Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadu’r Cynllun Asedau 2024-2034 yn unol ag argymhelliad y Cabinet ar 11eg Mehefin 2024 ac i gynnwys:

  • Y symiau ariannol a argymhellir yn atodiad 1 o’r adroddiad
  • Dadymrwymo'r symiau ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol
  • Y Cabinet i flaenoriaethu a phenderfynu ar ddyraniad cyllidol a) cynnal a chadw rhaglenedig a’r adeiladau b) y wedd nesaf o brosiectau i foderneiddio ysgolion, petai adnodd cyfalaf ychwanegol yn cael ei adnabod yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, cymerodd Arweinydd y Cyngor y cyfle i longyfarch yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ar fuddugoliaeth sylweddol yn yr etholiad cyffredinol; ar lwyddiant gwych Llinos Medi ar ei phenodiad yn Aelod Seneddol Môn, ac i Catrin Wager (cyn aelod Cabinet) ar ei pherfformiad gwych yn etholaeth Aberconwy.

 

          Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Asedau 2024-34 yn unol ag argymhelliad y Cabinet, 11 Mehefin 2024. Eglurwyd bod y Cyngor yn derbyn grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol i’w ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau rheoli asedau, megis adeiladau, ffyrdd, cerbydau, technoleg gwybodaeth ac offer sydd yn hanfodol ar gyfer darparu’r gwasanaethau gorau posib i bobl Gwynedd. Yr adroddiad felly yn rhagrybudd o’r sefyllfa ariannol - yn amlygu bwlch sylweddol yn yr hyn sydd ei angen ar hyn sydd ar gael i’w wario gyda’r adnoddau sydd ar gael at ddibenion cyfalaf yn annigonol ac yn debyg iawn i sefyllfa refeniw'r Cyngor (trafodaethau ar gyllideb refeniw eisoes wedi dechrau ymysg y Penaethiaid ac aelodau’r Cabinet i ystyried sut i weithredu o fewn cyllideb). Er hynny, llwyddwyd i gyfarch rhai pethau elfennol a chlustnodi arian ar gyfer prosiectau sydd wedi eu blaenoriaethu. Diolchwyd i’r Prif Weithredwr a’i dîm am arwain ar y gwaith a chynnal proses oedd yn cynnwys ymgynghori gydag Aelodau.

 

          Cyhoeddwyd bod cadarnhad gan Llywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer prosiect Penrhos -  yn newyddion i’w groesawu sy’n galluogi’r bwrw ymlaen gyda chynllun gwych sydd yn ymateb i wir anghenion pobl sydd angen gofal yn ardal Pwllheli.

 

Cyfeiriwyd at rai o’r cynlluniau sydd wedi eu hadnabod ynghyd a rhai cynlluniau sydd heb adnodd ar hyn o bryd, ond y byddai’r sefyllfa yn cael ei adolygu’n barhaus.

 

Ategodd y Prif Weithredwr, er diffyg cyfalaf, nad oedd diffyg ymdrech i ddarparu gwasanaethau er bod y gofynion yn uchel a’r adnodd yn isel. Amlygodd y byddai’r grant cyfalaf craidd yn parhau ar yr un lefel - £6.6miliwn y flwyddyn, ac na fydd modd cyflawni cymaint gyda’r adnodd craidd o ystyried lefelau chwyddiant dros y 5 mlynedd diwethaf y mae gwerth £6.6miliwn yn 2009 gyfwerth â £4.3miliwn heddiw, sy’n lleihad o 34%.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn:-

 

          Mewn ymateb i sylw am yr angen i edrych i mewn i ffigyrau poblogaeth Gwynedd (cyhoeddiad  y cyfrifiad diwethaf) o ystyried bod y swm sydd yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru yn cael ei gyfrifo yn ôl cyfanswm poblogaeth y Sir, nododd yr Arweinydd ei fod yn pryderu am y ffigwr poblogaeth a bod angen edrych ar gael ystadegau mwy cadarn i’r dyfodol.

 

          Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag uwchraddio pibellau dwr i stadau tai a pham mai cyfrifoldeb y Cyngor oedd hyn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr, oherwydd newid mewn cyfrifoldebau, nid y Cyngor fydd yn cynnal a chadw'r pibellau o hyn ymlaen, ac felly ni fydd gwariant pellach gan y Cyngor yn y maes yma a’r arian felly yn cael ei ryddhau ar gyfer gwasanaethau eraill.

 

          Amlygwyd balchder o’r cadarnhad am fuddsoddiad Penrhos – bydd yn gwneud gwahnaiaeth mawr i ardal Pwllheli lle mae gwir angen am y gwasaneth.

 

          Er yr heriau ariannol, bod y buddsoddiadau yn cyfrannu at gynllunaiu cyffrous ar draws y Sir

 

          Gobaith y bydd trafodaethau gyda’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ynglŷn â chreu Hwb Iechyd i ddinas Bangor yn dwyn ffrwyth.

 

          PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu’r Cynllun Asedau 2024-2034 yn unol ag argymhelliad y Cabinet ar 11eg Mehefin 2024 ac i gynnwys:

·         Y symiau ariannol a argymhellir yn atodiad 1 o’r adroddiad

·         Dadrwymo’r symiau ariannol sydd yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol

·         Y Cabinet i flaenoriaethu a phenderfynu ar ddyraniad cyllidol a) cynnal a chadw rhaglenedig a’r adeiladau b) y wedd nesaf o brosiectau i foderneiddio ysgolion, petai adnodd cyfalaf ychwanegol yn cael ei adnabod yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: