Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Penderfyniad:

 

1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

 

(a)  Sefydlu cyllideb o £331,814,710 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £233,316,780 a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).

(b)  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2.  Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 23 Chwefror 2024, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 56,109.27 yw’r swm a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

      607.86

 

Llanddeiniolen

  1,879.99

Aberdyfi

    1,199.84

Llandderfel

   513.67

Abergwyngregyn

      127.25

Llanegryn

     170.33

Abermaw (Barmouth)

    1,279.39

Llanelltyd

     316.11

Arthog

      686.30

Llanengan

  2,611.78

Y Bala

      805.81

Llanfair

     365.02

Bangor

    4,216.67

Llanfihangel y Pennant

     251.26

Beddgelert

      342.39

Llanfrothen

     237.05

Betws Garmon

      146.14

Llangelynnin

     469.59

Bethesda

    1,729.69

Llangywer

     154.76

Bontnewydd

      470.78

Llanllechid

     362.98

Botwnnog

      470.80

Llanllyfni

  1,485.90

Brithdir a Llanfachreth

      470.72

Llannor

     931.18

Bryncrug

      348.73

Llanrug

  1,148.76

Buan

      239.47

Llanuwchllyn

     335.02

Caernarfon

    3,689.58

Llanwnda

     848.52

Clynnog Fawr

      489.48

Llanycil

     211.80

Corris

      323.38

Llanystumdwy

     929.25

Criccieth

    1,004.64

Maentwrog

     328.15

Dolbenmaen

      656.05

Mawddwy

     377.08

Dolgellau

    1,284.66

Nefyn

  1,656.10

Dyffryn Ardudwy

      861.12

Pennal

     238.42

Y Felinheli

    1,192.74

Penrhyndeudraeth

     822.80

Ffestiniog

    1,816.64

Pentir

  1,300.06

Y Ganllwyd

        90.89

Pistyll

     306.53

Harlech

      852.33

Porthmadog

  2,268.75

Llanaelhaearn

      482.64

Pwllheli

  1,834.49

Llanbedr

      373.86

Talsarnau

     364.36

Llanbedrog

      855.68

Trawsfynydd

     517.21

Llanberis

      797.48

Tudweiliog

     512.69

Llandwrog

    1,066.90

Tywyn

  1,779.66

Llandygai

    1,022.19

 

Waunfawr

     577.90

 

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£570,459,760

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£236,024,890

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£334,434,870

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

     (ch)

£232,821,120

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)   

£1,811.00

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned).

 

     (dd)

£3,115,816.72

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned).

 

(e)   

£1,755.47

Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig).

 

(f) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –

 

Aberdaron

     1,782.61

 

Llanddeiniolen

     1,771.96

Aberdyfi

     1,792.32

Llandderfel

     1,780.78

Abergwyngregyn

     1,786.90

Llanegryn

     1,797.45

Abermaw (Barmouth)

     1,807.17

Llanelltyd

     1,787.10

Arthog

     1,775.87

Llanengan

     1,778.44

Y Bala

     1,788.98

Llanfair

     1,804.78

Bangor

     1,889.13

Llanfihangel y Pennant

     1,803.23

Beddgelert

     1,791.98

Llanfrothen

     1,803.14

Betws Garmon

     1,776.00

Llangelynnin

     1,783.50

Bethesda

     1,815.91

Llangywer

     1,786.00

Bontnewydd

     1,794.77

Llanllechid

     1,801.53

Botwnnog

     1,769.28

Llanllyfni

     1,789.12

Brithdir a Llanfachreth

     1,780.96

Llannor

     1,777.49

Bryncrug

     1,793.75

Llanrug

     1,829.46

Buan

     1,774.26

Llanuwchllyn

     1,803.23

Caernarfon

     1,863.35

Llanwnda

     1,792.59

Clynnog Fawr

     1,816.76

Llanycil

     1,776.72

Corris

     1,792.58

Llanystumdwy

     1,776.99

Criccieth

     1,805.24

Maentwrog

     1,775.41

Dolbenmaen

     1,782.91

Mawddwy

     1,789.15

Dolgellau

     1,815.41

Nefyn

     1,809.81

Dyffryn Ardudwy

     1,813.53

Pennal

     1,830.97

Y Felinheli

     1,797.89

Penrhyndeudraeth

     1,794.77

Ffestiniog

     1,882.08

Pentir

     1,797.78

Y Ganllwyd

     1,791.23

Pistyll

     1,794.62

Harlech

     1,837.60

Porthmadog

     1,784.98

Llanaelhaearn

     1,807.27

Pwllheli

     1,812.71

Llanbedr

     1,811.64

Talsarnau

     1,815.85

Llanbedrog

     1,784.69

Trawsfynydd

     1,794.14

Llanberis

     1,805.13

Tudweiliog

     1,774.97

Llandwrog

     1,829.14

Tywyn

     1,812.73

Llandygai

     1,793.04

 

Waunfawr

     1,776.23

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1 i Atodiad 11 i Eitem 9, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.

 

4.  Nodi ar gyfer y flwyddyn 2024/25 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:

 

 

Band A

Band B

Band C

Band D

Band E

Band F

Band G

Band H

Band  I

 

233.10

271.95

310.80

349.65

427.35

505.05

582.75

699.30

815.85

 

5.  Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 i Atodiad 11 i Eitem 9 ar gyfer y Dreth Cyngor yn y flwyddyn 2024/25 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.

 

Cofnod:

 

Nododd y Cadeirydd, yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor, rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn unrhyw welliant i’r eitem yma yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a rhaid i’r gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal os yw am gael ei drafod. Roedd holl aelodau’r Cyngor wedi cael eu hatgoffa o hyn wythnos ddiwethaf, ac ni dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rybudd o welliant erbyn yr amser cau dynodedig. O ganlyniad, ni fydd modd ystyried unrhyw rybudd o welliant i’r gyllideb.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas:-

 

·         Adroddiad a chyflwyniad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2024/25;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 9.54%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd i staff yr Adran Gyllid am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb. Ychwanegodd nad yw’n rhoi unrhyw bleser o gwbl iddo i gynnig codi Treth Cyngor mewn cyfnod ble mae gymaint o drigolion y Sir yn brwydro yn erbyn costau byw sydd wedi cynyddu yn sylweddol.

 

Pwysleisiodd os bydd gan unrhyw un broblem i dalu Treth Cyngor neu angen cymorth ar gostau byw ei bod yn bwysig iddynt gysylltu gyda’r Cyngor. Nodwyd bod angen i Gynghorwyr drosglwyddo’r wybodaeth yma i’w hetholwyr. Rhannwyd y manylion cyswllt perthnasol oedd yn cynnwys rhif ffôn Galw Gwynedd â’r cyfeiriad e-bost ynghyd â chyfeiriad e-bost y gwasanaeth Treth Cyngor.

 

Atgoffodd y Pennaeth Cyllid yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 o’r adroddiad, a chadarnhaodd, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod Cyllideb y Cyngor am 2024/25 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd bod gwariant Cyngor Gwynedd yn cael ei arwain gan anghenion pobl Gwynedd a bod yr aelodau yma er mwyn ateb y gofynion a’r anghenion hynny. Nodwyd bod y sefyllfa ariannol bresennol eisoes yn ddifrifol. Gofynnwyd faint o'r gorwariant sy’n deillio o ddiffyg cyllido bwriadol a’r diffyg i gydnabod angen sylfaenol gan Lywodraeth Prydain.

·         Mewn ymateb nodwyd mai’r broblem yw tan-gylllido sylweddol gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd. Cydnabuwyd bod y sefyllfa yn un broblemus oherwydd mai drwy Gaerdydd yn unig, ynghyd â thaliadau Treth Cyngor, y mae Cynghorau yn cael eu harian. Pwysleisiwyd bod y Cyngor mewn sefyllfa o gael ei danariannu.

·         Nododd un aelod y byddai yn pleidleisio o blaid y gyllideb ond yn gwneud hynny yn anfoddog. Mynegodd ein bod wedi cael ein gwthio a’n gorfodi i’r sefyllfa yma dros gyfnod o 10 mlynedd dan bolisi llymder Llywodraeth San Steffan. Nodwyd bod San Steffan yn torri taliadau yswiriant gwladol ond yn tan-gyllido gwasanaethau cyhoeddus gan orfodi Cynghorau i gynyddu’r Dreth Cyngor.

·         Credwyd ei bod yn bwysig mynegi anfodlonrwydd efo’r sefyllfa mae’r Cyngor wedi cael ei orfodi i fod ynddi. Ategwyd mai llesiant plant y dyfodol fydd yn dioddef yn y pen draw.

·         Cyfeiriwyd at achosion unigol torcalonnus roedd aelodau wedi dod ar eu traws e.e. teulu digartref yn byw mewn gwesty heb gyfleusterau coginio ac yr ansicrwydd sy’n deillio o hynny a’r effaith mae’n ei gael ar y plentyn. Nodwyd nad yw’r achos hwn yn eithriad a bod dros 300 yng Ngwynedd yn byw mewn llety argyfwng sy’n cynnwys 55 o blant. Cyfeiriwyd at y niferoedd sy’n ddigartref, yn byw mewn tlodi, yn wynebu cynnydd yn eu biliau ac yn ddibynnol ar barseli banciau bwyd. Credwyd na allai neb fod wedi dychmygu sefyllfa o’r fath 10 mlynedd yn ôl.

·         Adroddwyd bod y Ceidwadwyr wedi creu chwyddiant uchel iawn sy’n arwain at nwyddau a gwasanaethau drud. Credwyd bod 15 mlynedd o lymder a chaledi wedi cael ei orfodi arnom. Arweiniai hynny at lai o bres i Gynghorau ar adeg pan mae mwy o alw ar wasanaethau cyhoeddus.

·         Credwyd bod y dewis o un ai cynyddu’r Dreth Cyngor neu dorri gwasanaethau sy’n mynd i gael effaith ar bobl yn un anodd ac annheg.

·         Holwyd am eglurder ynghylch tudalen 98 o’r Rhaglen a’r cyfeiriad at £50,000 o arian i wella maes parcio Dinas Dinlle. Eglurodd y Pennaeth Cyllid bod rhan yma’r adroddiad yn cyfeirio at fidiau ac wedi dod o arian cyfalaf oedd wedi cael ei glustnodi er mwyn gwella ac uwchraddio’r maes parcio.

·         Gwnaethpwyd sylw gan aelod mai dyma’r penderfyniad cyllideb anoddaf y gofynnwyd iddo ei wneud fel Cynghorydd o 29 mlynedd ble rhaid dewis rhwng torri gwasanaethau i’r rhai mwyaf bregus yn y Sir neu gynyddu’r Dreth Cyngor bron i 10%. Ychwanegodd bod risg o greu haen newydd o dlodi yng Ngwynedd. Teimlai ei fod yn cael ei orfodi i bleidleisio dros y gyllideb gyda gwn yn erbyn ei ben am nad yw’n barod i dorri gwasanaethau i bobl fregus. Ategodd nad yw hyn yn feirniadaeth ar waith y Cyngor.

·         Beirniadwyd Lywodraeth San Steffan a’r sawl sydd mewn pŵer yno.

·         Tynnwyd sylw at gyfoeth personol y Prif Weinidog gan honni ei fod o gwmpas £700 miliwn.

·         Cwestiynwyd os yw’r Cyngor wedi bod yn rhy dda am wneud arbedion effeithlonrwydd a thoriadau ac os mai dyma sydd wedi arwain at dderbyn y ganran waethaf o’r setliad drwy Gymru. Credai'r aelod mai'r ateb fwy realistig yw oherwydd ein bod yn Sir wledig.

·         Credwyd bod dyletswydd ar y Cyngor i geisio cadw’r bobl ifanc yn ein cymunedau ac yn y Sir a chwestiynwyd os dylid gwneud mwy o ymdrech i gyflawni hyn.

·         Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Cyllid a’r Pennaeth Cyllid am eu cyflwyniadau.

 

Cymerwyd y cyfle gan aelod i anfon neges bwysig i drigolion y Sir ac i ategu’r hyn a ddywedwyd gan yr Aelod Cabinet Cyllid. Gobeithiwyd bod pawb yn ymwybodol o’u hawliau ac yn hawlio'r hyn sy’n ddyledus iddynt. Ategwyd bod hawliau budd-dal neu gredyd Treth Cyngor yn gwneud pobl yn gymwys i gefnogaeth ariannol bellach. Anogwyd y sawl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol i gysylltu efo’r Cyngor drwy’r rhif Galw Gwynedd neu ymweld â gwefan y Cyngor. Cyfeiriwyd at Hybiau cymunedol a digwyddiadau Costau Byw sydd yn cael eu cynnal ar draws y Sir. Ategwyd y gallai’r cyhoedd hefyd gysylltu efo mudiadau megis Cyngor ar Bopeth neu gysylltu â'u Cynghorydd lleol am gyngor. Nododd yr aelod ei bod hi’n ymwybodol o bobl sy’n ei chael hi’n anodd ar draws y Sir, sy’n cynnwys pobl yn gweithio dwy swydd, ond bod cyngor ar gael.

 

Cwestiynwyd pam mai Gwynedd dderbyniodd y setliad gwaethaf drwy Gymru ac os oedd yna gyfle i ofyn am fwy o arian. Pryderwyd am y sawl sy’n gweithio ac ar yr isafswm cyflog ond yn parhau i ddisgyn i dlodi yn sgil yr holl gostau. Mynegwyd balchder bod yna rif ffôn i bobl dderbyn cyngor pellach; gofynnwyd a yw’r rhif yma yn agored o 9:00 tan 17:00 bob diwrnod o’r wythnos. Gofynnwyd hefyd os bydd arian ar gael i’r Cyngor o ganlyniad i leihad yn nhaliadau yswiriant gwladol.

Mewn ymateb i’r uchod nododd yr Arweinydd:

·         Bod yr arian yn cael ei ddosbarthu i Awdurdodau Lleol ar sail fformiwla sydd yn seiliedig ar 160 o ffactorau. Nodwyd bod rhannau o’r fformiwla yma yn cael ei adolygu yn flynyddol.

·         Bod Gwynedd wedi derbyn y setliad isaf drwy Gymru yn bennaf oherwydd y gostyngiad ym mhoblogaeth y Sir.

·         Efallai y gellir newydd y fformiwla a darganfod ffyrdd eraill o ddosbarthu’r arian ond gallai hyn arwain at newidiadau sylweddol eraill nad ydym yn ymwybodol ohonynt.

·         Byddai yn cymryd oddeuty 10 mlynedd i newid y drefn yn llwyr gan y byddai angen dylunio trefn newydd a mynd drwy broses statudol.

·         Mai 1.8% oedd y setliad gwreiddiol ond anfonwyd neges i’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn gofyn am isafswm o 2.0%. Derbyniwyd rhywfaint o fudd o’r ymdrech hon.

·         Credwyd bod rhai Cynghorau yn Llundain mewn gwaeth sefyllfa.

·         Ategwyd bod angen gwarchod gwasanaethau i’r bregus hyd yr eithaf a bod hyn yn gyfrifoldeb ar bawb.

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid:

·         Bod y rhif ffôn Galw Gwynedd fydd yn rhoi gwybodaeth am y cyngor sydd ar gael yn agored o 9:00 tan 17:00 yn ystod dyddiau’r wythnos yn ogystal a’r llinell ffôn Treth Cyngor.

·         Mai cyfraniad yswiriant gwladol y gweithiwr sy’n cael ei ostwng ac nid cyfraniad y cyflogwr felly ni fydd budd ariannol o gwbl i’r Cyngor.

 

Gofynnwyd am bleidlais gofrestredig.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid (46) Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Menna Baines, Beca Brown, Stephen Churchman, Dafydd Owen Davies, Elwyn Edwards, Elfed Wyn ap Elwyn, Alan Jones Evans, Delyth Lloyd Griffiths, Jina Gwyrfai, Annwen Hughes, R. Medwyn Hughes, Iwan Huws, Elin Hywel, Nia Wyn Jeffreys, Berwyn Parry Jones, Dawn Lynne Jones, Dewi Jones, Elin Walker Jones, Gwilym Jones, Gareth Tudor Jones, Huw Wyn Jones, Linda Ann Jones, June Jones, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Edgar Wyn Owen, Llio Elenid Owen, John Pughe, Rheinallt Puw, Arwyn Herald Roberts, Beca Roberts, Elfed P Roberts, Meryl Roberts, Richard Glyn Roberts, Huw Llwyd Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Ioan Thomas, Menna Trenholme, Einir Wyn Williams, Elfed Williams, Sasha Williams a Sian Williams.

 

Yn erbyn (13) – Y Cynghorwyr:-  Dylan Fernley, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Elwyn Jones, Eryl Jones-Williams, John Pughe Roberts, Angela Russell, Peter Thomas, Rob Triggs, Hefin Underwood, Gareth Williams a Gruffydd Williams.

 

Atal (3) – Y Cynghorwyr:-  Glyn Daniels, Dewi Owen a Nigel Pickavance.

 

Nododd y Cadeirydd fod y cynnig wedi cario.

 

PENDERFYNWYD

 

1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

 

(a)  Sefydlu cyllideb o £331,814,710 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £233,316,780 a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).

(b)  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2.  Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 23 Chwefror 2024, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 56,109.27 yw’r swm a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn yn   unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

      607.86

 

Llanddeiniolen

  1,879.99

Aberdyfi

    1,199.84

Llandderfel

   513.67

Abergwyngregyn

      127.25

Llanegryn

     170.33

Abermaw (Barmouth)

    1,279.39

Llanelltyd

     316.11

Arthog

      686.30

Llanengan

  2,611.78

Y Bala

      805.81

Llanfair

     365.02

Bangor

    4,216.67

Llanfihangel y Pennant

     251.26

Beddgelert

      342.39

Llanfrothen

     237.05

Betws Garmon

      146.14

Llangelynnin

     469.59

Bethesda

    1,729.69

Llangywer

     154.76

Bontnewydd

      470.78

Llanllechid

     362.98

Botwnnog

      470.80

Llanllyfni

  1,485.90

Brithdir a Llanfachreth

      470.72

Llannor

     931.18

Bryncrug

      348.73

Llanrug

  1,148.76

Buan

      239.47

Llanuwchllyn

     335.02

Caernarfon

    3,689.58

Llanwnda

     848.52

Clynnog Fawr

      489.48

Llanycil

     211.80

Corris

      323.38

Llanystumdwy

     929.25

Criccieth

    1,004.64

Maentwrog

     328.15

Dolbenmaen

      656.05

Mawddwy

     377.08

Dolgellau

    1,284.66

Nefyn

  1,656.10

Dyffryn Ardudwy

      861.12

Pennal

     238.42

Y Felinheli

    1,192.74

Penrhyndeudraeth

     822.80

Ffestiniog

    1,816.64

Pentir

  1,300.06

Y Ganllwyd

        90.89

Pistyll

     306.53

Harlech

      852.33

Porthmadog

  2,268.75

Llanaelhaearn

      482.64

Pwllheli

  1,834.49

Llanbedr

      373.86

Talsarnau

     364.36

Llanbedrog

      855.68

Trawsfynydd

     517.21

Llanberis

      797.48

Tudweiliog

     512.69

Llandwrog

    1,066.90

Tywyn

  1,779.66

Llandygai

    1,022.19

 

Waunfawr

     577.90

 

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£570,459,760

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£236,024,890

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£334,434,870

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

     (ch)

£232,821,120

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)   

£1,811.00

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned).

 

     (dd)

£3,115,816.72

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned).

 

(e)   

£1,755.47

Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig).

 

(f) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –

 

Aberdaron

     1,782.61

 

Llanddeiniolen

     1,771.96

Aberdyfi

     1,792.32

Llandderfel

     1,780.78

Abergwyngregyn

     1,786.90

Llanegryn

     1,797.45

Abermaw (Barmouth)

     1,807.17

Llanelltyd

     1,787.10

Arthog

     1,775.87

Llanengan

     1,778.44

Y Bala

     1,788.98

Llanfair

     1,804.78

Bangor

     1,889.13

Llanfihangel y Pennant

     1,803.23

Beddgelert

     1,791.98

Llanfrothen

     1,803.14

Betws Garmon

     1,776.00

Llangelynnin

     1,783.50

Bethesda

     1,815.91

Llangywer

     1,786.00

Bontnewydd

     1,794.77

Llanllechid

     1,801.53

Botwnnog

     1,769.28

Llanllyfni

     1,789.12

Brithdir a Llanfachreth

     1,780.96

Llannor

     1,777.49

Bryncrug

     1,793.75

Llanrug

     1,829.46

Buan

     1,774.26

Llanuwchllyn

     1,803.23

Caernarfon

     1,863.35

Llanwnda

     1,792.59

Clynnog Fawr

     1,816.76

Llanycil

     1,776.72

Corris

     1,792.58

Llanystumdwy

     1,776.99

Criccieth

     1,805.24

Maentwrog

     1,775.41

Dolbenmaen

     1,782.91

Mawddwy

     1,789.15

Dolgellau

     1,815.41

Nefyn

     1,809.81

Dyffryn Ardudwy

     1,813.53

Pennal

     1,830.97

Y Felinheli

     1,797.89

Penrhyndeudraeth

     1,794.77

Ffestiniog

     1,882.08

Pentir

     1,797.78

Y Ganllwyd

     1,791.23

Pistyll

     1,794.62

Harlech

     1,837.60

Porthmadog

     1,784.98

Llanaelhaearn

     1,807.27

Pwllheli

     1,812.71

Llanbedr

     1,811.64

Talsarnau

     1,815.85

Llanbedrog

     1,784.69

Trawsfynydd

     1,794.14

Llanberis

     1,805.13

Tudweiliog

     1,774.97

Llandwrog

     1,829.14

Tywyn

     1,812.73

Llandygai

     1,793.04

 

Waunfawr

     1,776.23

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.

 

4.  Nodi ar gyfer y flwyddyn 2024/25 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:

 

 

Band A

Band B

Band C

Band D

Band E

Band F

Band G

Band H

Band  I

 

233.10

271.95

310.80

349.65

427.35

505.05

582.75

699.30

815.85

 

5.  Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 gyfer y Dreth Cyngor yn y flwyddyn 2024/25 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.

 

Dogfennau ategol: