Agenda item

Dymchwel adeilad fferm laeth a sied gwartheg, symud dau danc slyri presennol, codi sied da byw newydd a pharlwr godro, adeiladu clamp silwair a storfa dail sych, ffordd fynedfa fewnol ynghyd a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

3.         Cyflwyno manylion edrychiadau allanol.

4.         Cyflwyno manylion asbestos cyn dymchwel

5.         Cydymffurfio gyda Rhan 5 (Dehongli a Chyngor) o’r ddogfen Asesiad Effaith Ecolegol ynghyd ag Asesiad Rheoliadau Rhywogaethau Cysgodol a sylwadau’r uned Bioamrywiaeth.

6.         Cwblhau’r cynllun tirlunio o fewn cyfnod penodol.

7.         Cydymffurfio gyda chynnwys yr Asesiadau Coedyddiaeth.

8.         Amodau safonol Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd parthed cyflwyno manylion rhaglen waith cofnodi archeolegol yn gyntaf ac, yn dilyn hyn, cyflwyno adroddiad manwl o’r gwaith archeolegol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol ar y safle.

 

Cofnod:

Dymchwel adeilad fferm laeth a sied gwartheg, symud dau danc slyri presennol, codi sied da byw newydd a pharlwr godro, adeiladu clamp silwair a storfa dail sych, ffordd fynedfa fewnol ynghyd a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu cynllun lleoliad diwygiedig yn dangos bod terfyn safle’r cais wedi ymestyn i gynnwys tir ar gyfer mesurau lliniaru Bioamrywiaeth.

 

a)      Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod nifer o elfennau i’r cais:

·         Dymchwel yr adeiladwaith is-safonol presennol sy’n cynnwys y parlwr godro, sied da byw, a dau dwr slyri.

·         Codi adeilad ar gyfer parlwr godro gwartheg sy’n cylchdroi

·         Codi adeilad da byw ar gyfer cadw 224 o wartheg godro

·         Codi storfa tail sych dan do yn gyfochrog i’r ardal storfa bresennol.

·         Codi seilo porthiant newydd.

·         Gosod tanc dal dŵr newydd i ddal dŵr o’r parlwr godro a’r gwastraff dŵr oddi wrth y pentyrrau o silwair

·         Creu buarth o lain caled

·         Creu dau bwll dŵr aflan.

·         Creu rhwydwaith ffordd fewnol

·         Creu clawdd/bwnd 1m o uchder a phlannu gwrych cynhenid arno

·         Ynghyd â Gwelliannau bioamrywiaeth

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, adroddwyd bod yr egwyddor o godi strwythurau amaethyddol yng nghefn gwlad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth gyda materion cynllunio eraill.

 

Ategwyd byddai’r prosiect arloesol yma yn hyrwyddo effeithiolrwydd, cynaliadwyedd a safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid, gan ddangos arferion da o ran rheoli dŵr a gwastraff (sy’n cynnwys slyri fferm), yn gynaliadwy o fewn y diwydiant llaeth yng Nghymru. Cyflwynwyd y cais er mwyn ehangu a diwallu anghenion y Coleg Amaethyddol i bwrpas addysg a’i gyfraniad pwysig i’r economi leol. Ystyriwyd bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol a bod y bwriad yn cydymffurfio gydag amcanion a nodau polisïau cenedlaethol Nodyn Cyngor technegol 6 a gofynion Polisi ISA 3 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd y bydd edrychiadau allanol y siediau newydd o ddeunyddiau traddodiadol ar gyfer y math yma o adeiladwaith ac o ystyried gosodiad yr adeiladwaith o fewn ac yn gyfochrog ag adeiladau fferm bresennol ac o ymgymryd â chynllun tirweddu ar hyd ffin orllewinol y safle ni chredir byddai’r bwriad yn cael ardrawiad sylweddol arwyddocaol o fewn y tirlun lleol a chredir bod y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisïau o’r CDLl. O ystyried bod y bwriad yn disodli adeiladwaith amaethyddol presennol, a’r ffaith mai gweithwyr y fferm sy’n byw gerllaw'r fferm odro, ni ystyriwyd y byddai’r cais yn tanseilio mwynderau preswyl na chyffredinol deiliaid lleol.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, eglurwyd bod y safle wedi amgylchynu gan Ardal Cadwraeth Arbennig Glynllifon (ACA), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glynllifon (SoDDGA) a Safle Bywyd Gwyllt Afon Llifon (SBG) sydd oddeutu 400m i’r de-orllewin o’r safle. Cyflwynwyd nifer o adroddiadau ac asesiadau ecolegol fel rhan o’r cais.

 

Yn unol â gofynion y Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau, 2017, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ac Asesiad Priodol. Wedi cwblhau’r asesiad, nododd yr Uned Bioamrywiaeth na fyddai’r bwriad yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Glynllifon. Yn unol ag anghenion y rheoliadau cynefinoedd, cyflwynwyd asesiad yr Uned Bioamrywiaeth i CNC ac roeddynt hefyd o’r un farn, ar yr amod bod y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â’r amodau roeddynt yn argymell yn eu hadroddiadau ecolegol.  Nodwyd hefyd bod CNC wedi cyflwyno sylwadau ynglŷn â rhywogaethau a warchodir ynghyd a phryder effaith posib peryglon llygredd i’r amgylchedd dwr.

 

Mewn ymateb i’r pryderon hynny cyflwynodd yr ymgeisydd fanylion pellach parthed mesurau lliniaru golau, cynllun plannu cloddiau o goed, Cynllun Rheoli Tirweddu ac Ecoleg a Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu; gyda chais pellach gan CNC am gynllun rheoli tymor hir a chynllun archwilio cydymffurfiaeth Ecolegol. Bydd yr amodau hyn yn rheoli ac yn diogelu unrhyw rywogaethau gwarchodedig sydd ar y safle.

 

Yng nghyd-destun asedau treftadaeth, daw’r Asesiad Treftadaeth i’r canlyniad mai dyma’r lleoliad mwyaf addas ar gyfer yr adeiladwaith newydd. Ategwyd y byddai’r cynigion yn cael rhyw effaith ar gymeriad, edrychiad a gosodiad y parc a’r ardd hanesyddol gofrestredig gyffredinol, ond o ystyried y tirwedd amaethyddol a phresenoldeb yr adeiladau a strwythurau'r fferm bresennol, ni ystyriwyd bydd effaith ar yr ardal yma nac ar ardal gofrestredig gyffredinol o ran cymeriad y parcdir neu’r tiroedd pleser. Amlygwyd nad oedd gan CADW wrthwynebiad i’r datblygiad ac y byddai angen ymgymryd â gorchwyl gwylio archeolegol o ystyried agosatrwydd y bwriad i heneb gofrestredig - y gwaith yma i’w reoli drwy amod cynllunio.

 

Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi hyn. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellwyd caniatáu’r cais yn unol â’r amodau perthnasol.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol;

·         Bod y bwriad yn datblygu cyfleusterau ar gyfer buches Glynllifon

·         Yn brosiect newydd gyda buddsoddiad sylweddol i hybu diwydiant llaeth

·         Cynlluniau arloesol i reoli dŵr (casglu ac ail ddefnyddio dŵr glaw) a storio slyri

·         Byddai’r cyfleuster yn annog lefel uchel o lês i anifeiliaid

·         Er bod y lleoliad yn sensitif, cydweithio da wedi bod rhwng y swyddogion, CNC a’r Coleg i ymrwymo i warchod hanes a sensitifrwydd yr ardal

 

c)         Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais – y fenter i’w chroesawu ac yn hwb i fyfyrwyr

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r dogfennau a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

3.            Cyflwyno manylion edrychiadau allanol.

4.            Cyflwyno manylion asbestos cyn dymchwel

5.            Cydymffurfio gyda Rhan 5 (Dehongli a Chyngor) o’r ddogfen Asesiad Effaith Ecolegol ynghyd ag Asesiad Rheoliadau Rhywogaethau Cysgodol a sylwadau’r uned Bioamrywiaeth.

6.            Cwblhau’r cynllun tirlunio o fewn cyfnod penodol.

7.            Cydymffurfio gyda chynnwys yr Asesiadau Coedyddiaeth.

8.            Amodau safonol Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd parthed cyflwyno manylion rhaglen waith cofnodi archeolegol yn gyntaf ac, yn dilyn hyn, cyflwyno adroddiad manwl o’r gwaith archeolegol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol ar y safle.

 

Dogfennau ategol: