Rhoi diweddariad o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu rhwystrau presennol i gyflwyniad y rhaglen.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad ar y ddarpariaeth Dysgu a
Datblygu a’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i Aelodau. Nodwyd bod yr
adroddiad ychydig yn wahanol y tro hwn er mwyn amlygu'r heriau sydd ynghlwm â
chyflwyno’r rhaglen.
Soniwyd am y broses ymgynghori gyda Phenaethiaid a
Swyddogion sydd eisoes ar waith ar gyfer creu rhaglen hyfforddiant 2024/25.
Nodwyd bod hynny o’r rhaglen 2024/25 sydd wedi ei phoblogi yn barod i’w gweld
yn yr adroddiad. Adroddwyd bod y gwasanaeth yn derbyn nifer o geisiadau am
hyfforddiant newydd ac yn ceisio eu blaenoriaethu. Adlewyrchwyd ar sylwadau
blaenorol gan rai Aelodau bod y rhaglen wedi datblygu i fod yn rhaglen drom o
ran ei gynnwys.
Amlygwyd bod teitlau allweddol sydd wedi eu hadnabod
fel meysydd craidd wedi eu rhestru yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd ei bod yn
hanfodol i Aelodau gwblhau’r rhain gan nodi bod amryw heb gwblhau’r teitlau.
Tynnwyd sylw at y ffigyrau yn y tabl yn rhan 2.4 o’r adroddiad.
Ychwanegwyd bod rhai o’r teitlau craidd yn rhedeg ers
peth amser a bod y niferoedd sy’n mynychu’r sesiynau yn broblemus. Nodwyd bod
cynnal hyfforddiant sy’n hanner llawn o ran presenoldeb ddim yn rhoi’r gwerth
gorau am arian ac yn arwain at orfod ail gynnal yr un hyfforddiant amryw o
weithiau. Nodwyd bod hyn yn arafu gallu swyddogion i symud ymlaen â’r rhaglen
hyfforddiant ehangach gan y bydd angen ail ymweld â’r teitlau craidd yn y
flwyddyn 2024/25. Amlygwyd y consyrn nad yw’r Aelodau sydd heb fynychu’r
hyfforddiant craidd efo’r cefndir na’r wybodaeth angenrheidiol i’w rôl.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:
-
Canmolwyd ansawdd uchel yr
hyfforddiant gan nodi eu bod yn ddefnyddiol, a diolchwyd am waith y gwasanaeth
Dysgu a Datblygu.
-
Mynegwyd pryder a siomedigaeth bod nifer o Aelodau heb
fynychu’r hyfforddiant craidd a gofynnwyd pa gamau sydd ar y gweill er mwyn
sicrhau bod pawb yn mynychu’r teitlau mandadol.
-
Holiwyd ynghylch blaengynllun ac
os oes modd ei gylchredeg. Credwyd y byddai derbyn blaengynllun o’r dyddiadau o
fudd i Aelodau allu cynllunio a gadael amser rhydd ar gyfer y teitlau amrywiol.
-
Cydnabuwyd ei bod yn anodd
mynychu hyfforddiant oherwydd prinder amser Aelodau gyda rhai efo calendrau
llawn, yn ogystal ag amryw efo cyfrifoldebau eraill megis gyrfa neu blant.
Diolchwyd am y camau sydd eisoes wedi eu cymryd i geisio gwella nifer mynychwyr.
-
Holiwyd am y posibilrwydd o wylio
sesiynau sydd wedi eu recordio ac os oes modd i Aelodau wneud hynny yn amser eu
hunain. Gofynnwyd a fydd hyn yn cyfri fel eu bod wedi mynychu’r sesiwn.
-
Awgrymwyd cysylltu ag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol er
mwyn iddynt dynnu sylw at y mater yn ffurfiol o fewn y Grwpiau gan amlygu’r
hyfforddiant fwyaf hanfodol. Ategwyd bod cyfrifoldeb bellach ar yr Arweinyddion
Grŵp i sicrhau bod Aelodau yn mynychu hyfforddiant.
-
Cwestiynwyd yr angen i Aelodau ail wneud hyfforddiant os
eisoes wedi ei gwblhau e.e. yn y Cyngor diwethaf (2017-22) neu drwy sefydliad
arall.
-
Amlygwyd bod nifer o sesiynau yn cael eu canslo oherwydd
diffyg niferoedd neu salwch gyda rhai heb gael eu hail drefnu. Cyfeiriwyd yn
benodol at sesiwn efo Cymorth i Ferched Cymru gafodd ei ganslo ar y 9fed
o Chwefror.
Mewn ymateb i’r sylwadau:
-
Adroddwyd bod y gwasanaeth wedi bod yn canolbwyntio ar
atgoffa Aelodau am yr angen i fynychu teitlau craidd ac ail gynnig sesiynau yn
ogystal â chynnig sesiynau ar amseroedd gwahanol e.e. gyda’r nos. Yn ychwanegol
nodwyd bod y Swyddog Datblygu Aelodau yn targedu unigolion sydd ddim yn mynychu
ac yn eu hatgoffa. Croesawyd awgrymiadau pellach gan yr Aelodau.
-
Nodwyd bod gwybodaeth helaeth am
y teitlau ar y Mewnrwyd Aelodau a bod llawer o wybodaeth yn cael ei rannu yn y
Bwletin Aelodau yn wythnosol yn ogystal â dolen i’r Mewnrwyd. Amlygwyd bod copi
o’r blaengynllun i’w weld ar y Mewnrwyd Aelodau. Ychwanegwyd bod ymdrechion
wedi bod i osgoi gwrthdaro rhwng dyddiadau hyfforddiant a Phwyllgorau’r Cyngor.
-
Nodwyd bod recordiad rhai o’r hyfforddiant yn cael eu
gosod ar y Mewnrwyd Aelodau. Gofynnwyd i’r Aelodau gysylltu efo’r Swyddog
Datblygu Aelodau er mwyn cadarnhau ar ôl gwylio recordiad, fel arall ni fydd y
gwasanaeth yn ymwybodol o hyn.
-
Cytunwyd i’r
gwasanaeth gysylltu efo’r Arweinyddion Grŵp Gwleidyddol cyn gynted ag y bo
modd er mwyn iddynt annog Aelodau i fynychu teitlau craidd.
-
Nodwyd bod diweddariadau yn aml efo teitlau fel y Cod
Ymddygiad ac Arwain yn Ddiogel a Diogelwch Personol felly anogwyd yr Aelodau i
ail fynychu os yn amserol.
-
Cadarnhawyd y bydd sesiwn pellach
efo Cymorth i Ferched Cymru yn cael ei ail drefnu at fis Ebrill, bydd dyddiad
newydd yn cael ei gynnig cyn gynted ag y bo modd.
Dogfennau ategol: