Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
1)
Cymeradwywyd i
flaenoriaethu £1,640,495 o’r gronfa hinsawdd ar gyfer y prosiectau canlynol:
a) Cynllun
Fflyd Werdd - £1,048,400
b) Cynllun
Peilot Uwchraddio Goleuadau - £416,617
c) Cynllun
Pympiau Gwresogi - £175,478
2)
Dirprwyo’r hawl i flaenoriaethu gwariant
gweddill y gronfa cynllun hinsawdd i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r
Arweinydd ac Aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
1) Cymeradwywyd
i flaenoriaethu £1,640,495 o’r gronfa hinsawdd ar gyfer y prosiectau canlynol:
a) Cynllun
Fflyd Werdd - £1,048,400
b) Cynllun
Peilot Uwchraddio Goleuadau - £416,617
c) Cynllun
Pympiau Gwresogi - £175,478
2) Dirprwyo’r
hawl i flaenoriaethu gwariant gweddill y gronfa cynllun hinsawdd i’r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr gan nodi
fod yr adroddiad hwn yn gofyn i gyllido prosiectau Cynllun Argyfwng Hinsawdd a
Natur. Mynegwyd yn ôl ym mis Tachwedd 2022 fod y Cabinet wedi cytuno i
ddefnyddio arian o’r gronfa gyffredinol i ariannu cynllun buddsoddi mewn paneli
solar gyda’r arbedion refeniw yn cyfrannu at gynllun arbedion y Cyngor.
Nodwyd fod y cais yma ar gyfer ariannu 3 prosiect
penodol sylweddol. Y cyntaf oedd Cynllun Fflyd Werdd. Nodwyd fod y Cabinet yn
Ionawr 2023 wedi mabwysiadu cynllun Fflyd Werdd gyda’i nod o ddarparu fflyd
ddiogel, effeithiol a di-allyriad i wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd fod 67 o
gerbydau disel a phetrol yn cyrraedd diwedd eu hoes yn ystod 2023/24 a 2024/25
ac felly yn unol â’r Cynllun Fflyd Werdd byddant yn cael eu hamnewid am
gerbydau trydan yn eu lle.
Yr ail gynllun yw Cynllun Peilot Uwchraddio Goleuadau.
Nodwyd fod newid goleuadau yn rhan fwyaf o adeiladau’r Cyngor yn gofyn am
fuddsoddiad sylweddol ac am gymryd blynyddoedd i’w gwblhau. Amlygwyd fod
uwchraddio goleuadau stryd wedi ei gynnal dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ei
addasu yn lleihau allyriadau carbon. Esboniwyd mai’r bwriad yw cynnal peilot o
6 adeilad gwahanol cyn penderfynu os bydd yn symud ymlaen i’w ehangu ar draws y
Cyngor.
Y trydydd cynllun yw gosod pympiau gwresogi, drwy
ddilyn yr un egwyddor o redeg cynllun peilot. Bu i’r Cyngor fod yn llwyddiannus
i dderbyn grant i osod pympiau gwresogi ar dri safle yng Ngwynedd. Er mwyn
hawlio’r grant, mae angen buddsoddi 10% o arian cyfatebol. Nodwyd ei bod yn
gyfle i dreialu dull gwresogi carbon isel a dysgu gwersi cyn ystyried
uwchraddio gweddill yr adeiladau.
Mynegwyd fod cyfleoedd eraill wedi’u hamlygu yn yr
adroddiad a nodwyd fod y penderfyniad yn gofyn i ddirprwyo’r hawl i
flaenoriaethu’r gwariant i’r Prif Weithredu mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac
Aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd cefnogaeth i’r cynllun ond nodwyd yn
dilyn ariannu’r cynlluniau hyn bydd ychydig dros £1m ar ôl, ond gofynnwyd beth
fydd yn digwydd ar ôl i’r arian yma gael ei wario. Nodwyd fod £3m wedi ei roi
yn y Gronfa Hinsawdd ers 2022, ond eglurwyd o ganlyniad i grantiau ychwanegol
fod bron i £8m wedi ei wario. Yn dilyn gwario’r £3m o’r gronfa bydd angen i’r
Cabinet wneud penderfyniad o ran blaenoriaethu gwariant o fewn y Cyngor.
·
Codwyd amheuaeth am droi’r cerbydau yn llwyr i
gerbydau trydan. Nodwyd efallai fod angen camau llai ac efallai cerbydau hybrid
ar gyfer cefn gwlad. Pwysleisiwyd y bydd amser i staff arfer gyda’r cerbydau ac
i godi eu hyder.
·
Holwyd os oes digon o leoliadau gwefru ar gael
ar gyfer y cerbydau trydan gyda nifer wedi ei gosod ond heb eu troi ymlaen.
Nodwyd fod dealltwriaeth y bydd lleoliadau yn cael eu troi mlaen dros y misoedd
nesaf.
·
Mynegwyd fod y cynlluniau yma yn ymarferol, ac
amlygwyd llwyddiannau'r Cyngor yn derbyn grantiau. Diolchwyd i’r staff am eu
gwaith ac i’r Bwrdd Newid Hinsawdd sydd gweithio’n trawsadrannol.
Awdur:Dafydd Gibbard
Dogfennau ategol: