Agenda item

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd:

1.     Cyllideb Refeniw 2024/25 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1.

2.     Cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid a chyfraniadau atodol awdurdodau lleol.

3.     Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 2.

4.     I ymestyn y contractau staff cyfnod penodol o fis Mawrth 2025 i fis Mawrth 2026.

 

Cofnod:

Er mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

Mae Atodiad 1 yn gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn.

 

Mae Atodiad 2 yn gosod y gyllideb gyfalaf arfaethedig fesul prosiect a’r cyllid cyfalaf cyfatebol ar gyfer y Cynllun Twf o £240m.

 

Mae Atodiad 3 yn rhoi crynodeb o gyllideb 2024/25 yn erbyn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr aelodau drwy gyllideb refeniw'r Bwrdd Uchelgais gan  dynnu sylw penodol at y penawdau canlynol:

·       Swyddfa Rheoli Portffolio - gan nodi bod gwariant yn cynnwys ugain o weithwyr yn ogystal â swydd grant lleoliad myfyriwr tan fis Awst 2024.

·       Gwasanaethau Cefnogol - eglurwyd bod y rhain yn cynnwys cyllid, cyfreithiol, cefnogaeth gorfforaethol, technoleg gwybodaeth ac yswiriant.

·       Cyd-bwyllgor - nodwyd bod y rhain yn berthnasol i’r Bwrdd Uchelgais fel cydbwyllgor, ac mae’n cynnwys costau cyfreithiol allanol ar yfer y Cytundeb Llywodraethu, Ffioedd Cyllidol Ariannol, Ffioedd Archwilio Allanol a chyllideb y Bwrdd Cyflawni Busnes.

·       Prosiectau - cadarnhawyd ei fod yn cynnwys y gwariant refeniw sydd yn gysylltiedig â’r prosiectau cyfalaf y Cynllun Twf, sy’n cynnwys achosion busnes y prosiectau, cefnogaeth allanol cyfreithiol a chaffael ynghyd â’r Adolygiadau Sicrwydd gan y Llywodraeth.

·       Cynlluniau Grant - eglurwyd ei fod yn berthnasol i’r Cynlluniau Ynni Ardal Leol, sy’n cael ei ariannu gan grant penodol gan Lywodraeth Cymru a hefyd yn cynnwys y cynlluniau sy’n cael eu hariannu o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Gyfunol.

 

          Tynnwyd sylw at bennawd Cyfraniadau Ariannu o fewn y gyllideb refeniw gan nodi ei fod yn cynnwys cyfraniadau partneriaid a chyfraniadau atodol y cynghorau. Ymhelaethwyd ei fod hefyd yn cynnwys Grant Bargen Twf o £1.1m ac sy’n rhan o’r 2.15% sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gwariant refeniw. Nodwyd bod Grant Ynni Llywodraeth Cymru yn ariannu gwariant y ‘Cynlluniau Grantiau’ a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y Ddeyrnas Gyfunol. Eglurwyd mai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd yn ariannu gwariant y pennawd ‘Cynlluniau grantiau yn ogystal ag yn cyfrannu at gostau staff craidd y Swyddfa Rheoli Portffolio. Adroddwyd bydd £211,000 yn y gronfa wrth gefn wedi i £67,000 gael ei ddefnyddio yn y gyllideb eleni.

 

          Ychwanegwyd bod un myfyriwr o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio ac mae’r cyflog yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cais gan Uchelgais Gogledd Cymru i un o raglenni caffael y llywodraeth. Nodwyd bod y cynllun hwn yn werthfawr iawn a byddai prifysgolion eraill y Gogledd yn hapus i elwa ohonynt.

 

          Adroddwyd bod y gyllideb gyfalaf yn seiliedig ar broffil gwariant sydd wedi ei addasu yn ôl risg ac yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn os bydd achosion busnes yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais. Nodwyd bydd gwariant o £240 miliwn yn cael ei ariannu o’r Fargen Twf ond bydd amseriad derbyn y grant yn golygu y bydd angen benthyca yn y tymor byr. Ymhelaethwyd bydd y gost o fenthyca yn cael ei ariannu gan bartneriaid ac arianwyr prosiectau sydd eisoes wedi bod yn cyfrannu swm blynyddol tuag at hyn mewn cronfa wrth gefn pwrpasol. Cadarnhawyd bod llog sylweddol wedi cronni ar y balasau a byddai’n cael ei drosglwyddo i’r un gronfa.

 

Eglurwyd ni fydd grant y Cynllun Twf yn cael ei dderbyn yn 2023/24 ac mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi bod yn trafod oblygiadau hyn gyda’r ddwy lywodraeth, ac mae adroddiad wedi ei gyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar y rhesymeg tu ôl i broffil ariannu diwygiedig ac ailddyrannu arian o eleni ymlaen. Adroddwyd, fel mesur un tro ar gyfer 2024/25, ni fydd partneriaid yn cael eu hanfonebau am gyfraniadau llog i gyfarch costau ychwanegol pan maent yn codi, a bydd lefelau’r cyfraniadau yn cael eu hadolygu yn ôl yr angen ar gyfer y blynyddoedd i ddod wrth i fwy o wybodaeth ddod i’r amlwg drwy gydol y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ategol: