Aelod Cabinet
– Y Cynghorydd Beca Brown
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gofyn i’r Adran
Addysg ddarparu data cyfrwng iaith darpariaeth yn yr ysgolion uwchradd i
aelodau’r pwyllgor.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a
swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd –
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y camau gweithredu mewn ymateb i
argymhellion adroddiad Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3.
Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi:-
·
Y dymunai ddiolch i aelodau’r Ymchwiliad am eu
gwaith ar yr adroddiad ac am ddod â’r argymhellion gerbron.
·
Y comisiynwyd Meirion Prys Jones i gydweithio gyda’r
Adran i ail-edrych ar Bolisi Iaith Gwynedd ac y byddai newidiadau cenedlaethol
yn gyrru yn y maes yma hefyd, megis yr ymdrech tuag at filiwn o siaradwyr, y
cwricwlwm newydd, y drefn gategoreiddio newydd, a p’un ai fydd honno yn dod yn
statudol ai peidio, a hefyd Bil y Gymraeg, sydd eto i gwblhau ei thaith drwy’r
Senedd.
·
Bod ganddi bob ffydd ym Meirion Prys Jones ac yn ei
awydd i gynnull ystod eang o randdeiliaid i fwydo i
mewn i’r gwaith, ac y dymunai weld y craffwyr yn rhoi
eu syniadau hwythau yn y pair pan ddaw cyfle.
·
Bod yna waith pwysig i’w wneud o amgylch
dwyieithrwydd, dysgu dwyieithog a’n disgwyliadau ni o’r dysgu hwnnw yng
Ngwynedd. Byddai hynny, yn ei dro, yn
gwneud ein safbwynt ni, fel sir, yn glir iawn i rieni, ac yn cyfarch,
gobeithio, yr hyn a nodir yn Argymhelliad 5.
·
Bod yna lawer o gydweithio da wedi bod gyda Menter
Iaith Gwynedd, Say Something
in Welsh, y Coleg Cymraeg ac unigolion fel Anni Llŷn a Tara Bandito i
greu digwyddiadau cymunedol ac mewn ysgolion.
·
Bod cynnydd mewn dau faes penodol wedi bod yn anodd
am y tro, sef yr argymhellion sy’n ymdrin yn benodol â GwE, oherwydd bod y
dirwedd cefnogi ysgolion yn cael ei hail-ddychmygu, a’r ysgolion trosiannol,
oherwydd y sefyllfa ddigynsail a heriol sydd wedi bod, ac sy’n parhau, mewn un
ysgol drosiannol.
Diolchodd
Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Paul Rowlinson, i’r Aelod Cabinet am ei hymateb
i bob un o argymhellion yr Ymchwiliad, gan nodi rhai sylwadau, fel a ganlyn:-
Argymhelliad 1 – Ei bod yn
bwysig bod y data cyfrwng iaith ysgolion yn cael ei gysoni a’i wirio pan fydd
yr Adran mewn sefyllfa i wneud hynny gan fod yna ansicrwydd ar hyn o bryd a
ydyw’n cael ei gasglu ar sail gyson rhwng y gwahanol ysgolion.
Argymhelliad 2 – Ei bod yn
bwysig iawn gweithredu ar yr argymhelliad hwn pan fydd y Polisi Iaith Addysg
newydd ar waith ac edrychir ymlaen at weld ffrwyth gwaith Meirion Prys Jones ar
hyn. Gŵyr pawb mai Gwynedd yw’r sir
fwyaf blaenllaw o ran addysg Gymraeg, ond gan fod yna wastad beryg’ o fod yn
hunan-foddhaus ac o lithro’n ôl, mae’n bwysig bod hyn yn cael ei roi ar waith.
Argymhelliad 3 – Y dymunid
diolch i’r Adran am ysgrifennu at CBAC a holwyd a dderbyniwyd unrhyw ymateb i’r
llythyr hyd yma.
Argymhelliad 4 – Mai hwn yw’r
argymhelliad allweddol, a diolchwyd i’r Adran am gomisiynu Meirion Prys Jones i
gydweithio â hwy.
Argymhelliad 5 – Y derbynnid bod
rhaid dilyn trefn yr ysgolion, ond credid bod yr ysgolion yn gofyn am fwy o
gefnogaeth gan yr Adran, ac roedd ymateb yr Aelod Cabinet yn bodloni’r
argymhelliad.
Argymhelliad 7 – Bod yr ymateb
yn cyfeirio at nifer o ffyrdd o hyrwyddo manteision astudio drwy gyfrwng y
Gymraeg, ond bod rhaid i’r digwyddiadau hyn barhau yn gyson.
Argymhelliad 9 – Bod ymateb yr
Aelod Cabinet yn bodloni’r argymhelliad, ond bod yr argymhelliad hefyd yn
cyfeirio at roi cefnogaeth i athrawon dosbarth, yn ogystal â staff yn y
canolfannau trochi, ar sut i gyflwyno’r cwricwlwm i hwyr-ddyfodiad sydd ddim yn
medru Cymraeg na Saesneg.
Mewn ymateb i rai
o sylwadau Cadeirydd yr Ymchwiliad, nodwyd:-
Argymhellion 1 a
2:-
·
O
ganlyniad i Bolisi Iaith presennol y Cyngor a chwricwlwm dwyieithog yr
ysgolion, nad oedd rhai pethau yn ddu a gwyn, a bod gofyn i’r ysgolion eu
dehongli, megis nifer y disgyblion sy’n astudio 5 pwnc TGAU yn gyfan gwbl drwy
gyfrwng y Gymraeg.
·
Bod y data yn cael ei ddarparu gan yr ysgolion
unigol, ac nid gan yr Adran, a bod pob pennaeth yn cadarnhau cywirdeb y data.
·
O bosib’ bod y frawddeg ‘Nid yw’r Adran mewn
sefyllfa ar hyn o bryd i allu gwirio’r sefyllfa’ yn awgrymu nad oes unrhyw weithredu
wedi bod, ond roedd yr Adran wedi trafod gyda’r penaethiaid ac wedi ceisio
cysoni a safoni’r data. Cadarnhawyd bod
y data yn gyfredol gan yr Adran ar
gyfer pob ysgol ar draws nifer fawr o ddangosyddion.
·
O ran gosod targedau, nad oedd bwriad bod yn
hunan-foddhaus o gwbl, ond oherwydd bod y Polisi Iaith Addysg yn cael ei
ddiwygio, roedd yna nifer fawr o dargedau y byddai’n bosib’ eu gosod.
Argymhelliad 3 – na dderbyniwyd
ymateb gan CBAC hyd yma a byddai’r Adran yn mynd yn ôl atynt yn dilyn y
cyfarfod hwn yn ategu bod aelodau’r pwyllgor hefyd yn disgwyl clywed yr ymateb.
Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Gan gyfeirio at argymhelliad 1, nodwyd y
deellid yr anawsterau, ond holwyd sut y bwriadai’r Adran fynd ati i wirio
data’r ddarpariaeth. Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Ei
fod yn gwestiwn anodd ei ateb heb bolisi cadarn a chlir mewn lle.
·
Bod
yr Adran yn ymddiried yn yr ysgolion i adrodd ynglŷn â chyfrwng y
ddarpariaeth, ac i gael hynny’n gywir.
Ni chredid bod angen i’r Adran ryddhau swyddog i fynd i wirio cywirdeb y
data a gonestrwydd ein harweinyddion ysgolion.
·
Bod
angen canllawiau clir sy’n gosod y disgwyliadau ar bawb fel bod modd i’r cyrff
llywodraethol eu dwyn i gyfri’ yn unol â’r trefniadau llywodraethiant
cywir sydd i fod mewn ysgol.
·
Y
cymerwyd cam yn ôl er mwyn cymryd camau ymlaen i ddod â phobl hefo ni ac i
wrando ar bryderon y rhanddeiliaid ynglŷn â’r cyfleoedd, a hefyd yr
heriau, sy’n dod yn sgil Polisi Iaith Addysg.
Mynegwyd y farn
bod gwirio’r data yn elfen bwysig o Argymhelliad 1, ac awgrymwyd y dylid gwneud
hynny am flwyddyn neu ddwy o leiaf er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn dehongli’r
data yn yr un ffordd a bod pawb ar yr un llwybr. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Pe gwelid bod unrhyw ddata sy’n cael ei gyflwyno gan
ysgol yn anghyson â’r data cwricwlaidd sydd gan yr Adran am yr ysgol honno, y
byddai’r swyddogion yn mynd ar ôl hynny’n syth.
·
Bod y penawdau yn y daenlen o ran y data sy’n cael
ei gasglu yn eithaf cadarn gan ysgolion, megis nifer disgyblion Blwyddyn 10
mewn 2 faes gwahanol sy’n astudio 3 neu fwy o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg,
neu faint sy’n sefyll iaith gyntaf yn y Gymraeg ayb.
·
Bod gan yr Adran adnabyddiaeth dda o’r ysgolion
drwy’r grwpiau cwricwlaidd, ayb, a bod y data sy’n dod gan yr ysgolion yn
gadarn ac yn rymus.
·
Mai’r elfen a ychwanegwyd yn sgil y drefn
gategoreiddio, ac nad yw’n ddeddf eto, yw nifer y plant sy’n cyrraedd yr hicyn
70%. Roedd angen adnabyddiaeth dda o’r
holl ysgolion i wirio hynny’n llawn, a’r pennaeth ar lawr pob ysgol unigol
fyddai’n gwybod hynny.
Mynegodd yr aelod
a ofynnodd y cwestiwn nad oedd yn hapus gyda’r ateb.
Gan gyfeirio at
Argymhelliad 16, nodwyd bod y gwaith gyda’r Gymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg
(CYDAG) yn amlwg wedi bod yn beth da, ond holwyd pa gyswllt fu gyda Llywodraeth
Cymru ynglŷn â’r diffyg adnoddau astudio yn y Gymraeg, nid yn unig ar
gyfer Gwynedd, ond ar gyfer y siroedd eraill yng Nghymru hefyd, a beth sydd ar
y gweill ganddynt i sicrhau gwelliant.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod yr adroddiad yn egluro beth sydd mewn lle, gan
gynnwys ymrwymiad cwmni Adnodd i ddarparu’r adnoddau gorau bosib’ i’r cwricwlwm
yn ddwyieithog ac i sicrhau bod y deunydd hwnnw yn cael ei ryddhau ar yr un
amser yn y Gymraeg a’r Saesneg.
·
Bod yna her mewn cael adnoddau sy’n codi o ddydd i
ddydd, megis newyddion y dydd, ac ati, yn ddwyieithog, ond bod yr adnoddau
ffurfiol, swyddogol sy’n dod o Lywodraeth Cymru yn ddwyieithog.
·
Bod popeth ar lwyfan HWB Llywodraeth Cymru yn
ddwyieithog a bod y Llywodraeth hefyd wedi sefydlu cwmni Adnodd er mwyn
comisiynu adnoddau safonol i gefnogi’r Cwricwlwm.
Nodwyd, er y
gallai gweithrediad Argymhellion 2 a 6 gael ei arafu gan na fydd Bil y Gymraeg
yn mynd gerbron y Senedd tan fis Mai, na ddylai hynny rwystro unrhyw gamau rhag
digwydd o gwbl. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod Argymhelliad 2 yn cyfeirio at osod targedau
penodol, ond os nad oes yna rywbeth penodol mewn polisi sy’n gosod y targed,
nid oes modd ei fesur a gofynnir i’r ysgolion gynyddu a grymuso’r data wrth
symud ymlaen.
·
Bod Argymhelliad 6 yn ymwneud â’r ddwy ysgol
Categori 3T yng Ngwynedd, ac er bod yna weithio cyson gydag Ysgol Tywyn, nid
oedd modd herio Ysgol Friars i’r un graddau ar hyn o
bryd gan fod yr ysgol honno yn wynebu her eithriadol eleni.
·
Bod angen cynllun penodol cyfrifol i symud Bangor
ymlaen yn y ffordd briodol, ond roedd yn mynd i gymryd amser i wireddu hynny.
Holwyd beth yn
union fyddai rôl Meirion Prys Jones a beth oedd yr amserlen y gwaith. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Y bwriedid cynnal sesiynau penodol gyda charfanau
gwahanol o bobl dros gyfnod o amser er mwyn cael eu barn ynglŷn â’r
sefyllfa bresennol a’r cyfeiriad y dymunir symud iddo.
·
Bod yr Adran yn gweithio ar amserlen gyda Meirion
Prys Jones ar hyn o bryd, gan edrych ar y defnydd mwyaf rhesymol o’i amser a
ble i gynnal y digwyddiadau.
·
Bod bwriad i geisio cynnal rhai digwyddiadau ar
ddiwedd Tymor yr Haf fel y gellir symud ymlaen ac adeiladu ar y gwaith fydd
wedi digwydd yn ystod Tymor yr Hydref.
·
Y byddai amserlen bendant yn cael ei rhannu gyda’r
aelodau maes o law.
Nodwyd y byddai’r
aelodau’n gwerthfawrogi gweld yr amserlen, ynghyd ag unrhyw wybodaeth
ynglŷn â’r digwyddiadau.
Cyfeiriwyd at y sylw yn yr ymateb i
Argymhelliad 1 y rhoddir sylw i’r Gymraeg ac ethos ysgolion ymhob ymweliad a
gynhelir i ysgolion, a holwyd a oedd hon yn drefn oedd wedi’i ffurfioli, boed
hynny gan yr Awdurdod neu GwE. Mewn
ymateb, nodwyd o bosib’ y dylai agweddau’r Gymraeg fod yn bwynt penodol ar
agenda pob ymweliad ag ysgol.
Gan dderbyn bod yr
Adran wedi penderfynu peidio gweithredu ar Argymhelliad 2 hyd oni fydd y Polisi
Iaith Addysg newydd ar gyfer Gwynedd wedi ei lunio, holwyd a oedd bwriad i
edrych ar dargedau interim. Mewn ymateb,
nodwyd nad oedd bwriad i wneud hynny ar hyn o bryd ac mai’r bwriad fyddai
parhau gyda’r sefyllfa fel y mae yn ystod y cyfnod ymgynghori, a grymuso’r
targedau yn dilyn hynny. Byddai hynny
hefyd yn rhoi cyfle i bethau eraill sydd yn yr arfaeth, megis Bil y Gymraeg,
weithio ei ffordd drwy’r Senedd.
Gan gyfeirio at
Argymhelliad 12, nodwyd bod y cynllun i ddarparu gwersi Cymraeg i athrawon yn
un clodwiw, ond holwyd a fyddai modd gwneud mwy i hyrwyddo’r cynnig, yn hytrach
na darparu ffurflenni cais ar gyfer yr ysgolion yn unig. Mewn ymateb, nodwyd bod hynny’n bwynt teg,
ond bod angen i bobl fod yn dymuno caffael yr iaith ac yn gwneud hynny o’u
gwirfodd. Er hynny, gellid trafod
ymhellach a gweld i ba raddau y gellir annog pobl i fod yn rhan o’r cynllun, yn
hytrach na’i adael i siawns, fel mae’r frawddeg yn yr adroddiad yn amlygu.
Nodwyd:-
·
Y croesawid fformat yr adroddiad sy’n cynnwys
sylwadau cryno gyferbyn â phob argymhelliad.
·
Y dymunid llongyfarch yr Adran ar gomisiynu Meirion
Prys Jones, sy’n arbenigwr caffael iaith profiadol iawn, a bod y craffwyr yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef.
·
Bod aelod wedi nodi’n gynharach ei anfodlonrwydd
gydag ymateb y swyddog i’w sylw ynglŷn ag Argymhelliad 1, a phwysleisiwyd
bod angen dilysu, cysoni a chywiro data cyfrwng iaith ysgolion ar gyfer heddiw,
ac nid disgwyl hyd nes y bydd y Polisi Iaith Addysg newydd yn ei le.
·
Y dywedwyd yng ngyfarfod 6
Gorffennaf 2023 o’r Cyngor “O
edrych ar ffigurau ysgol gyfan ar draws y sir, yn unol â diffiniad y drefn
gategoreiddio, mae 'na dros 70% o blant uwchradd Gwynedd yn cael o leiaf 70%
o’u gweithgareddau ysgol cwricwlaidd ac allgyrsiol yn Gymraeg. Heb y ddwy ysgol
drosiannol, y rhai 3T, mae dros 90% o blant uwchradd Gwynedd yn cael o leiaf
70% o’u gweithgareddau ysgol cwricwlaidd ac all-gyrsiol
yn y Gymraeg”. Fodd bynnag, amheuid
a oedd hynny’n wir.
·
Bod yr ymateb i Argymhelliad 1 yn nodi bod yr Adran
eisoes yn casglu data cyfrwng iaith ar gyfer ysgolion uwchradd yn flynyddol a
bod y data ar gyfer y flwyddyn gyfredol wedi’i gasglu a’i goladu, a gofynnwyd
am weld y data hwnnw cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor hwn, yn cynnwys, nid yn unig
y gweithgareddau, ond hefyd y gwersi a’r pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg drwy’r
sir.
Mewn ymateb,
nodwyd y byddai’r swyddogion yn rhannu’r data gyda’r craffwyr
yn dilyn y cyfarfod hwn, cyn belled â bod yr ysgolion yn gyfforddus gyda hynny.
Nodwyd:-
·
Y croesawid gweld y data ac y mynnid ei fod yn cael
ei wirio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Heb ddata dibynadwy, ni ellid gosod y targedau, a byddai disgwyl am
ddyfodiad y Polisi Iaith newydd yn golygu y byddai blwyddyn gyfan o ddata a
chyfle i symud pobl ymlaen wedi’i golli.
·
Y pryderid bod y Polisi Iaith newydd yn cael ei
ddefnyddio fel rhyw fath o esgus i oedi a gwneud dim byd.
·
Y pryderid o deall bod capasiti
adrannol i fonitro targedau unigol manwl yn brin ar hyn o bryd, a dylid dechrau
cynllunio er mwyn sicrhau’r capasiti hwnnw.
·
Bod yr enghreifftiau o gydweithio â sefydliadau eraill a Menter Iaith
Gwynedd y cyfeirir atynt yn yr ymateb i Argymhelliad
11 braidd yn ad-hoc ac y dylid darparu rhaglen ffurfiol
o weithgareddau gan fod yma sgôp aruthrol i gydweithio er lles y Gymraeg.
Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
O ran capasiti, ei bod yn
ofynnol i’r Adran ail-edrych ar ei strwythurau fel rhan o’r adolygiad presennol
o’r haen ganol dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Deellid y sylw a byddai’r Adran yn edrych arno wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, credid bod yr ymateb yn
adlewyrchiad o’r sefyllfa bresennol o ran capasiti,
yn hytrach nag yn adlewyrchiad o ble y byddem yn deisyfu bod wrth symud ymlaen
ac ail-strwythuro’r Adran.
·
O ran y trafodaethau ynglŷn â’r gweithgareddau,
y cafwyd trafodaeth yn y Fforwm Iaith o ran un o ddeilliannau’r CSGA (Cynllun Strategol
y Gymraeg mewn Addysg) sy’n ymwneud â defnydd o’r iaith yn gymdeithasol, ayb,
ac ymestyn y cyfleoedd. Roedd yn
ddyddiau cynnar iawn yn y drafodaeth honno, ond roedd y sylw y dylid cynllunio
rhaglen strwythuredig o weithgareddau, yn hytrach na’i adael i siawns, yn un
digon teg. Dyma’r math o beth a
drafodwyd yn y Fforwm Iaith beth bynnag, ac er na ellid rhoi sicrwydd y byddai
rhaglen weithgareddau ar gael ar unwaith, gobeithid gallu adeiladu ar hynny o’r
pwynt hwn ymlaen.
Awgrymwyd y dylid cynnwys trydedd golofn yn y tabl
yn yr adroddiad yn nodi’r camau nesaf.
Cytunwyd i wneud hynny.
Nododd aelod fod ganddo ffydd yn y data sy’n cael ei
gyflwyno gan yr ysgolion a’i fod yn hapus gyda’r atebion a roddwyd gan y
swyddogion.
Nodwyd:-
·
O ran Argymhelliad 11, sy’n ymwneud â chyfleoedd i
gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, ei bod yn bwysig cynnig y math hynny o
gyfleoedd i bobl ifanc y tu allan i’r gyfundrefn addysg ac y byddai’r
newidiadau yn strwythur yr Adran yn rhoi’r gwasanaeth mewn lle da i wneud y
gwaith hwnnw.
·
Efallai y dylid edrych yn fwy manwl ar Argymhelliad
11 wrth lunio rhaglen waith y pwyllgor hwn.
·
O ran capasiti,
cwestiynwyd yr angen i geisio neilltuo rhagor o adnoddau i wirio’r data, pan
nad oes angen ei wirio beth bynnag, a hynny efallai ar draul gwaith arall,
megis cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg i
bobl ifanc.
·
O gael polisi cadarn a diamwys yn y man, byddai yna
lai o angen gwirio’r data, ac o ddynodi ein hysgolion yng Ngwynedd yn ysgolion
Cymraeg hyd y gellir, byddai yna lai o angen monitro, gan y byddai Estyn yn
gwneud y gwaith drosom.
·
Bod Argymhelliad 4 yn cyfeirio at ail-edrych ar
Bolisi Iaith Addysg Gwynedd yn sgil newidiadau cenedlaethol yn y maes, ond nid
y newidiadau polisi hynny sy’n achosi pryder, eithr y shifft iaith sy’n digwydd
yn y gymdeithas.
·
Y dylid dileu Argymhelliad 7 yn llwyr gan nad oes
angen hyrwyddo’r budd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg pan mae yna bolisi
cadarn mewn lle.
·
Bod
Argymhelliad 8 yn berthnasol i bobl ifanc sy’n mynd i brifysgol yn unig, ac
felly i raddau helaeth, yn amherthnasol gyda golwg ar bolisi iaith, gan nad oes
yna shifft iaith ymysg y dosbarth canol uwch.
Mae’r shifft iaith yng Ngwynedd yn digwydd ymysg plant ar lefel sy’n is
i lawr yr hierarchaeth gymdeithasol, gan fod ystadegau’r Cyfrifiad yn dangos
bod yna ddwywaith gymaint o blant o gartrefi Cymraeg dosbarth gweithiol nad
ydynt yn medru’r Gymraeg o gymharu â phlant o gartrefi Cymraeg dosbarth
canol. Gan hynny, mae’r argymhelliad hwn
yn cyfeirio at ddarparu adnoddau lle nad oes eu hangen.
·
Bod yr ymateb i Argymhelliad 14 yn cyfeirio at
gynnwys penaethiaid yn y broses ‘wrth’ adolygu’r Polisi Iaith, ond onid
gweithredu’r polisi, yn hytrach na llunio’r polisi, yw eu swyddogaeth hwy?
·
O ran Argymhelliad 16, ni chredir bod cyfrwng yr
adnoddau astudio yma nac acw ac y dylai ein ffocws fod ar gyfrwng llafar y
dysgu.
·
O ran Argymhelliad 11, bod y cydweithio er mwyn
cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg i bobl
ifanc i’w groesawu.
Mewn ymateb i rai
o’r sylwadau, nodwyd:-
·
Bod yr her o ran caffael yr iaith a defnydd o’r
iaith o fewn ysgolion yn her wirioneddol y mae’r ysgolion yn ei hwynebu bob
dydd. Cytunid y dylid cynnwys y shifft iaith
yn yr ymateb i Argymhelliad 4, gan roi sylw iddo hefyd wrth i’r gwaith gyda
Meirion Prys Jones symud yn ei flaen.
·
O ran Argymhelliad 14, bod angen trafod gyda’r
ysgolion a dod â hwy gyda ni ar y daith gan sicrhau eu bod yn deall beth sy’n
gyrru’r newid a pha arweiniad sy’n cael ei roi gan yr Awdurdod i’r gwaith.
·
Bod y penaethiaid yn randdeiliaid
pwysig ac ystyrir y byddai’n annoeth peidio eu cynnwys yn y broses o lunio
polisi gan mai hwy sy’n deall beth yw’r heriau ar lawr ysgol.
·
Y cytunid bod defnydd yr iaith ar lawr dosbarth yn
llawer pwysicach nag adnoddau ysgrifenedig, er bod yr adnoddau astudio hynny yn
eithriadol bwysig hefyd.
Gwahoddwyd
Cadeirydd yr Ymchwiliad i gyflwyno sylwadau cloi. Nodwyd:-
·
Y rhoddwyd pwyslais yn yr adroddiad ar adnoddau oherwydd
bod y disgyblion yn yr ysgolion yn adrodd mai’r diffyg adnoddau yw un o’r
rhesymau pam eu bod hwy, neu eu ffrindiau, yn dewis cyfrwng Saesneg.
·
Y dymunid diolch i’r pwyllgor am eu sylwadau, sy’n
rhoi mwy o ddeunydd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion ei ystyried wrth symud
ymlaen, ac edrychid ymlaen at weld y Polisi Iaith Addysg newydd.
·
Mai un o’r materion allweddol a godwyd yn ystod yr
Ymchwiliad oedd bod y diffiniadau o addysg Gymraeg yn rhwystr i ysgolion, a
phwysleisiwyd bod rhaid gweithredu ar hyn ar fyrder, heb ddisgwyl am ffrwyth
gwaith Meirion Prys Jones.
·
Nad oedd aelodau’r Ymchwiliad yn amau
proffesiynoldeb na gonestrwydd y staff sy’n casglu’r data cyfrwng iaith, eithr
yn credu bod dehongliadau anghyson rhwng gwahanol ysgolion yn awgrymu nad yw’r
data yn hollol ddibynadwy.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gofyn
i’r Adran Addysg ddarparu data cyfrwng iaith darpariaeth yn yr ysgolion
uwchradd i aelodau’r pwyllgor.
Dogfennau ategol: