Agenda item

Gwaith arfaethedig yn ardal Gerddi'r Draphont yn Abermaw i: 

1.    Atgyweirio, cryfhau a chodi uchder oddeutu 60m o hyd o wal fôr, 

2.    Adeiladu wal eilaidd gyda giât lifogydd newydd yn yr ardal tu ôl i'r wal fôr gynradd (rhwng yr A496 a'r wal fôr gynradd),

3.    Gosod system ddraenio newydd er mwyn rheoli dwr wyneb a gorlifo yn yr ardal tu ôl i'r wal eilaidd a'r giatiau llifogydd, 

4.    Mewnosod offer gwydnwch rhag llifogydd, 'Property Flood Resilience', ar eiddo yn ardal y cei. 

5.    Mewnosod pibell arllwys dwr wyneb newydd yn y wal fôr. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol          

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Yn unol â'r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd.
  3. Amodau Gwarchod y Cyhoedd – amseroedd
  4. Cyflwyno a chytuno CEMP
  5. Cyflwyno a chytuno manylion tirweddu meddal a caled.
  6. Gweithredu’r manylion tirweddu.
  7. Cynllun i amddiffyn cyflwr strwythurol a mynediad parhaus y prif gyflenwad dŵr cyhoeddus sy'n croesi'r safle.
  8. Cynllun i amddiffyn cyflwr strwythurol a mynediad parhaus yr asedau dŵr gwastraff cyhoeddus sy'n croesi'r safle.
  9. Oriau gwaith cyfnod adeiladu.
  10. Oriau stancio dalennau.
  11. Gweithredu mesurau lliniaru lefelau sŵn.
  12. Gosod rhwystrau sŵn.
  13. Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheoli Sŵn ar gyfer y cyfnod adeiladu.
  14. Amodau archeolegol.

 

Nodyn:- 

SuDS, Cyngor CNC, Network Rail, Gwarchod y Cyhoedd a Dŵr Cymru i’r datblygwr

 

Cofnod:

Gwaith arfaethedig yn ardal Gerddi'r Draphont yn Abermaw

 

a)         Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd ar gyfer gwella’r mecanweithiau amddiffyn rhag llifogydd. Byddai’r gwaith yn cynnwys:-

·         Atgyweirio, cryfhau a chodi uchder tua 60m o wal môr;

·         Codi wal eilaidd gyda giatiau llifogydd newydd yn yr ardal tu ôl i’r brif wal fôr;

·         Gosod rhwydwaith draenio newydd er mwyn rheoli dŵr wyneb a gorlifo yn yr ardal tu ôl i’r wal eilaidd a’r giatiau llifogydd;

·         Gosod pibell allfa ddŵr wyneb newydd sy'n ymwthio o’r wal môr i’r harbwr;

·         Gosod offer gwydnwch rhag llifogydd mewn eiddo yn ardal y cei.

 

Adroddwyd y byddai wal fôr yn cael ei ail adeiladu a’i wynebu gyda charreg o’r wal bresennol

gyda rhan wal parapet oddeutu 1.2 medr uwchlaw lefel y llawr cyfagos.  Byddai’r ‘rock armour’ presennol yn cael ei ail ddosbarthu ar ran uchaf y traeth, ar draws ffrynt y wal fôr a’i atgyfnerthu gyda cherrig ychwanegol fel y galw.  Byddai wal wrth gefn newydd yn cael ei chodi ar ffin ogleddol Gerddi’r Draphont a fyddai’n cynnwys gwydr ar y rhan uchaf.  Byddai’r gwaith hefyd yn cynnwys cynllun i reoli dŵr wyneb gyda gatiau llifogydd, gwterydd, draeniau ac amrywiaeth o addasiadau i’r system bresennol ynghyd ag allfa dŵr wyneb newydd ar y traeth. Ar ddiwedd y gwaith byddai’r man cyhoeddus yn Gerddi’r Draphont yn cael ei adfer drwy waith tirweddu a gosod dodrefn stryd newydd.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei leoli  yn rhannol oddi fewn i ffin ddatblygu Abermaw.  O ganlyniad a heb opsiwn arall o ran lleoliad neillog ar gyfer darparu’r gwaith, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi PCYFF 1 CDLl.  Cyfeiriwyd at polisi AMG 4, sy’n cyfeirio at Warchod yr Arfordir ac yn gofyn i gynigion ddangos bod budd economaidd a chymdeithasol gorbwysol yn dod o’r datblygiad. Nodwyd hefyd y dylai cynigion sicrhau nad oes niwed annerbyniol i ansawdd dŵr, mynediad cyhoeddus, yr amgylchedd adeiledig, cymeriad y tirlun neu'r morlun ac effeithiau bioamrywiaeth.

 

Cyflwynwyd nifer o adroddiadau technegol gyda’r cais oedd yn cynnwys tystiolaeth arwyddocaol oedd yn cyfiawnhau'r gwaith dan sylw.

 

Yn y Cynllun Rheoli Traethlin mae’r polisi ar gyfer y rhan yma o Abermaw, sy’n cynnwys rhan o’r harbwr a’r ffordd fynediad, ynghyd ag amddiffynfeydd glan y môr yn nodi ‘Cadw’r Llinell’. Datgan y Cynllun Rheoli Traethlin “y byddai angen cynnal a chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr harbwr a chynnal amddiffynfeydd y ffordd a’r rheilffordd ac, yn ôl pob tebyg, atgyfnerthu mwy ar amddiffynfa Ynys y Brawd. Caiff hyn ei ystyried yn gynaliadwy ac mae’n cynnal defnydd pwysig yr harbwr a mynediad i’r dref.”  O ganlyniad, ystyriwyd bod yr egwyddor o gynnal a chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr harbwr, y ffordd a’r rheilffordd yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail polisi ARNA 1 (fodd bynnag, bydd rhaid i'r cynllun gydymffurfio â nifer o bolisïau eraill sy'n ystyried yr effaith ar yr amgylchedd).

 

Yng nghyd-destun dyluniad a mwynderau, ystyriwyd, fel y gwelir gyda nifer o ddatblygiadau, bydd yr effeithiau mwyaf andwyol i'w cael yn ystod y cyfnod adeiladu a caiff hyn ei gydnabod yn y Datganiad Tirwedd a Gweledol. Ystyriwyd bod y cynnig, o ran ei ffurf a'i orffeniad, yn dderbyniol ac yn cynnig datblygiad o ansawdd o ran y mwynderau gweledol drwy arddangos dyluniad a nodweddion sy'n cyflwyno ac yn creu datblygiad fyddai'n addas ac yn briodol i'r safle ac o fewn yr ardal ehangach. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol yn seiliedig ar ofynion perthnasol Polisi PCYFF 3, PCYFF 4, AMG 2 ac AMG 4 CDLL.

 

Yng nghyd-destun materion treftadaeth ac archaeolegol, adroddwyd bod sylwadau wedi eu derbyn gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol yn cyfeirio fod gan y safle potensial ar gyfer nodweddion archeolegol. Roeddynt felly yn argymell gosod amodau ar unrhyw ganiatâd cynllunio i sicrhau rhaglen o waith archeolegol ar gyfer y datblygiad; o osod amod priodol i gynnal rhaglen o waith archeolegol, y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi AT 4 CDLl.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd derbyniwyd sylwadau gan CNC yn nodi fod yr FCA wedi dangos y bydd y cynllun yn welliant o ran perygl llifogydd i'r ardal o amgylch Gerddi’r Draphont yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, Addasu i Newid Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, dyddiedig Awst 2022.

 

Wrth drafod materion bioamrywiaeth ac ecolegol,  cyflwynwyd fel rhan o’r cais Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - Adroddiad Sgrinio Rhagarweiniol, asesiad Effaith Ecolegol a Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol.  Nodwyd bod yr asesiadau hyn wedi ystyried prosesau ffisegol ac arfordirol, ansawdd dŵr a dyddodion, ecoleg forol a chadwraeth natur, ecoleg ddaearol a chadwraeth natur; ac amddiffyn arfordirol ac amddiffyn rhag llifogydd. Roedd yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y Cyngor wedi dod i’r casgliad y byddai’r cynnig yn debygol o gael effaith sylweddol ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llyn a'r Sarnau a bod CNC wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch colli cynefin rhynglanwol bach o fewn yr ôl troed a'r newid posibl i broses arfordirol oherwydd y bibell uchel arfaethedig.

 

Ategwyd bod  Cyngor Gwynedd a CNC yn awdurdodau cymwys o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd), a bod rhaid iddynt, cyn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer prosiect sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar ACA, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, wneud asesiad priodol o oblygiadau'r prosiect ar gyfer y safle hwnnw o ystyried ei amcanion cadwraeth.  Mae’r cynnig gerbron yn disgyn oddi fewn i’r amgylchedd morol ac ar y tir ac felly mae cyfrifoldebau’r Cyngor a CNC yn gorgyffwrdd o ran materion asesiad priodol.  Gyda’r effaith ar yr ACA yn disgyn o fewn yr amgylchedd morol, CNC fyddai’n cymryd yr awenau fel yr awdurdod cymwys arweiniol. Cyflwynwyd cais am Drwydded Forwrol i CNC ac mae asesiad priodol wedi ei wneud yn sgil hynny.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.  Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.  Yn unol â'r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd.

3.  Amodau Gwarchod y Cyhoedd – amseroedd

4.  Cyflwyno a chytuno CEMP

5.  Cyflwyno a chytuno manylion tirweddu meddal a caled.

6.  Gweithredu’r manylion tirweddu.

7.  Cynllun i amddiffyn cyflwr strwythurol a mynediad parhaus y prif gyflenwad dŵr cyhoeddus sy'n croesi'r safle.

8.  Cynllun i amddiffyn cyflwr strwythurol a mynediad parhaus yr asedau dŵr gwastraff cyhoeddus sy'n croesi'r safle.

9.  Oriau gwaith cyfnod adeiladu.

10.  Oriau stancio dalennau.

11.  Gweithredu mesurau lliniaru lefelau sŵn.

12.  Gosod rhwystrau sŵn.

13.  Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheoli Sŵn ar gyfer y cyfnod adeiladu.

14.  Amodau archeolegol.

 

Nodyn:- 

SuDS, Cyngor CNC, Network Rail, Gwarchod y Cyhoedd a Dŵr Cymru i’r datblygwr

 

 

 

Dogfennau ategol: