Agenda item

Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall.  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion priffyrdd ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.               Amser

2.               Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.               Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiadau ecolegol / coed

4.               Rhaid dilyn y dulliau gweithredu a’u hamlygir yn y CEMP / cynllun atal  llygredd

5.               Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

6.               Caniateir defnyddio’r adeilad at ddibenion o fewn Dosbarth Defnydd B1 yn unig

7.               Amodau Dŵr Cymru

8.               Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

9.               Amodau CNC

10.    Os, yn ystod y datblygiad, y canfyddir bod halogiad nas adnabuwyd yn flaenorol yn bresennol ar y safle yna ni fydd unrhyw ddatblygiad pellach (oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol) hyd nes y ceir strategaeth adfer yn manylu ar sut y bydd yr halogiad diamheuol yn cael ei weithredu wedi ei gyflwyno a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Nodiadau:

1.  Dŵr Cymru

2.  Uned Draenio Tir

3.  CNC

 

Cofnod:

Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i’r Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol a Chynllun Atal Llygredd a gyflwynwyd

 

·         Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi adeilad newydd er mwyn darparu gofod swyddfa a chantîn (Dosbarth Defnydd B1) i wasanaethu safle busnes Siemens yn Llanberis ynghyd â datblygiadau cysylltiedig; byddai'r datblygiad yn cynnwys codi adeilad tri llawr ar dir glas llethrog i’r gogledd o adeiladau presennol y cwmni. Ategwyd bod yr angen am y cyfleuster newydd wedi codi yn sgil gwaith adnewyddu yn un o’r adeiladau eraill sydd ar y safle yn ymwneud ar angen am ragor o ofod ar gyfer gweithgynhyrchu. Byddai’r adnewyddu yn golygu colled o ofod gwasanaethol megis swyddfeydd a chantîn sydd bellach wedi eu gosod mewn  adeiladau dros dro. Nodwyd na fyddai’r bwriad yn golygu cynyddu dwysedd defnydd y safle ond yn hytrach ymgais ydyw i ddarparu cyfleusterau cefnogol priodol i wasanaethu’r busnes presennol.

 

Adroddwyd, yn unol ag anghenion y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd) bod y datblygiad yn cael ei ddiffinio feldatblygiad mawroherwydd maint yr arwynebedd llawr a fwriedir ei ddarparu. Yn unol â’r drefn briodol fe dderbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais. Mae’r adroddiad yn dangos fod y datblygwyr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir gan y CDLl, ond yn rhan o safle mawr sydd eisoes mewn defnydd ar gyfer diwydiant. Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 1 y CDLl sy’n annog gwrthod datblygiadau tu allan i’r ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau cynllunio lleol neu genedlaethol eraill neu fod y cynnig yn dangos bod lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Yn yr achos yma, o ystyried mai ymestyn y busnes presennol sydd eisoes ar y safle yw’r bwriad, ystyriwyd ei fod yn gwbl ddisgwyliedig i’r cyfleuster gael ei ddarparu ar y safle ac felly bod cyfiawnhad priodol dros ganiatáu datblygiad o'r fath yn y lleoliad hwn.

 

Yng nghyd-destun materion Isadeiledd a Chynaliadwyedd amlygwyd bod Dwr Cymru wedi cadarnhau bydd capasiti digonol yr y system garthffosiaeth leol i gwrdd gyda gofynion y datblygiad erbyn diwedd Mawrth 2025 ac y gellid sicrhau cysylltiad i'r cyflenwad dŵr. Nodwyd hefyd bod angen systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli dŵr wyneb ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy na 100m2 o arwynebedd llawr a darparu cais i’r Corff Cymeradwy SDS i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Coed ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth ynghyd ag Asesiad Effaith Ecolegol wedi ei gyflwyno gyda’r cais a bod cynnwys yr asesiadau yn dderbyniol gan yr Uned Bioamrywiaeth. Ystyriwyd bod y mesurau lliniaru a gwelliannau a gynigwyd yn rhoi cyfle i ddatblygu’r safle mewn modd sy’n sensitif i anghenion bioamrywiaeth ac o osod amodau priodol, bydd y datblygiad yn dderbyniol dan Bolisïau AMG 5 a PS 19 o'r CDLl. 

 

Amlygwyd nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais gan na fydd newid yn nwysedd defnydd y safle fyddai’n galw am newid yn y trefniadau parcio.  Cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg i gefnogi’r cais, yn unol â gofynion Canllaw Cynllunio Atodol Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy (CCA), ynghyd a pholisi PS1 y CDLl, oherwydd maint arwynebedd llawr y datblygiad. Roedd y datganiad yn nodi, oherwydd na fyddai disgwyl i'r bwriad arwain at bobl ychwanegol i'r ardal ac nad oedd disgwyl i'r bwriad arwain at allfudo o'r ardal, ni ddisgwylid unrhyw newid i symudedd y boblogaeth o ganlyniad i'r datblygiad; Byddai disgwyl effaith niwtral felly ar symudedd y boblogaeth. Nid oedd gan yr Uned Iaith unrhyw sylwadau pellach i’r bwriad.

 

Ystyriwyd fod y defnydd, dyluniad a'r deunyddiau arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddant yn amharu ar fwynderau, cymeriad neu edrychiad y safle na'r ardal o'i gwmpas.

 

·         Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·      Bod y cwmni yn  cynhyrchu technoleg i gynorthwyo diagnosis cyflyrau meddygol, ar ei safle yn Llanberis.

·      Bod dros 400 o bobl yn gweithio i’r cwmni

·      Bod y cais yn un i ddarparu gofod ar gyfer cyfleuster newydd yn sgil gwaith adnewyddu yn un o’r adeiladau eraill fel rhan o estyniad y cwmni i ddarparu 100 o swyddi sgiliau uwch

·      Bydd yr adeilad newydd yn gynaliadwy ac o ddefnydd hyblyg – wedi ei ddylunio yn ofalus fel bod modd newid y gosodiad

·      Bydd yn cynnwys hwb i’r gweithwyr, lleoliad gwaith ymarferol ynghyd a derbynfa newydd

·      Bod y cwmni wedi gweithio yn agos gyda’r swyddogion cyn cyflwyno’r cais

·      Bod y dyluniad yn gweddu i’r amgylchedd o’i gwmpas – dim effiath gweledol

·      Petai’r cais yn cael ei ganiatáu bydd y gwaith yn dechrau mis Ebrill 2024 gyda bwriad o agor yn fuan yn 2025

 

·         Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion priffyrdd ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.         Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiadau ecolegol / coed

4.         Rhaid dilyn y dulliau gweithredu a’u hamlygir yn y CEMP / cynllun atal  llygredd

5.         Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

6.         Caniateir defnyddio’r adeilad at ddibenion o fewn Dosbarth Defnydd B1 yn unig

7.         Amodau Dŵr Cymru

8.         Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

9.         Amodau CNC

 10.         Os, yn ystod y datblygiad, y canfyddir bod halogiad nas adnabuwyd yn flaenorol yn bresennol ar y safle yna ni fydd unrhyw ddatblygiad pellach (oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol) hyd nes y ceir strategaeth adfer yn manylu ar sut y bydd yr halogiad diamheuol yn cael ei weithredu wedi ei gyflwyno a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Nodiadau:

1.         Dŵr Cymru

2.         Uned Draenio Tir

3.         CNC

 

Dogfennau ategol: