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).
3.
Cytunwyd ar broffil
gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Rhagwelir
tanwariant o £340,768 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2023/24. Defnyddir unrhyw
danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau’r swm a ddefnyddir o’r Grant
Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Nodwyd llithriad
ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £3.36m yn 2023/24 o’i gymharu â chyllideb gymeradwy o £11.25m
ar gyfer y flwyddyn.
TRAFODAETH
Tywyswyd drwy
adolygiad ariannol diwedd Rhagfyr 2023, gan gyfeirio at Atodiad 1 a oedd yn
nodi gwir sefyllfa refeniw hyd at ddiwedd Rhagfyr ac yn amcanu’r sefyllfa hyd
at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod
gorwariant net o £33,000 ar y Swyddfa
Rheoli Portffolio, gyda’r gorwariant pennaf ar weithwyr. Nodwyd bydd hwn yn
cael ei ariannu
gan incwm o’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig (a nodwyd fel incwm).
·
Bod
tanwariant o £35,000 ar Wasanaethau
Cefnogol. Eglurwyd bydd yr arian hwn
yn cael ei
ddefnyddio i ariannu'r gwariant cefnogaeth gyllidol allanol.
·
Bod
tanwariant o £39,000 ar y Cyd-bwyllgor
oherwydd tanwariant o fewn meysydd ‘cefnogaeth
gyfreithiol allanol’, ‘ffioedd cyllidol’ a’r ‘Bwrdd Cyflawni
Busnes’.
·
Bod tanwariant net o £109,000 ar Brosiectau oherwydd tanwariant
ar ddatblygu achosion busnes y prosiectau yn bennaf.
Adroddwyd ar ffynonellau incwm ar gyfer 2023/24 gan atgoffa’r Aelodau bod tanwariant o £267,000 wedi ei ragweld yn
adolygiad Awst 2023. Eglurwyd bod y tanwariant hwn bellach wedi
cynyddu i £341,000 ac felly
awgrymwyd bod swm llai o’r fargen
twf yn cael
ei ddefnyddio er mwyn gadael sefyllfa
niwtral i’r Bwrdd am y flwyddyn. Cadarnhawyd bydd y ffigwr hwn yn
cael ei gadarnhau
ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Cadarnhawyd balansau’r
cronfeydd fel a ganlyn:
·
Balans y Gronfa Wrth Gefn Cyffredinol
ar 31 Mawrth 2023 oedd £552,000. Nodwyd
bod £274,000 wedi ei ddyrannu yng nghyllideb
eleni sydd yn gadael balans
o £278,000.
·
Balans y Gronfa Prosiectau ar 31 Mawrth 2023 oed £152,000
ac mae’n debygol na fydd symudiad ar y gronfa eleni.
·
Balans y Gronfa Llog ar 31 Mawrth 2023 oedd
£1.7miliwn. Eglurwyd y rhagwelir
balans o tua £4.4miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol wrth ychwanegu cyfraniadau llog y partneriaid o £251,000 ar gyfer
2023/24 ynghyd a tua
£2.5miliwn o log ar y balansau (gan
gynnwys Cronfa Bargen Twf) ar gyfer eleni
yn cael ei
ychwanegu i’r gronfa.
Adroddwyd bod gostyngiad o
£7.89miliwn yn y gwariant disgwyliedig yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023/24, o’i gymharu â’r gyllideb
a gymeradwywyd ym mis
Mawrth 2023. Eglurwyd bod hyn
oherwydd gostyngiad pellach o £3.77miliwn i’r hyn a ragwelwyd yn adolygiad Awst
2023 yn dilyn gostyngiad ar bedwar prosiect.
Nodwyd ei fod
yn annhebygol bydd y Bwrdd yn
derbyn cyfraniad grant blynyddol o £20miliwn eleni ond cadarnhawyd bod swyddogion wedi bod yn trafod gyda
Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i weithio
ar ail-broffil cyfalaf. Eglurwyd os bydd
hyn yn llwyddiannus,
gallai olygu derbyn dyraniad grant Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn unol
â gwariant yn hytrach nag fel cyfradd unffurf dros 10 mlynedd. Cydnabuwyd byddai hyn yn lleihau
costau benthyca'r Bwrdd ond bydd
costau benthyca dal yn bodoli a hynny
ar gyfer yr elfen sy’n cael
ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bydd costau benthyca yn deillio gan
mai ar ddiwedd y flwyddyn ariannol mae’r taliad grant yn cael ei
dderbyn yn hytrach nag yn ystod y flwyddyn fel mae’r gwariant
yn cymryd lle.
Diolchwyd i'r Swyddogion
am eu gwaith a’r adroddiad.
Dogfennau ategol: