Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 – Adolygiad 2023-24.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yr adroddiad oedd yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo adolygiad o Gynllun y Cyngor 2024/25. Nodwyd bod blwyddyn wedi pasio ers mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 gan nodi mai adolygiad ysgafn sydd yma ond bod newidiadau pwysig wedi bod i’r Cynllun.

 

Tynnwyd sylw at rai materion megis Maes Blaenoriaeth: Gwynedd Yfory gan nodi bod y prosiect Cinio Ysgol am ddim bellach wedi ei gyflwyno i holl Ysgolion Cynradd Gwynedd o flaen amserlen y Llywodraeth. Ychwanegwyd bod y Strategaeth Addysg bellach yn dyddio felly bydd Strategaeth newydd yn cael ei llunio er mwyn sicrhau bod yr Addysg orau yn cael ei gynnig i blant y Sir. Nodwyd bod Strategaeth gyfredol a chadarn yn ofynnol er mwyn ceisio denu arian grant i fuddsoddi mewn adeiladau Ysgolion. Bydd y ddarpariaeth gynhwysiad hefyd yn cael ei hadolygu i edrych ar y cynnydd mewn anghenion ymddygiadol emosiynol ymysg plant, sgil effaith y pandemig.

 

Nodwyd o dan y Maes Blaenoriaeth: Gwynedd Gymraeg bydd adolygiad o’r Polisi Iaith Addysg yn cael ei gynnal ynghyd â chynnal gwerthusiad o’r gyfundrefn drochi. Mynegwyd bod hyn yn cadarnhau awydd yr Awdurdod i roi sylw i’r ddau faes a byddant yn rhan o Gynllun y Cyngor am y flwyddyn i ddod. Rhannwyd y newyddion bod Meirion Prys Jones, un o gynllunwyr ieithyddol mwyaf profiadol Cymru, yn cael ei gomisiynu i arwain ar y gwaith o ail edrych ar Bolisi Iaith Addysg Gwynedd. Anogwyd pawb i gymryd rhan yn y sgwrs bwysig yma pan fydd y cyfnod ymgysylltu yn cychwyn. Ychwanegwyd bod mân newidiadau eraill wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad a mynegwyd balchder dros allu cynnig i’r Cyngor fabwysiadu’r newidiadau hyn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Gofynnwyd am sicrwydd nad yw Ysgol Tywyn am ddisgyn oddi ar y rhestr aros am welliannau gan nodi bod yr adroddiad yn cyfeirio at foderneiddio adeiladau ac amgylchedd ddysgu yn  benodol yn ardaloedd Bangor a Criccieth. Nodwyd bod Ysgol Tywyn yn un o Ysgolion hynaf y Sir ac angen gwaith atgyweirio. Mynegwyd pryder bod Tywyn yn cael ei esgeuluso yn ddaearyddol.

·         Mewn ymateb nododd yr Arweinydd nad yw ardal Dysyni yn cael ei esgeuluso a bod cynrychiolwyr y ward yn gwneud gwaith da o dynnu sylw’r Cyngor at faterion yr ardal. Adroddwyd bod yr Adran Addysg yn falch o glywed am y sylwadau.

·         Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai cyfeirio at adeiladu Ysgolion mae’r adroddiad ac nid cynnal Ysgolion, ond gobeithiai y bydd gwedd newydd i’r rhaglen pe bai’r sefyllfa gyllidol yn caniatáu.

 

Mynegwyd safbwynt bod y Cynllun yma a’r Ddeddf Llesiant wedi cael eu seilio ar y ‘sustainable development goals’ gan y Cenhedloedd Unedig ac mai dyma yw testun a gwreiddyn yr holl wrthdaro sydd yn bodoli yn Ewrop ac yng Nghymru rhwng yr amaethwyr a’r Awdurdodau. Nodwyd hefyd bod gwrthdaro rhwng ceisio gwireddu sero net a thlodi oherwydd y costau sydd ynghlwm a sero net. Mynega’r aelod na allai bleidleisio o blaid y Cynllun oherwydd hyn.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at Wynedd Werdd sydd yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus. Adroddwyd bod pobl y Sir eisiau trafnidiaeth gyfleus, ddibynadwy, hwylus a rhesymol ei gost sydd yn ategu pam bod cael gwasanaeth bws gyda’r nos yn hollbwysig i ardaloedd cefn gwlad. Gofynnwyd i’r Cyngor ail edrych ar y sefyllfa bysiau yn ardal Llŷn ar frys yn enwedig yn sgil problemau iechyd meddwl o ganlyniad i unigedd. 

 

Cyfeiriwyd at ran o’r adroddiad sy’n cyfeirio at wella llwybrau cerdded a beicio presennol y Sir a mynegwyd balchder am hyn gan fod yr aelod wedi bod yn gofyn am lwybr beicio o Lanbedrog i Bwllheli ers blynyddoedd. Credwyd ei bod bellach yn amser gweithredu.

·         Mewn ymateb i’r sylw nododd yr Arweinydd bod trafodaethau mewnol wedi eu cynnal yn ddiweddar am yr anhawster i dderbyn arian digonol i gefn gwlad gan Lywodraeth Cymru. Adroddwyd bod y mater wedi ei godi yn y Fforwm Wledig yn ddiweddar iawn a bod y neges yn cael ei basio ymlaen i Lywodraeth Cymru.

·         Ychwanegwyd bod yr holl gynllun yn ddibynnol ar dderbyn arian digonol a chredwyd bod Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau ar ei delerau ei hun sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r Cyngor allu cynllunio yn yr hirdymor. Mynegwyd cydymdeimlad gan roi sicrwydd y byddai’n parhau i bwyso am wella’r sefyllfa.

 

Nodwyd bod poblogaeth Gwynedd wedi lleihau o 5,400 yn ôl y Cyfrifiad. Gofynnwyd a yw hyn yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

·         Mewn ymateb nododd yr Arweinydd nad yw’n siŵr os yw’r mater yma yn gynwysedig yn y Cynllun. Cytunwyd ei fod yn fater o bryder gan fod niferoedd llai yn byw yn y Sir yn cael effaith ar gyllid a gwasanaethau o sawl cyfeiriad. Cyfeiriwyd at niferoedd Ysgolion bach gwledig sydd yn drychinebus ac wedi syrthio yn ddifrifol dros y blynyddoedd diwethaf. Adroddodd yr Arweinydd ei fod wedi gofyn am ffigyrau genedigaethau yng Ngwynedd ond ei bod yn anodd cael y gwir ffigwr. Credwyd ei bod yn holl bwysig ceisio cynyddu’r boblogaeth yng Ngwynedd.

 

Mynegwyd balchder gan aelodau bod adolygu Polisi Iaith Addysg Gwynedd a gwerthusiad o’r gyfundrefn drochi wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Gofynnwyd beth yw’r amserlen ynglŷn â hyn. Gofynnwyd hefyd a fydd ymgynghoriad ffurfiol ynghylch adolygu Polisi Iaith Ysgolion yn cael ei gynnal neu a’i drafod efo rhanddeiliaid amlwg yn unig fydd yn digwydd.

·         Nodwyd bod y gwaith o adolygu Polisi Iaith Addysg Gwynedd wedi cychwyn yn barod a bod yr Adran yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gwblhau’r gwaith erbyn tymor yr Hydref. Nodwyd bod hyn yn ddibynnol ar faint fydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth a faint o fewnbwn fydd yn cael ei roi ond anelir at dymor yr Hydref.

·         Credwyd bydd y gwaith ar y gyfundrefn drochi hefyd yn cael ei gwblhau mis Hydref/Tachwedd ac yn cychwyn yn fuan iawn.

·         Eglurwyd mai ymgysylltu yw’r bwriad a bod y camau i gynnal y sgwrs a derbyn gwybodaeth yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd. Nodwyd mai’r bwriad yw i bawb gael cyfle i ddweud eu dweud mewn amryw ffyrdd. Ychwanegwyd y bydd yr ymgysylltu mor eang a dymunir iddo fod yn ddibynnol ar ba mor barod fydd pobl i gymryd rhan ynddo. Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i gyfrannu.

 

Mynegwyd balchder gan aelod am y sylwadau i wella Ysgolion yn enwedig addasiadau i blant sydd efo anableddau corfforol neu weledol. Pryderwyd nad yw rhai o adeiladau’r Sir yn ddigon da i gyfarch anghenion a bod angen ystyried pa adeiladau sydd angen eu gwella a beth ellir ei wneud. Credwyd bod hyn yn broblem hanesyddol sydd angen ei gyfarch drwy holl Ysgolion y Sir a’i bod yn hanfodol peidio gwahaniaethu. Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod cyfle i holl blant y Sir aros yn eu Hysgol o’u dewis.

Cyfeiriwyd at y cyflwr awtistiaeth a bod angen i Ysgolion addasu er mwyn cwrdd ag anghenion y plant drwy gynnig mannau tawel ynghyd ag addasiadau perthnasol eraill. Credwyd hefyd bod angen gwella hyfforddiant staff yr Ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth gan fod niferoedd plant awtistig yn cynyddu. Gofynnwyd am fwy o ystyriaeth i anghenion o’r fath o fewn Ysgolion.

·         Cytunodd yr Arweinydd â’r aelod gan nodi nad yw’n dymuno i’r un plentyn o fewn y Sir gael cam. Nodwyd bod y Cynllun dan sylw yn son am adeiladau newydd yn bennaf. Credwyd y byddai’n syniad i aelodau ymweld ag Ysgol newydd Cricieth er mwyn i bawb weld y safon y disgwylir ei weld o fewn Ysgolion y Sir pan fydd yr Ysgol wedi ei chwblhau.

·         Diolchodd y Prif Weithredwr am sylwadau’r aelod. Gofynnodd pe bai’r aelod neu unrhyw un arall yn ymwybodol o sefyllfa lle nad yw plentyn yn medru cael mynediad i Ysgol i ddod a’r enghraifft i sylw’r Adran Addysg.

·         Cyfeiriodd at grantiau Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi cyrraedd y Cyngor yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Nodwyd bod yr arian, sydd ar hyn o bryd yn gyfanswm o filiwn, yn cael ei dargedu ar gyfer addasu Ysgolion i gwrdd ag anghenion plant sydd yn yr Ysgolion hynny ar hyn o bryd.

·         Nododd y Prif Weithredwr bod gan y Cyngor dîm o athrawon arbenigol awtistiaeth sy’n mynd allan i hyfforddi staff Ysgolion. Nodwyd bod rhaglen eang o hyfforddiant i staff Ysgolion ar gael. Yn ychwanegol cyfeiriwyd bod ymchwiliad Craffu yn cael ei gynnal i’r maes awtistiaeth ar hyn o bryd a gobeithir y bydd casgliadau cadarnhaol iawn yn dod o’r ymchwiliad.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 – Adolygiad 2023-24.

 

Dogfennau ategol: