Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Penderfyniad:

Mabwysiadu Opsiwn 1 – sef cadw at y trefniadau pwyllgorau craffu cyfredol gan gymeradwyo’r camau gweithredu i wella effeithlonrwydd sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Opsiwn 1 yn dilyn adolygu trefniadau Craffu. Adroddodd ei fod yn cyflwyno’r adroddiad ar ran y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd wedi cymeradwyo’r opsiwn yma yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, yn ddarostyngedig bod gwaith yn cael ei wneud i wella effeithlonrwydd a gweithrediadau’r Pwyllgorau Craffu.

 

          Diolchwyd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniad yn y gweithdai gafodd eu cynnal flwyddyn dwytha a cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd yn crynhoi negeseuon a ddeilliodd o’r gweithdai cyn i’r Fforwm Craffu gyfarfod. Gwahoddwyd y Cynghorydd Paul Rowlinson, ar ran y Fforwm Craffu, i ymhelaethu ar ystyriaethau’r Fforwm Craffu.

 

          Adroddodd y Cynghorydd Paul Rowlinson nad oedd consensws clir yn y gweithdai na’r Fforwm Craffu gyda gwahanol aelodau yn ffafrio gwahanol opsiynau. Nododd hefyd bod mewnbwn Archwilio Cymru wedi bod yn bositif ar y cyfan; cyfeiriwyd at enghreifftiau ble roedd mewnbwn Craffu wedi gwella penderfyniadau’r Cabinet.

 

Mynegwyd nad oedd Archwilio Cymru yn awgrymu newid i’r strwythur presennol nac i lwyth gwaith y Pwyllgorau Craffu. Serch hyn, nodwyd bod rhai aelodai wedi cyfeirio at lwyth gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gan nodi ei fod yn ormod. Yn dilyn crynhoi’r sylwadau, gwnaethpwyd cynnig ar ran y Fforwm Craffu i fabwysiadu opsiwn 1.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Cyfeiriwyd at gam gweithredu diwethaf yn yr atodiad ble roedd sôn am adrodd yn ôl. Gofynnwyd a fydd hyn yn golygu bod adroddiad yn cael ei greu sy’n dangos i aelodau sut mae sylwadau Craffu sy’n ymwneud a newidiadau geiriol i adroddiadau wedi cael ystyriaeth a’u derbyn neu’u gwrthod. Dymuna’r aelod weld proses o adrodd ar hyn yn bodoli fel bod aelodau yn cael gwybod os gafodd eu sylwadau eu derbyn neu beidio.

·         Mewn ymateb nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth y bydd adroddiad blynyddol yn cael ei ddarparu ar yr argymhellion.

 

Nododd un aelod ei fod wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ers 12 mlynedd ac o’r 13 o eitemau yr oedd wedi ei roi ger bron, credodd na chafodd yr un eitem ddatrysiad. Cwestiynodd os oes wir angen y Pwyllgorau Craffu o gwbl am mai Craffu gwaith aelodau’r Cabinet sy’n digwydd a chredwyd nad oedd pwrpas i hynny gan mai aelodau Plaid Cymru sydd â’r mwyafrif seddau ar y Pwyllgorau Craffu.

·         Mewn ymateb nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson nad yw aelodau yn gweithredu fel plaid neu grŵp gwleidyddol penodol wrth graffu. Nododd ei fod yn ofyn statudol ar bob Cyngor i gael cyfundrefn Craffu ac mai pwrpas Craffu yw ceisio gwella penderfyniadau'r weithrediaeth. Credodd bod nifer o enghreifftiau ble mae penderfyniad y Pwyllgor Craffu wedi cael effaith gadarnhaol ar benderfyniad y Cabinet. Ychwanegodd ei bod hi’n anghyfreithlon gweithredu ar sail plaid.

 

Gwnaethpwyd sylw gan aelod a chyn-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal o bedair blynedd; dymunodd dalu teyrnged bod Craffu yn gweithio. Adroddodd ei fod wedi gweithio’n agos iawn efo aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol fel is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal a bod y berthynas waith hon yn un llwyddiannus. Dymunodd gymryd y cyfle i ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu gwaith gan fynegi awydd i barhau efo’r drefn Craffu bresennol. Credai fod y drefn yn gweithio a chyfeiriodd at berthynas gadarnhaol efo’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, oedd yn gefnogol o waith y Pwyllgor Craffu Gofal a’r Pwyllgor yn gefnogol ohonynt. Credodd bod llawer o bethau da yn cael eu gwneud o ganlyniad i’r Pwyllgor Craffu Gofal a’i fod yn enghraifft o gyd-weithio traws bleidiol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Opsiwn 1 – sef cadw at y trefniadau pwyllgorau craffu cyfredol gan gymeradwyo’r camau gweithredu i wella effeithlonrwydd sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: