Agenda item

I ganiatáu i aelodau'r Cyd-bwyllgor wneud penderfyniadau gwybodus am ddyfodol gwella ysgolion yng Ngogledd Cymru.

Penderfyniad:

·       Nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried goblygiadau risg ar gyfer 2024-25 a thu hwnt.

·       Bod y Bwrdd Rheoli yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod mis Mai o’r Cyd-bwyllgor ar y ffordd ymlaen fydd yn ymdrin ag amserlen a materion llywodraethu yn ogystal â goblygiadau cyllidebol.

·       I aelodau pleidleisio’r Cyd-bwyllgor gytuno i gyflwyno rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i’r Gweinidog Addysg yn y cyfarfod sydd wedi ei drefnu ar gyfer mis Ebrill.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr adroddiad gan nodi bod newid sylweddol ar y gweill i’r hyn sydd wedi bod yn wasanaeth rhanbarthol. Mynegwyd bod y cyfnod hwn yn y cyfnod anoddaf iddo ei brofi ers bron i 40 o flynyddoedd yn gweithio yn y maes Addysg ac mai un o’r heriau mwyaf yw ymdopi gyda’r ansicrwydd.

 

Cyfeiriwyd at yr amserlen ers y 18fed o Ragfyr a’r argymhellion a gafwyd yn dilyn adolygiad Dylan Jones. Nodwyd y bydd model newydd o wasanaeth gwella ysgolion a bydd angen edrych ar y capasiti o fewn y system honno; nid oes cynllun manwl am y system newydd ar hyn o bryd. Soniwyd am yr heriau i Awdurdodau Lleol sydd wedi ei hamlygu yn rhan 3.2 o’r adroddiad. Rhedwyd drwy’r risgiau cyffredinol a’r goblygiadau ariannol.

 

Nodwyd y bydd yna gyfnod o newid cyn i’r model newydd fod mewn lle ac ardrawiad newid grantiau fydd yn cael effaith ar unwaith. Eglurwyd y bydd y gwasanaeth yn peidio â bod yn wasanaeth a rennir ar draws Gogledd Cymru. Golyga hyn y bydd newid mawr o’r 1af o Ebrill ble bydd y gwasanaeth gwella ysgolion yn dod yn wasanaeth comisiwn gan wahanol Awdurdodau Lleol unigol. Amlygwyd bod angen trafodaeth ddwys am rôl y Cydbwyllgor i’r dyfodol a rôl y Bwrdd Rheoli a bod hwn yn faes llywodraethu y bydd angen edrych arno wrth symud ymlaen.

 

Cyfeiriwyd at y posibilrwydd y bydd Gweinidog Addysg newydd yn dilyn cyhoeddi’r Prif Weinidog newydd heddiw ac y gallai hynny arwain at oedi. Nodwyd mai’r amserlen a roddwyd yw Ebrill 2025 ar gyfer cael model gwella ysgolion newydd mewn lle. Pryderwyd y gallai’r amserlen o Ebrill 2025 fod yn heriol i Awdurdodau Lleol.

 

Mynegwyd cydymdeimlad at wasanaethau’r Awdurdod lletya, gan y byddai’n golygu gwaith ychwanegol i wasanaethau Cyllid, Cyfreithiol ac Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd, ynghyd â chostau ychwanegol i bawb, megis costau cau a diswyddiadau posib. Yng nghyfarfod nesaf o’r Cydbwyllgor ym mis mai, nodwyd y bydd angen edrych ar gyfluniad y tîm gan gysidro sut fydd y cyllidebau erbyn mis Mawrth 2025.  Bydd angen hefyd ystyried pa swyddi gall gael eu rhyddhau ar hyn o bryd.

 

Eglurwyd bod y gyllideb yn dynn ar bob lefel a bydd yr arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gwella ysgolion yn cael ei leihau’n sylweddol. Pwysleisiwyd bod angen eglurder ynghylch y model dysgu proffesiynol cenedlaethol. Cyfeiriwyd at forâl isel staff oherwydd yr holl ansicrwydd a’r anallu i roi gwybod i staff am eu dewisiadau ar hyn o bryd. 

 

I gloi cydnabuwyd y byddai pawb yn hoffi mwy o fanylder a mwy o wybodaeth gan amlygu bod Cam 2 o ymholiad Dylan Jones yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

 

Nododd y Cadeirydd bod cyfarfod wedi ei drefnu gyda’r Gweinidog Addysg ym mis Ebrill. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor fynegi unrhyw bryderon penodol neu gwestiynau felly y gallai’r Cadeirydd eu cyfleu yn y cyfarfod ym mis Ebrill. Cytunwyd y byddai GwE yn coladu cwestiynau ar gyfer y Cadeirydd.

 

Cyflwynodd yr aelodau'r sylwadau canlynol:

-        Cydnabuwyd bod y sefyllfa wedi bod yn un anodd yn enwedig i staff GwE, a mynegwyd diolch iddynt.

-        Nodwyd bod y sefyllfa wedi cael ei reoli’n wael  a bod cryn ansicrwydd am y ffordd ymlaen.

-        Pwysleisiwyd y pwysigrwydd i gadw ffocws a’r safonau er mwyn parhau i gefnogi ysgolion ar draws y rhanbarth a chynnig yr addysg gorau i ddisgyblion.

-        Adroddwyd bod cyfarfodydd wedi bod ymysg y Prif Swyddogion i geisio gweithio drwy oblygiadau’r newidiadau i’r cyllid grant a’r telerau ac amodau.

-        Nodwyd bod her ar dair lefel yn wynebu’r Cydbwyllgor:

o   Nodwyd mai’r flaenoriaeth yw’r dysgwyr a’r ysgolion a’i bod yn bwysig bod y gefnogaeth gorau yn parhau i gael ei gynnig. Mynegwyd ei bod yn hollbwysig peidio ag ansefydlogi perfformiadau presennol yr ysgolion.

o   Nodwyd bod gwaith cynllunio ar gyfer y Model Cenedlaethol newydd a bod diffyg eglurder ynghylch y ffocws cenedlaethol. Ategwyd bod cyfres o gyfarfodydd wedi eu trefnu. Bydd y rhain yn cynnwys Grŵp Cyfarwyddwyr Cenedlaethol gyda nifer o gyfarwyddwyr cynrychioladol a chydweithwyr Llywodraeth Cymru er mwyn trafod y manylder. Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal dydd Gwener.

o   Nodwyd bydd y model presennol yn dod i ben diwedd mis Mawrth 2025. Bydd angen adnoddau ychwanegol bryd hynny a bydd goblygiadau o ran diswyddo staff a chau’r gwasanaeth i lawr. Bydd hefyd costau i sefydlu partneriaethau newydd rhwng yr Awdurdodau. Credwyd bod adnoddau cyfyngedig i ddelio â hyn.

 

Rhoddwyd cyfle i brifathrawon sy’n cynrychioli’r ysgolion ar y Cydbwyllgor i roi sylwadau. Ymysg y sylwadau, cyfeiriwyd at y siomedigaeth a’r ansicrwydd gan nodi ei bod yn anodd i ysgolion flaenoriaethu pan nad ydynt yn gwybod beth sydd o’u blaenau. Ychwanegwyd bod yr ysgolion wedi derbyn y gefnogaeth orau yn ystod y saith mlynedd diwethaf o ganlyniad i’r Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion sy’n darparu gwasanaeth gwerthfawr. Mynegwyd pryderon am y gefnogaeth i’r dyfodol. Mynegwyd cydymdeimlad at staff GwE gan ategu bod agwedd a phroffesiynoldeb y staff i’w ganmol.

 

Cynigiwyd ychwanegu dwy frawddeg i’r argymhelliad a chytunwyd i’w hychwanegu fel (b) a (c) yn y Penderfyniad.

 

Mynegwyd diolch i’r aelodau am drafodaeth ddefnyddiol a phwysleisiwyd y bydd y cydweithio yn parhau gan obeithio y derbynnir mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn cael cynllun mewn lle.

 

Gofynnwyd i’r Rheolwr Gyfarwyddwr GwE basio diolchiadau a gwerthfawrogiad y Cydbwyllgor i staff GwE am eu proffesiynoldeb dan amgylchiadau anodd.

 

I gloi mynegodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ei ddiolch am y sylwadau gan ategu y bydd rhaid i unrhyw fodel newydd fod yn well na beth oedd yn bodoli yn flaenorol. Mynegodd bod angen cysidro ble mae’r gwerth ychwanegol o unrhyw strwythur newydd. Ategwyd ei bod yn bwysig i ysgolion fod yn ymwybodol y bydd y lefel o gefnogaeth yn lleihau yn sylweddol o Ebrill a dros y flwyddyn gyllidol nesaf oherwydd y toriadau i’r gyllideb a goblygiadau'r grantiau. Bydd hyn yn cael ei gyfathrebu yn fwy effeithiol ac mewn mwy o fanylder efo’r ysgolion ar ôl y Pasg.

 

PENDERFYNWYD

a)     Nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried goblygiadau risg ar gyfer 2024-25 a thu hwnt.

b)     Bod y Bwrdd Rheoli yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod mis Mai o’r Cyd-bwyllgor ar y ffordd ymlaen fydd yn ymdrin ag amserlen a materion llywodraethu yn ogystal â goblygiadau cyllidebol.

c)     I aelodau pleidleisio’r Cyd-bwyllgor gytuno i gyflwyno rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i’r Gweinidog Addysg yn y cyfarfod sydd wedi ei drefnu ar gyfer mis Ebrill.

 

 

Dogfennau ategol: