I ystyried yr adroddiad
Penderfyniad:
Nodyn:
·
Ymateb
i Argymhelliad 5 ‘Amser am newid - Tlodi
yng Nghymru’ - Darparu rhif ar gyfer y nifer y mae’r Cyngor wedi ymgysylltu â
hwy
·
Addasu
fformat yr adroddiad i’r dyfodol fel bod cynnwys yr argymhellion yn gyson
Cofnod:
Cyflwynywd adroddiad
gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Atgoffwyd yr Aelodau bod ganddynt gyfrifoldeb
i ystyried adroddiadau allanol (cenedlaethol a lleol i Wynedd), yr
argymhellion a gynhwysir ynddynt, goblygiadau llywodraethiant,
rheoli risg neu reolaeth a sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o’r
archwiliadau yn cael eu gweithredu.
Amlygodd
Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor bod ffurflen ymateb yn cael ei
chwblhau gan y rheolwyr fel trefn i’r broses ymateb erbyn hyn, gyda’r cynnydd
yn cael ei fesur yn erbyn yr argymhellion gwella. Nododd bod y gwaith o ymateb
i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp
Llywodraethu sydd yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhoi
sylw i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd yn yr argymhellion. Ategwyd na fydd y
cynigion hynny sydd yn derbyn casgliad yn nodi ‘wedi ei gwblhau – gwaith
parhaus’ a ‘wedi ei gwblhau – argymhellion wedi eu gwireddu’yn
derbyn sylw pellach gan y Pwyllgor; Bydd diweddaraid
i’r rhai hynny sy’n derbyn casgliad ‘gwaith paratoadol’ ac ‘ar waith’ yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 6 mis a bydd gwaith yn cael ei wneud i’r dyfodol
i addasu fformat yr adroddiad fel bod cynnwys yr argymhellion yn gyson
Diolchwyd
am yr adroddiad. Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha fath o
archwilio cefndir sydd yn cael ei gwblhau ynghyd ag os yw’r Archwilwyr yn
fodlon bod camau digonol wedi eu cymryd i gyfarch yr argymhellion, nodwyd mai
disgwyliad Cyngor Gwynedd yw i’r wybodaeth yma gael ei gynnwys ar y ffurflen
ymateb ac y bydd diweddariad pob chwe mis yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hyd
nes bydd yr argymhellion wedi eu cyfarch yn llawn. Ategwyd bod disgwyli’r
cynnydd hefyd gael ei drafod yn fewnol mewn cyfarfodydd herio a chefnogi
perfformiad.
Ategodd Swyddog Archwilio Cymru nad oedd
argymhellion yn cael eu olrhain, ond bod nifer o’r materion sydd yn codi yn
dueddol o godi mewn agweddau o waith gwahanol sydd felly’n creu darlun o ymateb.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Aelod bod angen
rhyw lefel o wrthrychedd a sicrwydd fyddai’n ychwanegu gwerth wrth hunanasesu.
Gofynnwyd os byddai Archwilio Mewnol yn gallu cwblhau'r gwaith yma? Mewn ymateb i’r cwestiwn, nododd y Pennaeth Cyllid, o safbwynt gwaith
Archwilio Mewnol, byddai’n ddibynnol ar y math o argymhelliad sy’n cael ei
argymell ac os yw’n haeddu sylw. Ategodd nad oedd hyn yn dod o dan drefniadau
Archwilio Mewnol ond y byddai modd ei gynnwys fel rhan o gynllun Archwilio
Mewnol. Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod y cyfarfodydd herio a chefnogi
perfformiad yn heriol ac yn unol â sylw'r Archwilwyr, os nad oes rhywbeth wedi
derbyn sylw digonol, trwy gyfuniad, byddai pethau yn dod i’r amlwg.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth oedd y
nifer a ymgysylltwyd â hwy (‘Amser yn Newid - Tlodi yng Nghymru’ - ymateb i
argymhelliad 5 sy’n nodi, ‘dros y 18mis diwethaf rydym wedi ymgysylltu gyda nifer
fawr o bobl sydd mewn tlodi ...’), nododd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y
Cyngor y byddai yn canfod y wybodaeth ac yn darparu rhif ar gyfer y nifer y
mae’r Cyngor wedi ymgysylltu â hwy.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn a nodi bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y
cynigion gwella yn cael eu gweithredu
Nodyn:
·
Ymateb i Argymhelliad 5 ‘Amser am
newid - Tlodi yng Nghymru’ - Darparu rhif ar gyfer y nifer y mae’r Cyngor wedi
ymgysylltu â hwy
·
Addasu fformat yr adroddiad i’r dyfodol fel bod cynnwys yr argymhellion
yn gyson
Dogfennau ategol: