Agenda item

Newidiadau allannol i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif C08D/0205/40/LL yn cynnwys estyniad llawr cyntaf,  edrychiad a deunyddiau allannol.. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod.

 

1.     Ni fyddai maint, swmp, dyluniad na gorffeniad y datblygiad arfaethedig yn cyfleu na pharchu'r safle gan y byddai'n creu nodwedd anghydweddol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y tirlun a'r ardal leol ac, felly, ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Mae'r bwriad, felly, yn groes i ofynion meini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd â'r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio.

 

Cofnod:

Newidiadau allanol i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif C08D/0205/40/LL yn cynnwys estyniad llawr cyntaf, edrychiad a deunyddiau allanol

 

a)      Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi estyniadau i deulawr. Eglurwyd bod y Cyngor wedi rhoi hawl am estyniadau unllawr a rhannol ddeulawr o dan gyfeirnod C08D/0205/40/LL yn 2008 gyda rhan o'r estyniadau ar lefel unllawr wedi eu codi yn rhannol, a bod y cais yma yn golygu newid y cynllun a ganiatawyd yn 2008. Ategwyd bod yr estyniadau wedi eu lleoli ar edrychiad blaen, ochr a chefn y ac o ddyluniad modern ac yn sylweddol fwy na'r adeilad presennol.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored a thu allan i unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir yn y CDLl. Yr eiddo presennol yn dŷ deulawr traddodiadol wedi ei orffen gyda chwipiad cerrig gyda’r eiddo preswyl agosaf oddeutu 120m i ffwrdd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Cyfeiriwyd at Bolisi PCYFF3 sy’n datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf. Roed yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried fod y bwriad, oherwydd ei faint, swmp, dyluniad a gorffeniad yn creu nodwedd estronol yng nghefn gwlad agored a chael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal oherwydd na fyddai yn gweddu gyda chymeriad ac edrychiad y tŷ presennol a thai ardal cefn gwlad.  O ganlyniad, ni fyddai’r bwriad yn cyfarfod meini prawf 1, 2 a 3 o bolisi PCYFF3 o fewn y CDLl sy'n sicrhau fod cynigion yn ychwanegu at ac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle a'r adeilad o ran gosodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a thriniaeth edrychiadau; yn parchu cyd-destun y safle a'i le yn y dirwedd leol; ac yn defnyddio deunyddiau sy'n briodol i'r hyn sydd o'u hamgylch, na gofynion Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sy'n cefnogi cynigion o ddyluniad o safon uchel.

 

Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau yng nghyd-destun priffyrdd, mynediad ac iaith ac roedd yr Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr arolwg ystlumod a dderbyniwyd ynghyd a chynlluniau yn cynnig gwelliannau bioamrywiaeth yn dderbyniol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd y gellid cefnogi’r cais ar sail ei faint, swmp, dyluniad a gorffeniad a fyddai’n creu nodwedd estronol yng nghefn gwlad ac yn cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal. Ystyriwyd y bwriad yn annerbyniol ac argymhellwyd ei wrthod.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol;

·         Bod y cais yn un ar gyfer estyniadau a newid deunyddiau i gais a gafodd ei gymeradwyo yn 2008 o dan cyf:C08D/0205/40/LL

·         Bod y cais gwreiddiol yn un i greu estyniad llawr gydag arwynebedd o 242m2, ag estyniad llawr cyntaf o 60m2 i’r tŷ presennol yn Tŷ’n Llwyn.

·         Bod gwaith adeiladu wedi dechrau rhai blynyddoedd yn ôl ac wedi peidio stop ers rhai blynyddoedd bellach, ond cyn ailddechrau mae’r ymgeisydd eisiau gwneud newidiadau i’r hyn sydd wedi ei gymeradwyo.

·         Bod y Swyddog yn nodi yn yr adroddiad nad oedd unrhyw broblem gyda’r cais o ran, Mwynderau Cyffredinol, Priffyrdd a Bioamrywiaeth a’r unig bryderon a rhesymeg sydd  i wrthod y cais yw’r maint a’r deunyddiau sydd wedi ei ddewis.

·         Bwriad y cais yw ychwanegu estyniad llawr daear o 39m2 i’r hyn sydd eisoes wedi ei gymeradwyo yn 2008; 24m2 yn rhan o’r ardal ‘semi enclosed’ i’r drws, felly cynnydd yn yr arwynebedd llawr daear tua 16% yn fwy na hyn a gafodd ei gymeradwyo’n wreiddiol

·         Bod bwriad hefyd i ychwanegu oddeutu 86m2 i’r llawr cyntaf ar ben yr hyn a gafodd ei gymeradwyo yn 2008.

·         Bod y deunyddiau a ddewiswyd ar gyfer yr estyniadau y tro yma yn wahanol i’r rhai a gafodd eu cymeradwyo yn 2008, ond y 3 brif ddeunydd sy’n cael eu cynnig wedi cael ei defnyddio yn yr ardal leol sawl gwaith. Y 3 deunydd ydi, corten, cerrig naturiol lleol a choed naturiol wedi ei llosgi yn ddu.

-     Corten (fel cladin) yn ddeunydd gweddol newydd, ond oherwydd ei olwg (dur sydd yn rhydu yn naturiol i liw oren / frown), mae’n rhoi arddangosiad mwy traddodiadol a hanesyddol ac yn atsain yn ôl i’r hen ddyddiau amaethyddol. Nodwyd bod corten wedi cael ei ddefnyddio sawl gwaith yn y sir gydag esiampl yn Borth Y Gest o dan geisiadau C20/0471/44/LL a C21/0320/44/AC - tŷ  wedi ei leoli mewn lle llawer mwy gweladwy ‘na Ty’n Llwyn a gyferbyn Ysgol Gynradd Broth Y Gest. Yr esiampl yma hefyd yn defnyddio corten gyda cherrig naturiol yn yr un modd a bwriad Ty’n Llwyn.

-       Cerrig Naturiol Lleol - cerrig naturiol lleol yn ddeunydd sydd wedi cael eu defnyddio am gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd yn yr ardal.

-       Coed Wedi ei Llosgi - y broses o losgi'r coed yn eu hamddiffyn rhag pydru. Yr edrychiad yn atsain yn ôl i’r hen ddyddiau lle gwelwyd adeiladau amaethyddol yn cael ei gorchuddio gyda choed wedi eu paentio’n ddu - yn creu cysylltiad hanesyddol.

·      Byddai dod a’r 3 prif ddeunydd yma at ei gilydd yn creu adeilad trawiadol, drwy ddefnyddio deunyddiau sydd i’w gweld yn lleol, ac felly yn nod i’w gynefin.

·      Bod y Swyddog yn nodi yn yr adroddiad bod y bwriad yn methu ar feini prawf 1, 2 a 3 o Polisi PCYFF3, ond yr ymgeisydd yn nodi fod y bwriad yn; a) cydymffurfio ac yn gwella edrychiad y safle a’r adeilad ac yn creu adeilad trawiadol; b) mae’n eistedd yn ei gynefin yn naturiol - nid yw’r bwriad yn cael ei wasgu mewn i'r safle ac mae digon o le o’i amgylch; c) defnyddio deunyddiau sydd yn hollol briodol i’r safle a’r amgylchedd.

 

c)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Bod y teulu yn deulu lleol, yn rhedeg busnes a chyflogi yn lleol

·         Bod y teulu yn deulu o wyth ac felly angen mwy o le

·         Bod y bwriad yn rhesymol ar gyfer teulu

·         Na fyddai’r bwriad yn creu effaith ar eraill – wedi ei leoli oddeutu 120m i ffwrdd o dai eraill

·         Bod yr estyniad tu ôl i’r tŷ gwreiddiol ac felly dim yn edrych llawer mwy

·         Bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng yr asiant ar ymgeisydd ynglŷn â’r dyluniad a deunyddiau addas i sicrhau'r safon gorau

·         Bod y dyluniad yn gweddu i’r safle

·         Byddai’r estyniad yn cadw pobl ifanc y teulu yn lleol, i gefnogi’r busnes, yr iaith a’r gymuned

·         Yn gefnogol i’r bwriad

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais – yr estyniad yn un ar gefn estyniad presennol ac allan o gymeriad

 

d)         Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag awgrym i drafod ymhellach gyda’r ymgeisydd am gais mwy addas, nododd y Pennaeth Cynorthwyol, petai’r cynllun yn cael ei addasu yna byddai angen cyflwyno cais o’r newydd. Ategodd bod cynnig am gyngor cyn cyflwyno cais wedi ei wneud ond yr arweiniad heb ei dderbyn. Nododd hefyd bod posib cael estyniad gwahanol o ddyluniad fyddai’r parchu’r safle a’r eiddo presennol.

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod.

 

1.    Ni fyddai maint, swmp, dyluniad na gorffeniad y datblygiad arfaethedig yn cyfleu na pharchu'r safle gan y byddai'n creu nodwedd anghydweddol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y tirlun a'r ardal leol ac, felly, ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Mae'r bwriad, felly, yn groes i ofynion meini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd â'r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio.

 

Dogfennau ategol: