Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth
i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.
Mae'r Cyngor yn credu bod
amaethwyr Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i economi ein gwlad, i'r iaith
Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth, a bod angen cefnogi'r sector pwysig
hwn.
Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth
Cymru i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt
ymgynghori ar deddfwriaeth newydd.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Dewi Jones o dan
Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae
Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.
Mae'r Cyngor yn credu bod
amaethwyr Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy
i economi ein gwlad, i'r iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth,
a bod angen cefnogi'r sector pwysig hwn.
Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth
Cymru i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt
ymgynghori ar deddfwriaeth newydd.
Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig,
gan nodi:-
·
Bod
yr hyn sy’n digwydd i’r diwydiant amaeth yn effeithio ar bawb. Nododd ein bod
yn ddibynnol ar ffermwyr bob dydd ar gyfer derbyn ein llefrith, bara a chig.
Credodd bod derbyn bwyd o safon a bwyd lleol yn holl bwysig.
·
Cyfeiriodd
at y brotest fwyaf erioed oedd wedi cyrraedd y Senedd wythnos diwethaf gydag
dros 3,000 o ffermwyr yn teithio i Gaerdydd. Credai nad yw’r cynllun yn ei
ffordd bresennol yn hygyrch nac yn gynaliadwy.
·
Bod
angen i’r Llywodraeth ail gysidro eu bwriad o ofyn i bob ffermwr roi 10% o’u
tir i dyfu coed. Mynegwyd na wnaiff coed hybu diwylliant nac iaith. Credwyd bod
angen hyblygrwydd yn y cynnig a bod angen i Lywodraeth Cymru ail lunio’r
cynnig. Ychwanegwyd bod angen addasu’r cynlluniau i adlewyrchu'r tirwedd, y
tywydd ac amgylchedd y gweithiai’r ffermwyr ynddynt.
Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan
aelodau a nododd:-
·
Bod
ffermwyr wedi bod yn ffermio ers cenedlaethau sydd yn profi cynaliadwyedd y
diwydiant.
·
Bod
y Cyngor wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac yn galw ar y Llywodraeth i gyd-drafod
gyda’r diwydiant ac i lunio cynlluniau sy’n briodol ar gyfer Gymru a chefn
gwlad. Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod wedi bod yn rhan o drafodaeth yn y
Fforwm Wledig, Cymdeithas Llywodraeth Leol a’u bod hwythau hefyd wedi ymateb yn
yr un modd. Mynegodd yr Arweinydd falchder bod y Cyngor eisoes wedi ymateb yn
gadarn.
·
Bod
gwers yma i Lywodraeth Cymru sydd ddim yn deall ystyr cyd-gynllunio a
chyd-gynhyrchu.
·
Bod
amaethwyr yn barod i gyfrannu at yr agenda i ostwng allyriadau carbon ac yn
barod i gyfrannu at fioamrywiaeth ac eisoes yn gwneud hynny i raddau helaeth.
·
Bod
ffermwyr yn adnabod eu tiroedd yn well na neb a bod yr amaethwyr efo gwybodaeth
am yr hyn sy’n digwydd ar eu tirwedd eu hunain.
·
Nad
oes son yn y Senedd am y posibilrwydd cryf iawn o
golli 5,500 o swyddi yn y diwydiant amaeth.
·
Atgoffwyd
o’r hunllef yn ystod y cyfnod clo pan nad oedd digon o fwyd ar silffoedd yr
archfarchnadoedd. Nodwyd bod NFU Cymru yn ddiweddar wedi nodi bod angen
cynhyrchu 25% yn fwy o fwyd erbyn 2050.
·
Bod
y diwydiant amaethu wedi defnyddio ychydig bach mwy o dir yn unig i gynhyrchu
bwyd nac oedden nhw’n ei ddefnyddio yn 1960. Credwyd bod hyn yn dangos bod
ffermwyr wedi gwneud y gorau ac wedi datblygu beth sydd ganddyn nhw.
·
Bod
yr hyn ddigwyddodd yn y Senedd yn dda o gymharu â’r hyn ddigwyddodd yn Ffrainc
ble roedd pawb yn dawel a pharchus yn y Senedd.
·
Mai
teuluoedd a ffermydd bychain fydd yn ddioddef fwyaf.
I
gloi cymerodd y cynigydd y cyfle i ddiolch i’r amaethwyr am y gwaith maent
eisoes yn ei wneud er mwyn cefnogi’r amgylchedd. Pwysleisiodd bod rôl amaethwyr
yn holl bwysig wrth i ni barhau i fynd i’r afael â'r argyfwng newid hinsawdd.
Credwyd ei bod yn hollbwysig i’r Llywodraeth weithio efo amaethwyr wrth lunio
unrhyw gynlluniau newydd a galwyd ar
Lywodraeth Cymru i bwyllo a gwrando ar amaethwyr.
Beirniadwyd
Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Blaid Lafur sy’n creu’r cynlluniau hyn ac nid
y Senedd ac nid datganoli.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Mae
Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.
Mae'r Cyngor yn credu bod amaethwyr
Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i economi ein gwlad, i'r iaith Gymraeg,
ein diwylliant a'n treftadaeth, a bod angen cefnogi'r sector pwysig hwn.
Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth Cymru
i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt
ymgynghori ar deddfwriaeth newydd.