Agenda item

Cais ar gyfer estyniad i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo pwerau i Bennaeth Adran yr Amgylchedd i gymeradwyo’r cais, o dan amodau yn ymwneud â’r canlynol:

1.         5 mlynedd

2.         Parhad y gwaith – 10 mlynedd ar gyfradd o 125,000 o dunelli y flwyddyn

3.         Yn unol â chynlluniau

4.         Cyfyngu hawliau GPDO ar gyfer adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau, ffensys etc.

5.         Copi o’r penderfyniad a’r cynlluniau a gymeradwywyd i’w ddangos yn swyddfa’r safle.

6.         Cyfyngu’r llwythi a symudir o’r safle i 125,000 o dunelli y flwyddyn ar gyfradd uchaf o bump ar hugain (25) o lwythi cerbydau nwyddau trwm y diwrnod.

7.         Wyneb y fynedfa o’r safle i’r briffordd sirol i gael ei gadw’n lân ac nid yw mwd/malurion i gael eu gollwng ar y briffordd.

8.         Rhaid peidio â dod â deunyddiau (sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff) i mewn i’r safle.

9.         Marcio ffin y safle a’r parthau cloddio mwynau.

10.       Oriau gweithio. Dim gweithrediadau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus heblaw am waith argyfwng, gwasanaethu a chynnal a chadw.

11.       Rhaid gosod llenni dros lwythi yr holl gerbydau llwythog neu eu trin i osgoi allyrru llwch.

12.       Cofnodi traffig.

13.       Dim prosesu ar y safle.

14.       Cyfyngiadau sŵn a chyfyngiadau sŵn mewn perthynas â gweithrediadau dros dro.

15.       Mesurau gostegu sŵn.

16.       Cadw ffensys acwstig a chadw byndiau.

17.       Llystyfiant, uwchbridd ac isbridd i’w storio mewn bwnd sgrinio acwstig.

18.       Monitro sŵn.

19.       Cyfyngiadau ansawdd aer a monitro ansawdd aer.

20.       Mesurau i leihau llwch a diweddaru’r cynllun ar gyfer monitro a rheoli llwch.

21.       Gosod ffens dros dro am ffin y man cloddio mwynau.

22.       Monitro dŵr daear.

23.       Cyflwyno cynllun ymchwilio ysgrifenedig manwl ar gyfer gwaith archeolegol.

24.       Cyflwyno adroddiad dadansoddol manwl am y gwaith archeolegol yn unol â’r cynllun ymchwilio ysgrifenedig.

25.       Cynllun adfer.

26.       Storio/rheoli priddoedd.

27.       Dim pridd i’w symud o’r safle a’r pridd i gael ei ddefnyddio wrth adfer y safle.

28.       Twmpathau storio pridd i’w cadw’n rhydd o chwyn.

29.       Cyflwyno cynllun adfer a chynllun ôl-ofal 5 mlynedd.

30.       Adfer yn unol â chynllun ôl-ofal a monitro 5 mlynedd.

31.       Rhwygo’r tir i osgoi cywasgu.

32.       Gwasgaru priddoedd yn y drefn gywir wrth adfer y safle.

33.       Cynnal dadansoddiad cemegol o briddoedd wrth adfer y safle.

34.       Dim da byw i gael eu cadw nes bydd y tir mewn cyflwr derbyniol.

35.       Adolygiad blynyddol o weithrediadau ac ôl-ofal.

36.       Cynllun adfer diwygiedig i’w gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol os rhoddir y gorau i gloddio am fwynau cyn pryd am gyfnod o 12 mis.

37.       Mesurau lliniaru ar gyfer moch daear, adar nythu, ymlusgiaid.

38.       Cyfyngiad ar dynnu llystyfiant yn ystod tymor nythu adar.

39.       Mesurau osgoi rhesymol i ddiogelu ymlusgiaid wrth ddymchwel waliau a therfynau caeau.

40.       Mesurau i atal llygredd.

41.       Casglu a gwaredu dŵr i gyfyngu ar yr hyn sy’n cael ei ryddhau i’r amgylchedd dŵr.

42.       Cydymffurfio â chynllun rheoli dŵr wyneb.

43.       Amod i alw’r safle wrth ei enw Cymraeg

 

Cofnod:

Cais ar gyfer estyniad i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd

 

Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau mai cais ydoedd ar gyfer ymestyn man cloddio pwll tywod a graean gweithredol Cae Efa Lwyd. Disgwyli’r i’r gwaith ryddhau 793,000 tunnell o dywod a graen yn ychwanegol i’r 298,000 tunnell sydd wedi ei rhyddhau eisoes. Nid yw’r cais yn ymgeisio ar gyfer caniatâd prosesu ar y safle - bydd y trefniant o gludo’r mwyn i Chwarel Graianog yn parhau.

 

Amlygwyd bod Datganiad Amgylcheddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais gan fod graddfa’r cais yn golygu ei fod yn destun Asesiad Effaith Amgylcheddol yn unol â’r rheoliadau.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod safle’r estyniad arfaethedig wedi ei adnabod fel ardal a ffafrir ar gyfer cyflenwi'r angen am dywod a graen o fewn polisi MWYN 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sef polisi sy’n hwyluso darpariaeth ychwanegol o fwyn, tywod a graen i gwrdd ar angen a nodwyd yn Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cymeradwywyd y Datganiad gan Cyngor Gwynedd. Bydd y bwriad yn darparu mwyn ychwanegol ac yn lleihau’r diffyg (o leiaf 2.6 miliwn tunnell o dywod a graen) yn y banc tir yn unol â gofyniad polisïau MWYN 2, MWYN 3 a Pholisi Strategol PS 22.

 

Wrth drafod mwynderau gweledol a thirwedd adroddwyd nad oedd y safle yn eistedd o fewn

unrhyw ddynodiadau tirwedd a’i fod wedi ei leoli o fewn ardal o dir amaethyddol caeedig i’r gorllewin o Penygroes. Cyflwynwyd Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol sy’n gwirio effaith y datblygiad ar asedau’r tirwedd o amgylch y safle. Ystyriwyd mai’r prif effeithiau fydd, gostyngiad graddol yn lefel y tir wrth gloddio’r mwyn, gweithgareddau symudol y chwarel, y bwnd sgrinio ar hyd terfyn y safle a lefel y llawr yn is na’r lefelau tir gwreiddiol yn dilyn y gwaith adfer – bydd yr effeithiau hyn yn fwy niweidiol / amlwg yn ystod y cyfnod gweithredol ac mewn ardaloedd sydd union gyferbyn a’r safle.

 

Codwyd pryderon gan Uned Polisi Pridd a Chynllunio Defnydd Tir Amaeth Llywodraeth Cymru am allu cynllun adfer y safle i ddarparu tir amaethyddol o’r safon gorau drwy’r safle i gyd oherwydd y topograffi a hydroddaeareg. Mewn ymateb, eglurwyd bod paragraff 3.59 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan dylid ond datblygu ar dir amaethyddol gorau os yw’r angen yn drech na dim arall ar gyfer y datblygiad - yr angen am y datblygiad yma i gwrdd â’r galw am fwyn wedi ei gefnogi gan bolisïau lleol a chenedlaethol. Ategwyd bod yr Uned Polisi Pridd a Chynllunio Defnydd Tir Amaeth wedi cynnig rhagor o amodau i sicrhau adfer ac ôl-ofal amaeth wedi i’r defnydd ddod i ben ac y bydd unrhyw effeithiau gweledol y bwriad yn rhai dros dro. 

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod canllaw polisi cenedlaethol MTAN 1 yn argymell pellter o 100m rhwng datblygiad gweithio tywod a graean a thai preswyl. Adnabuwyd fod y gwaith presennol ar y safle a gytunwyd drwy Adolygiad o Hen Ganiatâd Mwynau yn 2017 wedi ei leoli o fewn 100m i dai preswyl ond roedd egwyddor y gwaith cloddio eisoes wedi ei sefydlu mewn caniatâd cynllunio hynafol. Bwriad y cais yw ymestyn y safle i’r gogledd, oddi wrth y tai preswyl a’r pentref sy’n golygu bydd y gwaith cloddio arfaethedig yn digwydd dros 100m i ffwrdd o’r tai preswyl. Gyda’r pellter, a thystiolaeth bod y safle eisoes yn cael ei weithredu heb niwed i fwynderau cyffredinol a phreswyl, ystyriwyd, drwy osod amodau cynllunio neu drwyddedau amgylcheddol, byddai’r cais yn gyson â Pholisi PCYFF 2, MWYN 3 o’r CDLl, a MTAN 1.

 

Amlygwyd bod asesiad sŵn wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn trafod y sŵn fyddai’n deillio o’r gweithgareddau cloddio gan asesu sut gall hyn gael effaith ar eiddo gerllaw. Ymgynghorwyd a’r Uned Gwarchod y Cyhoedd am sylwadau ar gynnwys yr asesiad a’r cynigion. Derbyniwyd casgliad yr asesiad yn ddarostyngedig i osod amodau ar gyfer mesurau lliniaru, defnyddio larymau bagio ‘sŵn gwyn’ a chadw’r rhwystr acwstig a’r bwnd ar hyd terfyn de-ddwyreiniol y safle. Cyflwynwyd asesiad effaith ansawdd aer gyda’r cais sy’n gwirio effaith llwch a’r lefel gronynnau. Daethpwyd i gasgliad fod y potensial o’r gweithgareddau yn torri safonau statudol ar gyfer ansawdd aer yn isel, a’r Uned Gwarchod y Cyhoedd yn cytuno mai dibwys fyddai unrhyw effaith, ond bod rhaid gosod amodau i sicrhau bod y ‘Cynllun Monitro a Rheoli Llwch’ yn cael ei ddiweddaru a lefelau penodol ar gyfer ansawdd aer, cyfyngiadau ar niwsans sŵn, monitro ansawdd aer/arolwg llwch os ceir cwynion, cyfleuster golchi olwynion a gosod llenni dros gerbydau (os ydynt yn cario mwynau â dimensiwn o lai na 100mm) yn cael eu dilyn.

 

Yng nghyd- destun materion traffig a hawliau tramwy, adroddwyd fod y bwriad yn cynnig cynyddu cyfradd uchaf llwyth nwyddau trwm o 20 i 25 llwyth y dydd. Byddai’r safle yn parhau i ddefnyddio’r un fynedfa i Ffordd Clynnog a ddatblygwyd o dan ganiatâd 2017. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cynnydd yn y nifer symudiadau traffig dyddiol. Ategwyd bod yr hawl tramwy cyhoeddus agosaf yn rhedeg heibio cornel gogledd-ddwyreiniol y safle ond na fydd unrhyw effaith iddo.

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyntaf, adroddwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi codi pryderon ynghylch cydymffurfio â’r gofyn i weithio uwchlaw lefel trwythiad, ac ynghylch dŵr wyneb ffo. Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol gan yr asiant yn cadarnhau bod dŵr daear yn cael ei fonitro drwy rwydwaith o dyllau turio a phegiau yn cael eu gosod ar lefel y ddaear a byrddau lefelau i sicrhau bod y gwaith yn aros ar y lefelau cywir. Cadarnhaodd CNC bod y wybodaeth ychwanegol yn dderbyniol ac yn cynnig mesurau atal llygredd hydrolegol. Yn ychwanegol, cyflwynwyd Asesiad Effaith Hydrolegol gyda’r cais yn awgrymu mesurau lliniaru ar gyfer gorlifiad damweiniol i gyrsiau dwr yn ogystal ag amodau o’r caniatâd blaenorol yn cael eu hail-osod ar y datblygiad newydd.

 

Nid yw’r safle o fewn unrhyw ardal a ddynodwyd mewn cysylltiad ecoleg gyda rhan fwyaf o’r safle yn laswelltir ar iseldir sydd wedi’i led-wella neu ei wella’n amaethyddol. Nodwyd bod nifer o ddogfennau technegol wedi eu cyflwyno gyda’r Datganiad Amgylcheddol yn cynnig awgrymiadau er mwyn gwarchod ymlusgiaid, adar nythu a chloddiau a ddefnyddir gan ystlumod i chwilota am fwyd. Ategwyd bod gan Ecolegydd y Cyngor bryder ynglŷn â chyflwr brochfa moch daear oedd yn destun amod ar y cais blaenorol, ond bellach bod gwaith i sicrhau cyflwr y brochfa wedi ei gwblhau yng Ngorffennaf 2023 ynghyd a manyleb gwaith plannu a monitro arfaethedig. Er bod cynllun adfer bras wedi ei gyflwyno yn amlygu bwriad o sicrhau tir pori garw ardaloedd gwella amrywiaeth, bod angen cyflwyno cynllun ôl-ofal manwl i’w gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio mwynau cyn cychwyn datblygu’r safle.

 

Yn ychwanegol, adroddwyd bod bwriad gosod amodau parthed clirio llystyfiant, llwyni a choed i osgoi cyfnodau nythu - bydd gwrychoedd a chloddiau i’w tynnu o dan oruchwyliaeth ecolegydd cymwysedig a bod hydroleg y gwlypdir, y dyfnderoedd cloddio a lefelau dŵr daear ar safle bywyd gwyllt yn cael eu monitro.

 

Cynhaliwyd Asesiad Effaith ar Dreftadaeth, Arolwg Geoffisegol a Thorri Ffos Arbrofol  er mwyn asesu effaith y bwriad ar archeoleg a threftadaeth. Adolygwyd y wybodaeth gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd  - nid oeddynt yn gwrthwynebu bwriad, ond yn nodi’r angen am amodau i sicrhau gwaith archeolegol pellach gan fod olion archeolegol yn rhannol o fewn y man cloddio. Roedd yr amodau yn ymwneud a chyflwyno cynllun ymchwilio ysgrifenedig cyn cychwyn y gwaith a chyflwyno adroddiad yn dadansoddi’r gwaith archeolegol 12 mis ar ôl cwblhau’r gwaith.

 

Adroddwyd bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar sail fod arwyddion y chwarel yn galw’r safle yn uniaith Saesneg. Eglurwyd bod maen prawf 5 polisi PS 1 yn datgan bydd y Cyngor yn “ ... Gosod disgwyliad y bydd enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio ar gyfer datblygiadau newydd, enwau tai a strydoedd”. Gydag enw’r cais (Cae Efa Lwyd) yn gysylltiedig â ffermdy hanesyddol Cae Efa Lwyd Fawr gerllaw, ystyriwyd y byddai’n rhesymol gofyn i’r ymgeisydd ystyried dangos hyn fel enw’r safle, neu fod amod yn cael ei osod ar y caniatâd yn gofyn am ddangos enw’r safle yn Gymraeg.

 

Ystyriwyd bod y datblygiad arfaethedig yn gyson â’r holl bolisïau ac ystyriaethau cynllunio perthnasol ac argymhellwyd caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i gynnwys amodau perthnasol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pholisïau cynlluniau yn cyd-fynd gyda pholisi net sero'r Cyngor a’r ffaith nad yw adfer tir yn dod a thiroedd hanesyddol, ffrwythlon yn ôl i ddefnydd wedi rhwygo graean allan o’r tir (yn groes i egwyddorion sero net y Cyngor) nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y Cyngor wedi mabwysiadau Polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol a bod y rhain yn gyson ac yn cyd-fynd a’r polisïau mwynau. Ategodd bod y tir yma wedi ei ddynodi ar gyfer graean ac nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo pwerau i Bennaeth Adran yr Amgylchedd i gymeradwyo’r cais, o dan amodau yn ymwneud â’r canlynol:

1.         5 mlynedd

2.         Parhad y gwaith – 10 mlynedd ar gyfradd o 125,000 o dunelli y flwyddyn

3.         Yn unol â chynlluniau

4.         Cyfyngu hawliau GPDO ar gyfer adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau, ffensys etc.

5.         Copi o’r penderfyniad a’r cynlluniau a gymeradwywyd i’w ddangos yn swyddfa’r safle.

6.         Cyfyngu’r llwythi a symudir o’r safle i 125,000 o dunelli'r flwyddyn ar gyfradd uchaf o bump ar hugain (25) o lwythi cerbydau nwyddau trwm y diwrnod.

7.         Wyneb y fynedfa o’r safle i’r briffordd sirol i gael ei gadw’n lân ac nid yw mwd/malurion i gael eu gollwng ar y briffordd.

8.         Rhaid peidio â dod â deunyddiau (sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff) i mewn i’r safle.

9.         Marcio ffin y safle a’r parthau cloddio mwynau.

10.       Oriau gweithio. Dim gweithrediadau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus heblaw am waith argyfwng, gwasanaethu a chynnal a chadw.

11.       Rhaid gosod llenni dros lwythi'r holl gerbydau llwythog neu eu trin i osgoi allyrru llwch.

12.       Cofnodi traffig.

13.       Dim prosesu ar y safle.

14.       Cyfyngiadau sŵn a chyfyngiadau sŵn mewn perthynas â gweithrediadau dros dro.

15.       Mesurau gostegu sŵn.

16.       Cadw ffensys acwstig a chadw byndiau.

17.       Llystyfiant, uwchbridd ac isbridd i’w storio mewn bwnd sgrinio acwstig.

18.       Monitro sŵn.

19.       Cyfyngiadau ansawdd aer a monitro ansawdd aer.

20.       Mesurau i leihau llwch a diweddaru’r cynllun ar gyfer monitro a rheoli llwch.

21.       Gosod ffens dros dro am ffin y man cloddio mwynau.

22.       Monitro dŵr daear.

23.       Cyflwyno cynllun ymchwilio ysgrifenedig manwl ar gyfer gwaith archeolegol.

24.       Cyflwyno adroddiad dadansoddol manwl am y gwaith archeolegol yn unol â’r cynllun ymchwilio ysgrifenedig.

25.       Cynllun adfer.

26.       Storio/rheoli priddoedd.

27.       Dim pridd i’w symud o’r safle a’r pridd i gael ei ddefnyddio wrth adfer y safle.

28.       Twmpathau storio pridd i’w cadw’n rhydd o chwyn.

29.       Cyflwyno cynllun adfer a chynllun ôl-ofal 5 mlynedd.

30.       Adfer yn unol â chynllun ôl-ofal a monitro 5 mlynedd.

31.       Rhwygo’r tir i osgoi cywasgu.

32.       Gwasgaru priddoedd yn y drefn gywir wrth adfer y safle.

33.       Cynnal dadansoddiad cemegol o briddoedd wrth adfer y safle.

34.       Dim da byw i gael eu cadw nes bydd y tir mewn cyflwr derbyniol.

35.       Adolygiad blynyddol o weithrediadau ac ôl-ofal.

36.       Cynllun adfer diwygiedig i’w gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol os rhoddir y gorau i gloddio am fwynau cyn pryd am gyfnod o 12 mis.

37.       Mesurau lliniaru ar gyfer moch daear, adar nythu, ymlusgiaid.

38.       Cyfyngiad ar dynnu llystyfiant yn ystod tymor nythu adar.

39.       Mesurau osgoi rhesymol i ddiogelu ymlusgiaid wrth ddymchwel waliau a therfynau caeau.

40.       Mesurau i atal llygredd.

41.       Casglu a gwaredu dŵr i gyfyngu ar yr hyn sy’n cael ei ryddhau i’r amgylchedd dŵr.

42.       Cydymffurfio â chynllun rheoli dŵr wyneb.

43.       Amod i alw’r safle wrth ei enw Cymraeg

 

Dogfennau ategol: