Craffu’r wybodaeth
cyn i’r Cabinet ystyried cymeradwyo’r Cynllun Arbedion yn ei gyfarfod ar
Chwefror y 20fed
Penderfyniad:
·
Bod camau rhesymol, o dan amgylchiadau
heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion
·
Bod yr arbedion a gynigwyd yn rhesymol
a chyraeddadwy
·
Bod y risgiau a’r goblygiadau’r
penderfyniad yn glir
·
Bod yr adroddiad yn ddigonol i
alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion
·
Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr
adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo’r Cynllun Arbedion
2024/25 yn eu cyfarfod 20/2/24
Nodyn:
Bod
cynllun cyfathrebu clir mewn lle
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Arweinydd y Cyngor, yn gofyn i’r Pwyllgor
ystyried priodoldeb y broses o adnabod yr arbedion, a chyflwyno sylwadau i’r
Cabinet eu hystyried cyn dod i benderfyniad yn eu cyfarfod 20-02-24. Adroddwyd
nad rôl y Pwyllgor oedd mynegi barn ar beth ddylai maint yr arbedion fod neu
rinweddau’r cynigion unigol sy’n cael ei hargymell fel arbedion, ond yn hytrach
sicrhau fod y Cabinet yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt,
fel bod y penderfyniad sydd yn cael ei gymryd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.
Wrth gyflwyno cefndir i’r gwaith, nodwyd bod y
Cyngor wedi bod yn cyflawni arbedion yn ddiffael ers
15mlynedd bellach a’r her o gyflawni’r arbedion hynny heb niweidio gwasanaethau
trigolion y Sir yn anoddach. Eglurwyd bod y Cyngor bellach yn ymwybodol o lefel
Grant Cynnal Refeniw (GCR) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 (cynnydd o
2%), ac y bydd yn sylweddol is na lefel chwyddiant a chryn bellter islaw’r hyn
fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol.
Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor hefyd yn
wynebu sefyllfa lle mae adrannau yn gorwario, a hynny yn bennaf oherwydd
cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau; yn amhosib erbyn hyn i rai
gwasanaethau megis digartrefedd, gofal plant, gofal oedolion a chludiant
ysgolion weithredu o fewn eu cyllideb presennol. Bydd hyn yn arwain at orwariant
eleni o oddeutu £8m a gan nad oedd cyfle i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y
bwlch, bydd rhaid defnyddio arian wrth gefn i ymdopi â’r sefyllfa. Canlyniad
darparu cyllideb uwch ar gyfer yr adrannau sydd methu ymdopi â’u cyllideb
presennol, cyfanswm Grant Cynnal Refeniw isel gan y Llywodraeth, yw bwlch
ariannol eleni o £14.9m.
I ganfod arbedion, cyflwynwyd 135 o gynigion gan
Adrannau’r Cyngor. Aseswyd pob cynnig gan y Prif Weithredwr neu gan un o'r
Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac fe’u gosodwyd mewn pedwar
categori i gynorthwyo’r Aelodau flaenoriaethu cynlluniau arbedion 2024/25 gydag
ymwybyddiaeth o beth fyddai’r lefel risg o weithredu unrhyw gynnig unigol.
Yn
ystod gweithdai a gynhaliwyd gyda’r Aelodau, gosodwyd yr holl gynigion mewn categoriau er mwyn eu blaenoriaethu o’r rhai mwyaf
‘derbyniol’ hyd at y cynigion lleiaf ‘derbyniol’. Adroddwyd bod
consensws bras ymysg yr holl aelodau a gymerodd ran yn y gweithdai (oedd yn
cynnwys Aelodau Cabinet, Cadeiryddion Craffu ac Arweinyddion Grŵp
) bod posib gweithredu oddeutu £5.2m o’r cynigion dros y ddwy neu dair
blynedd nesaf.
Cyfeiriwyd at ddau ran i’r broses gyda rhan A yn cynnwys cynlluniau y
gellid symud ymlaen i’w gweithredu yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet tra bod
rhan B yn adlewyrchu cynlluniau sydd yn ddarostynedig
i gamau statudol neu benderfyniadau pellach cyn y gellid eu cadarnhau. Ategwyd
bod asesiad cyfreithiol, cydraddoldeb, effeithlonrwydd ac asesiad ariannol
lefel uchel angen eu cwblhau ar bob cynllun unigol i sicrhau bod modd eu
cyflawni ac er mwyn cynllunio’n ddarbodus bydd rhagdybiaeth risg rhesymol yn
cael ei gynnwys yn y Cynllun Arbedion. Argymhellwyd £0.52m (10%) o’r cyfanswm o £5.2m y bydd
angen ei ganfod fel swm i’w ddynodi “dan risg”.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn, gan dderbyn bod asesiad
risg wedi ei wneud i’r cynllun arbedion yn ei gyfanrwydd, ac os felly a oedd
asesiad risg wedi ei wneud ar gyfer cynlluniau unigol, nododd y Prif Weithredwr
bod asesiad cydraddoldeb wedi ei gwblhau, ond yn dilyn penderfyniad y Cabinet
(20-02-24) bydd asesiad penodol i bob cynllun yn cael ei weithredu. Ategodd y
posibilrwydd na fydd modd cyfarch yr arbedion yn dilyn asesiad llawn ac felly
bydd angen ystyried y ddarpariaeth gyfwng.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Yn derbyn bod y broses wedi bod yn un heriol
·
Bod proses manwl, trylwyr a phriodol wedi ei chwblhau
·
Bod y sesiynau briffio wedi bod yn fuddiol
·
Bod angen i’r aelodau, wrth flaenoriaethu
cynigion i’r dyfodol, gael gwybodaeth ynglŷn â chostau pob cynllun yn
erbyn codi treth Cyngor
·
Cynigion 'lleihau gweithgareddau celf
cymunedol’ a ‘lleihau gweithgareddau
hwyl haf plant’ - cyfleoedd yma i leihau costau drwy gydweithio gyda
Phartneriaid / noddwyr lleol
Mewn ymateb i sylw bod angen sicrhau cynllun cyfathrebu clir mewn lle
fel bod trigolion y Sir a staff y Cyngor yn ymwybodol o’r newidiadau a bod
‘pawb yn mynd i’r un cyfeiriad’, nododd y Prif Weithredwr, bod nifer o
drafodaethau wedi eu cynnal gyda staff a chyfarfodydd rhwydwaith rheolwyr yn
cael eu cynnal bob chwarter. Ategodd bod gofal wedi ei gymryd cyn cyhoeddi
cynlluniau terfynol i osgoi codi ofn ar drigolion a staff, ond erbyn hyn y
cynlluniau yn gyhoeddus ar wybodaeth yn onest, dryloyw a theg. Nododd hefyd bod
cyfathrebu wedi ei wneud drwy’r wasg, y cyfryngau cymdeithasol a staff ar lein
gyda chyfle i rannu a derbyn adborth. Ategodd bod yr ymgyrch o gyfathrebu yn un
barhaus, ac wrth symud i wireddu arbedion bydd sgyrsiau anodd i ddod.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r rhesymeg bod y ganran risg yn 10% lle
yn y gorffennol gwelwyd canran risg o 20%, nododd y Pennaeth Cyllid petai’r
cynnydd yn y ddarpariaeth yn uwch byddai’r bwlch yn fwy felly angen sicrhau
balans. Ategodd bod gwaith yn cael ei wneud i herio’r cynlluniau i sicrhau eu
bod yn realistig ac o ganlyniad y ddarpariaeth yn lleihau; 20% fyddai’r ganran
ddelfrydol, ond bod 10% yn ddigon eleni.
Mewn ymateb i sylw os yw’r cynnydd yn y galw cynyddol ar wasanaethau
wedi ei gyfiawnhau / asesu ac os byddai modd cyflawni arbedion o’r asesiadau
hyn, nododd y Prif Weithredwr bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gyflwyno
gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol, ond os yw’r sefyllfa yn parhau, yna bydd
rhaid derbyn y sefyllfa. Ategodd bod pob cynllun yn cael ei herio fel bod arian cyhoeddus yn
cael ei ddefnyddio yn briodol. Nododd, e.e., bod cynnydd annisgwyl yng
ngwasanaethau plant lle mae rhaid ymateb i’r galw a gyda gwasanaethau’r henoed
a’r digartref, nid oes elfen o ddewis peidio cyflwyno gwasanaethau iddynt. Er
bod gwaith yn cael ei wneud i asesu sefyllfaoedd, nid yw peidio gofalu yn
opsiwn – rhaid edrych felly at wasanaethau eraill i geisio arbedion.
Diolchodd Arweinydd y Cyngor i’r Pwyllgor am eu sylwadau ac am y
pwyntiau i’w hystyried ar gyfer 2025/26. Ategodd bod rhaid cyfathrebu yn glir
gyda’r cyhoedd, a gyda phob Awdurdod ar draws Gogledd Cymru mewn sefyllfa
debyg, nododd bod bwriad cyhoeddi datganiad ar y cyd yn cyfleu’r sefyllfa.
Nododd, i’r dyfodol, y bydd trefniadau Awdurdodau Lleol yn newid yn sylweddol
gyda chynnydd mewn dibyniaeth ar wirfoddolwyr a’r trydydd sector.
PENDERFYNWYD:
·
Bod camau rhesymol, o dan amgylchiadau
heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion
·
Bod yr arbedion a gynigwyd
yn rhesymol a chyraeddadwy
·
Bod y risgiau a’r goblygiadau’r
penderfyniad yn glir
·
Bod yr adroddiad yn ddigonol i
alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion
·
Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr
adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo’r Cynllun Arbedion
2024/25 yn eu cyfarfod 20/2/24
Nodyn:
Bod cynllun cyfathrebu clir mewn
lle
Dogfennau ategol: