Agenda item

 

·         I ddarparu sylwadau ar gynnwys adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd;

·         I ystyried unrhyw drefniadau i graffu ar drefniadau’r Adran i ymateb i argymhellion yr adroddiad yn amserol.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn cynnwys adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd
  • Derbyn a nodi'r trefniadau i graffu ar drefniadau’r Adran Addysg i ymateb i argymhellion yr adroddiad yn amserol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg oedd yn cynnwys adroddiad Estyn o wasanaethau addysg Cyngor Gwynedd (Mehefin 2023) er sylw’r Pwyllgor. Yn unol â chyfrifoldebau’r Pwyllgor o adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol y Cyngor, mae disgwyliad i ystyried adroddiadau Estyn. Amlygodd bod Archwilio Cymru wedi cyfrannu at ganlyniad yr arolwg a bod yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Tachwedd 2023.

 

Cyfeiriwyd at y prif bwyntiau a amlygwyd gan Estyn ynghyd ar argymhellion fyddai’n gwella’r gwasanaeth. Cyfeiriwyd hefyd at y cynllun gweithredu sydd wedi ei ddarparu gan yr Adran Addysg mewn ymateb i’r argymhellion hynny (nid yw’r cynllun gweithredu wedi ei gyflwyno i Estyn oherwydd mai argymhellion yn ymwneud a materion lleol sydd yma ac nid materion statudol).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Bod yr adroddiad yn un positif iawn

·         Croesawu bod trafodaeth lawn wedi bod ar yr adroddiad a’r cynllun gweithredu yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gydag argymhelliad i’w alw yn ôl am ddiweddariad pellach ymhen 9 mis

·         Bod rôl bendant gan y Gwasanaeth Ieuenctid i chwarae rhan mewn cyfleoedd i bobl ifanc

·         Presenoldeb disgyblion – bod y patrwm yn amrywio o ysgol i ysgol

·         Croesawu camau i sicrhau mwy o gysylltiad rhwng craffu a blaenoriaethau gwella Cynllun y Cyngor

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adrodd ar gynnydd y cynllun gweithredu, nodwyd y bydd diweddariad o’r cynnydd /diffyg cynnydd a  wnaed ar yr argymhellion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Medi 2024.

 

Mewn ymateb i gwestiwn mai dim ond rhai o sylwadau Estyn sydd wedi arwain at argymhelliad, nodwyd bod tri mater yn sefyll allan ac wedi eu mabwysiadu fel rhan o flaenoriaethau’r Adran eleni. Ategodd bod y tri argymhelliad yn arwyddocaol tra bod erial yn rhan o waith bob dydd e.e., ymateb i ysgolion sydd yn tanberfformio. Derbyniodd, fel rhan o’r broses adolygu, bod angen sicrhau mwy o wybodaeth tu ôl i’r sylwadau llai arwyddocaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gostyngiad sylweddol mewn presenoldeb disgyblion ers covid 19 a pham bod Gwynedd gyda lefel uwch nag Awdurdodau eraill yng Nghymru, nodwyd nad oedd Gwynedd yn is na Chymru erbyn hyn (Gwynedd y cyntaf o’r Awdurdodau i gael eu harolygu ar fater presenoldeb ôl-covid ac felly amseriad yr arolwg yn awgrymu perfformiad Gwynedd yn is), ond yn derbyn bod presenoldeb yn destun pryder ac yn her genedlaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â data 2021 - cyllid ysgolion arbennig, bod Gwynedd o fewn y chwartel isaf yng Nghymru a’r effaith posib y gall hyn gael ar ysgolion ac addysg arbennig yng Ngwynedd, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i gyfarch y mater. Ategwyd mai anodd yw gwneud cymariaethau cenedlaethol gan fod natur plant a dwyster yr anghenion yn arwain at osod cyllideb i ysgolion arbennig i gyfarch yr anghenion hynny. Ategodd mai anodd yw dadansoddi effaith er bod cynnydd diweddar wedi ei weld yn y gyllideb; Amlygodd y bydd y mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Fforwm Cyllideb Ysgolion.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â ehangu gwybodaeth am brosiectau Addysg o fewn Cynllun y Cyngor ac os oedd bwriad dod a mwy o waith prosiectau Addysg o flaen y Pwyllgor Craffu, nodwyd bod trefniadau cyflwyno mwy o faterion addysg i’r Pwyllgorau Craffu yn weithredol ers mis Medi 2023

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn cynnwys adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd

·         Derbyn a nodi'r trefniadau i graffu ar drefniadau’r Adran Addysg i ymateb i argymhellion yr adroddiad yn amserol

 

Dogfennau ategol: