Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet Addysg ar y prosiect prydau ysgol am ddim yn sgil ymestyn y cynllun ar draws y sector cynradd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd y dymunid diolch i Lywodraeth Cymru am ddod â’r prosiect hwn i fodolaeth, drwy gytundeb â Phlaid Cymru, a llongyfarchwyd Cyngor Gwynedd ar ddosbarthu’r cynllun mor gyflym i bob ysgol yng Ngwynedd.  Diolchwyd hefyd i’r Gwasanaeth am y gwaith o addasu / uwchraddio ceginau’r ysgolion, ac yn arbennig i holl staff y ceginau a’r cogyddion am eu gwaith caled.

 

Nodwyd nad oedd ysgogiad i rieni plant sy’n gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim gyflwyno cais i’r Awdurdod gan fod y cinio ysgol bellach ar gael am ddim i bob plentyn beth bynnag, ac felly bod yr ysgol neu’r sir yn colli allan yn ariannol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y pwynt yn un dilys, ond bod y cais gan rieni yn gais am fudd-daliadau yn gyffredinol, yn cynnwys grant gwisg ysgol, adnoddau, ayyb, yn hytrach nag yn gais am ginio ysgol yn unig.

·         O ran y ffordd mae’r Awdurdod yn cael ei ariannu, bod yr ysgolion yn derbyn swm o arian y pen ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

·         Bod yr arolwg yr haf diwethaf wedi amlygu mai Gwynedd yw’r sir gyda’r lefel isaf o blant yn cymhwyso am y budd-daliadau hyn.

·         Bod Tîm o fewn yr Adran yn cysylltu â theuluoedd i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i gael eu cofrestru am ginio am ddim yn gwneud hynny.

·         Nad oedd rhai rhieni yn ymwybodol o’r hawl i ginio am ddim, ond roedd mwy a mwy o bobl yn dechrau dod i wybod amdano erbyn hyn.

 

Nodwyd ei bod yn bwysig pwysleisio wrth rieni bod cyflwyno cais am ginio am ddim yn agor y drws i fanteision eraill heblaw hynny.

 

Nodwyd ei bod yn galonogol gweld o’r adroddiad bod rhai penaethiaid o’r farn bod ymddygiad, ymroddiad a chyflawniad disgyblion wedi gwella yn y prynhawniau o ganlyniad i dderbyn cinio ysgol.

 

O ran yr her o recriwtio staff i’r Gwasanaeth Arlwyo, holwyd a oedd y cynllun i becynnu swyddi, er enghraifft, gweithio mewn cegin ysgol dros amser cinio a rhoi gofal yn y pnawn, wedi dwyn ffrwyth o gwbl.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod recriwtio’n gymhleth gan fod meysydd fel Addysg a Gofal yn ceisio denu staff o’r un pwll o bobl.

·         Bod y posibilrwydd o greu cynllun bwriadus i becynnu swyddi yn isel iawn yn y sefyllfa anodd sydd ohoni, ond bod elfen o hynny yn digwydd eisoes wrth i bobl ddewis gweithio mewn mwy nag un swydd er mwyn cynyddu eu horiau.  Er hynny, roedd yn dod yn fwy anodd dod o hyd i bobl sy’n fodlon teithio o un sefyllfa waith i’r llall, a hynny o bosib’ heb gar.

 

Holwyd a fwriedid dwyn pwysau gwleidyddol ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y prosiect prydau ysgol am ddim i’r sector uwchradd. Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hyn yn flaenoriaeth i’r Aelod Cabinet Addysg, ac y byddai’n dwyn pwysau mewn unrhyw ffordd y gallai, gan gynnwys yn y cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Gweinidog Addysg a Deilyddion Portffolio Addysg y Gogledd.

·         Bod pryder y bydd teuluoedd cenhedlaeth o blant, sydd heb gof erioed o dalu am ginio ysgol, yn cael eu taro gan hynny wrth i’w plentyn gyrraedd Blwyddyn 7.

 

Holwyd beth fyddai’n digwydd wedi i’r cynllun presennol ddod i ben yn 2025.  Mewn ymateb, nodwyd bod hyn eto’n flaenoriaeth i’r Aelod Cabinet ac y byddai unrhyw danseilio i’r cynnig sy’n digwydd rŵan yn ei phryderu’n fawr, ac yn gam sylweddol yn ôl.

 

Holwyd a roddir ystyriaeth i ansawdd y prydau ysgol, gan hefyd geisio cadw’r budd yn lleol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y darperir holiaduron rheolaidd yn ymwneud ag ansawdd y bwyd.

·         Nad oedd caffael lleol bob amser yn ymarferol o safbwynt cost, ond y gwneid pob ymdrech i wneud hynny o fewn y rheolau caffael eithaf caeth sydd yn eu lle ar hyn o bryd.

 

Llongyfarchwyd yr Adran ar gyflwyno’r prosiect prydau ysgol o flaen yr amserlen.

 

Sylwyd bod yr adroddiad yn nodi bod 17% o’r prydau a ddarperir yn hPYD (Hawl i Prydau Ysgol am ddim) ers cyflwyno’r cynnig ym mhob ysgol ym Medi 2023 a holwyd a oedd modd tracio’r ffigwr yma dros, dyweder, y 5 mlynedd ddiwethaf, gan barhau i’w dracio i’r dyfodol fel bod unrhyw ostyngiad yn y niferoedd yn cael ei amlygu a chamau yn cael eu cymryd i gyrraedd y teuluoedd hynny.  Mewn ymateb, nodwyd, gan fod ffactorau cyllidol o ran ariannu ysgolion a chefnogaeth i’r gwasanaethau addysg yn seiliedig ar nifer y dysgwyr sy’n gymwys ar gyfer prydau am ddim, bod yr Awdurdod eisoes yn tracio’r data yn ofalus er mwyn sicrhau ein siâr o unrhyw gyllideb sydd ar gael ar gyfer cefnogi’r dysgwyr mwyaf bregus yn y sir.

 

Awgrymwyd y gallai’r Aelod Cabinet ofyn i’r Gweinidog Addysg ystyried a yw cinio ysgol am ddim yn parhau i fod yn fesurydd priodol o gofio bod cinio ysgol ar gael am ddim i bawb bellach.

 

Nodwyd bod yr Adran Gyllid yn edrych ar hwyluso eu trefniadau o ran hawlio gwahanol fudd-daliadau ac awgrymwyd y gellid cynnwys ceisiadau am fudd-daliadau ym maes addysg fel rhan o hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

 

Dogfennau ategol: