Agenda item

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2024/25 i’r Cyngor llawn

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·         Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2023/24 yn eu cyfarfod 20/2/24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 2.0% (cyfartaledd Cymru yn 3.1%) ar gyfer 2024/25, sy’n cyfateb i werth £4.1m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2024/25 gyda’r angen i gynyddu gwariant o £22.4m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau.  Yn ogystal â chyfarch y galw ar wasanaethau a graddfa chwyddiant uchel bydd rhaid ystyried cyfuniad o gynnydd Treth Cyngor a rhaglen newydd o arbedion a thoriadau. Gydag argymhelliad o gynnydd o 9.54% yn y Dreth Cyngor bydd angen £2m ychwanegol o arbedion i osod cyllideb gytbwys gyda rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.

 

Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i  gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.

 

Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 20/02/24) yn argymell i’r Cyngor Llawn (07/03/24) i sefydlu cyllideb o £330,590,040 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110 a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sydd yn gynnydd o 9.54% ar dreth anheddau unigol)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;

 

·         Chwyddiant Cyflogau o £15.1m – y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2024/25 o 5% ar gyfer yr holl weithlu o Ebrill 2024 ac athrawon o Fedi 2024

·         Cyfraniad cyflogwr tuag at Pensiwn Athrawon – cost o £2.36m - y gyllideb wedi ei gosod ar sail y bydd y gost yn cael ei ariannu yn llawn gan y Llywodraeth

·         Chwyddiant Arall o £6.8m - swm sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau yn ddibynnol ar raddfa chwyddiant meysydd penodol (Cartrefi Gofal Preswyl Annibynnol, Gofal Dibreswyl, Ynni, Tanwydd, Cynnydd prisiau eraill).

·         Ardollau i gyrff perthnasol yn cynyddu £342k

·         Darpariaeth Chwyddiant Trydan o £3m

·         Demograffi - lleihad net mewn nifer disgyblion a chynnydd mewn plant yn derbyn gofal

·         Pwysau ar Wasanaethau - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £5.1m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Cyfeiriwyd at ystyriaethau eraill lle nodwyd effaith cynnydd mewn derbyniadau llog mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau â llif arian y Cyngor ynghyd a rhyddhau darpariaeth (£1.4m) oedd mewn lle ar gyfer gwariant yn deillio o argyfwng Covid a chynnydd cost o £758k oherwydd cyllidebu am leihad grant Gweithlu Gofal a dderbynnir gan y llywodraeth.

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £39.1m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. Cyfeiriwyd at gynlluniau arbedion cynlluniedig ​presennol 2024/25 fesul adran​ sydd eisoes wedi eu cymeradwyo (£3,113,400) i leihau’r bwlch ariannu ynghyd a chynlluniau arbedion newydd o £4.78m fydd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet 20-02-24. Awgrymwyd oedi ar benderfyniad arbedion/toriadau pellach gwerth £2m a phontio’r diffyg drwy ddefnyddio cronfeydd eraill. Cyfeiriwyd at y Bidiau Refeniw Parhaol (cyfanswm £5,052,820) gan rai adrannau oedd yn cyfarch pwysau ychwanegol ar eu gwasanaethau.

 

Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor. Cydnabuwyd bod dewis rhwng cynnal gwasanaethau a chynnig lefel rhesymol o drethiant yn un anodd. Bydd y Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn i godi’r dreth 9.54% er mwyn diwallu’r pwysau ar wasanaethau wrth osod cyllideb gytbwys ar lefel tebyg i fwyafrif o awdurdodau eraill Gogledd Cymru.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith gofynnol a wnaed i adrodd ar gadernid yr amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb ac wedi amlygu’r risgiau a'r camau lliniaru roedd y  Pennaeth Cyllid o’r farn fod y gyllideb y ar gyfer 2024/25 yn un gadarn, digonol a chyraeddadwy.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·         Bod rheolaeth trysorlys mewn dwylo da

·         Bod yr amcanion wedi cael eu hystyried mewn modd realistig

·         Bod ystyriaeth briodol wedi cael ei roi i’r drefn bidiau

·         Bod Gwynedd yn cymharu yn dda ia wn gyda chynghorau eraill

·         Yn fodlon gyda threfniadau’r Cyngor wrth osod cyllideb

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bid refeniw parhaol am welliannau i system ffôn y Cyngor​ (£239k) ac os oedd hwn yn fid unwaith ac am byth, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod hwn yn fid unwaith ac am byth ac yn rhan o’r Cynllun Digidol, gyda’r swm yn cynnwys costau technegol, staffio a thrwyddedu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chwyddiant Ynni (Trydan a Nwy - £1.6m) ac os oedd hyn oherwydd ymrwymiad cytundeb, nododd y Pennaeth Cyllid, er bod y cytundeb yn dod i ben, bod rhaid adrodd ar y cynnydd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â risg cyflawni’r arbedion, nodwyd bod rhaid sicrhau cynlluniau realistig ac felly bod yr elfen o risg yn bodoli, ac er yn anymwybodol o unrhyw elfen o syndod, bod rhaid gosod symiau ariannol i osod y gyllideb. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â phryder yn yr oediad i arbed £2m eleni ac y byddai hwn yn batrwm fydd yn parhau mewn blynyddoedd i ddod, nodwyd bod meysydd o danwario ymysg penawdau corfforaethol fydd yn cael eu trosglwyddo i’r Gronfa Strategol; gyda £7m yn cael ei drosglwyddo eleni, bydd arian ar gael i lenwi’r bwlch.

 

Awgrymwyd bod rhai o’r amcanion yn gyrhaeddol, ac er yn ddibynnol ar anghenion a natur pobl, bod yr arbediad o fewn y cynlluniau yn gyrhaeddol, er bod rhai o’r amcanion yn statudol. Rhaid felly sicrhau bod cynlluniau manwl ar gyfer y cynigion.

 

Mewn ymateb i sylw bod rhai Awdurdodau yn defnyddio arian premiwm  ail gartrefi ar gyfer gwasanaethau statudol (ac nid gwasanaethau tai yn unig fel mae Gwynedd wedi ei benderfynu) ac i gadw’r dreth cyngor i lawr, ac os oedd hyn wedi cael ei ystyried wrth osod cyllideb 2024/25, nododd y Pennaeth Cyllid bod y premiwm yn effeithio lefel sylfaen drethiannol ac felly nid oedd yn credu ei fod yn briodol gosod lefel y Premiwm ar yr un adeg â gosod y gyllideb.  Er mwyn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol roedd y swyddog o’r farn fod rhaid gosod Premiwm ar gyfer y flwyddyn ddilynol cyn diwedd mis Rhagfyr. Ategodd bod Gwynedd wedi ymrwymo i gynllun tymor hir o ddefnyddio’r premiwm tai i gyllido cronfa weithredol y Cynllun Tai a materion digartrefedd; byddai unrhyw newid yn creu effaith ar y cynlluniau hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·         Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2023/24 yn eu cyfarfod 20/2/24

 

Dogfennau ategol: