Agenda item

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Strategaeth Fuddsoddi fanwl sy’n cynnwys yr egwyddorion a’r cynllun,

gan dderbyn bod gwireddu rhai agweddau yn amodol ar sicrhau cyllideb.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

 

          Cymeradwywyd Strategaeth Fuddsoddi fanwl sy’n cynnwys yr egwyddorion a’r

          cynllun, gan dderbyn bod gwireddu rhai agweddau yn amodol ar sicrhau cyllideb.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r strategaeth a chynllun i ddenu buddsoddiad yn adeiladu ar y sicrwydd o‘n huchelgais ar y cyd i gyflawni’r Cynllun Twf gwerth £1bn ar gyfer Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

Atgoffwyd yr aelodau mai dyma’r strategaeth fuddsoddi gyntaf i’w datblygu ar gyfer ardal gogledd Cymru. Esboniwyd bod y strategaeth yn hollbwysig i’r dyfodol gan ei fod yn osod fframwaith i ddenu buddsoddwyr i’r ardal.

 

Darparwyd diweddariad ar Strategaeth Buddsoddi Uchelgais Gogledd Cymru, gan atgoffa’r Aelodau bod disgwyliad i’r Strategaeth Buddsoddi ddenu £1biliwn i mewn i economi Gogledd Cymru. Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad sy’n cynllunio sut bydd y targed hwn yn cael ei gyfarch. Ymhelaethwyd bod Prosiect y Cynllun Twf yn cynnwys 23 prosiect ar draws pum rhaglen a darparwyd dadansoddiad o sut mae’r prosiectau hynny yn bwydo mewn i’r targed o ddenu £1biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth.

 

Adroddwyd bod Uchelgais Gogledd Cymru wedi comisiynu cwmni ymgynghori Saville i ddarparu cyngor ar y Strategaeth Buddsoddi. Ymhelaethwyd eu bod wedi gwneud ymchwil gyda rhanddeiliaid yn ystod 2023 er mwyn sicrhau datblygiad cryf i’r Strategaeth. Cydnabuwyd bod yr ymchwil hwn wedi adnabod nifer o rwystrau i fuddsoddiad yng ngogledd Cymru, gan gynnwys:

 

·       Graddfa a gwerth

·       Risg ac ansicrwydd

·       Bylchau mewn gwybodaeth ad adnabyddiaeth

·       Natur arbenigol rhai cyfleoedd

·       Cydlyniad ar draws y sector cyhoeddus

·       Cyflymder yr ymateb

·       Buddsoddiad cyhoeddus.

 

            Cadarnhawyd bod nifer o egwyddorion buddsoddi wedi cael eu datblygu fel ymateb i’r rhwystrau hyn a bu iddynt gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais yn ystod mis Rhagfyr 2023. Atgoffwyd yr aelodau bod yr egwyddorion yn cynnwys: ‘cydweithio’, ‘gwelededd i ddatgloi buddsoddiad’, ‘datblygu strategol’, ‘adeiladu ar gryfderau a maint y cyfleoedd’, ‘hyrwyddo safleoedd magned fel sylfeini ar gyfer twf rhanbarthol’ ac ‘hyrwyddo canol ein trefi’. Eglurwyd bod yr egwyddorion hyn wedi cael eu defnyddio er mwyn datblygu Amcanion y Strategaeth Fuddsoddi. Sicrhawyd bod yr amcanion wedi cael eu datblygu er mwyn sicrhau datblygiad synhwyrol a gofalus i fuddsoddiad wrth gyrraedd gofynion a thargedau’n amserol.

 

            Eglurwyd bod yr amcan gyntaf - dadansoddiad ymchwil, bellach wedi cael ei gwblhau yn dilyn gwaith Savilles. Ymhelaethwyd bod yr egwyddorion a drafodwyd wedi cael eu nodi fel amcanion y strategaeth, gan gadarnhau eu bod yn cael eu cysidro’n barhaus wrth wneud penderfyniadau.

 

            Cyfeiriwyd at y pum amcan arall bydd yn cael eu gweithredu arnynt i’r dyfodol. Esboniwyd bydd rhai yn cael eu hariannu o’r gyllideb gyfredol ond cydnabuwyd bod angen cymorth rhanddeiliaid i wireddu rhai o’r amcanion. Manylwyd ar yr amcanion gan nodi:

           

·       Sefydlu Grŵp Buddsoddi Rhanddeiliaid sector Preifat-Cyhoeddus: Gobeithir gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod buddsoddiadau llwyddiannus yn cael eu cyflwyno. Eglurwyd mai’r camau cychwynnol i wireddu’r amcan hon yw adnabod rhanddeiliaid addas i’r grŵp.

·       Cyfathrebu ac Ymgysylltu: Pwysleisiwyd bod cyfleoedd i gryfhau systemau cyfathrebu ac ymgysylltu gyda’r farchnad buddsoddi, gan gynnwys hyrwyddo cyfleoedd hysbysebu gyda chwmnïau addas.

·       Cyfathrebu Marchnata: Rhannwyd dyhead i ehangu dulliau cyfathrebu yn y maes marchnata er mwyn rhannu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.

·       Pecyn cymorth buddsoddi: Esboniwyd y gobeithir datblygu bas-data cronfa wybodaeth o offer i gynorthwyo gyda’r broses fuddsoddi.

·       Fframwaith buddsoddi: Nodwyd y dymunit ddatblygu fframwaith buddsoddi ar gyfer gogledd Cymru i helpu darpar fuddsoddwyr wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar y cyfleoedd buddsoddi sydd ar gael yn y rhanbarth.

 

            Mynegwyd dyhead y Bwrdd Cyflawni Busnes i dynnu sylw Llywodraeth Cymru i’r cyfleoedd sydd ar gael yng ngogledd Cymru, gan nodi ei fod yn amserol gwneud hynny ar ddyfodiad Prif Weinidog a Gweinidogion Llywodraethol newydd.

 

 

Dogfennau ategol: