Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig
fel a ganlyn:-
Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym
Mis Medi rybudd o gynnig yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu
rhoi 10% o dir ffermydd drosodd
i goedwigaeth fel rhan o’r
Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-
I alw ar Lywodraeth Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni effaith
cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir
ffermydd Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau
i ofynion statudol a pholisïau megis Parthau Perygl
Nitradau (NVZ).
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym
Mis Medi rybudd o gynnig yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu
rhoi 10% o dir ffermydd drosodd
i goedwigaeth fel rhan o’r
Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-
I alw ar Lywodraeth
Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni
effaith cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir ffermydd
Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau i ofynion statudol
a pholisïau megis Parthau Perygl Nitradau (NVZ).
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Bydd
difrod arwyddocaol yn cael ei wneud i’r diwydiant amaeth os bydd Llywodraeth
Cymru yn mabwysiadu'r SFS a’r NVZ.
·
Bod
costau cysylltiedig i ffermwyr Cymru pe baent yn colli 20% o’u tir rhwng rhoi
10% i fioamrywiaeth a 10% o’r tir i blannu coed; bydd hyn yn arwain at
ddiwydiant ffermio anghynaladwy a bydd llawer o ffermwyr yn gadael y diwydiant.
·
Bod
gwariant aruthrol i’r uned amaethyddol er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau
newydd sydd yn mynd i wasgu’r ffermydd bach allan o fusnes.
·
Bydd
y nitrogen fydd yn mynd ar y tir yn arwain at leihad yn y cnydau a golygai hyn
y bydd llai o gynnyrch. Ychwanegodd os na fydd digon o fwyd i’r cyhoedd bydd
prisiau yn codi.
·
Bod
angen sefyll i fyny efo’r ffermydd neu bydd dim pobl ar ôl yn byw yng nghefn
gwlad.
Gobeithiai’r
cynigydd dderbyn cefnogaeth yr holl aelodau i sicrhau ffyniant y diwydiant
amaethyddol a ffyniant yng nghefn gwlad.
Mynegwyd
cefnogaeth gref i’r cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-
·
Bod
dyletswydd foesol arnom yng Ngwynedd i gefnogi ffermwyr ein cymunedau, sydd yn
cynrychioli diwylliant, hanes ac iaith ein cymunedau. Adroddwyd y slogan Dim
ffermwyr, Dim bwyd, Dim dyfodol.
·
Bod
prisiau cyfredol defaid yn profi prinder a chredwyd y bydd prinder bwyd ac mai
nid tyfu coed fydd yr ateb.
·
Bod
amaeth yn bwysig iawn ym Mhen Llŷn. Gofynnwyd am gefnogaeth yr holl
aelodau gan bwysleisio bod angen rhoi stop ar gynlluniau’r Llywodraeth.
·
Bod
y broblem o blannu 10% o goed yn un enfawr ym Mhen Llŷn o gymharu â
Meirionnydd. Credwyd nad oedd digon o dargedu wedi ei wneud gan y Llywodraeth
ac yn hytrach eu bod wedi trin pob ardal yr un fath.
·
Bod
angen diolch i’r ddwy Undeb amaethyddol sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi’r
amaethwyr. Mynegwyd bod angen i’r Cyngor gefnogi a chryfhau eu cais.
·
Nodwyd
mai amaeth yw sylfaen cefn gwlad a’i fod yn graidd i’n diwylliant. Nodwyd heb
amaeth ni fyddai Ysgolion na phobl ifanc yng nghefn gwlad; credwyd ei bod yn
hollbwysig cefnogi’r cynnig.
·
Bod
yr hyn a gynigiwyd gan y Llywodraeth yn niweidiol
a diystyriol o iechyd meddyliol a lles
emosiynol y diwydiant, sydd mewn gwirionedd yn ddiwydiant o unigolion. Credwyd
ei fod yn fygythiad i fyd amaeth ac yn peryglu olyniaeth amaethyddol.
Cysidrwyd rhoi
gwelliant ar y cynnig ond yn dilyn trafodaeth rhwng yr aelod a’r Swyddog
Monitro penderfynwyd peidio â chynnig y gwelliant gan ei fod yn effeithio ar eglurder
y cynnig gwreiddiol ac nid oedd yn cyd-fynd a’r cynnig.
I gloi mynegodd y
cynigydd ei ddiolch am y gefnogaeth. Soniodd am waith ymchwil yr Undebau oedd
yn cefnogi’r amaethwyr oedd yn nodi y byddai mabwysiadu’r SFS a’r NVZ yn golygu
y byddai 5,500 o swyddi yn cael eu colli. Credai mai dim ond cwmnïau anferthol
fyddai yn elwa.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym
Mis Medi rybudd o gynnig yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu
rhoi 10% o dir ffermydd drosodd
i goedwigaeth fel rhan o’r
Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-
I alw ar Lywodraeth
Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni
effaith cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir ffermydd
Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau i ofynion statudol
a pholisïau megis Parthau Perygl Nitradau (NVZ).