Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2024/25
i’r Cyngor llawn
Penderfyniad:
·
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
·
Derbyn
priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
·
Cyflwyno
sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a
chymeradwyo Cyllideb 2023/24 yn eu cyfarfod 20/2/24
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor
wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 2.0% (cyfartaledd Cymru yn 3.1%) ar
gyfer 2024/25, sy’n cyfateb i werth £4.1m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y
byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r
Cyngor yn 2024/25 gyda’r angen i gynyddu gwariant o £22.4m i gwrdd â phwysau ar
gyllidebau’r gwasanaethau. Yn ogystal â
chyfarch y galw ar wasanaethau a graddfa chwyddiant uchel bydd rhaid ystyried
cyfuniad o gynnydd Treth Cyngor a rhaglen newydd o arbedion a thoriadau. Gydag
argymhelliad o gynnydd o 9.54% yn y Dreth Cyngor bydd angen £2m ychwanegol o
arbedion i osod cyllideb gytbwys gyda rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach
wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.
Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y
Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.
Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol
i gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn
a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r
risgiau posib a’r camau lliniaru.
Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 20/02/24) yn argymell i’r Cyngor
Llawn (07/03/24) i sefydlu cyllideb o £330,590,040 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110 a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor
(sydd yn gynnydd o 9.54% ar dreth anheddau unigol) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn
2024/25.
Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb
ac amlygwyd y meysydd hynny;
·
Chwyddiant Cyflogau o £15.1m –
y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2024/25 o 5% ar gyfer
yr holl weithlu o Ebrill 2024 ac athrawon o Fedi 2024
·
Cyfraniad cyflogwr tuag at
Pensiwn Athrawon – cost o £2.36m - y gyllideb wedi ei gosod ar sail y bydd y
gost yn cael ei ariannu yn llawn gan y Llywodraeth
·
Chwyddiant Arall o £6.8m - swm
sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau yn ddibynnol ar
raddfa chwyddiant meysydd penodol (Cartrefi Gofal Preswyl Annibynnol, Gofal
Dibreswyl, Ynni, Tanwydd, Cynnydd prisiau eraill).
·
Ardollau i gyrff perthnasol yn
cynyddu £342k
·
Darpariaeth Chwyddiant Trydan
o £3m
·
Demograffi - lleihad net mewn nifer disgyblion a chynnydd
mewn plant yn derbyn gofal
·
Pwysau ar Wasanaethau -
argymell cymeradwyo bidiau gwerth £5.1m am adnoddau parhaol ychwanegol a
gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu
gwasanaethau. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd
wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w
cymeradwyo gan y Cabinet.
Cyfeiriwyd at ystyriaethau eraill lle nodwyd effaith cynnydd mewn
derbyniadau llog mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau
â llif arian y Cyngor ynghyd a rhyddhau darpariaeth (£1.4m) oedd mewn lle ar
gyfer gwariant yn deillio o argyfwng Covid a chynnydd
cost o £758k oherwydd cyllidebu am leihad grant Gweithlu Gofal a dderbynnir gan
y llywodraeth.
Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi
gwireddu dros £39.1m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. Cyfeiriwyd at
gynlluniau arbedion cynlluniedig presennol 2024/25 fesul adran
sydd eisoes wedi eu cymeradwyo (£3,113,400) i leihau’r bwlch ariannu ynghyd a
chynlluniau arbedion newydd o £4.78m fydd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet
20-02-24. Awgrymwyd oedi ar benderfyniad arbedion/toriadau pellach gwerth £2m a
phontio’r diffyg drwy ddefnyddio cronfeydd eraill. Cyfeiriwyd at y Bidiau
Refeniw Parhaol (cyfanswm £5,052,820) gan rai adrannau oedd yn cyfarch pwysau
ychwanegol ar eu gwasanaethau.
Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor.
Cydnabuwyd bod dewis rhwng cynnal gwasanaethau a chynnig lefel rhesymol o
drethiant yn un anodd. Bydd y Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn i godi’r
dreth 9.54% er mwyn diwallu’r pwysau ar wasanaethau wrth osod cyllideb gytbwys
ar lefel tebyg i fwyafrif o awdurdodau eraill Gogledd Cymru.
Cyfeiriwyd at y gwaith gofynnol a wnaed i adrodd ar gadernid yr
amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb ac wedi amlygu’r risgiau a'r camau
lliniaru roedd y Pennaeth Cyllid o’r
farn fod y gyllideb y ar gyfer 2024/25 yn un gadarn, digonol a chyraeddadwy.
Diolchwyd am y cyflwyniad.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol
·
Bod rheolaeth trysorlys mewn
dwylo da
·
Bod yr amcanion wedi cael eu
hystyried mewn modd realistig
·
Bod ystyriaeth briodol wedi
cael ei roi i’r drefn bidiau
·
Bod Gwynedd yn cymharu yn dda
ia wn gyda chynghorau eraill
·
Yn fodlon gyda threfniadau’r
Cyngor wrth osod cyllideb
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bid refeniw parhaol am welliannau i
system ffôn y Cyngor (£239k) ac os oedd hwn yn fid unwaith ac am byth,
cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod hwn yn fid unwaith ac am byth ac yn rhan o’r
Cynllun Digidol, gyda’r swm yn cynnwys costau technegol, staffio a thrwyddedu.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chwyddiant Ynni (Trydan a Nwy -
£1.6m) ac os oedd hyn oherwydd ymrwymiad cytundeb, nododd y Pennaeth Cyllid, er
bod y cytundeb yn dod i ben, bod rhaid adrodd ar y cynnydd.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â risg cyflawni’r arbedion, nodwyd bod
rhaid sicrhau cynlluniau realistig ac felly bod yr elfen o risg yn bodoli, ac
er yn anymwybodol o unrhyw elfen o syndod, bod rhaid gosod symiau ariannol i
osod y gyllideb. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â phryder yn yr
oediad i arbed £2m eleni ac y byddai hwn yn batrwm fydd yn parhau mewn
blynyddoedd i ddod, nodwyd bod meysydd o danwario ymysg penawdau corfforaethol
fydd yn cael eu trosglwyddo i’r Gronfa Strategol; gyda £7m yn cael ei drosglwyddo
eleni, bydd arian ar gael i lenwi’r bwlch.
Awgrymwyd bod rhai o’r amcanion yn gyrhaeddol,
ac er yn ddibynnol ar anghenion a natur pobl, bod yr arbediad o fewn y
cynlluniau yn gyrhaeddol, er bod rhai o’r amcanion yn
statudol. Rhaid felly sicrhau bod cynlluniau manwl ar gyfer y cynigion.
Mewn ymateb i sylw bod rhai Awdurdodau yn defnyddio arian premiwm ail gartrefi ar gyfer gwasanaethau statudol
(ac nid gwasanaethau tai yn unig fel mae Gwynedd wedi ei benderfynu) ac i
gadw’r dreth cyngor i lawr, ac os oedd hyn wedi cael ei ystyried wrth osod
cyllideb 2024/25, nododd y Pennaeth Cyllid bod y premiwm yn effeithio lefel
sylfaen drethiannol ac felly nid oedd yn credu ei fod yn briodol gosod lefel y
Premiwm ar yr un adeg â gosod y gyllideb.
Er mwyn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol roedd y swyddog o’r farn
fod rhaid gosod Premiwm ar gyfer y flwyddyn ddilynol cyn diwedd mis Rhagfyr.
Ategodd bod Gwynedd wedi ymrwymo i gynllun tymor hir o ddefnyddio’r premiwm tai
i gyllido cronfa weithredol y Cynllun Tai a materion digartrefedd; byddai
unrhyw newid yn creu effaith ar y cynlluniau hyn.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
·
Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
·
Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb
2023/24 yn eu cyfarfod 20/2/24
Dogfennau ategol: