Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Sicrhawyd bod yr Harbwrfeistr a’i gymhorthydd yn cynnal arolwg o afon Dyfi cyn cyfnod prysur y Pasg er mwyn penderfynu ar y lleoliadau mwyaf addas i osod angorfeydd yr harbwr.

 

Cadarnhawyd y disgwyli i gwsmeriaid sy’n dymuno cael angorfa yn yr harbwr, neu gofrestru eu cychod dŵr ar gyfer y tymor sydd i ddod, gwblhau’r ffurflen ar-lein yn brydlon drwy wefan Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bydd cwsmeriaid angorfeydd angen cysylltu gyda’r Harbwrfeistr er mwyn cadarnhau eu lleoliad angori yn yr harbwr.

 

Pwysleisiwyd bod Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn parhau i gael ei ddilyn yn drylwyr er mwyn gwella diogelwch i bawb sy’n defnyddio neu’n gweithio yn yr amgylchedd morol porthladdoedd.

 

Diolchwyd i’r Harbwrfeistr Cynorthwyol, Mr Oliver Simmons am ei waith ymrwymedig yn yr harbwr. Nodwyd ei fod bellach wedi gadael ei swydd er mwyn sefydlu cwmni newydd. Mynegwyd dymuniadau gorau iddo a’r cwmni i’r dyfodol. Eglurwyd bod ymgeiswyr yn cael eu cyfweld ar gyfer llenwi’r swydd wag ar hyn o bryd a gobeithir bydd unigolyn cymwysedig yn cychwyn yn y rôl ar ddechrau tymor prysur yr haf.

 

Ymhelaethwyd bod swydd barhaol newydd wedi ei hysbysebu i gynorthwyo’r Harbwrfeistr a’i gymhorthydd gyda’u gwaith. Esboniwyd mai teitl y swydd yw Swyddog Traethau Meirionnydd ac mae wedi ei leoli yn harbwr Abermaw i weithio ar hyd traethau’r arfordir rhwng Abermaw ac Aberdyfi. Nodwyd y gobeithir bydd y swyddog yn cychwyn yn y swydd cyn cyfnod y Pasg. Cadarnhawyd bod y penodiad yma yn ychwanegol i’r staff traethau tymhorol sy’n cael eu penodi i weithio ar draethau Aberdyfi a Thywyn erbyn cyfnod yr haf yn flynyddol. Diweddarwyd yr Aelodau y gobeithir bydd yr aelodau staff tymhorol yn cychwyn gweithio o ddiwedd mis Mai ymlaen.

 

Cydnabuwyd nad oes diweddariad i’w rannu ar ddangosyddion perfformiad gan nad oes fawr newid wedi bod dros fisoedd y gaeaf . Cadarnhawyd bydd y wybodaethyn cael ei gynnwys yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy berfformiad ariannol yr harbwr ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dilyn adolygiad mis Tachwedd 2023. Tynnwyd sylw at nifer o bwyntiau o fewn y penawdau isod:

 

·       Gweithwyr – Eglurwyd y rhagwelir tanwariant o £7,963 yn y maes yma oherwydd ymddiswyddiad Mr Simmons.

·       Eiddo – nodwyd fod gwariant wedi cael ei wneud yn y maes yma yn unol â’r gyllideb a ddyrannwyd. Esboniwyd ei fod yn cwmpasu nifer o ddyletswyddau megis cynnal a chadw tiroedd yn ogystal â meinciau. Eglurwyd hefyd ei fod yn cynnwys ad-daliad am rai taliadau megis meinciau coffaol.

·       Trafnidiaeth - Adroddwyd bod y pennawd hwn yn manylu ar danwydd i ddefnyddio cwch yr harbwr ac nid yw costau cynnal a chadw wedi cael ei gynnwys yn y ffigyrau. Cadarnhawyd yr amcangyfrifwyd tanwariant o £427 oherwydd nid yw’r tywydd wedi galluogi swyddogion i ddefnyddio’r cwch mor aml ag gobeithiwyd.

·       Gwasanaethau a Chyflenwadau - Proffwydwyd bydd tanwariant o oddeutu £7,000 o fewn y maes hwn oherwydd costau dydd i ddydd a chontractwyr ar hyd y flwyddyn. Ymhelaethwyd bod hyn yn cynnwys nifer o gostau megis buddsoddiad mewn angorfeydd, goleuo a chadwyni. Cydnabuwyd bod prisiau wedi bod ar gynnydd dros y flwyddyn gan achosi gorwariant.

 

Adroddwyd y rhagwelir tanwariant o £1,314 yng nghyfanswm gwariant yr harbwr yn dilyn yr ystyriaethau uchod, o’i gymharu â’r  gyllideb. Cadarnhawyd bod hyn yn sefyllfa gadarnhaol i’r harbwr. Tynnwyd sylw y rhagwelir incwm uwch i’r harbwr ar gyfer y flwyddyn hon oherwydd bod ei ffioedd i gwsmeriaid wedi cynyddu, yn ogystal â chodi ffioedd am wasanaethau ychwanegol megis parcio trelars.  Pwysleisiwyd bod cynnydd yn y niferoedd sydd wedi cofrestru i ddefnyddio’r angorfeydd.

 

Cadarnhawyd y rhagwelir bydd yr harbwr yn tanwario £5,010 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, o’i gymharu â’r gyllideb ar gyfer 2023/24. Cydnabuwyd bod modd i hyn newid cyn diwedd y flwyddyn ariannol ond mynegwyd balchder bod yr harbwr yn tanwario ar hyn o bryd.

 

Adroddwyd bod newidiadau i ffioedd a thaliadau ar gyfer y flwyddyn 2024/25. Cadarnhawyd bod y newidiadau hyn eisoes wedi cael eu cyflwyno i’r Aelod Cabinet a'u bod nhw wedi cael eu cymeradwyo. Eglurwyd bod y newidiadau hyn wedi cael eu cyflwyno oherwydd bod targedau incwm yr harbyrau ar draws y sir wedi cynyddu ac felly mae’r costau hyn yn ddull i gyrraedd y targedau hynny yn enwedig o ystyried bod y tywydd yn effeithio ar allu’r harbwr i ddenu defnyddwyr i wasanaethau. Atgoffwyd yr aelodau bod modd i gwsmeriaid dalu am y gwasanaethau ar lein bellach. Tynnwyd sylw at y newidiadau canlynol:

 

·       Cadarnhawyd ni fydd cynnydd yn y ffi lansio eleni. Esboniwyd bod ffi'r gwasanaeth hwn wedi cynyddu o £10 i £22 yn 2020 ac felly ni fydd yn cynyddu eto eleni.

·       Eglurwyd bod ffi cofrestru yn cynyddu o £60 i £70 (cynnydd o 17%).

·       Nodwyd bod cynnydd o 6% i ffi pecyn lawnsio blynyddol a chofrestru, gan godi’r ffi o £170 i £180. Adroddwyd bod y newid hwn wedi ei wneud oherwydd bod mwy o gwsmeriaid yn dewis talu am y gwasanaethau yn y dull yma yn hytrach na ffioedd dyddiol, ac mae’n haws i’w reoli.

·       Esboniwyd bod ffi lansio i fadau llai na 10hp yn codi o £35 i £40

·       Adroddwyd bod ffi o £40 wedi ei nodi ar gyfer cychod hwylio mewn amrywiol lleoliadau ar draws y sir. Cydnabuwyd nad yw’r ffi hwn yn berthnasol ar gyfer harbwr Aberdyfi.

 

Diolchwyd i’r Harbwrfeistr a’r holl swyddogion am eu gwaith trylwyr dros y misoedd diwethaf. Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Harbwrfeistr ble tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau bod dau Hysbysiad Lleol i Forwyr yn parhau mewn grym ar hyn o bryd oherwydd problem gyda’r cymhorthion  mordwyo neu eu bod wedi symud, ond gobeithir y byddent wedi eu datrys erbyn y Pasg. Eglurwyd bod manylion am Hysbysiadau Lleol i Fforwyr ar wefan Cyngor Gwynedd a phwysleisiwyd pwysigrwydd cysylltu gyda swyddfa’r harbwr ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch mordwyo.

 

Adroddwyd bod yr harbwr wedi buddsoddi mewn ‘drôn’ er mwyn gallu edrych ar fanylion a nodweddionpenodol o’r awyr, megis archwilio cymhorthion  mordwyo heb orfod lansio cwch yr harbwr. Tynnwyd sylw y byddai hefyd yn ddefnyddiol petai unrhyw un yn mynd ar goll er mwyn helpu i ddod o hyd iddynt. Yn anffodus, cydnabuwyd nad oes modd rhannu’r hyn a welir ar y ‘drôn’ ar y we oherwydd ni fyddai modd dibynnu ar y wybodaeth gan y byddai  wedi dyddio. Nodwyd hefyd byddai hyn yn codi trafferthion gyda rheoliadau.

 

Nodwyd bod cwch patrôl ‘Powercat’ yr harbwr wedi derbyn gwaith cynnal a chadw yn ddiweddar i baratoi ar gyfer y tymor prysur. Esboniwyd fel rhan o reoliadau codio cychod Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, bod y cwch wedi derbyn archwiliad gan Syrfëwr Morol cymeradwy ym mis Chwefror. Cadarnhawyd bod y cwch wedi pasio’r archwiliad hwn a bod y dystysgrif ar y ffordd. Adroddwyd bydd y cwch yn dychwelyd i wneud dyletswyddau gweithredol wedi iddi gael ei atgyweirio gan beiriannydd morol lleol.

 

Cadarnhawyd bod swyddogion yn parhau i gydweithio gyda’r awdurdodau yn dilyn damwain ddifrifol  yn yr harbwr haf diwethaf. Anogwyd pawb i barhau i gydweithio gyda’r awdurdodau petai’r angen yn codi. Cydymdeimlwyd gyda phawb oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

 

Nodwyd bod swyddfa’r harbwr wedi bod yn delio gyda nifer o ymholiadau a chwynion am sbwriel yn ddiweddar. Diolchwyd i bawb am helpu i glirio sbwriel sy’n golchi i’r lan ar y blaendraeth lleol. Er hyn, nodwyd y dylid rhoi gwybod i swyddfa’r harbwr am eitemau mawr a swmpus neu eitemau sy’n cael eu hystyried yn amheus, peryglus, cyrydiol neu wenwynig ar unwaith, er mwyn trefnu i’w gwaredu yn ddiogel. Pwysleisiwyd ei fod yn bwysig i dynnu sylw swyddfa’r harbwr am unrhyw wastraff sydd wedi cael ei gasglu a’i adael er mwyn sicrhau bod trefniadau i’w casglu yn cael ei wneud mor fuan â phosibl. Pwysleisiwyd bod y Cyngor yn casglu gwastraff am ddim os ydynt ger y biniau sbwriel a bod swyddogion yn gallu eu cyrraedd yn hawdd.

 

Ystyriwyd darparu pecynnau codi sbwriel yn swyddfa’r harbwrfeistr, fel bod modd i bobl eu defnyddio, ond nodwyd nad oedd y rhain yn cael eu dychwelyd pan fu i’r swyddfa dreialu hyn yn y gorffennol. Nodwyd efallai byddai system o’r fath yn gweithio petai’n cael ei ailgyflwyno, os bydd angen talu am y nwyddau a bod defnyddiwyd yn derbyn ad-daliad wrth eu dychwelyd.

 

Edrychwyd ymlaen at dymor prysur i’r harbwr gan dynnu sylw at nifer o ddigwyddiadau cyffrous sydd ar y gweill megis Pencampwriaethau Arfordirol Rhwyfo Cymru 2024, Regata Flynyddol Clwb Rhwyfo Aberdyfi a digwyddiadau WeSwimRun.

 

Diolchwyd i bawb am eu gwaith dros y misoedd diwethaf ac am gydweithio mor effeithiol gyda swyddfa’r harbwr.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: