Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn fod mesurau lliniaru mewn lle i ymateb i’r risgiau.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned a swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Arweinydd yn cyflwyno adroddiad Chwarter 3 y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio ac yn gwahodd y pwyllgor i graffu perfformiad Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithredu’r Cynllun Twf ac i dderbyn bod mesurau lliniaru mewn lle i ymateb i’r risgiau.

 

Wedi i’r Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ddweud gair ar y cychwyn, rhoddodd yr Uwch Swyddog Gweithredol gyflwyniad byr yn gosod y cyd-destun ac yn crynhoi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Eglurodd, gan ein bod yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, fod yr adroddiad yn edrych yn ehangach na Chwarter 3, gan edrych yn ôl ar y cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.  Yna rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel drosolwg o’r Rhaglen Ynni.

 

Ymddiheurodd yr Uwch Swyddog Gweithredol na allai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd faint o’r 4,200 o swyddi ychwanegol y cyfeiriwyd atynt yn y cyflwyniad fydd yn dod i Wynedd.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y 4,200 o swyddi ar draws yr holl brosiectau a rhaglenni.  Nid oedd yr ateb wrth law, ond gellid darparu’r ffigurau ar gyfer yr aelodau.

 

Pwysleisiwyd mai nifer y swyddi i Wynedd, ac o bosib’ Conwy ac Ynys Môn, sydd o ddiddordeb i aelodau’r pwyllgor hwn.  Nodwyd bod Ward Peblig, Caernarfon ymysg y 10% tlotaf yng Nghymru a bod adroddiad diweddar Sefydliad Bevan ar Dlodi yn Arfon yn nodi bod angen mwy o swyddi sy’n talu’n dda yn yr ardal er mwyn mynd ati i daclo tlodi.  Holwyd a oedd yna obaith gwirioneddol bod unrhyw gynlluniau am ddod i safle Parc Bryn Cegin, Bangor, yn enwedig gyda dyfodiad y Porthladd Rhydd i Fôn a sefydlu’r Parth Buddsoddi Economaidd newydd yn y Dwyrain.  Nodwyd bod Môn yn gallu cynnig llawer mwy o gymhellion i fusnesau nag y gallwn ni yng Ngwynedd eu cynnig, a holwyd sut y gallwn ninnau sicrhau buddsoddiad yn y rhan yma o Gymru.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda Chyngor Ynys Môn o fewn y bartneriaeth, a bod yna berthynas waith rhwng Arweinyddion y ddau gyngor sir drwy’r Bwrdd Uchelgais.  Nodwyd fod Tîm Uchelgais Gogledd Cymru yn derbyn diweddariadau gan Gyngor Sir Ynys Môn ar y Porthladd Rhydd.

·         Bod Uchelgais Gogledd Cymru bellach wedi ymrwymo i Gytundeb Cyd-fenter gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni prosiect Parc Bryn Cegin a bod Llywodraeth Cymru wedi penodi tîm ymgynghori i fynd â’r prosiect drwy’r cam caniatâd cynllunio.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y costau lefel uchel ac o ddiwygio’r cynllun ar gyfer y llain a’r prif gynllun, a chredid y byddai drafft terfynol o’r achos busnes amlinellol ar gael erbyn mis Mai.

·         Bod rhaid i brosiectau’r Cynllun Twf gynnwys cynllun buddion cadarn sy’n dangos sut mae’r prosiect yn mynd i greu swyddi yn lleol a hyrwyddo sgiliau lleol.  Nodwyd bod Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, a gyda’r colegau a’r prifysgolion hefyd, gyda’r nod o sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau ar gael yn lleol pan mae’r prosiectau yn dod yn eu blaenau.

·         Bod rhaid cydnabod mai cynllun rhanbarthol yw’r Cynllun Twf ac mai’r math o brosiectau sy’n addas ar gyfer y buddsoddiad yw prosiectau cyfalaf sy’n arwain at dwf uniongyrchol, ac felly, o bosib’, yn ffafrio ardaloedd trefol lle mae’r farchnad gryfaf.

·         Y rhennid y pryder ynglŷn ag effaith bosib’ y Porthladd Rhydd ar Wynedd.  Deellid bod bwriad i geisio osgoi unrhyw ‘displacement o ardaloedd eraill i mewn i ardaloedd y Porthladd Rhydd, ond roedd angen gwybod sut mae cyflawni hynny.

·         Y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ystod y flwyddyn ddiweddaf i ddatblygu rhai o’r lleiniau eraill ar Barc Bryn Cegin.  Hyderid bod hynny’n amlygu bod gan y sector breifat ddiddordeb yn y safle hefyd, a byddai sicrhau buddsoddiad neu ddau ar y safle yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir er mwyn gwneud y mwyaf o’r potensial mae’r safle yn ei gynnig.

·         Y byddai’r gwaith o ddatblygu Cynllun Economi Gwynedd yn mynd rhagddo dros y flwyddyn nesaf a diau y byddai yna ymgorffori agweddau o’r Rhaglen Twf yn hynny hefyd, sef agweddau ehangach na’r math penodol o fuddsoddiad sy’n berthnasol i’r Rhaglenni Twf yn unig.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn â’r unedau ar Barc Bryn Cegin, nodwyd:-

·         Bod bwriad i fanteisio ar y cyfle drwy’r Cynllun Twf i ddarparu unedau parod ar Barc Bryn Cegin.

·         Na ellid cadarnhau faint o unedau fyddai’n cael eu codi ar y safle hyd oni fo’r gwaith rhagbaratoi o ran dadansoddi gofynion y farchnad, ayb, wedi’i gwblhau.  Nodwyd hefyd bod awydd i geisio treialu unedau fyddai’n cwrdd â gofynion amgylcheddol i’r dyfodol.

·         Y gobeithid y byddai’r gwaith rhagbaratoi wedi’i gwblhau erbyn yr Hydref.

 

Gofynnwyd am farn gonest swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru ynglŷn ag effaith y Porthladd Rhydd.  Nodwyd nad oedd yna atebion i ni yng Ngwynedd o ran sut i osgoi ‘displacement o ganlyniad i’r manteision treth a gynigir i fusnesau sy’n sefydlu yn ardal y Porthladd Rhydd.  Nodwyd ymhellach, gan ein bod yn or-ddibynnol ar y sector gyhoeddus yng Ngwynedd, bod gwir angen buddsoddiad o du’r sector breifat.  Gofynnwyd hefyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Rhaglen Rhwydwaith Talent Twristiaeth, ynghyd ag esboniad pam bod statws RAG y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth yn ei chyfanrwydd yn oren.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Na chredid mai’r swyddogion yn y cyfarfod oedd y bobl orau i gyfleu barn swyddogol Uchelgais Gogledd Cymru ynglŷn â’r Porthladd Rhydd, ac y gellid dod yn ôl at yr aelodau ar y pwynt yma ar ôl ymgynghori gyda’r Cyfarwyddwr Portffolio.

·         Bod gan David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo Uchelgais Gogledd Cymru berthynas waith agos iawn gyda swyddogion Cyngor Ynys Môn drwy’r prosiect Porthladd Caergybi.

·         Bod ffigurau’r Porthladd Rhydd o ran creu swyddi yn uchel iawn, a diau y byddai rhai o’r swyddi hynny yn mynd y tu hwnt i ffiniau Ynys Môn yn unig.

·         Bod Cyngor Ynys Môn yn mynd drwy’r broses cynllunio busnes ar gyfer y Porthladd Rhydd ar hyn o bryd, ac yn sgil hynny, byddai yna lawer mwy o fanylion yn dod trwodd ar gynnwys y cynnig, ac ati.  Yn y cyfamser, roedd y Tîm yn Uchelgais Gogledd Cymru yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y broses fel y gellid ceisio adnabod cyfleoedd i gydweithio gydag Ynys Môn.

·         Bod yna gysylltiadau agos yn bodoli eisoes gyda rhai o brosiectau’r Cynllun Twf, sef Hwb Hydrogen Caergybi, Prosiect Morlais ac Egni sydd wedi’u lleoli o fewn ardal y Porthladd Rhydd.

 

Gan y bu i’r aelod a gododd y cwestiwn ynglŷn â’r Rhaglen Rhwydwaith Talent Twristiaeth a pherfformiad y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristaeth golli cysylltiad â’r cyfarfod cyn i’r cwestiwn gael ei ateb, gofynnodd y Cadeirydd i’r Uwch Swyddog Gweithredol ddarparu ymateb ysgrifenedig ar ei gyfer.

 

Nodwyd:-

·         Na ddeellid pam bod y Bwrdd Uchelgais yn cael ei alw’n ‘Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru’, yn hytrach na ‘Bwrdd Uchelgais y Gogleddac efallai y dylai’r neges honno gael ei chyfleu i’r Gweinidog newydd dros yr Economi yn Llywodraeth Cymru.

·         Mai Bwrdd Uchelgais yr A55 ydyw mewn gwirionedd gan fod yr amser teithio o rannau helaeth o Wynedd i Gaernarfon yn hirach nag o Gaernarfon i Lannau Dyfrdwy.  Roedd y swyddogion wedi cydnabod bod y Cynllun Twf yn ffafrio ardaloedd trefol, ond nid oedd wardiau megis Harlech a Llanbedr yn cynnwys ardaloedd trefol, nac yn agos i unrhyw ardaloedd trefol. 

·         Ei bod yn siomedig nad oedd Arweinydd y Cyngor na Chyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod i ateb cwestiynau’r craffwyr.

·         Y dymunid mynegi siomedigaeth hefyd ynglŷn â chynnwys yr adroddiad gan na wneir unrhyw gyfeiriad at Feirionnydd, ac eithrio Trawsfynydd (Cwmni Egino), sy’n bell iawn i ffwrdd ar y funud.  Gwelwyd datganiadau yn y wasg yn nodi bod Prif Weinidog Cymru, yn ei hen swydd, yn rhoi arian tuag at ddatblygiadau ym maes awyr Llanbedr, ond nid oedd cyfeiriad o gwbl at hynny yn yr adroddiad.  Awgrymwyd y dylid gofyn i’r Gweinidog newydd dros yr Economi a fydd ef/hi yn parhau i edrych ar gael datblygiadau ym maes awyr Llanbedr.  Nodwyd bod colled ar ôl yr hen Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, oedd yn cael ei ganmol yn arw am ei waith yn ardal Meirionnydd, ond yn anffodus, ni chredid y byddai’r Cynllun Twf yn dod ag unrhyw fuddion i’r rhan honno o Wynedd. 

 

Mewn ymateb i’r sylw olaf, nodwyd y byddai cronfa o £25m ar gael o dan y Prosiect Ynni Lleol Blaengar i gefnogi prosiectau lleol / cymunedol a busnesau bach i ddatgarboneiddio yn fwy effeithiol ac y byddai prosiectau’r Rhaglen Ddigidol sy’n edrych ar wella cysylltedd digidol hefyd yn helpu’r ardaloedd llai poblog.

 

Holwyd a oedd datganiad diweddar Llywodraeth y DU ynglŷn â phrynu safle Wylfa yn mynd i gael effaith ar Brosiect Trawsfynydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Yn ogystal â gwneud datganiad ynglŷn â phrynu safle Wylfa, bod Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnal ymgynghoriad ar Ddatganiad Polisi Cenedlaethol newydd ar gyfer lleoli gorsafoedd cynhyrchu ynni niwclear ar ôl 2025, sy’n rhoi’r cyfle i ddatblygwyr roi eu hunain ymlaen, yn hytrach na bod y Llywodraeth yn enwi safleoedd.

·         Ei bod yn ymddangos hefyd bod y polisi yn edrych ar ffyrdd mwy amgen o ddod i mewn i’r farchnad, ac o bosib’, yn agor fwy o opsiynau i gwmnïau preifat, megis Cwmni Egino, ddod i mewn. 

·         Ei bod yn anodd dweud pa effaith y gallai hyn oll ei gael ar Brosiect Trawsfynydd hyd oni cheir mwy o gadarnhad gan Lywodraeth y DU ynglŷn â pha dechnolegau SMR y bwriedir eu defnyddio, ac ydi’r technolegau hynny yn gweddu i Drawsfynydd ai peidio.

·         Y credid bod cyfle i Brosiect Trawsfynydd o hyd, gan nad yw’r safleoedd y mae Llywodraeth y DU yn edrych arnynt ar hyn o bryd, ynghyd â safleoedd eraill megis Trawsfynydd, yn mynd i fod yn ddigon i gyrraedd targed y Llywodraeth o ran datblygu capasiti niwclear.

 

Nodwyd, yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor llawn, y codwyd y mater o brentisiaethau yn y maes adeiladu, ac ati, yng ngholegau Grŵp Llandrillo Menai a’r toriadau oedd yn mynd i gael eu cyflwyno yn nifer y cyrsiau a ddarperir.  Holwyd, yn dilyn sylwadau’r aelodau, ac o ystyried y 4,200 o swyddi sy’n mynd i gael eu creu, faint o gydweithio sydd yna â’r darparwyr addysgol yn y tymor byr i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y swyddi hynny.  Awgrymwyd, er gwaethaf y mynegiant a’r dyhead, nad ydi’r math o sefyllfa a welwyd yn ddiweddar gyda Grŵp Llandrillo Menai, er enghraifft, yn awgrymu bod y drafodaeth honno yn digwydd mewn ffordd gydlynus a chyson.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hwn yn bwynt sy’n fyw iawn i Uchelgais Gogledd Cymru.  Roedd y Bwrdd Uchelgais wedi anfon llythyr o bryder ynglŷn â’r sefyllfa ac roedd Cwmni Jones Bros Rhuthun, datblygwyr Prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, hefyd wedi codi pryder ynghylch yr un mater.

·         Bod yna gysylltiad agos iawn rhwng rhaglenni’r Cynllun Twf a’r elfen sgiliau a chyflogaeth drwy fod y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn rhan o Dîm Uchelgais Gogledd Cymru.  Hefyd, roedd y Bartneriaeth Sgiliau yn cysylltu’n benodol gyda Grŵp Llandrillo Menai i baratoi ac i geisio llunio cyrsiau lle mae yna fylchau ar hyn o bryd er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y gweithwyr ar gael pan mae’r cyfleoedd gwaith yn codi.

·         Bod y Bartneriaeth Sgiliau yn rhyddhau adroddiad blynyddol sy’n manylu ar y trawsdoriad o swyddi, nid yn unig y pethau arloesol, ond hefyd y crefftau angenrheidiol, ac yn edrych ar y niferoedd sy’n dod trwodd.

 

Holwyd, o ystyried y wasgfa ar y sector gyhoeddus ar hyn o bryd a’r amgylchedd anodd o ran y sector breifat, a oedd risg na fyddai llawer o’r hyn sydd yn y Cynllun Twf yn cael ei wireddu oherwydd diffyg buddsoddiad o’r tu allan.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yr amgylchiadau economaidd wedi newid yn sylweddol ers cytuno’r Cynllun Twf yn 2020, ond bod gan Uchelgais Gogledd Cymru gytundeb gyda’r ddwy lywodraeth bod rhaid denu’r £1bn o fuddsoddiad i mewn i Ogledd Cymru, a hynny drwy gyfraniadau’r sector gyhoeddus a’r sector breifat, a bod hyn oll wedi’i dorri i lawr fesul prosiect.

·         Fel rhan o’r broses cynllunio busnes, bod gwaith ariannol manwl iawn yn cael ei wneud i sicrhau bod y buddsoddiadau a amlinellwyd yn wreiddiol yn digwydd, neu’n gallu dod o ffynonellau eraill os yw amgylchiadau’n newid.

·         Bod Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’r sector breifat drwy’r Bwrdd Cyflawni Busnes, sydd â nifer o gysylltiadau a phrofiadau eang o fewn y sector fusnes yn y Gogledd.

·         Bod y Bwrdd Uchelgais wedi cymeradwyo Strategaeth Fuddsoddi newydd ar gyfer Gogledd Cymru ar gyfer denu Cynllun Twf a datblygiad economaidd ehangach yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnwys egwyddorion buddsoddi ac yn seiliedig ar waith ymchwil a gyflawnwyd ar y cyd â Chwmni Savilles a’r Bwrdd Cyflawni Busnes.

·         Y byddai’r Strategaeth Fudsoddi yn ddogfen allweddol o ran sicrhau buddsoddiad i mewn i’r rhanbarth.  Nodwyd bod buddsoddiad wedi’i wneud eisoes drwy’r Ganolfan Prosesu Signal Digidol (DSP) ym Mhrifysgol Bangor ac y gobeithid gweld buddsoddiad yn dod i mewn hefyd drwy’r Prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter, sydd bellach yn weithredol.

·         Bod y prosiectau a gafodd eu hasesu a’u datblygu yn wreiddiol yn denu math o fuddsoddiad sydd, efallai, yn golygu buddsoddiad preifat, neu ar y cyd.  Nodwyd bod risg ynghlwm â hynny, ac roedd wedi’i gyflwyno fel risg yn yr asesiad risg, ond rhan annatod o’r Cynllun Twf yw ystyried beth yw’r cyfleoedd i’r sector breifat.

·         Mai un o’r heriau yw bod y gwaith o ddatblygu’r cynlluniau strategol amlinellol, y cynlluniau busnes amlinellol a’r cynlluniau busnes llawn yn golygu gwaith trylwyr iawn o ran manylder y cynigion, ond mantais gwneud hynny yw ei fod yn lleihau’r risg drwy sicrhau bod y manylion yn gadarn.

·         Bod datblygu’r manylion, gan ystyried beth yw gofynion y farchnad a’r risgiau ymarferol a rheolaethol, ac ati, i bob ffrwd gwaith, yn debygol o greu’r amodau fyddai’n denu buddsoddiad o’r sector breifat, ac yn ymateb i’r risg byw iawn a amlygwyd.

 

Nodwyd ei bod yn gyfnod anodd i gwmnïau ynni lleol gan fod pris ynni adnewyddol wedi gostwng i 6 ceiniog y cilowat, a bod yna heriau hefyd ynghlwm â chludo ynni o’r ardal leol i’r Grid Cenedlaethol oherwydd gwrthwynebiad pobl i beilonau, ac ati.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y rhagwelid shifft o ran datblygu ynni lleol, o fod yn cyflenwi’r Grid i gynhyrchu ynni’n lleol ar gyfer defnydd lleol.  Byddai hyn hefyd yn caniatáu i gwmnïau ynni werthu’r trydan ar raddfa ychydig uwch i gwsmeriaid lleol, fydd yn arbed arian o gymharu â phe byddent yn ei brynu gan y cwmnïau mawr.

·         Y ceisid helpu cymunedau a busnesau lleol i fod yn rhan o brosiectau o’r fath.  Byddai Ynni Cymru hefyd yn gweithio yn y maes yma i ddatblygu prosiectau fydd, gobeithio, yn gallu cael eu copïo ar draws y Gogledd.

 

Holwyd a oedd Uchelgais Gogledd Cymru yn cydweithio gyda Twf Canolbarth Cymru, o ystyried bod gan De Meirionnydd fwy o gyswllt gyda’r Canolbarth na’r Gogledd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod Uchelgais Gogledd Cymru yn cydweithio’n agos gyda Twf Canolbarth Cymru, a bod nifer o raglenni’r Canolbarth a’r Gogledd yn ymdebygu i’w gilydd.

·         Y manteisid ar unrhyw gyfleoedd i gydweithio a rhannu ymarfer da, er enghraifft, yn y maes digidol, ac roedd Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth Uchelgais Gogledd Cymru, wedi bod yn cyd-arwain gyda swyddogion o’r canolbarth ar y Launchpad Bwyd-amaeth yn dilyn y cyhoeddiad yng Nghyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU.  Gellid darparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer yr aelodau pe dymunent hynny.

 

Mynegwyd pryder nad oedd prosiectau’r Cynllun Twf yn symud yn eu blaenau mor gyflym ag y dylent, a holwyd a oedd perygl bod y cynlluniau yn mynd i lithro, er enghraifft, Prosiect Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, oherwydd bod yr amserlen yn rhy faith i ddod â’r cynlluniau i weithrediad.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y deellid y pwynt, ond er i’r Bartneriaeth gael ei sefydlu yn 2012, ni arwyddwyd y Cynllun Twf tan 2020 oherwydd y gwaith o sefydlu’r Weledigaeth Twf i Ogledd Cymru.

·         Bod sefyllfa’r economi, materion cynllunio, ayb, a’r angen i gydweithio gydag asiantaethau eraill wedi arwain at lithriadau ar rai prosiectau.

·         Bod y ffaith bod dau brosiect bellach yn weithredol yn gam mawr ymlaen i’r Tîm a gobeithid cyflawni rhagor o brosiectau eleni.

·         Bod y Cynllun Twf yn gynllun hirdymor dros 15 mlynedd ac nad oedd pob prosiect yn mynd i gychwyn ar yr un adeg.

·         Bod y broses cynllunio busnes, sy’n ofyniad gan y Llywodraeth, yn broses eithriadol o fanwl a chymhleth sy’n golygu bod rhaid i bob prosiect fynd drwy gynllun busnes strategol, achos busnes amlinellol ac achos busnes llawn sy’n edrych mewn manylder ar 5 achos, gan gynnwys yr achos economaidd, yr achos masnachol a’r achos ariannol.

·         Bod y Tîm yn Uchelgais Gogledd Cymru wedi’u hyfforddi i wneud y gwaith, ac yn ceisio mynd drwy’r broses mor gyflym ag y gellir.  Derbyniwyd adroddiad y llynedd yn nodi bod angen i’r Tîm ganolbwyntio mwy ar symud tuag at fod yn weithredol, ac roedd hynny wedi rhoi ffocws mawr i’r swyddogion.  Dargyfeiriwyd adnoddau i brosiectau er mwyn gallu symud rhai prosiectau yn eu blaenau yn gynt ac roedd y Tîm yn edrych am brosiectau sy’n barod i fynd fwy neu lai ac yn gweithio’n ddyddiol i symud y cynlluniau yn eu blaenau i gael cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais er mwyn bod yn weithredol.

 

Holwyd pa brosiectau eraill y disgwylir eu cyflawni yn y flwyddyn neu ddwy nesaf.  Mewn ymateb, nodwyd y gobeithid y bydd rhagor o brosiectau yn dod ymlaen cyn diwedd y flwyddyn hon, hynny yn cynnwys y Prosiect 4G+, Prosiect Cyn-ysbyty Gogledd Cymru Dinbych a’r Prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth.

 

Sylwyd bod paragraff 2.2.4 o’r adroddiad yn nodi bod gweithgaredd caffael ar y Prosiect Cysylltu yr Ychydig % Olaf wedi’i atal nes bod Llywodraeth y DU yn cadarnhau dyddiad lansio eu hymyrraeth newydd, a gofynnwyd a dderbyniwyd cadarnhad o hynny gan bod yr adroddiad yn nodi y disgwylir iddo gael ei gadarnhau yn Ch3 23/24 i’w lansio yn 2024.  Mewn ymateb, nodwyd na chredid bod ymateb wedi dod gan Lywodraeth y DU, ond y gellid gwirio hynny gyda Stuart Whitfield, y Rheolwr Rhaglen Ddigidol, gan ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r aelodau os oes yna ddiweddariad ar y mater.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â Phrosiect Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, sydd wedi’i nodi’n goch yn y golofn statws RAG yn y tabl perfformiad, a holwyd beth oedd y potensial i’r prosiect hwn symud yn ei flaen.  Nodwyd hefyd nad oedd yna unrhyw brosiectau yn Nwyfor a bod prosiectau lleol, a phrosiectau yn y byd amaeth, yn bwysig i ardaloedd gwledig Gwynedd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod Uchelgais Gogledd Cymru yn parhau i gefnogi Prosiect Glynllifon ac yn cydnabod yr effaith sylweddol fyddai’r prosiect yn ei gael yng Ngwynedd ac ar y sector a’r economi yn rhanbarthol.

·         Bod yr amserlen yn llithro, yn bennaf oherwydd y materion cynllunio, ond hefyd oherwydd y dynodiadau statudol, sydd wedi golygu bod raid paratoi arolygon dros gyfnod o rai misoedd, yn hytrach na dros gyfnod byr o amser.

·         Pe byddai cais cynllunio yn cael ei gyflwyno, byddai’n destun sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw oherwydd y dynodiadau statudol, ac felly roedd y safle’n un cymhleth iawn.

·         Bod y Coleg wedi penodi tim cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r materion hyn ac wedi buddsoddi yn y gwaith paratoi, gyda chyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer y mis nesaf i gael diweddariad ar y gwaith.

·         Y gobeithid y byddai’r mesurau lliniaru sydd yn cael eu hadnabod er mwyn ymateb i’r materion bioamrywiaeth, a hefyd efallai o ran yr asedau hanesyddol sydd o fewn Glynllifon, yn ddigonol i gael eu cefnogi o ran y cynllunio.

·         Fel perchennog Parc Glynllifon, bod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Coleg i geisio datblygu gweledigaeth hir-dymor ar gyfer Glynllifon ac yn gweld cynllun y Coleg yn rhan bwysig iawn o’r weledigaeth ar gyfer y Parc.

 

Mynegwyd gobaith y bydd modd i’r genhedlaeth newydd fydd angen magu sgiliau wneud hynny’n lleol yn yr ardal hon yn y dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod sicrhau gweithlu lleol i’r dyfodol yn rhan bwysig o’r cynllun busnes a’r cynllun i reoli’r buddion sy’n dod allan o brosiectau’r Cynllun Twf.

·         Y byddai yna lawer o brosiectau ynni yn cael eu creu yn y blynyddoedd nesaf, megis prosiectau môr, prosiectau niwclear a phrosiectau gwynt a solar, ac roedd llawer o waith wedi’i wneud i edrych beth fydd gofynion y sectorau hyn.

·         Bod y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi gwneud tipyn o waith o gwmpas y sgiliau gwyrdd sydd eu hangen yn y Gogledd, ac yn gweithio’n agos gyda’r colegau a’r prifysgolion i sicrhau bod modd darparu hynny.

·         Y byddai llawer o’r sgiliau fydd eu hangen mewn llefydd fel Trawsfynydd neu Wylfa, megis sgiliau mecanyddol a thrydanol, yn debyg iawn i nifer o brosiectau eraill, a byddai yna lawer o gyfleoedd i unigolion ddysgu’r sgiliau hynny a symud ymlaen o un prosiect i’r llall.

 

Holwyd a oedd y Cynllun Twf ar drac i gyrraedd y targed o fuddsoddi £1bn erbyn 2027/28, fel y nodwyd ym mhroffil y Portffolio yn 2021.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yna broffil diwygiedig ym mhapurau’r Pwyllgor, ac ers hynny, bod proffil arall wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais yn eu cyfarfod ar 15 Mawrth.

·         Nad oedd y ffigurau newydd wrth law, ond y gellid rhannu linc i’r papur diwygiedig ar y gyllideb gyda’r aelodau.

 

          PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn fod mesurau lliniaru mewn lle i ymateb i’r risgiau.

 

Dogfennau ategol: