Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Ystyriwyd
a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
diweddaru.
2.
Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau gyda chymorth y Rheolwr Rhaglen
Digidol, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo a’r Rheolwr Rhaglen Ynni.
PENDERFYNWYD
1. Ystyriwyd a nodwyd
Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.
2.
Cymeradwywyd cyflwyno
Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU a phwyllgorau
craffu’r awdurdodau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae adroddiad chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun
Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth
gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda
Llywodraeth Cymru, Llywodraeth
y DU a phwyllgorau craffu’r
awdurdodau lleol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd ar nifer
o uchafbwyntiau Chwarter 3 gan gynnwys:
Adroddwyd y cynhaliwyd
adolygiad Porth 2 ar gyfer prosiect Safleoedd Allweddol a Choridorau Cysylltiedig ‘4G+’ ym mis Tachwedd gyda’r arolygwyr yn darparu
asesiad ‘Amber-Green’ gyda sawl argymhelliad
fel yr arfer.
Nodwyd bod y Rheolwr Rhaglen Digidol yn gweithio i
fynd i’r afael â’r argymhellion
hyn cyn cyflwyno’r
achos busnes amlinellol i’w ystyried gan y Byrddau Portffolio ac Uchelgais Economaidd eleni.
Eglurwyd bod tri phrosiect
y Gronfa Ffyniant Cyffredin ar fin rhedeg eleni er mwyn i’r
Awdurdodau Lleol ganfod
ffyrdd o wella darpariaeth symudol 4G yn eu rhanbarthau.
Nodwyd bod y gwaith hefyd yn cynnig
cymorth i fusnesau lleol ddeall opsiynau ar gyfer mabwysiadu technolegau digidol newydd ar gyfer y dyfodol.
Trafodwyd bod nifer
o achosion busnes amlinellol ar y gweill ar hyn o bryd a bydd
yr achosion busnes llawn yn
cael eu cyflwyno
i’r Bwrdd pan yn amserol.
Ymfalchïwyd bod dwy
aelod newydd o staff wedi eu penodi
er mwyn cynorthwyo fel Swyddog Prosiect
Ynni a Rheolwr Prosiect Ynni. Nodwyd bod y penodiadau hyn yn gymorth
i sicrhau bod prosiectau yn parhau
i gael eu
cyflawni yn amserol.
Darparwyd diweddariad
ar nifer o brosiectau Tir
ac Eiddo gan gynnwys Warren Hall, Porth y Gorllewin,
Porth Caergybi, Parc Bryn Cegin, Stiwdios
Kinmel a Porth Wrecsam.
Cydnabuwyd bod
materion cynllunio yn parhau i fod yn risg sylweddol i brosiectau Bwyd, Amaeth
a Thwristiaeth ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd bod grŵp Tasg a Gorffen wedi ei
sefydlu i archwilio’r bwlch amaeth a garddwriaeth yn y Cynllun Twf. Eglurwyd eu
bod wedi comisiynu rhywfaint o ymchwil sy’n edrych ar gyflenwad bwyd a’r galw
yn y rhanbarth drwy gydweithio gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriwyd at Gofrestr
Risg y Portffolio gan nodi bod risg y Cyd-destun Economaidd wedi cynyddu'r chwarter hwn. Eglurwyd
bod y risg wedi ei ddiweddaru yn
dilyn y rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol
ar hyn o bryd, gan ei fod
yn gallu effeithio ar gostau gyflenwi nwyddau. Eglurwyd hefyd bod risg Oediad wedi
lleihau yn y chwarter hwn gan
fod nifer o achosion busnes amlinellol a llawn wedi cael eu
cymeradwyo gan y Bwrdd. Er hyn, nodwyd, ei fod
dal yn risg sylweddol a'i fod
yn cael ei
oruchwylio.
Yn dilyn cwestiwn am broject amlygwyd fod angen cyfeirio
at wybodaeth fasnachol sensitif er darparu ateb. Ar gyngor cyfreithiol cynigwyd ac eiliwyd i barhau yn
gaedidg ar gyfer yr agwedd benodol
yma a chytunwyd i gymeradwyo’r penderfyniadau a geisiwyd.
Dogfennau ategol: