Agenda item

Coedlan gymysg gyda choed aeddfed  

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd R Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones

 

Dim linc i’r cais yma 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cadarnhau’r gorchymyn gyda newidiadau.

 

Cofnod:

Coedlan gymysg gyda choed aeddfed

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, yn wahanol i’r ceisiadau arferol, nad oedd yn un am ganiatâd gynllunio. Eglurwyd, bod angen i’r Aelodau ystyried a ddylid cadarnhau Gorchymyn Diogelu Coed ar dir ym Mharc Y Coleg, Ffordd Deiniol, Bangor. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor yn dilyn derbyn gwrthwynebiadau i’r bwriad. Tynnwyd sylw  bod diwygiad i’r geiriad yn fersiwn Saesneg o’r gorchymyn - bod coeden T1 yn ‘Yew’ (Ywen) a choeden T2 yn ‘Lime’ (Pisgwydden).

 

Rhoddwyd Gorchymyn Diogelu Coed Dros Dro ar ddwy goeden unigol, pum grŵp o goed ac un coedir yn y lleoliad.  Cwblhawyd asesiad o’r coed drwy ddefnyddio system TEMPO  (Tree Evaluation Method for Preservation Orders ) ac fe sgoriodd y coed 23 pwynt - mae’r system yn nodi bod unrhyw goeden neu goed sydd yn sgorio 16 pwynt neu fwy yn haeddu cael eu diogelu. Adroddwyd, er bod y safle o fewn ardal cadwraeth, gydag elfen o ddiogelwch eisoes i'r coed, penderfynwyd cyhoeddi gorchymyn diogelu coed dros dro yn yr achos yma gan fod y coed â'r coetir o werth mwynderol uchel ac yn weladwy iawn o fewn y drefwedd ac yn ffurfio nodwedd bwysig o fewn canol y dref. Ategwyd bod yr ardal hefyd yn teilyngu gwarchodaeth benodol gan fod bygythiad uniongyrchol i’r coed oherwydd gwaith datblygu sydd yn bwriadu cael ei wneud o fewn ardal y parc ynghyd a gwaith sydd eisoes wedi ei wneud i goed o fewn y safle heb dderbyn caniatâd angenrheidiol ymlaen llaw.

 

Amlygwyd, ers paratoi’r adroddiad bod cais cynllunio (sydd yn cynnwys gwaith gwelliannau i Barc y Coleg - llwybrau troed newydd, dodrefn stryd, goleuadau a thirlunio cysylltiedig sydd wedi ei leoli yn rhannol o fewn ardal y Gorchymyn Diogelu Coed Dros Dro) wedi ei ganiatáu. Wrth ystyried y cais cynllunio hwnnw, roedd yr effaith ar y coed wedi cael ei asesu yn llawn, ac roedd y gwaith arfaethedig yn dderbyniol, er hynny, nid yw’r caniatâd cynllunio yn newid y sefyllfa o safbwynt y gorchymyn coed ac fe ystyriwyd bod yr angen am warchodaeth i weddill y coed trwy gadarnhau'r gorchymyn yn angenrheidiol. Eglurwyd bod y penderfyniad ar y cais cynllunio yn dangos nad yw gosod gorchymyn ar goeden neu goed yn atal y gallu i ymgymryd ag unrhyw waith i'r coed hynny. Yn hytrach, mae gosod gorchymyn yn ffordd effeithiol o sicrhau nad oes gwaith dinistrio neu waith diangen yn cael ei wneud yn uniongyrchol, neu yn agos at, goed sydd yn gwneud cyfraniad pwysig i'w hamgylchedd lleol.

 

Cyflwynwyd pedwar dewis i’r pwyllgor eu hystyried

 

1. Cadarnhau'r gorchymyn fel y mae, heb newidiadau

2. Cadarnhau gyda newidiadau

3. Peidio cadarnhau

4. Cynnal ymchwiliad cyhoeddus.

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.

 

Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Trueni nad oedd y Brifysgol, wedi gwneud cais am warchodfa cyn cynnig gwelliannau i’r Parc - nid ydynt  yn gwrando ar sylwadau pobl leol

·         Yn cefnogi’r angen i warchod y coed

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r gorchymyn gyda newidiadau.

 

Dogfennau ategol: