Agenda item

Adnewyddu'r tŷ presennol yn llawn, modurdy newydd arfaethedig, trefninant ffotofoltäig arfaethedig, tirweddu a mesurau lliniaru llifogydd yn ogystal â dymchwel adeilad allanol presennol.  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         5 Mlynedd i ddechrau gwaith.

2.         Unol a chynlluniau.

3.         Llechi i gydweddu

4.         Gosod gwydr afloyw ar hyd ochr y balconi sydd yn ffinio gyda rhif 6 Rhes Marine

5.         Unol a’r adroddiad ecolegol

6.         Amod Dwr Cymru

 

Nodyn Gwybodaeth: Dwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Adnewyddu'r tŷ presennol yn llawn, modurdy newydd arfaethedig, trefniant ffotofoltäig arfaethedig, tirweddu a mesurau lliniaru llifogydd yn ogystal â dymchwel adeilad allanol presennol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi a) nad yw’r bwriad arfaethedig yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg neu Asesiad Effaith Iaith Gymraeg; b) bod bwriad gosod amod cynllunio i sicrhau fod y modurdy bwriedig yn cael ei ddefnyddio yn atodol i'r prif eiddo yn unig.

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd ar gyfer newidiadau ac addasiadau i eiddo drwy ymestyn bondo rhan o’r to presennol, ymestyn balconi presennol ar gefn yr eiddo, ychwanegu gorffeniad llechi ar ffurf patrwm diemwnt ar ochr yr eiddo a darparu dau borts agored; dymchwel adeilad allanol presennol a chodi modurdy dwbl, gosod trefniant o 4 rhes o baneli solar, gwaith tirlunio a gosod giatiau llifogydd ar ffin yr eiddo gyda glannau’r Fenai. Ategwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu’r dref ac o fewn ffin parth llifogydd C2/Parth 2 a 3 o’r mapiau llifogydd.

 

Nodwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd cysylltiad teuluol aelod o staff.

 

Ystyriwyd bod y newidiadau a’r addasiadau i’r eiddo yn lleiafrifol, ac yn addas o ran eu maint, dyluniad a gosodiad. Ategwyd byddai’r bwriad o ymestyn y balconi presennol ar gefn yr eiddo yn ei wneud yn agosach i’r eiddo drws nesaf. Er bod tai eraill yn y teras gyda balconïau yn cynnig elfen o oredrych i mewn i erddi cefn y tai, ystyriwyd priodoldeb gosod amod i sicrhau fod sgrin preifatrwydd yn cael ei osod ar ochr y balconi sy’n wynebu’r eiddo drws nesaf er mwyn lleddfu effaith uniongyrchol yr estyniad i’r balconi.

 

Nodwyd bod y bwriad yn golygu newid modurdy presennol sydd ynghlwm i’r eiddo i gegin ac ystafell fwyta, ond nad oedd bwriad cynyddu’r nifer o ystafelloedd gwely. Ategwyd bod bwriad dymchwel adeilad allanol presennol a chodi modurdy dwbl ar safle ger y fynedfa i’r eiddo -  y modurdy o ddyluniad arferol ar gyfer modurdy a’r bwriad yn dderbyniol.

 

O ran y gwaith tirlunio, y llwybrau troed a ffordd gerbydol a’r mesurau atal llifogydd, ystyriwyd fod yr elfennau hyn yn dderbyniol. Nid oedd gan CNC nac yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad, ac roedd yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r adroddiad ecolegol a ddarparwyd ynghyd a’r gwelliannau bioamrywiaeth a gynigiwyd ar ffurf blychau adar ac ystlumod. Derbyniwyd cadarnhad hefyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith ar yr Ardal Gadwraeth Arbennig cyfagos.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gynnwys amod i sicrhau defnydd atodol i’r modurdy bwriedig. Ni fyddai’n cael effaith weledol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau trigolion cyfagos, diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth na’r Iaith Gymraeg. Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell caniatáu’r cais.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·      Bod y cais gerbron oherwydd cysylltiad teuluol aelod o staff

·      Ambell i addasiad a newidiadau sydd yma

·      Wedi cyflwyno dau lun ychwanegol o safle’r eiddo ar lan y Fenai yn amlygu mai o dan amgylchiadau arbennig iawn o lanw uchel a gwyntoedd cryf y bydd llifogydd

·      Bod 7 tŷ yn y rhes a 5 ohonynt gyda balconi

·      Byddai gosod amod ar gyfer gwydr afloyw yn rhesymol

·      Argymell caniatáu

 

c)      Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

Gwnaed sylw y byddai’n bosib i’r modurdy dwbl newydd fydd gyfochrog a’r eiddo gael ei drosi i annedd arall – dim digon o swyddogion gorfodaeth o fewn y Cyngor i wirio addasiad i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau

 

1. 5 Mlynedd i ddechrau gwaith.

2. Unol a chynlluniau.

3. Llechi i gydweddu

4. Gosod gwydr afloyw ar hyd ochr y balconi sydd yn ffinio gyda rhif 6 Rhes Marine

5.  Unol a’r adroddiad ecolegol

6. Amod Dwr Cymru

 

Nodyn Gwybodaeth: Dwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Bioamrywiaeth

 

Dogfennau ategol: